Archifau Categori: E-Fwletin

E-fwletin Wythnosol

E-fwletin Hydref 21ain

Cristnogaeth21  E-fwletin  Hydref 21.

 Wrth chwilmantan am lyfr a mynd trwy ambell focs yn llawn stwff  hen ac amrywiol, dyma ddod ar draws map yr oeddwn yn gwneud llawer o ddefnydd ohono ar un adeg – ond nid yn ddiweddar gwaetha’r modd. Roedd yn fap Ordnance Survey o ran o’r wlad lle cefais fy magu a threulio 18 mlynedd gyntaf fy mywyd. Roedd y map yn angenrheidiol pan yn mynd I grwydro’r mynyddoedd. Roedd cwmpawd gen i hefyd ar un adeg, ond efallai fod hwnnw mewn bocs arall, neu wedi’i golli. Efallai yr af i chwilio amdano pan fydd amser.Roedd angen y map a’r cwmpawd i wneud yn siŵr fy mod yn y lle iawn neu’n mynd i’r cyfeiriad iawn. Pe bai’r cwmpawd gen i byddai hwnnw’ dal yn ddefnyddiol. Ond diddorol yw darllen nad yw Pegwn y Gogledd Magnetaidd, yn ôl pob tebyg, yn yr un man ag oedd e –mae hwnnw, yn ôl rhai, yn symud yn gynt nag ar unrhyw adeg mewn hanes. Mae popeth yn newid, hyd yn oed Pegwn y Gogledd!

Llai defnyddiol na’r cwmpawd fyddai’r hen fap OS. Mewn hanner canrif mae llawer wedi newid yn fy hen ardal fel pob ardal arall. Mae map OS 2013 yn wahanol iawn i fap OS 1963. Un enghraifft  o hynny yw bod llai o groesau bach i’w gweld, y symbol yn dangos lleoliad capel neu eglwys – gan gynnwys y capel lle cefais i fy magu ynddo, sydd wedi hen fynd. Mae yna stadau tai wedi’u codi a ffyrdd newydd ac ati. Mae’r map OS yn atgoffa rhywun bod heddiw mewn sawl ffordd yn wahanol i ddoe.

Ond mae angen map a chwmpawd o hyd os am grwydro a bod yn ddiogel yn y mynyddoedd, yn fwy felly mewn ardal ddieithr. A dyna pam mae map up-to-date yn fwy defnyddiol na’r un sydd angen selotêp i’w ddal gyda’i gilydd.

Yn grefyddol dwi mewn ardal ddieithr heddiw. Dyw hi ddim yn ardal newydd – yn newydd I mi efallai – ond y gwir yw, fe fu sawl un mewn dieithrwch crefyddol cyn hyn, ac mewn ffordd mae peth cysur yn hynny. Nid ffenomenon gyfoes mo’r dieithrwch hwn. Ond mae’n galed byw yn y dieithrwch yma. Dyw ffydd a chred simplistic plentyndod ddim yn gweithio. Mae’r map wedi newid, mae’r map yn newid, ac fe fydd yn newid eto, ac mae’r cwmpawd ar goll yn rhywle, ac mae’r pegwn yn symud. A hyd y gwelaf i, dwi ddim ar fy mhen fy hun.

Mae’r hen sicrwydd wedi mynd ynghyd â’r cysuron oedd yn rhan o wead y sicrwydd yna.

Mae ymgodymu â’r dasg hon yn gofyn am  ymrwymiad,dyfalbarhad, gweddi, gwaith caled,mentr ac yn wir dewrder a hyder ffydd. Ni allwn lai. Ac mae’r Beibl yn gloddfa o gysur ac o gyfoeth i ni wynebu’r dasg.

 Cofiwch am y deunydd sydd ar y botwm ‘Erthyglau’ ar y dudalen gartref a soniwch wrth eraill fod yr e-fwletin i’w gael yn wythnosol ar y wefan neu fe ellir cofrestru a’i dderbyn yn uniongyrchol.

E-fwletin Hydref 14

 

Cristnogaeth 21 – E-fwletin Hydref 14

 Beth sy’n bod arnon’ni?

Beth ar y ddaear sy’n bod arnon’ni ? 

Beth ( sshh …. ddiawl) sy’n bod arnon’ni!

Gallai pawb ar y ddaear gytuno i holi’r cwestiwn hwn. Mae’n amlwg bod rhywbeth , a hwnnw’n rhywbeth  difrifol iawn, o’i le. A ’dyw dweud pechod’ ddim yn help mawr am nad oes neb yn cytuno ar beth yw hwnnw nac o ble ddaeth e.  Beth all egluro tarddiad y nodwedd yma yn y ddynoliaeth sy’n gwneud i hyd yn oed ein hamcanion gorau, gael sgil effeithiau drwg? Tybed ydi hi’n bosibl cael ffordd o drafod sy’n seiliedig ar ‘anthropoleg’, y wyddoniaeth sy’n trafod ffordd y ddynoliaeth o fyw,  rhywbeth all daflu goleuni ar hen hen broblem.

