Archifau Categori: E-Fwletin

E-fwletin Wythnosol

E-fwletin Mawrth 31ain, 2014

Er bod ymron i bythefnos wedi mynd heibio ers i George Osborne gyhoeddi ei gyllideb, mae’r datganiad a wnaed gan Oxfam ynglŷn â’r bwlch rhwng y tlawd a’r cyfoethog yn dal i fod yn destun trafod mewn sawl lle. Yn wir, mae cyhoeddiad gwreiddiol Oxfam yn dyddio’n ôl i ganol Ionawr, ar drothwy cynhadledd economaidd y Fforwm Rhyngwladol yn Davos, yn Y Swistir. Mewn adroddiad ar gyfer y cyfarfodydd hynny y paratowyd adroddiad cyntaf Oxfam, oedd yn dweud bod yr 85 o bobl gyfoethocaf yn y byd yn berchen ar yr un faint o gyfoeth â’r 3.5 biliwn tlotaf – sef hanner poblogaeth y ddaear. Fe seiliwyd y dystiolaeth ar y tabl o gyfoethogion a gyhoeddwyd gan y cylchgrawn Americanaidd, Forbes, ar gyfer y flwyddyn 2013. Ond o fewn ychydig wythnosau, roedd rhestr 2014 wedi ei chyhoeddi gan Forbes, a gwelwyd bod y ffigwr wedi newid, a’r sefyllfa wedi gwaethygu. Erbyn dechrau Mawrth eleni, roedd cyfoeth cyn lleied â 67 o’r bobl gyfoethocaf yn cyfateb i’r 3 biliwn tlotaf.

Oddi ar hynny, mae’r ffigurau wedi cael eu cyhoeddi ledled y byd mewn gwahanol ffurfiau, ar radio a theledu, mewn papurau newydd ac ar liaws o wefannau cymdeithasol.

Yma yng ngwledydd Prydain, roedd y dystiolaeth yn dangos bod y pum teulu sydd ar frig y rhestr – gyda’i gilydd – yn gyfoethocach na’r 12.6 miliwn sydd ar y gwaelod. Ond yr hyn sy’n peri pryder yw bod y bwlch yn lledu,  gyda’r cyfoethog yn casglu rhagor o eiddo bob blwyddyn tra bod amgylchiadau’r tlodion yn gwaethygu.

Mae’n werth cofio am sylwadau’r colofnydd Caitlin Moran a soniodd mewn erthygl ddiweddar yng nghylchgrawn y Sunday Times am ymgyrch y llywodraeth i gwtogi’r budd-daliadau sy’n cael eu talu i’r rhai anghenus mewn cymdeithas. Roedd hi am bwysleisio ei bod hi ei hun yn dod o deulu a fagwyd ar fudd-daliadau, ac mae’n gresynu fod cymdeithas erbyn heddiw yn ei weld yn beth mor ffasiynol i dargedu’r hyn sy’n cael ei alw yn ‘benefit fraud’. Ac meddai hi, “The irony is, of course, that the working-class benefit fraud costs £1.2 billion a year, while tax evasion – inevitably a middle-class crime – costs £14 billion annually.”

 

Mewn byd delfrydol, byddai democratiaeth yn gofalu bod y cyfoethog yn cael eu trethu’n deg i helpu’r tlawd. Nid y ffaith bod yna gyfoethogion yn bodoli sy’n poeni dyn, ond yr awgrym bod llywodraeth Prydain, fel sawl gwlad arall, yn fwriadol yn dandwn y lleiafrif cyfoethog ac yn eu swcro ar draul y mwyafrif tlawd. Mae’r eironi’n drymlwythog pan gofiwn mai dim ond deunaw mis sydd ers inni fod yn gwrando ar addewid gwag y Canghellor ein bod i gyd yn rhan o’r hirlwm darbodus.  

 

Mae’n galonogol gweld problem tlodi’n cael blaenoriaeth gan y Pab Ffransis, ac yntau’n amlwg wedi bod dan ddylanwad yr Archesgob Hélder Câmara (1909 – 1999), ymysg eraill. Fe gysergodd Câmara ei fywyd i wasanaethu Crist ymhlith tlodion Brasil, ac roedd y Fam Teresa hithau yn cydnabod ei bod yn edmygu ei weledigaeth. Ac wrth gwrs, Câmara sydd biau’r dyfyniad ysgytwol hwnnw: “Os rhoddaf fwyd i’r tlodion, caf fy ngalw’n sant. Os gofynnaf pam eu bod yn dlawd, caf fy ngalw’n Gomiwnydd.”

