Archifau Categori: E-Fwletin

E-fwletin Wythnosol

E-fwletin Gorffennaf 15fed, 2013

Bil Trawsblannu Dynol (Cymru)

Yr uchod yw enw swyddogol y mesur i ganiatáu trawsblannu organau a basiwyd yn ddiweddar gan ein Cynulliad Cenedlaethol. Gan fod rhai arweinwyr Cristnogol wedi gwrthwynebu’r mesur ar sail foesol, mi es i ati i gael golwg fanylach arno. Y peth cyntaf a’m trawodd oedd bod y rhan fwyaf o’r cymalau yn cyfeirio – yn astrus o gymhleth a manwl – at y pwysigrwydd o gael cydsyniad cyn y gellir trawsblannu unrhyw beth. Yn wir, mi fydd y ddeddf pan ddaw hi “yn ei gwneud yn drosedd i weithgareddau trawsblannu gael eu cyflawni yng Nghymru heb gydsyniad”. Mae’n ddigon posib felly mai un o ganlyniadau’r Ddeddf hon yw y bydd llai o drawsblannu di-gydsyniad – fel a ddigwyddodd yn achos trist rhai ysbytai plant yn y gorffennol – am fod yr amodau a’r cyfyngiadau yn fwy llym a manwl. Felly mae’r gwrthwynebiad i’r mesur ar y sail fod y llywodraeth yn dwyn y dewis oddi ar yr unigolyn yn un gwan iawn o ddarllen y manylion.

Ond  mae’r Archesgob Barry Morgan – gwr y mae gen i lawer o barch ato, ac sy’n rhoi arweiniad cadarn ar nifer o bynciau’r dydd – yn gwrthwynebu am fod y mesur rhywsut yn bygwth sancteiddrwydd y corff dynol (os deallaf yn iawn).  A dyma lle dwi’n ei golli. A dyma greda i lle mae Cristnogaeth yn gallu tramgwyddo carfan helaeth o’r cyhoedd, pryd mae’r argraff yn cael ei roi ein bod yn chwilio am ddadleuon moesol a “chrefyddol” i wrthwynebu’r hyn sy’n ymddangos i’r mwyafrif fel synnwyr cyffredin. Mae’n debyg mai’r enghraifft glasurol yw gwrthwynebu merched i fod yn esgobion, ond y mae yna lawer enghraifft arall, gwaetha’r modd.

Mae bywyd yn sanctaidd, ond pan fydd bywyd yn gadael y corff, onid ein harfer yw ei losgi, neu ei roi yn y ddaear i bydru? Llwch i’r llwch. Does bosib ein bod yn credu fod y gweddillion hyn yn sanctaidd? Mae’r peth byw yn aros, ac yn parhau mewn ffurf arall na allwn ei lawn ddeall, ond mae’r corff yn darfod. Os yw darnau o’r corff hwnnw yn fodd i roi bywyd i eraill, onid gwych o beth yw hynny? Yn wir, onid yw’n ddyletswydd i Gristion i ganiatáu hynny, ac i hwyluso hynny?

Ond wrth gwrs, mewn democratiaeth iach, mae gennym yr hawl i wrthod, ar ba sail bynnag. Ac os cawn gyfle rhwydd ac amlwg i nodi hynny wrth – er enghraifft – lenwi ffurflen flynyddol y rhestr etholwyr, yna can croeso i fesur lle mae Cymru yn rhoi arweiniad cadarn i weddill gwledydd Prydain.

(Gyda llaw, cofiwch y bydd ein llyfryn “Byw’r Cwestiynau” ar werth ym mhabell Cytûn yn ystod yr Eisteddfod. Mae hefyd ar werth yng Nghymanfa yr Eglwys Bresbyteraidd yn y Neuadd Fawr yn Aberystwyth o ddydd Llun tan fore Iau yr wythnos hon. Neu, gallwch glicio ar y botwm “Prynu’r Llyfr” ar ein gwefan ni : www.cristnogaeth21.org).

E-fwletin Gorffennaf 8fed, 2013

Mae’r hawl i gartref yn sicr o fod yn un o hawliau sylfaenol y ddynoliaeth. O edrych ar Ddatganiad Cyffredinol  Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig, efallai y byddai rhywun yn disgwyl iddo gael mwy o amlygrwydd, ond y mae yno:

Erthygl 25: Y mae gan bawb hawl i safon byw digonol i’w hiechyd a’u ffyniant eu hunain a’u teulu, gan gynnwys bwyd, dillad, annedd a gofal meddygol ac i wasanaethau cymdeithasol angenrheidiol.

Diddorol sylwi bod yr angenrheidiau hyn yn cyfateb bron yn union i’r hyn a restrwyd gan yr Iesu wrth iddo sôn am farnu’r cenhedloedd “ …bûm yn newynog a rhoesoch fwyd imi, bûm yn sychedig a rhoesoch ddiod imi, bûm yn ddieithr a chymerasoch fi i’ch cartref; bûm yn noeth a rhoesoch ddillad amdanaf, bûm yn glaf ac ymwelsoch ȃ mi…”

Dryswyd yr hawl i gartref yn ein cymdeithas ni gan gyfalafiaeth. Nid cartref yw tŷ bellach, ond buddsoddiad, gyda’r disgwyliad i godi i fyny’r ysgol o dŷ bychan i dŷ mwy wrth ymgyfoethogi. Ond y realiti i laweroedd yw methu prynu’r tŷ bychan cyntaf, neu fethu rhentu tŷ addas, a gorfod byw mewn amgylchiadau anaddas, neu ar drugaredd rhieni, ffrindiau neu Awdurdod Lleol.