Ar ail fore’r gynhadledd yn Nhrefeca dyna a gafwyd mewn cyflwyniad i waith Ffrancwr o’r enw René Girard. Y mae damcaniaeth René Girard  yn cynnig ateb.  Ystyriwch am funud ddau blentyn  mewn ystafell llawn teganau. Gallwch fentro y bydd y ddau rhywbryd yn  dadlau dros un tegan arbennig. Eglurhad syml Girard yw bod  Sion wedi sylwi ar bleser Gwilym mewn tractor melyn. Os yw Gwilym yn ei hoffi, mae’n awgrymu i Sion ei fod yn werth ei gael. Mae Sion yn ceisio cymeryd y tractor oddiar Gwilym .Mae Gwilym, o sylwi bod Sion ei eisiau, yn dal ei afael yn fwy tyn nag erioed.  Hynny yw – os oes dwy law yn estyn am yr un gwrthrych, mae na bosibilrwydd cystadleuaeth, eiddigedd a thrais. A gall y trais esgyn ymhlith pobl hŷn o un cam i’r llall at drais, a thywallt  gwaed ac yn wir at ddinistr. Mae beth sy’n wir am Sion a Gwilym wir amdanom i gyd. ’Roedd llwythi cyntefig yn ofni’r trais dynwaredol, mimetig hwn yn fwy na dim byd arall. (Ydi hyn yn eich hatgoffa o’r trais rhwng Cain ac Abel?)

Mae niwroleg wedi dangos bod niwronau yn yr ymenydd sy’n tanio’n greddf sylfaenol i ddynwared a gelwir y rhain yn niwronau drych. Mae nhw’n gyfrifol am ein gallu i ddysgu pethau ardderchog, ond mae nhw hefyd yn ein gwneud yn ysglyfaeth i deimladau enbyd o gas. Mae’r da a’r drwg, fel dwy ochr y geiniog yn ffordd i ddechrau meddwl am ‘bechod’ mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr, ond synnwyr  ychydig yn wahanol sy’n berffaith gydnaws ag athrawiaeth draddodiadol y ‘pechod gwreiddiol’. Oedd ‘roedd e yno o’r dechrau, yn wreiddiol i ni!

Yr oedd yr ail sesiwn yn son am oblygiadau syniadau Girard i ddiwinyddiaeth Gristnogol, yn arbennig ar Athrawiaeth yr Iawn. Llyfr cyntaf James Alison oedd Knowing Jesus  -cyfrol sy’n cymeryd ymadrodd cwbl draddodiadol ac yn ei drawsnewid mewn ffordd greadigol a chyffrous.Y mae ei ail lyfr The Joy of Being Wrong  yn draethawd ar  Y Pechod Gwreiddiol trwy lygaid y Pasg’ ac yn defnyddio’r syniad  fel man cychwyn newydd i ddehongli  beth y mae Alison yn ei alw yn “ddeallusrwydd yr ysglyfaeth” sef Iesu.

Y mae James Alison newydd gyhoeddi cyflwyniad newydd i’r ffydd dan y teitl Jesus The Forgiving Victim, pedair cyfrol dwt a allai fod yn ddefnyddiol iawn fel cyflwyniad ac ail-ddehongliad i bobl sy’n brwydro gyda’r trais sydd fel petae yn dal i lechu yn y darlun Cristnogol o Dduw. Ond dyma Dduw ‘nad oes ynddo ddim tywyllwch’.

Compassion or Apocalypse (A comprehensible Guide to the Thought of Rene Girard )

            James Warren (Christian Alternative Books)

“Y cyflwyniad poblogaidd  a’r arolwg gorau” medd Brian McLaren (Amazon)

 

Gyda’n cofion.

E-fwletin Hydref 7

Cristnogaeth 21 – E-fwletin Hydref 7ed   2013

 Daeth nifer ynghyd i dreulio 24ain. awr gyda’n gilydd yn hyfrydwch Trefeca a chael blas a bendith ar yr addoli, y cyflwyniadau , y drafodaeth a’r cymdeithasu. ‘Melys moes mwy’ oedd ein gobaith wrth ymadael.Braf oedd clywed Enid Morgan yn cywiro’r camargarff ar Bwrw Golwg mai ‘cynhadledd i drafod dyfodol C21’ ydoedd. Yr wythnos hon a’r wythnnos nesaf cawn flasu peth o’r  seiadu.

 Pwrpas y sesiwn agoriadol ( dan arweiniad Eirian Rees )  oedd i agor y drws i seiadu pellach.  Rhoddwyd cyfle i ystyried natur a lle Cristnogaeth 21 o fewn bywyd Cymru.  Codwyd nifer o gwestiynau a chafwyd trafodaeth gyfoethog a braf oedd gallu sgwrsio a rhannu heb edrych ar y cloc.

Y mae Cristnogaeth 21 wedi sefyll ar blatfform cadarn, sef rhannu yn barchus yr ymchwil am ffydd Gristnogol yng ngoleuni profiadau cyfoes a bod yn lwyfan i gynnal sgwrs yn gwrtais, gonest ac yn gwbl rhydd ac agored.  Mae’n wefan i ofyn cwestiynau, i rannu gwybodaeth a phrofiad.  Nid gwrthwynebu neb na dilorni safbwyntiau eraill yw’r bwriad ond bod yn sianel greadigol, i drafod yr hyn sy’n wir ac yn heriol.