 


E-fwletin Mawrth 24ain, 2014

Efengyl gryno yw’r ail Efengyl; mae Marc yn adrodd hanes gweinidogaeth Iesu gyda moelni bendigedig. Tra bod y gweddill yn manylu, ehangu ac ymhelaethu, mae Marc yn adrodd yr hanes yn dwt, a syml. Fel esiampl, dyma gofnod Marc o Demtiad Iesu. Nid oes angen i chi fynd i chwilio Beibl, gan mae dwy adnod yn unig a gymer Marc i gofnodi’r cyfan oll:

Ac yna gyrrodd yr Ysbryd ef ymaith i’r anialwch, a bu yn yr anialwch am ddeugain diwrnod yn cael ei demtio gan Satan. Yr oedd yng nghanol yr anifeiliaid gwylltion, a’r angylion oedd yn gweini arno (1:12&13).

Tra bod Mathew a Luc yn nodi union natur y gwahanol demtasiynau, ac yn cynnwys cofnod o’r drafodaeth a fu rhwng Iesu â Satan, mae Marc yn distyllu’r cyfan i ddwy adnod syml, moel…a thrawiadol!

Anialwch…temtiad…anifeiliaid gwylltion…angylion.

Gyda phedair delwedd syml mae Marc yn llwyddo i greu ynom ymdeimlad byw o anferthedd y sialens y mae’n rhaid i Iesu ei wynebu a’i oresgyn cyn dechrau ei weinidogaeth gyhoeddus.

Gyda phedair delwedd syml, gallwn wynebu ar daith anodd y Grawys.

Anialwch. Gwyddom, un ac oll am anialwch. Anialwch galar. Anialwch diflastod. Anialwch tor perthynas. Anialwch anghyfiawnder. Anialwch unigrwydd. Y Grawys hwn, cydnabyddwn fod gennym ein hanialwch; rhan annatod o fywyd yw derbyn realiti yr anialwch hwnnw, a mentro iddo i brofi…a goresgyn ei her.

Temtiad. Gwyddom, un ac oll am demtasiwn. Nid yw Marc yn nodi pa demtasiynau yn benodol y bu’n rhaid i Iesu eu hwynebu, yn hytrach mae’r cyfan yn cael ei wasgu i’r cymal: yn cael ei demtio. Wrth gywasgu’r cyfan i ychydig eiriau dethol, mae Marc yn llwyddo i fynegi mor finiog yw temtasiwn, ac mor hawdd i ti a minnau yw ildio i’r hyn sydd – yn arwynebol o leiaf – yn ymddangos yn gwbl synhwyrol a hollol naturiol, ond sydd – go iawn – yn llwyr ddinistriol i’r gorau a’r sanctaidd yn ein byw.

Anifeiliaid gwylltion. Mae pawb ohonom, ar adegau’n synhwyro’r anifeiliaid gwylltion yn ymgasglu o’n cwmpas. Fe ddônt mewn amrywiol ffyrdd, dônt fel hunllefau gan ddwyn gorffwys rhagom; fe ddônt fel amheuaeth gan erydu ein hunan hyder, fel gofid i grafu yn erbyn graen ein byw.

 …a’r angylion oedd yn gweini arno. Angylion yn yr anialwch?! Angylion ymhlith yr anifeiliaid gwylltion?! Yn yr anialwch, pan oedd Iesu yn cael ei demtio gan Satan ’roedd angylion Duw wrth ymyl; pan oedd Iesu yng nghanol yr anifeiliaid gwylltion ’roedd angylion Duw yn dawel wrth ymyl, yn aros eu cyfle i weini arno. Angylion yw llaw fer awduron y Beibl am weinidogaeth dawel ddirgel Duw ymhlith ei bobl.

Ydi’r angylion yn gweini arnom heddiw? Mi welais sawl angel wrth eu gwaith yr wythnos aeth heibio! Ni fu na siffrwd adenydd, na gwawl o olau, na chanu nefolaidd, ond gwelais bobl yn adennill nerth a gobaith. Collodd yr anialwch ei fraw, goresgynnwyd temtasiwn, ciliodd yr anifeiliaid gwylltion i’r cyrion tywyll. Bu’r angylion yn brysur…a llwyddiannus.

Y Grawys hwn, mynnwch bob cyfle i gydnabod yr angylion sydd ar waith yn anialwch eich profiad, a mynnwch gyfle i fod yn angel, ar waith, yn gweini.