Gwnaed difrod mawr gan benderfyniad llywodraeth Thatcher i werthu tai cyngor i denantiaid am bris gostyngol. Polisi poblogaidd wrth reswm, ond un oedd yn creu problem tymor hir wrth ennill poblogrwydd tymor byr. Cafwyd gwared o filoedd o dai cymdeithasol, a gwrthodwyd yr hawl i Awdurdodau Lleol i godi rhai newydd yn eu lle, ac yn raddol trosglwyddwyd y tai oedd ar ȏl i ofal Cymdeithasau Tai oedd yn haws i’w rheoli o’r canol.

Un ateb amlwg bellach yw “Tai Fforddiadwy”, sef tai cymdeithasol heb fod yn rhy fawr wedi eu cyfyngu i bobl leol, i’w prynu, eu prynu dros gyfnod, neu i’w rhentu. Cysyniad derbyniol iawn, meddech chi. Ond gwae ni! Mae yna wrthwynebiad mawr i’r syniad, a hynny gan bobol sy’n honni bod yn Gymry da ac yn Gristnogion pybyr. Pam? Am fod perchennog tir yn ofni bod pris ei dir yn gostwng, a pherchennog tŷ sylweddol yn ofni y bydd pris ei eiddo yn gostwng, a’r bobol barchus yn ofni mai caridỳms fydd yn dod i “dai fforddiadwy”, a’r gwerthwyr tai yn ofni colli pres…..

Un o siomedigaethau mawr fy mhrofiad i mewn gwasanaeth cyhoeddus yw gweld mai llinyn mesur materol a ddefnyddiwn i fesur pob dim yn y pen draw.

E-fwletin Gorffennaf 1af.

Ymysg y llinellau cynnar yr wyf wedi eu tanlinellu yn y gyfrol Byw’r cwestiynau’ – ac yr wyf yn ei darllen am yr eilwaith  – y mae’r geiriau hyn : “Os pererindod ar gyfer unigolion a chymdeithasau Cristnogol tuag at berthynas well â Duw drwy ddilyn Iesu yw’r bererindod Gristnogol, dylem ystyried ein hymwneud â’r Beibl fel derbyn bendith cyfaill gwybodus a deallus a doeth ar y daith, a bydd y ffordd y deallwn y Beibl yn effeithio ar ein pererindod.”

Fel nifer fawr o frawddegau eraill yn y gyfrol, mae’n feichiog o ystyr. Nid yw’n dweud popeth am y Beibl, wrth gwrs, ac yn sicr, nid yw’n dweud digon, ond mae’r delweddau yn rhai sydd angen cydio ynddynt. Mae meddwl am y Beibl fel ‘cyfaill’  yn cyfleu agosatrwydd perthynas ac ymddiriedaeth; mae’r Beibl fel cyfrwng ‘bendith’ yn gyfoethocach nag unrhyw syniad o awdurdod neu anffaeledigrwydd ; ac mae’r pwyslais ar ‘bererindod’ i unigolion a chymdeithasau Cristnogol, yn ein hatgoffa mai cydymaith drwy holl brofiadau amrywiol ein bywyd yw’r Beibl – nid cyfarwyddiadau manwl beth i’w wneud, ond cwmpawd i’n cyfeirio. Cyfaill, bendith, pererindod. Delweddau ydynt, nid diffiniad na datganiad chwaith.  Ond y maent yn ddelweddau byw – yr union beth ag y mae’r eglwys wedi ei gredu wrth ddweud mai’r Ysbryd sy’n gwneud y Beibl yn Air bywiol Duw. Onid yw ‘bywiol’ yn gyfoethocach nag unrhyw ddisgrifiad arall ohono ?

************************

Rwyf wedi cyfeirio at yr un frawddeg hon er mwyn annog pawb i brynu Byw’r Cwestiynau ac os ydych mewn sefyllfa i arwain  neu i ffurfio grŵp trafod yn eich ardal neu eglwys, yna mae’r gyfrol fechan hon yn werth ei phrynu a’i rhannu. Nid yw’n rhy hwyr i feddwl am raglen y gaeaf. Dyma deitlau’r penodau ( ac ar ddiwedd y gyfrol y mae cwestiynau ar gyfer pob pennod ) Y Beibl, Meddwl am Dduw, Straeon y creu, Adfer perthynas, Drygioni a Duw cariad, Agosatrwydd at Dduw, Cyfiawnder cymdeithasol, Teyrnas heb furiau, Bywydau Iesu, Tosturi Iesu, Paul, Y Dyfodol.

Ewch i’r wefan a dilyn y cyfarwyddiadau ( botwm ‘Prynu’r Llyfr’ ) sut i’w phrynu – gan gynnwys codi’r ffôn a deialu  07900 491257.