Teimlodd y cwmni oedd yn bresennol nad oes angen ofni bod yn ddadadeiladol (de-constructionist).  Tros amser y mae pob model yn rhwym o gael ei ddadansoddi a’i ail esbonio a’i gyflwyno i gyd-destun gwahanol.  Onid dyna beth wnaeth Iesu yn ei oes, ac onid yw’n dal i herio’n sylfaenol pob model o gredu?  Y mae bod yn Gristion yn arwain at gwestiynu, addasu ac ail adeiladu.  Y mae, er enghraifft, agweddau at y wladwriaeth, militariaeth a rhywioldeb yn cael eu ail gwestiynu’n barhaol. Nid oes un man lle mae hyn yn fwy gwir na’r sefydliadau eglwysig ar hyd y canrifoedd.

Ystyriwyd wyth pwynt creiddiol mudiadau fel y “Progressive Christianity Alliance” a’r “Progressive Christianity Network Britain”.  Nodwyd y prif bwyntiau sy’n sylfaen i’r mudiadau hyn, sef, eu bod:

  1. yn dod o hyd i Dduw trwy fywyd a gwaith yr Iesu,
  2. yn cydnabod dilysrwydd a hawl pobl eraill i’w llwybrau at Dduw,
  3. wrth dorri bara yn enw Iesu, yn cynnal gwledd Duw i bobloedd daear,
  4. yn derbyn fod pobl yn wahanol iawn i’w gilydd,
  5. a’u ymddygiad tuag at bobl eraill yn fynegiant o’r hyn a gredant,
  6. yn profi gras wrth ymchwilio heb sicrwydd absoliwt,
  7. yn creu cymunedau sy’n ceisio cyfiawnder, heddwch, cynhaliaeth i’r amgylchedd a gobaith i’r lleiaf o’u brodyr a chwiorydd
  8. wrth ddilyn Iesu yn rhwym o garu’n anhunanol, a gwrthod drygioni heb geisio breintiau hunanol.

A yw Cristnogaeth 21 am berthyn a bod yn rhan o gymdeithas fel hon? Teimlwyd yn gryf fod gwerth mawr mewn cynnal, yn y Gymraeg,  wefan eang, groesawus, i rannu barn, gwybodaeth ac argyhoeddiad yn y ffordd mwya di-rwystr posibl.  Y mae ceisio diffinio’n fanwl bob amser yn codi cloddiau a chreu carfanau.  Gwefan i oedolion sy’n anelu at fod yn onest a grasol yw Cristnogaeth 21 a bydded iddi barhau felly.

Ein cofion cynnes atoch. A ydych wedi cael eich copi o ‘Byw’r Cwestiynau’ ? Mae’n mynd i ail argraffiad !

E-fwletin Medi 30ain.

Mae nifer ohonom yn edrych ymlaen yn fawr i fwynhau bendithion Ha’ Bach Mihangel yn hyfrydwch Trefeca yr wythnos hon.

Wythnos i’r Sadwrn diwethaf traddododd Don Cupitt ei anerchiad gyhoeddus olaf: hynny a ddywedwyd, beth bynnag, ar wefan Môr Ffydd (Sea of Faith), rhwydwaith a ddaeth i fod yn sgil ei gyfres deledu o’r un enw flynyddoedd lawer yn ôl bellach. Y mae Cupitt mewn gwth o oedran erbyn hyn ac wedi cyhoeddi cyfrolau lawer yn ceisio darganfod beth a eill crefydd a chrefydda ei olygu mewn byd sydd wedi colli ymwybyddiaeth o’r ‘goruwchnaturiol’; yn ‘ffieiddio’ awdurdodau allanol boed hwy feibl neu bab; ac ymhle y mae’r syniad o ‘Dduw’ hollalluog wedi colli ei nerth bron yn llwyr. Ni wn a yw’r datganiad yn golygu fod Cupitt yn rhoi heibio ysgrifennu yn ogystal. Yr offeiriad Anglicanaidd hwn fu bête noire  y sefydliad eglwysig ers degawdau. Hwyrach ei fod yn fwy o athronydd nag o ddiwinydd. Cytuno ag ef neu beidio, y mae ei lyfrau – y rhai diweddar yn rhai byrion iawn – yn werth i’w darllen. Os nad ydych wedi gwneud eisoes, cymrwch olwg ar  Solar Ethics a The Fountain . Afraid dweud fod ei enw yn ddiofryd-beth i’r efengylwyr a’r ‘uniongred’ yn gyffredinol. Ond y mae’n ddyn o ddifrif. Nid chwalu er mwyn chwalu y mae. Wrth fyfyrio yn ddwfn-ddwys ar ragdybiaethau y gymdeithas Orllewinol gyfoes  daeth i’r casgliad nad yw’n bosibl i ni fedru dal ein gafael ar yr ‘hen eiconau’. Trwy ei ddychymyg crefyddol ei hun cyflwynodd lu o ddelweddau amgen a fedrai, efallai yn ei dro, gyffwrdd dychymyg gwŷr a gwragedd sydd o hyd yn teimlo’r ysbrydol ond heb fedru mwyach lyncu’r storïau traddodiadol. Gweler eto, Solar Ethics  a The Fountain am ddwy enghraifft o’r gallu sydd ganddo i greu a chanfod delweddau. Ysywaeth, nid oes neb tebyg iddo yng Nghymru.

