E-fwletin Hydref 21ain

Cristnogaeth21  E-fwletin  Hydref 21.

 Wrth chwilmantan am lyfr a mynd trwy ambell focs yn llawn stwff  hen ac amrywiol, dyma ddod ar draws map yr oeddwn yn gwneud llawer o ddefnydd ohono ar un adeg – ond nid yn ddiweddar gwaetha’r modd. Roedd yn fap Ordnance Survey o ran o’r wlad lle cefais fy magu a threulio 18 mlynedd gyntaf fy mywyd. Roedd y map yn angenrheidiol pan yn mynd I grwydro’r mynyddoedd. Roedd cwmpawd gen i hefyd ar un adeg, ond efallai fod hwnnw mewn bocs arall, neu wedi’i golli. Efallai yr af i chwilio amdano pan fydd amser.Roedd angen y map a’r cwmpawd i wneud yn siŵr fy mod yn y lle iawn neu’n mynd i’r cyfeiriad iawn. Pe bai’r cwmpawd gen i byddai hwnnw’ dal yn ddefnyddiol. Ond diddorol yw darllen nad yw Pegwn y Gogledd Magnetaidd, yn ôl pob tebyg, yn yr un man ag oedd e –mae hwnnw, yn ôl rhai, yn symud yn gynt nag ar unrhyw adeg mewn hanes. Mae popeth yn newid, hyd yn oed Pegwn y Gogledd!

Llai defnyddiol na’r cwmpawd fyddai’r hen fap OS. Mewn hanner canrif mae llawer wedi newid yn fy hen ardal fel pob ardal arall. Mae map OS 2013 yn wahanol iawn i fap OS 1963. Un enghraifft  o hynny yw bod llai o groesau bach i’w gweld, y symbol yn dangos lleoliad capel neu eglwys – gan gynnwys y capel lle cefais i fy magu ynddo, sydd wedi hen fynd. Mae yna stadau tai wedi’u codi a ffyrdd newydd ac ati. Mae’r map OS yn atgoffa rhywun bod heddiw mewn sawl ffordd yn wahanol i ddoe.

Ond mae angen map a chwmpawd o hyd os am grwydro a bod yn ddiogel yn y mynyddoedd, yn fwy felly mewn ardal ddieithr. A dyna pam mae map up-to-date yn fwy defnyddiol na’r un sydd angen selotêp i’w ddal gyda’i gilydd.

Yn grefyddol dwi mewn ardal ddieithr heddiw. Dyw hi ddim yn ardal newydd – yn newydd I mi efallai – ond y gwir yw, fe fu sawl un mewn dieithrwch crefyddol cyn hyn, ac mewn ffordd mae peth cysur yn hynny. Nid ffenomenon gyfoes mo’r dieithrwch hwn. Ond mae’n galed byw yn y dieithrwch yma. Dyw ffydd a chred simplistic plentyndod ddim yn gweithio. Mae’r map wedi newid, mae’r map yn newid, ac fe fydd yn newid eto, ac mae’r cwmpawd ar goll yn rhywle, ac mae’r pegwn yn symud. A hyd y gwelaf i, dwi ddim ar fy mhen fy hun.

Mae’r hen sicrwydd wedi mynd ynghyd â’r cysuron oedd yn rhan o wead y sicrwydd yna.

Mae ymgodymu â’r dasg hon yn gofyn am  ymrwymiad,dyfalbarhad, gweddi, gwaith caled,mentr ac yn wir dewrder a hyder ffydd. Ni allwn lai. Ac mae’r Beibl yn gloddfa o gysur ac o gyfoeth i ni wynebu’r dasg.

 Cofiwch am y deunydd sydd ar y botwm ‘Erthyglau’ ar y dudalen gartref a soniwch wrth eraill fod yr e-fwletin i’w gael yn wythnosol ar y wefan neu fe ellir cofrestru a’i dderbyn yn uniongyrchol.