Fe fydd Byw’r Cwestiynau ar werth ym Mhabell yr Eglwysi ( Cytûn ) yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych.

Mae’n rhad. Mae’n werth ei phrynu. Dim ond £5.

Erbyn hyn mae rhai o anerchiadau’r gynhadledd ar y wefan hefyd. Cliciwch y botwm ‘Erthyglau’.

E-fwletin Mehefin 24ain, 2013

Profiad rhyfedd o felys oedd ymuno â chriw o gyffelyb anian yng nghynhadledd Cristnogaeth 21. Yr oedd yn ddiwrnod hamddenol o ran awyrgylch, a chynhesrwydd amlwg yr oll oedd yno yn rhoi ymdeimlad o berthyn, er fy mod yno am y tro cyntaf. Diolch i bawb.

Yr hyn sy’n hynod, o bosib, yw fy mod yn berchen golygiadau am y beibl, a chredo hanesyddol yr eglwys, y byddai yn hawdd eu disgrifio fel rhai efengylaidd os nad ffwndamentalaidd. Ond ni fu hynny yn rhwystr i mi fynychu, na chwaith benderfynu gwneud y gynhadledd yn rhan annatod o’m dyddiadur blynyddol. Bydd rhai yn gweld hynny yn od, ond i mi, y mae yn gwbl gydnaws â’r traddodiad anghydffurfiol cyfoethog yr wyf yn perthyn iddo.

Yn ogystal â’m diddordeb yng ngwaith a chymdeithas C21,  bûm hefyd yn aelod llawn o’r Gymdeithas Seciwlar ers peth amser, ac ni thybiaf fod hynny chwaith yn anghydnaws â’m hordeiniad i weinidogaeth eglwys! Ystyriwch, mai hanfod seciwlaredd yw’r argyhoeddiad am ryddid cydwybod, a hawl sylfaenol pobl i fyw yn grefyddol, neu ynteu i fyw heb grefydd. Ei hawl hefyd i ryddid, yn y math o grefydd y dewisant ei arfer. Onid yw hynny yn greiddiol i anghydffurfiaeth…os nad i warineb!

Sonnir am Roger Williams, sylfaenydd Rhode Island yn yr Amerig, yn disgrifio unrhyw fath o grefydd orfodol fel trais ysbrydol, ‘spiritual rape’ chwedl yntau, a does dim os, mai dyna yw unrhyw gynllun neu ymdrech i orfodi pobl i addoli yn groes i’w hewyllys, boed hynny mewn neuadd sir neu neuadd ysgol. Pryder pellach hefyd, yw’r hawl dilyffethair a roir i garfannau crefyddol i ddefnyddio ein hysgolion fel maes cenhadol, gan ddwyn i gwestiwn allu a pharodrwydd llywodraethwyr ac awdurdodau addysg i ddelio â’r mater mewn ffordd sydd yn deilwng o ymddiriedaeth rhieni ynddynt. Fe guddir yn gyson tu cefn i ‘hunaniaeth ddiwylliannol a hanesyddol’, tra bod grwpiau eithriadol gyfyng eu golygiadau, yn targedu ysgolion, ac yn celu eu gwir fwriadau.

Yr ydym oll yn credu mewn cenhadaeth a rhannu argyhoeddiadau, ond rhaid i hynny bob amser ddigwydd mewn ffordd agored a gonest, gan ymgorffori’r egwyddorion hynny y ceisiwn eu lledaenu.

Diolch mai dyna ran o waith C21, ac o fedru osgoi gormod o fogel syllu am ystyr ymadroddion, a diddordeb anghymesur mewn syniadau ffansïol, gall C21 barhau i roi lle i drafodaeth agored, a does os na fydd yn cyflawni gorchwyl allweddol y daw eraill gobeithio, i weld ei gwerth.

E-fwletin Mehefin 17eg, 2013

“…there are two aspects that will be absolutely central if the church is to regain spiritual credibility among today’s people … community and mystery.” John Drane,  The McDonaldization of the Church.

A chofio i’r awdur uchod dreulio cryn amser y degawdau olaf ‘ma yn ymchwilio i fywyd yr eglwys, ei  gwaith  a’i chenhadaeth,  prin yw’r lle i amau cywirdeb ei osodiad. Amlwg yw iddo ddod ar draws eglwysi lle nad oedd nodweddion cymuned yn amlwg nag ymdeimlad ynddynt  o fod wyneb yn wyneb â realiti dwfn, dirgel a chudd.

A bwrw na welodd lawer o enghreifftiau o’r math  eglwys y gobeithia amdani  gellir dod i’r casgliad mai’r hyn a  welodd  oedd grwpiau o bobl, rhyw  adar o’r unlliw, diddig yng nghwmni ei gilydd, yn gymharol unffurf yn ddiwinyddol, diwylliannol a chymdeithasol,  yn gwybod yn bendant lle safant ar faterion yn ymwneud â gofynion bywyd a marwolaeth.