Soniais am ei ‘ddychymyg crefyddol’. Ac y mae yna’r ffasiwn beth a dychymyg sy’n benodol hefo gogwydd grefyddol. Fe ddywedwn i fod Iesu, Bwda, Muhamad  yn ddychmygwyr crefyddol o’r radd flaenaf. Eseia ac Eseciel hefyd. Rumi a Nagarjuna yn ogystal. Morgan Llwyd ac Islwyn i’n cenedl ni. Beirdd y Trosgynnol oeddynt. Yn medru canfod delweddau ffres ac ysgytwol ac ail-gystrawennu hen iaith oedd wedi cyrraedd man o syrffed a nychdod. Wedi’r cyfan o ba le y daeth ‘Duw’ ond drwy’r dychymyg dynol? A’r gallu wedyn i’w gyfoethogi a’i fireinio drwy’r un dychymyg.

Y dychymyg crefyddol hwnnw ddywedwn i sydd wedi ei wanio bellach. Hwyrach nad yw hynny yn syndod yn y byd gan fod crefydd ei hun wedi cyrraedd man isel yn yr ymwybyddiaeth Gorllewinol. Creisis y dychymyg crefyddol yw ein creisis ni erbyn hyn. Ac os mai’r ateb yw pethau go banal fel ‘messy church’ neu ‘orfoledd’ -chwatrter-canrif-rhy-hwyr yr Eglwys yng Nghymru yn ordeinio merched i’r esgobyddiaeth yna ‘Duw’ a’n gwaredo-neu beidio!

Gyda’n cofion a’n dymuniadau gorau at bawb ohonoch.

E-fwletin Medi 23

Cristnogaeth 21 –E-fwletin Medi 23ain 2013.

 

Ynof y mae dau ‘wirionedd’ nad wyf hyd yn hyn, beth bynnag, wedi medru eu cysoni o gwbl. Nid wyf yn meddwl bellach fod modd eu cysoni.

Ers talwm yn yr offeren arferwn gydag eraill weddio dros y rhai a oedd yn ddifrifol  wael -rhai ohonynt yn ieuanc iawn, ambell un yn blentyn.Buont i gyd farw. Clywais ar adegau am wyrthiau oedd wedi digwydd yn y lle-a’r-lle. Yr oedd yn amlwg i mi fod yr ardal yr oeddwn i ynddi yn ‘miracle free zone’. Nid yw’r profiadiadau yma yn ddieithr o gwbl i unrhyw un sydd wedi gorfod ymgodymu  a ‘bodolaeth’ honedig Duw cariadus, hollalluog ar y naill law a ffeithiau brwnt ein bywydau ar y llaw arall. Ai diniwed-simplistig ar fy rhan oedd gofyn,  petai gennyf fi, feidrolyn, y gallu i atal poen rhywun arall y gwnawn hynny ar fyrder , pam felly na fyddai ‘duw’ hollalluog yn gwneud yr un peth? I fy nghyfarfod daeth ‘dadleuon’ am ‘fyd y Cwymp’, ‘pris pechod’, ‘ewyllys rydd’. Wyneb yn wyneb â rhywun oedd yn cael ei ysglyfaethu gan ganser collodd y ‘dadleuon’ hyn eu nerth yn llwyr a ‘duw cariad’ ynof yn gwingo ar homar o fachyn.A phan glywn am ‘wyrth iachad,’ gwneud pethau’n waeth a wnai hynny bob tro. Os ‘achub’ un neu ddau fan hyn fan draw, pam nid pawb? Anghyfiawnder a deimlwn nid gorfoledd. Atgasedd nid awydd i addoli. ‘Roedd y ‘gwyrthiau’ bondigrybwyll yn codi cwestiynau difrifol am foesoldeb duw ei hun.Onid oedd rhywbeth sadistaidd am yr ‘ymyrryd’ hwn? Eto – y fi simplistig – petai fy mhlant yn sal a finnau hefo’r gallu i’w gwaredu, ni fyddwn fyth yn dewis un ohonynt a gadael y ddau arall i’w ‘tynged’. I fy nghyfarfod daeth ‘dadl’ arall: dyma ‘ewyllys duw’ neu ‘ei ddirgelwch’. Yn fewnol fe’m ffieiddwyd gan y ‘ddadl’ hon. Roedd duw fwy-fwy ar y bachyn. Lliniarwyd hyn dro gan ‘ddadl’ arall: fod duw yn ‘ymyrryd’ drwy ‘fod yn y dioddef’. Nid oedd ef ar wahan o gwbl, roedd o ‘yno’. Bu i mi fyw â’r ‘ddadl’ hon yn lled hapus am gyfnod go hir. Hyd nes i mi holi un diwrnod, beth yn union oedd ystyr y ‘bod yno’? Fawr o ddim hyd y gwelwn: roedd y dioddefau yn parhau yn eu grymuster brwnt. Os oedd duw ‘yno’ neu beidio yr un oedd y dioddef. Chwarae geiriol ydoedd yn y bon. Canfyddais fod tirwedd fy ymennydd wedi troi o fod yn un crediniol i fod yn un anffyddiol. A hwn yw’r ‘gwirionedd’ cyntaf a goleddaf.