Diddorol nodi i’r eglwysi hyn gael eu hystyried yn amherthnasol a’u hanghofio  gan genhedlaeth sydd â chryn ddiddordeb, a  rhywbeth mwy na diddordeb hefyd, yn yr ysbrydol . Pobl sy’n ymwybodol o’u  hangen  am fara a mwy na bara hefyd, sy’n ymwybodol o sibrydion rhyw islais dwfn  na allant,  yn amlach na pheidio, a rhoddi enw na theitl  iddo. Pobl sy’n ymwybodol o gymwynasau ’r meddyg sy’n digwydd bod yn Fwslim a’r cymydog caredig sy’n digwydd bod yn hoyw.

Breuddwydio am eglwys  fydd am gynnwys y cyfryw rai wna Drane,  gwir gymuned ffydd, lle bydd hawl  i holi cwestiynau a chymorth i gerdded llwybr tuag at atebion.  Yn yr eglwys honno bydd yr Ysgrythurau  nid yn destunau  i’w darllen yn unig  ond yn sail  gweithgarwch i’w ymarfer.

Mae lle i gredu y byddai Drane wedi bod yn ddedwydd yng nghynhadledd Cristnogaeth 21 yn ddiweddar a gweld yno  gwmni agored o gyfeillion mor amrywiol i’w gilydd yn barod i drafod a rhannu eu dealltwriaeth o’r ffydd Gristnogol, heb i hynny niweidio  enaid na chymylu ffydd.

I’ch atgoffa – fe lansiwyd llyfryn cyntaf Cristnogaeth 21 yn ystod y Gynhadledd eleni.  Addasiad Cymraeg o’r gyfrol Americanaidd ‘Living the Questions’ yw ‘Byw’r Cwestiynau’.  Mae’n addas ar gyfer astudiaethau personol, ond yn ddelfrydol i grwpiau trafod. I archebu copi, ewch i’r dudalen gartref a phwyso ar y botwm ‘Prynu’r Llyfr’.

E-fwletin Mehefin 10fed, 2013

Roedd dau beth roeddwn am eu gweld yn llwyddo dydd Sadwrn – Ymgyrch OS a Chynhadledd Cristnogaeth 21.  Doedd dim disgwyl gweld miloedd yn Aberystwyth: am un peth, doedd dim enw mawr o bendraw’r byd wedi ei wahodd.  Er hynny, roedd yn ddiwrnod welodd ffyddloniaid Cristnogaeth 21 ar waith, yn rhannu, ysgogi a chyd-deimlo.  Roedd y cyfan yn werthfawr dros ben.
Cafwyd adroddiad am y defnydd a wneir o gyfryngau cyfathrebu Cristnogaeth 21; adroddiad llawen-drist, yn llawen am fod miloedd wedi gwneud cysylltiad ond yn drist am nad ydynt yn filoedd lawer.  Roedd hi’n achos llawenydd hefyd i glywed am y rhestr hir o gyfraniadau llenyddol cyfoethog yn ymwneud â bywyd crefyddol Cymru sydd wedi ymddangos rhwng 2006 a 2012.  Tybed, ydi hanner miliwn o bobl, dyweder ym Mryste, wedi cynhyrchu hanner cymaint â’r hyn rydyn ni fel Cymry Cymraeg yn ei gynhyrchu?  Clywsom  hefyd am gelloedd trafod yn Eifionydd ac Aberystwyth, ac am gynllun darllen ac addysgu o fewn dwy eglwys, a hynny, i roi hyder i bobl fydd yn arwain yr eglwysi i’r dyfodol.
Ond, des adre â dau lyfr.  Un yn trafod crefydd ac ysbrydolrwydd, sef, yr union destun a gyflwynwyd gan Gethin Abraham Williams.  Mae’n rhyfedd fod derbyniad ehangach erbyn hyn i’r gair ysbrydol na’r gair crefydd.  Y mae’r ddynoliaeth i gyd yn byw gydag arswyd, anferthedd a rhyfeddod, ac y mae’r dirgel bob amser yn atyniadol.  Wedi’r cwbl, onid ysbrydolrwydd yw gwraidd pob crefydd? Ac wedyn, onid crefydd yw un o broblemau mawr ein cyfnod am ei fod yn arwain pobl wrth ddirgelwch at sicrwydd (gyda dogmâu, credoau, rheolau, awdurdod, a.y.b.), ac at y llu o raniadau sy’n dilyn hynny.  Y mae ysbrydolrwydd yn byw trwy ddirgelwch ac yn ysgogi dysgu, cyflyru ac arbrofi.  Y llyfr yw “Spirituality or Religion” (Gethin Abraham Williams).  Roedd yr ail lyfr yn cael ei lansio yn y gynhadledd.  Dyma gyhoeddiad papur cyntaf Cristnogaeth 21.  Mae “Byw’r Cwestiynau” yn addasiad Cymraeg o “Living the Questions”.  Mae’n llyfr sy’n cyflwyno deuddeg astudiaeth ar gyfer unigolion neu grwpiau sy’n chwilio am arweiniad i Gristnogaeth fodern.  Prynwch gopi, chewch mo’ch siomi.  Y mae’r cynnwys yn amrywio o “Meddwl am Dduw”, “Adfer Perthynas”, “Tosturi’r Iesu” ac y mae nifer dda o gwestiynau i’w hystyried.
Mae Cristnogaeth 21 yn fforwm i roi llais i ystod eang o safbwyntiau diwinyddol Cristnogol ac yn credu bod y Gymry Gymraeg wedi dioddef yn ystod y blynyddoedd diweddar o ddiffyg trafodaeth eang ar natur Cristnogaeth yn ein dyddiau ni.
Terfynwyd y gynhadledd gydag anogaeth fywiog am i ni fod yn gynhwysol, gynnes, agored a chariadus – mewn geiriau eraill, i fyw’n Gristnogol.
Diolch yn fawr am y cyfraniadau gwerthfawr wnaed gan Vivian Jones, Dyfrig Rees, Pryderi Llwyd Jones, Enid Morgan, Gethin Abraham Williams, Emlyn Davies, Cynog Dafis, Aled Jones Williams, Eirian Rees, Evan Morgan ac R. Alun Evans.
(Os hoffech brynu copi o’r llyfryn Byw’r Cwestiynau, cysylltwch â ni. Os mai trwy e-bost y derbyniwyd y neges hon, pwyswch REPLY a rhoi eich enw a’ch cyfeiriad gan nodi sawl copi yr hoffech eu cael. Os ydych yn gweld y neges hon ar wefan Golwg 360 neu ar ein gwefan ni, anfonwch neges at gwefeistr@cristnogaeth21.org gan nodi sawl copi yr hoffech eu cael.  Pris y llyfr yw £5 + £1.50 am y cludiant.)

09/06/2013

E-fwletin Mehefin 3ydd, 2013

Ychydig fisoedd yn ôl, roedd fy ngwraig a minnau wrthi’n mwynhau paned o goffi ganol bore tra ar wyliau yn Ne Affrica, pan drodd y gŵr ar y bwrdd agosaf atom a gofyn pa iaith oeddem ni’n ei siarad. Pan ddeallodd ein bod yn dod o Gymru, ei gwestiwn cyntaf oedd, “Ydyn nhw wedi ffeindio’r ferch fach yna eto?” Bu’n rhaid i ni ei siomi trwy egluro na chafwyd byth hyd i gorff April Jones. Ei ymateb oedd dweud wrthym gymaint o argraff a wnaeth pobl Machynlleth arno yn eu gofal am y teulu bach, ac roedd gweld trigolion Bryn y Gog yn cerdded gyda’i gilydd i Eglwys Sant Pedr ar y bore Sul hwnnw wedi ei ysgwyd, meddai. Mae lle i gredu bod miloedd o bobl dros y byd i gyd wedi teimlo ’run fath.
Drannoeth y ddedfryd, a Bridger bellach dan glo am weddill ei oes, roeddwn yn siarad gyda mam ifanc oedd wedi gorfod ateb nifer o gwestiynau anodd gan ei mab chwech oed yn ystod y chwilio a’r achos a ddilynodd. Hithau’n cyfaddef ei bod wedi dweud celwydd golau ar sawl achlysur rhag creu rhagor o boen ac anesmwythyd i enaid bach diniwed oedd yn ceisio gwneud synnwyr o’r bwletinau newyddion dirdynnol. Rwy’n cael yr argraff fod sawl teulu yn yr un sefyllfa, a fedr dyn ddim dechrau dirnad sut roedd rhieni ardal Machynlleth yn dygymod â’r sefyllfa, na pha atebion roedden nhw’n eu rhoi i ffrindiau a chydnabod April. Bore ddoe ar Bwrw Golwg clywsom gyfweliad gonest ond grymus gyda Tom Evans, sydd bellach yn Brif Gaplan Heddlu Dyfed Powys, ac a dreuliodd lawer o amser ym Machynlleth yn cynnal a bugeilio’r heddlu. Bu’n sôn am y straen, y siom a’r amodau anodd oedd yn llethu aelodau’r heddlu ar brydiau. Pan ofynnwyd iddo pa effaith a gafodd hyn i gyd ar ei ffydd, roedd yn bendant fod y profiad wedi cryfhau ei ffydd. Cyfeiriodd at y ffaith bod yr heddlu hefyd erbyn heddiw’n cyflawni gweinidogaeth yn y gymuned.
Roedd tystiolaeth Tom Evans yn atgoffa rhywun o ymateb cyffelyb gan un o arweinwyr eglwysig Gogledd Iwerddon yn anterth y gwrthdaro. Pan ofynnwyd iddo a oedd y casineb a’r brwydro yn tanseilio’i ffydd, dywedodd yn bendant, “No, on the contrary, because such beautiful things have come out of the troubles.” Ynghanol  trychineb Machynlleth, ynghanol gweithredoedd ysgeler ac anfaddeuol Mark Bridger, ynghanol galar cymuned wedi’i dryllio, fe welsom ninnau bethau hardd. Fe gafodd  gweddill y byd gipolwg ar gymuned gariadus a chymwynasgar yn closio at rai oedd angen cysur, ac roedd gofal yr eglwys yn amlwg yn y consýrn a’r cymorth ymarferol.
Ddydd Sul nesaf byddwn yn dathlu Dydd Sant Columba, ac mae iddo arwyddocâd arbennig eleni gan mai 1450 o flynyddoedd yn ôl, yn y flwyddyn 563, y glaniodd Columba ar Ynys Iona. Mae hi hefyd yn 75 mlynedd ers sefydlu Cymuned Iona gan yr heddychwr a’r ymgyrchydd George Macleod. A beth sydd â wnelo hynny ag achos April Jones?
Fe sefydlwyd Cymuned Iona i roi cyfle i bobl fod yn dystion i Grist ynghanol realiti bywyd. O holl ddoethinebau George Macleod, y dyfyniad enwocaf yw hwnnw sy’n sôn am godi croes yr Iesu ynghanol erchyllterau bywyd: “Nid mewn eglwys gadeiriol rhwng dwy ganhwyllbren y cafodd yr Iesu ei groeshoelio, ond ar groes rhwng dau leidr ar domen sbwriel y dref. Dyna ble y bu farw, a dyna y bu farw drosto.”
Buom ninnau hefyd yn dystion i hynny ym Machynlleth.
(Os na fu i chi gofrestru ar gyfer y Gynhadledd Flynyddol yn Aberystwyth ddydd Sadwrn nesaf…. codwch y ffôn nawr (07900 491257)  neu anfonwch e-bost ar frys at gwefeistr@cristnogaeth21.org, neu atebwch y neges hon yn unionsyth, a chewch groeso mawr! Yn ystod y Gynhadledd byddwn yn lansio cyhoeddiad newydd – addasiad Cymraeg o’r gyfrol Living The Questions – llyfryn gwerth ei gael ar gyfer unigolion neu grwpiau trafod. Rhagor o fanylion yr wythnos nesaf.)
03/06/2013