Eto, mae ‘gwirionedd’ arall. Yn fy nghalon y mae hwnnw. Y mae digonedd o bethau pur ddifrifol wedi digwydd i mi ac ‘rwyf wedi dod drwyddynt i leoedd gwell a lletach ac nad oedd a wnelo’r’ dod drwyddynt’ fawr ddim â fi. Wrth edrych yn ol ymdeimlaf â rhyw ‘Arall’ oedd ‘yno’ drwy’r adeg er nad oeddwn ar y pryd yn ymwybodol ‘ohono’. Dof wyneb yn wyneb a’r ‘Arall’ hwn wrth ddarllen ambell i gerdd neu nofel-cyfuniad o eiriau gan lenor dawnus sy’n dod ag ef i’r fei; yn ddiffael bron mewn cerddoriaeth; wrth bendroni uwchben bywyd ambell un pur arbennig; mewn eglwys wag a hynafol; neu lecyn megis Enlli a’r ser yn gyforiog uwch fy mhen.Teimlaf fy hun yn ymestyn tuag ato ac yn cael fy ymestyn. Ynddo y mae rhyw ‘swildod’ llawn trugaredd. Rhywbeth yn fy ymennydd yw hyn ynteu rhywbeth o’r tu allan i mi? Beth bynnag ydyw ac o ba le bynnag y daw dewisaf yr hen air trwblus hwnnw ‘Duw’ i’w ddisgrifio.

Ni fynnaf setlo am y naill ‘wirionedd’ na’r llall: mae’r ddau mor ddilys a’i gilydd. Dewisaf fyw hefo’r ddau. Mae ffin yn bod rhwng ‘ffydd’ ac ‘an-ffyddiaeth’. Ar y ffin honno y mae sawl un ohonom. Yng Nghymru C21 yw’r unig le sy’n cynnig cartref i ni.

 

Cofiwch am y Bwrdd Clebran sef y cyfle i ymateb, rhannu, trafod, seiadu. Efallai y gwyddoch am rhywun y byddai ambell i e-fwletin – fel yr un heddiw –  yn ‘canu cloch’  yn eu profiad.Rhowch wybod iddynt am C21 neu anfonwch y neges ymlaen iddynt.

E-fwletin Medi 16, 2013

Darllenaf fod Esgobaeth Bangor wedi penderfynu cau dwy eglwys yn ei phrif ddinas. Nid ‘penderfynu’ cau a wnaed ond gorfod cau. Darllenaf yn y papurau enwadol Cymraeg sy’n wynebu ‘penderfyniadau’ cyffelyb fod hwn yn gyfnod o ‘her’ a  ‘sialens a roed gan Dduw’ i’r eglwysi. Geiriau mhwyth pob un am sefyllfa grefyddol sy’n datod yn ddi-droi’n-ôl. Yn eu calonnau fe ŵyr pawb hynny, ond y mae ei ddweud yn hyglyw yn ormod i neb dyn.

Beth yw’r gwir reswm am y trai, nid yn unig yng Nghymru ond drwy Orllewin Ewrop achlân? Mae’r ateb yn giaidd o syml: ‘Duw’.

Nid dweud wyf fi y dylem roi heibio ein theistiaeth. Nid wyf fi’n fodlon gwneud hynny am bensiwn! Ond dylem wynebu’r anawsterau difrifol sydd ynglŷn â ‘Duw’ yn onest, yn ddiwyro ac yn agored.

Mae ‘ffwndamentaliaeth’- prif darged (?)  C21, ond y targed anghywir – a’r gweddill ohonom yn yr un cwch yn union: un garfan un pen, a’r llall y pen arall, a’r ddwy’n gwgu ar ei gilydd. Ond yr un yw’r cwch. A bod yn wamal, mae ‘Duw’ rhyddfrydiaeth yn ‘gleniach peth’ na ‘Duw’ ffwndamentaliaeth. Ond yn y bôn yr un yw’r ‘Duw’. A’r ‘Duw’ hwnnw yw’r broblem.  Mae credu yn ‘Nuw’ yn y byd gorllewinol sydd ohoni hefo’i hanes diweddar a’i wyddorau yn fwyfwy anos i’r mwyafrif o bobl bellach. Nid oes angen Dawkins ar bobl siŵr, mae eu profiadau a’u crebwyll yn eu harwain i’r cyfeiriad yma! Nid yw pobl yn dwp. Y syniad o ‘Dduw’ yn ein cyfoesedd yw’r broblem fawr sy’n ein hwynebu. ‘Decoys’ yw unrhyw sôn am strwythurau eglwysig, a newid patrymau addoli, a ‘gweinidogaeth i’r ifanc’ gan feddwl y rhydd y pethau hyn i ni ‘adfywiad’. Ni ddaw. ‘Duw’ yw’r broblem.

Credaf ein bod yn methu rhywbeth go bwysig oherwydd y ‘brwydro’ ofer yn ‘erbyn’ ffwndamentaliaeth, sef yw hwnnw, y mathau o ysbrydolrwydd sy’n mynd â bryd pobl. Ysbrydoliaethau an-theistaidd (non-theistic) yw bron bob un ohonynt. A’r pennaf ohonynt yw Bwdistiaeth. Y mae’r mudiad ‘mindfulness’- a’i wreiddiau’n ddyfn yn y traddodiad Bwdaidd – yn rhan allweddol bellach o’r gwasanaethau iechyd. Mae pobl yn medru canfod eu hysbrydoled ond o’r newydd gan roi ‘Duw’ o’r neilltu. Hynny y dylem edrych arno, holi ‘pam?’ ac fel theistiaid bryderu nid ychydig.