E-fwletin Mai 27ain, 2013

Ym Mhroffwydoliaeth Eseia, dywedir y bydd Effraim yn cymodi â Jwda. Bu’r ddau lwyth yn cecru, fel piod a brain ers canrifoedd, ond fe ddaw amser, meddai Eseia, pan fydd yn naill yn fodlon yng nghwmni’r llall.
Beth oedd y drafferth rhyngddynt felly? Penodwyd Effraim gan Dduw i amddiffyn y Gyfraith, i gynnal a chadw’r Gorchmynion. Dyna pam mae Amos broffwyd yn rhybuddio plant Israel o beryglon peidio â chadw’r Gorchmynion (5:6). Penodwyd Jwda i chwilio a thwrio am Dduw – nid amddiffyn mo Jwda, ond anturio; nid cynnal a chadw ond arbrofi a mentro. ‘Roedd Jwda’n anfodlon gwneud heddiw, beth a wnaethpwyd ddoe, dim ond oherwydd mae dyna a wnaethpwyd echdoe. Bu’r dyfal chwilio hwn am Dduw, weithiau’n peri i Jwda grwydro oddi ar lwybr traddodiad ac arfer. Gall fynd ar goll yn ei chwilio.
Ond, myn Eseia, fe ddaw amser pan fydd yn ddau yn gytûn. Bydd y ddau yn sefyll gyfysgwydd â’i gilydd, yn cerdded yn gytgam – dyddiau da, o fendith a hedd bydd y rheini.
Boed yn gam neu’n gywir, mi welaf yma ddarlun o’n cyflwr, a delwedd o’n gobaith. Heb fy mod i’n dymuno i neb wthio’r darlun, a thynnu’r ddelwedd yn rhy bell, mi gredaf fod llwythi Effraim a Jwda yn bodoli o hyd. Mae iddynt drwch o wahanol enwau, ond ymhlith y mwyaf cyfarwydd mae Efengylwyr a Rhyddfrydwyr; ceir Cristnogion Efengylaidd a Rhyddfrydol, eglwysi Rhyddfrydol ac eglwysi Efengylaidd. Er bod pob Cristion yn gorfod bod yn Efengylaidd, heb Efengyl nid oes Cristion! Mae pob Eglwys ‘Efengylaidd’ yn Rhyddfrydol i rywrai! Nid gwamalu mohonof, ond ceisio dangos mor gamarweiniol yw’r labeli hyll hyn, ac mor ffôl ydym i’w defnyddio mor hapus am ein brodyr a chwiorydd yn y ffydd. Mae’r labeli hyn yn gwneud anghyfiawnder a daliadau didwyll y naill a’r llall, ac yn methu cyfleu’r cyfoeth o amrywiaeth sydd rhwng y naill begwn a’r llall.
Efallai fy mod i’n ffŵl! Ond, mi gredaf fy mod yn gweld pegynnu peryglus, a charfanu gwenwynig yn digwydd yn y byd bach Cristnogol Gymreig: nyni gyda’n gilydd fan hyn, a hwythau gyda’i gilydd fan draw. Effraim a Jwda. Amlygir cariad Duw, meddai Eseia wrthym yma’ng Nghymru nid yn safbwyntiau’r naill neu’r llall, ond yn y tensiwn creadigol rhwng y naill a’r llall. O sicrhau heddwch a chymod rhyngddynt a’i gilydd, daw heddwch a chymod Cristnogol i’n gwlad. Heb fod Effraim a Jwda yn cymodi waeth i ni roi ein pregethau, ein blogiau, ein gwefannau – y cyfan oll – yn y to ddim.
(Mae gennym le i ddau neu dri arall yn y Gynhadledd yn Aberystwyth ar Fehefin yr 8fed.  Cysylltwch ar unwaith i gofrestru.)