Cafwyd yn ein cynhadledd eleni resume o’r cyhoeddi diwinyddol ‘diweddaraf’ yng Nghymru. O’m rhan fy hun, roedd darllen nifer o’r cyhoeddiadau hyn yn debyg iawn i fwyta powlenaid ar ôl powlenaid o cornfflecs sych. Nid oes ynddynt na beiddgarwch, ffresni na nemor ddim o ddychymyg.  ‘Hanesyddol’ a ‘cheidwadol’ iawn yw’r ymdriniaethau hyn ar y cyfan. Gochelir rhag y prif anhawster i’r rhan fwyaf o bobl: ‘Duw’. Ond hwyrach fod hyn yn ormod i’w ddisgwyl gan rai sydd wedi llwyr ymrwymo eu bywydau i’r eglwysi.  Fel y byddai i aelodau o fwrdd cwmni gydnabod nad y ‘sales pitch’ sy’n ddiffygiol ond y ‘brand’ ei hun.

Dim ond mudiad ar y cyrion a eill edrych yn glir ac yn onest ar wir reswm ein crebachu. Nid oes gwell llwyfan i hyn yn unman yn y Gymru Gristnogol – beth sydd weddill ohoni – na C21. Dyma gymwynas arall – y brif gymwynas? – y medr ei wneud â’r eglwysi na allant hwy edrych ar y cwestiwn hwn o gwbl. Mae’n brifo gormod. Feiddiwn ni wneud?

A ydych wedi prynu copi( au )  o ‘Byw’r Cwestiynau’ eto ? Naddo ?

E-fwletin Medi 9fed, 2013

Unwaith yn y pedwar amser deuwn ar draws rhywbeth y gwyddwn sy’n mynd i fod yn hanfodol i ni weddill ein dyddiau. Felly  y bu i mi y dydd o’r blaen. Cymal ydoedd mewn brawddeg o eiddo Brian Davies yn ei ragarweiniad i lyfr am y diwinydd a’r athronydd Gwyddelig o’r nawfed ganrif, John Scottus Eriugena. Cynnig diffiniad o ddiwinyddiaeth negyddol (negative theology) – yr oedd Eriugena yn ddehonglydd ohono – a wna Davies, a dyma’r diffiniad:  “the attempt to safeguard the transcendence of God by stressing the limits of human understanding, by reminding us of what God cannot be.’’  A’r cymal sydd wedi mynd a’m mryd yw: ‘by reminding us of what God cannot be.’

Yr hyn na eill Duw ei fod. Pan haerwn fod Duw ‘fel-a’r-fel’, neu ‘dyma ewyllys Duw’- a gwneir hyn yn llawer rhy aml a rhyw bendantrwydd syfrdanol-  a yw’n croesi ein meddyliau  na all Duw fod yn hyn? A yw hi erioed wedi croesi meddwl ambell un na eill Duw fod yn ‘un’ sydd yn dirnad gwraig fel bod israddol i ddyn? A eill Duw fod yn ‘un’ sydd a ‘rhywbeth’ yn erbyn hoywder? A eill Duw’ fendithio’ llongau rhyfel neu ochri a’r garfan hon yn erbyn y llall?

Digwydda’r cymal mewn rhagarweiniad i lyfr sy’n trafod ‘diwinyddiaeth negyddol’. Ar y cyfan, a hyd y gwelaf, nid yw’r ddealltwriaeth hon o ddiwinyddiaeth wedi cael lle amlwg yng Nghymru erioed. Enw arall ar y ddiwinyddiaeth hon yw’r ‘apoffatig’. Yn ei lyfr cwbl ardderchog  The Darkness of God  mae Denys Turner yn diffinio’r apoffatig fel hyn: ‘..the name of that theology which is done against the background of human ignorance of the nature of God.’ Cyferbyna hyn a’r ochr arall i bethau -y cataffatig, sef: ‘the verbose element in theology…the Christian mind deploying all the resources of language in the effort to express something about God..’ Y ‘cataffatig’ hwn sydd wedi llywodraethu yng Nghymru ers canrifoedd. Medrir efallai ddweud fod y ‘cataffatig’ yn hyderus a’r ‘apoffatig’ yn fwy gochelgar. Hyn yw Duw, meddai’r cataffatig. Ni eill Duw fod yn hyn, meddai’r apoffatig.

Tybed mai egin mudiad apoffatig yw Cristnogaeth21? Yno i lefaru wrth yr eglwysi : na eill Duw fod yn hyn-‘reminding us of what God cannot be.’ A bod iddo swyddogaeth broffwydol a chwbl angenrheidiol.

Mae hi’n bryd i ni werthuso a chloriannu ein hunain erbyn hyn. Ai dyna fwriad y cyfarfod yn Nhrefeca?

Cofiwch roi gwybod i ni os hoffech ymuno â ni dros nos yn Nhrefeca ar Hydref y cyntaf a’r ail.  Mae’r manylion i gyd ar y wefan, ar y botwm “Newyddion”.  Fe fydd dau neu dri yn ein harwain, fe fydd cyfle i fyfyrio ac ymdawelu ac fe fydd cyfle i drafod datblygiad Cristnogaeth 21. Mae croeso i bawb, ond fe hoffem gael gwybod cyn ddydd Sadwrn  yr wythnos hon, os gwelwch yn dda.

A chofiwch am ‘Byw’r Cwestiynau’. Mae un cylch wedi prynu 14eg.copi – ar ôl gweld ei gynnwys.