26/05/2013

E-fwletin Mai’r 20fed, 2013

Mae’n bwysig diffinio geiriau; ond, ar adegau, pwysig hefyd yw dad-ddiffinio geiriau.

Meddylia am y gair ‘Duw’. O bob gair, hwn sydd wedi dioddef fwyaf o’n herwydd. Mae’r gair hwn yn cloffi dan bwysau ein disgwyliadau ohono. Ar gefn tair llythyren frau gosodwn holl bwysau ein didwylledd a’n rhagfarnau; ein doe, heddiw, ac yfory; yr hyn oll ydym fel pobl ffydd, a’r hyn oll y gwyddom y gallem/dylem fod.

Mae’n rhaid dad-ddiffinio’r gair hwn, ei ddad-ddweud; ei weld o’r newydd wedi dadlwytho’r pwysau’i gyd.

Wedi syrthio mewn cariad â rhywun, nid sŵn diystyr mo enw dy gariad. Mae swyn a gwefr yn yr enw hwnnw – enw dy gariad yw. Dychmyga felly, pe bai ti’n clywed pobl yn defnyddio enw dy gariad i greu a chynnal anghyfartaledd, i fagu casineb, barnu eraill, dwrdio eraill, bychanu pobl, lladd pobl yn enw’r hon/hwn sydd i ti’n gariad. Buaset, fel finnau, am weld diwedd ar y gwallgofrwydd hwn yn syth bin, gan dy fod ti’n gwybod nad dyma mae dy gariad yn ei ddymuno i ddigwydd yn, ac oherwydd, ei henw hi neu ei enw ef.

Os ydwyf wir yn caru Duw, onid oes yn rhaid i mi geisio ‘amddiffyn’ enw’r hwn a alwaf yn ‘Dduw’? Onid oes yn rhaid i mi gydnabod, a chael eraill i gydnabod, mai cynnyrch dychymyg pobl – gwan a gwamal fel ag yr ydym – yw’r enw ‘Duw’. Mae Duw ganwaith ganwaith mwy na phob gair a chyfuniad o eiriau sydd gennym i geisio sôn amdano. Mae Duw filwaith filwaith mwy na phob enw sydd gennym ar ei gyfer.

Mae’r enwau sydd gennym am Dduw, y geiriau a ddefnyddiwn i sôn amdano, bob un, ac i gyd gyda’i gilydd, yn rhy wan, bychan a bas i ddal y gronyn lleiaf o’r gwirionedd amdano. Po fwyaf y defnyddiwn yr enwau hyn, a’u trosglwyddo o law i law, mwyaf brwnt a threuliedig ydynt. Gwyddom hyn, ond parhawn i fynnu bod modd dal y Diderfyn mewn geiriau terfynol.

Nid oes plymio i waelod diwaelod. Perygl pob argyhoeddiad diwinyddol, boed Rhyddfrydol neu geidwadol, a phob peth a saif rhwng y naill a’r llall, yw credu mai’r hyn sydd i ni’n waelod yw gwaelod Duw. Hanfod diffinio yw cyfyngu ac amhosibl yw cyfyngu ar Dduw bythol symudol, oesol newydd, Duw heb iddo na ffin na chell na therfyn. Ofnaf y rhai sy’n gwbl sicr o’u diffiniad o Dduw, gan fy mod yn fwy fwy argyhoeddedig eu bod yn addoli nid Duw ond eu diffiniad hwy o Dduw.

Sut, felly, mae dad-ddiffinio’r gair blinedig hwn? Sut mae cael yr enw hwn i ddadlwytho?

Wn i ddim…

Ond, fi fy hun, buaswn yn hynod falch o gael teithio’n ôl mewn amser gyda’r gair ‘Duw’, yr holl ffordd yn ôl i’r preseb hwnnw ym Methlehem, a gweld y gair hwn yn ei gadachau’n gorwedd. Gweld yr ‘enw’ newydd anedig. Anodd iawn dychmygu pobl ffydd yn lladd ar ei gilydd, a lladd ei gilydd yn enw’r bychan hwn. Buasai hynny mor anodd ei ddychmygu â meddwl am y bychan hwn yn codi o’i breseb a’n dyrnu ni bob un!

‘Duw’…

Gair bach, hynod fawr…

Ffenest ydyw, i ni gael gweld trwyddi.

Ffydd, addoliad, diwinyddiaeth – mae pob un yn ffordd o syllu trwy’r ffenest; ffordd o weld, gwerthfawrogi, a chyfranogi o’r fendith a gorwedd y tu hwnt i wydr y llythrennau.

Peidiwn â throi ffenest yn wal. O wneud hyn, try ffydd, addoliad, diwinyddiaeth i gyd yn fater o godi wal frics, a bwrw ein pennau, neu bennau pobl eraill yn ei herbyn!

Mae deall a derbyn mai ffenest yw’r gair ‘Duw’, nid wal, yn warant o berthynas gallach rhyngom â’n gilydd fel pobl ffydd. Wrth sefyll gyda’n gilydd i edrych drwy’r ffenest, gwelwn Dduw, ac felly ni’n hunain. Os na lwyddwn yn hynny, waeth i ni roi ein pregethau, ein blogiau, ein gwefannau – y cyfan oll – yn y to ddim.

(Mae gennym nifer cyfyngedig o lefydd yn dal ar ôl ar gyfer y Gynhadledd yn Aberystwyth ar Fehefin yr wythfed. Cofrestrwch heddiw! Medrwch anfon gair at

• gwefeistr@cristnogaeth21.org

• neu ffonio i adael neges ar 07900 491257

• neu anfon trwy’r post i Cristnogaeth 21, 87 Maes-y-Sarn, Pentyrch, Caerdydd CF15 9QR

Cofiwch bod rhaglen y dydd ar gael ar y wefan www.cristnogaeth21.org wrth bwyso botwm “Cynhadledd 2013”)

E-fwletin Mai 6ed, 2013

’Roedd pethau’n reit dda erbyn hyn…daeth pethau’n ôl i drefn…o fath. ‘Roedd ef gyda hwy o’r newydd. Aeth â hwy allan, fel sawl gwaith o’r blaen, i le digon cyfarwydd. Cododd ei ddwylo, a’u bendithio, ac fe’i dygwyd i fyny i’r nef (Luc 24:51)!

Hawdd cydymdeimlo â’r disgyblion. Ti’n cofio efallai, pan dynnwyd yr olwynion bach ’na oddi ar dy feic, a thithau nawr yn gorfod mentro ar ddwy olwyn!

Daw dydd Iau Dyrchafael yr wythnos hon. Mae stori’r Dyrchafael – Esgyniad Iesu – yn lletchwith. Luc sy’n mynd i’r afael â’r peth ar derfyn ei Efengyl, a hefyd ar ddechrau’r Actau. (Actau 1:1-11, Luc 24:44-53).

Ar ôl y Pasg, mae’r angylion yn newid eu cân. Mae gwarchod pethau gwanllyd dynol yn ormod o ffwdan bellach. Dim rhagor o ‘Paid ag ofni’, (Luc 1:30), ‘Peidiwch ag ofni…’ Bellach, maent yn procio’n ddiamynedd: ‘Pam yr ydych yn ceisio ymhlith y meirw’r hwn sy’n fyw?’ (Luc 24:5) ‘Pam yr ydych yn sefyll yn edrych tua’r nef? Peidiwch â gwastraffu amser, calliwch – cymerwch gyfrifoldeb, wedi’r cyfan mae’r Crist wedi dweud wrthych yn union beth sydd angen i chi ei wneud: ‘…arhoswch yn y ddinas nes eich gwisgo chwi oddi uchod â nerth.’ (Luc 24: 49).

Mae’r Dyrchafael yn codi cwestiwn. Pam na esgynnodd Iesu yn syth bin ar ôl y Pasg? Pam aros o gwmpas am ddeugain niwrnod? Mae’r deugain yn gorfod bod yn arwyddocaol! Deugain mlynedd yn crwydro’r anialwch. Deugain niwrnod yn yr anialwch a deugain niwrnod gyda’i gyfeillion ar ôl y Pasg. Deugain niwrnod iddynt gael dechrau dod i arfer gyda’r ffaith fod Iesu wedi troi pob realiti â’i ben i waered a phob ffaith tu chwith allan. Am dair blynedd buont yng nghwmni Duw a dyn mewn cwlwm diwahân. Bu hynny’n ddigon i chwythu ambell ffiws ysbrydol, ond ‘roedd yr atgyfodiad wedi chwythu’r blwch ffiwsiau oddi ar y wal! Am ddeugain niwrnod cawsant amser i ddechrau dod i arfer â realiti cwbl newydd.

Yn yr un modd, mae angen y saith wythnos sydd rhwng y Pasg a’r Pentecost arnom ninnau i ddechrau dod i arfer gyda’r ffaith fod y Crist Atgyfodedig yn ymadael â ni, a hynny oherwydd ei fod ef wedi gorffen ei waith. Daeth yr amser i ni – ei bobl ef – gydio yn ein gwaith ninnau. Dydd Iau’r wythnos hon, bydd Iesu’n mynd, gan ymddiried parhad ei genhadaeth i ni. Wedi’r Pentecost, bydd yntau’n trigo ynom, a ninnau’n draed a dwylo a llais iddo. Tynnir yr olwynion bach hynny a fu’n ein cynnal ers yn hir. Dwy olwyn sydd bellach…

Ymgais barhaus Iesu i rannu ei genhadaeth â ni yng ngrym y Pentecost yw’r unig esboniad posibl ar yr eglwys. Nid dathlu’r glendid a fu, ond creu’r dyfodol yw ein tasg ddi-droi’n-ôl, wrth blygu i ffydd, ac wrth blygu ffydd. Os na wnawn, waeth i ni roi ein pregethau, ein blogiau, ein gwefannau – y cyfan oll – yn y to ddim.

(Gyda llaw, cofiwch gofrestru ar gyfer y Gynhadledd.)