E-fwletin Medi 2il, 2013

Bu’n wythnos gythryblus yng nghoridorau grym, a rhyfeddod annisgwyl oedd gweld synnwyr cyffredin yn cario’r dydd, am ba reswm bynnag, yn y drafodaeth ar Syria yn San Steffan. Fodd bynnag, eironi o’r mwyaf oedd clywed ambell i lais yn bygwth gwae ac yn gweiddi am weithredu treisgar yn yr union wythnos y cawsom ein hatgoffa o weledigaeth gynhwysol a heddychlon Martin Luther King. Roedd yn braf cael ail brofi gwefr y brotest yn Washington hanner canrif yn ôl, a rhyfeddu at ei ddawn dweud yntau. Rhyfeddu hefyd, mewn ffordd wahanol, wrth gael ein hatgoffa o gywilydd yr anghyfiawnder cymdeithasol oedd yn bodoli mewn cyfnod mor ddiweddar, mewn gwlad oedd yn honni ei bod yn gartref i gymdeithas wâr. Ac er na fu hylltod apartheid erioed yn rhan o’n gwead ni yma yn Ynysoedd Prydain, efallai nad oes raid crafu ymhell o dan yr wyneb i weld agweddau digon annifyr mewn rhai carfanau wrth drafod mewnfudwyr heddiw. Yn anffodus, mae’r gwahaniaeth rhwng Iddew a Groegwr, gwryw a benyw, caeth a rhydd yn aros mewn sawl cylch.

Er mai ei araith yn y rali yn Washington gafodd y sylw i gyd yr wythnos hon, mae’n werth cofio am frawddeg ysgytwol Luther King ychydig fisoedd cyn hynny, “Os na all dyn ganfod achos gwerth marw drosto, dyw e ddim ffit i fyw”.

Does neb yn galw arnom i farw dros unrhyw achos heddiw, ond cawn ein galw i fyw dros achos y Deyrnas, a dehongli’r alwad honno mewn modd cyfoes ar gyfer ein dyddiau ni yw diben Cristnogaeth 21.

Rydym yn agor tymor newydd yn ein hanes gyda digwyddiad cyffrous, sef cyhoeddi erthygl hynod o ddifyr a thra phwysig gan Aled Jones Williams ar y botwm Erthyglau.  Fe’i gwelwch ar http://www.cristnogaeth21.org ac yna gwasgu “Erthyglau”.

Cofiwch roi gwybod i ni yn fuan os hoffech ymuno â ni dros nos yn Nhrefeca ar Hydref y cyntaf a’r ail.  Mae’r manylion i gyd ar y wefan, ar y botwm “Newyddion”.  Y bwriad yw trafod cyfeiriad Cristnogaeth 21, ac mae croeso i bawb.

Os nad ydych wedi prynu’r llyfryn Byw’r Cwestiynau, mae modd ei archebu trwy bwyso’r botwm “Prynu’r Llyfr”. A dyma awgrym i chi….. Beth am wneud yr hyn y mae nifer o gylchoedd yn ei wneud, sef archebu nifer o gopïau a chynnal seiadau yn seiliedig ar y llyfryn gydol yr hydref a’r gaeaf?  Mae yna gwestiynau ar ddiwedd pob pennod, felly mae’r gyfrol yn ei chynnig ei hun ar gyfer astudiaeth grŵp.

E-fwletin Gorffennaf 29ain, 2013

Rywdro rhwng plentyndod a llencyndod, mae gen i go am sgwrs fer rhwng fy mrawd a minnau lle’r oeddem yn cyd-weld bod dyfodol y Gymraeg ynghlwm wrth ddyfodol Cristnogaeth. Rhag imi roi’r argraff ein bod yn cael sgyrsiau athronyddol yn amal, efallai mai sôn am y capel a’r Gymraeg yr oeddem: os oedd y capel am oroesi, roedd yn rhaid i’r Gymraeg oroesi. Ni allai’r naill fyw heb y llall, yn ein barn ddiniwed ni.

O edrych yn ôl drwy’r blynyddoedd gyda doethineb yr heddiw sydd ohoni, mae’n sicr fod dirywiad y capeli wedi mynd law yn llaw ag enciliad yr iaith. Roedd y capeli yn cynnal y diwylliant Cymraeg i raddau helaeth iawn, ac yn fodd i roi tipyn o raen ar ein hiaith lafar a’n hiaith ysgrifenedig. Yn y capel y cawsom flas ar ganu ac adrodd ac actio, yno y cawsom ddysgu darllen sol ffa a chanu mewn harmoni, ac yno y clywsom sain Cymraeg y Beibl. Ac wrth gwrs, yno y cawsom storfa o emynau a ddaeth yn ddefnyddiol yn ddiweddarach ar bob math o achlysuron.

Roeddwn yn siarad yn ddiweddar gydag un oedd yn llais cyfarwydd ar y llwyfan canu poblogaidd, ac sydd bellach yn fam i sawl un sy’n dal i berfformio yn y maes hwnnw. Gresynu oedd hi nad oedd fawr neb o athrawon – ie, athrawon Cymraeg ei hardal hi – bellach  yn cymryd fawr o ddiddordeb mewn adloniant Cymraeg. Er mai dysgu Cymraeg, a thrwy gyfrwng y Gymraeg,  yw eu swyddogaeth feunyddiol, roedd eu hadloniant bron yn gyfangwbl Saesneg. Ac awgrymu a wnâi y dylai’r llywodraeth fynd ag adloniant Cymraeg cyfoes i ysgolion a cholegau a chlybiau ieuenctid er mwyn i’n plant gysylltu’r Gymraeg ȃ cherddoriaeth gyfoes, a hwyl a mwynhau. Cytunaf yn llwyr ȃ hi; yr unig beth sy’n mynd i annog ein plant i siarad Cymraeg yw bod yr iaith yn cael ei gweld fel rhywbeth cyfoes, ffasiynol a “chŵl”.

Mae’r un peth yn wir i raddau am ein crefydd. Ym mhle mae ein plant a’n hieuenctid yn cael cyswllt ȃ Christnogaeth? Mae’r Gymraeg yn bwnc yn yr ysgol, ac i filoedd diolch i’r drefn  yn iaith cyfrwng yr addysg. Ond dyw hynny ddim o reidrwydd yn mynd i sicrhau ei goroesiad. Mae crefydd yn bwnc yn yr ysgol, ond fel pwnc academaidd yn unig, a gall hynny wneud mwy o ddrwg nag o les yn aml, gan nad oes raid i’r athrawon ddysgu o unrhyw argyhoeddiad. Rhaid i’n pobl ifanc gael eu cyflwyno i ysbryd y peth byw, ac nid dysgu am hanes a daearyddiaeth crefydd yn unig.

Yr her amlwg i ni yw gwneud ein llefydd o addoliad yn ganolfannau cymunedol bywiog a pherthnasol, lle gall ein pobl – o bob oed – gael hwyl ar ddiwylliant cyfoes a chyffrous, cael gafael ar iaith Gymraeg gref a rhywiog, a hynny oll mewn cyd-destun o Gristnogaeth anturus a heriol.

Dyma’r E-fwletin olaf am y tro – byddwn yn cael hoe fach yn ystod mis Awst – ond mae bwriad i anfon neges arall atoch yn fuan i sôn am ein cynlluniau yn yr Eisteddfod, a nodi cynlluniau i ddod at ein gilydd am sgwrs ym mis Hydref.

E-fwletin Gorffennaf 22ain, 2013

Diddorol yw cysylltiad crefydd ac adeiladau. Yng ngwres y diwygiadau mawr, fe aethom ni’r Cymry dros ben llestri a chodi capeli ym mhob man – llawer gormod a dweud y gwir. Rhaid oedd cael un i bob enwad, ac un i bob treflan a phentre’, a llawer un yng nghefn gwlad heb yr un pentre’n agos. Mi fyddai rhywun yn meddwl mai’r capeli anghysbell hyn fyddai’r cyntaf i gau pan ddaeth y trai mawr. Ond nid felly mae hi ym mhob achos. Un Sul diweddar, bûm mewn dau o’r rhain sy’n dal i fod yn frwd a bywiog – Gwaungoleugoed nid nepell o Lanelwy, a Nantybenglog wrth droed mynydd Tryfan. (Gwerth eu cadw er mwyn yr enwau’n unig!).

Ond cau yw hanes capel ar ôl capel, a hyn yn arwain at gwestiwn perthnasol o bigog gan John Roberts ar “Bwrw Golwg” yn ddiweddar i arweinydd enwad – “Ydech chi’n anghyfforddus efo sefyllfa lle ma’r coffrau’n llawn a’r capeli’n wag?”. Crefydd ased-gyfoethog ac ysbrydol-dlawd? Tristach fyth yw clywed swyddog enwadol yn mynnu bod “rhaid” i elusen werthu’r capeli gwag i’r cynnig ariannol uchaf, yn hytrach na gofalu fod yr adeiladau hyn yn cyfrannu at angen y gymdeithas leol. A thristach fyth yw gweld aelodau capel yn gwrthod pob cynnig i uno gyda chapel cyfagos a bodloni ar weld yr achos yn rhygnu i farwolaeth anochel.

Dylem fel Cristnogion fod yn ddigon dewr i wynebu bod oes y rhan fwyaf o’n hadeiladau wedi dod i ben. Maen nhw’n adeiladau anhyblyg a llawer rhy gostus i’w cynnal, heb sôn am eu gwresogi. Ac o’u gwerthu, dylem wneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cael defnydd cymdeithasol, fel cartrefi fforddiadwy neu ganolfannau cymunedol neu weithdai hyfforddi. Bydd y Comisiynwyr Elusen yn gorfod gwrando ar enwadau sy’n dadlau mai dyma’r “gwerth uchaf” yn unol ȃ bwriad sylfaenol elusen Gristnogol. Does dim rhaid derbyn gair ymgynghorwyr ac arwerthwyr stadau fel efengyl.

Ond os oes digon o ruddin ar ôl yn yr aelodau i drawsnewid ein capeli (neu’r ysgoldai fynychaf) yn adeiladau amlbwrpas i wasanaethu Duw a’r gymuned, gall adnewyddu’r adeilad hefyd adnewyddu’r achos ei hun. Mae hynny’n sicr o fod yn wir am Waungoleugoed, a heddiw gwelais enghraifft arall o’r un math o ysbryd yng nghapel Gad Newydd, Bodffordd.

Ynghanol sefyllfa ddigon digalon, mae enghreifftiau fel hyn yn ysbrydoliaeth.