 

E-fwletin Mawrth 17eg, 2014

Bûm yn hel meddyliau’n ddiweddar am un peth yn benodol: priodas gyfunrywiol a’r eglwys leol Gristnogol. Mae’r pegynnu cas yn amlwg ddigon, a phobl yn cuddio y tu ôl i labeli hyll, cyfleus, neu’n dewis bod yn dawel rhag tarfu. Mi wn yn iawn am Gristnogion amlwg a dylanwadol yn y byd Cristnogol Cymreig sydd â barn bendant am hyn, ond barn na thraethir mohoni rhag creu cynnwrf. Efallai mai nhw sydd yn iawn, ond… dyma ychydig feddyliau, sydd yn araf grisialu yn argyhoeddiad.

Fy man cychwyn, yn rhyfedd iawn, yw’r hyn sydd gan Iesu i’w ddweud am ysgariad! Daeth y Phariseaid ato, meddai Marc wrthym (10: 1-12) a gofyn i Iesu a oedd yn gyfreithlon i ŵr ysgaru ei wraig. Amcan gofyn y cwestiwn oedd cornelu’r saer-bregethwr o Nasareth. Pe dyfarnai o blaid ysgariad, gellid ei ddangos fel un a oedd yn tanseilio gorchymyn Moses, ond pe dyfarnai yn erbyn, galli ennyn dicter Herod. ‘Roedd Herod wedi priodi Herodias, a adawsai ei gŵr. ‘Roedd Herod eisoes wedi lladd Ioan Fedyddiwr am iddo fentro herio’r sefyllfa honno!

Diben gwleidyddol/grefyddol sydd i gwestiwn y Phariseaid; nid gofyn er mwyn ehangu eu gorwelion ysbrydol y maen nhw. Cofnodir yn yr ychydig adnodau hyn ymgais fas, front, pobl a ddylai wybod yn well, i faglu Iesu, ac mi gredaf fod ymateb pwyllog, grasol Iesu i gwestiwn y Phariseaid yn gyfrwng i oleuo ein trafodaeth ninnau heddiw.

Gwelir Iesu’n symud yn ofalus rhwng y pegynau miniog. Yn ôl ei arfer, mae’n ateb cwestiwn y Phariseaid gyda chwestiwn ei hun: “Beth a orchmynnodd Moses i chwi?” Atebasant fod ysgariad yn gyfreithlon. Yn sydyn, ac yn dra annisgwyl, fe dry Iesu ei sylw o Moses at ddechreuad y greadigaeth: Adda ac Efa yng Ngardd Eden. Yn dawel, ddiffwdan, mae Iesu wedi symud y drafodaeth o gyd-destun cyfyng y Gyfraith i ehangder yr arena ysbrydol.

Buasai ein trafodaeth ni ar briodas gyfunrywiol a’r eglwys yn gallach, ac yn iachach, pe baem ni’n fwy parod i ofyn beth mae Duw yn fwriadau ar ein cyfer o fewn, a thrwy, y bywyd priodasol. Y cwestiwn tyngedfennol yw nid: Pwy ddylai briodi? ond yn hytrach: Pam y dylid priodi?

Wrth gyfeirio’r Phariseaid yn ôl at Adda ac Efa yng Ngardd Eden, cawn gipolwg, mi gredaf, ar ddeall Iesu o fwriad Duw ar ein cyfer o fewn, a thrwy y bywyd priodasol. Gellid credu mai mam a thad y ddynoliaeth yw Adda ac Efa, neu eu bod yn symbolau sy’n cyfeirio at y gwirionedd hwnnw, ac o’r herwydd, mae’n rhaid derbyn mai pennaf ddiben priodas yw cenhedlu plant. Ond, fe ellid credu mai dwy greadigaeth sydd mewn perffaith gynghanedd yw Adda ac Efa, ac o’r herwydd mai diben bywyd priodasol yw amlygu a diwallu angen pobl am berthynas, am undod creadigol rhwng dau. Wrth hel meddyliau, ni allaf lai na chredu mai’r ail ddehongliad sydd gryfaf, a bod Adda ac Efa yn amlygu i Iesu mai bwriad Duw ar gyfer ei bobl yw cymdeithas, cwmnïaeth a chytgord: “Nid da fod y dyn ar ei ben ei hun” (Genesis 2:18). Nid mater o genhedlu plant yn unig mo priodas, ond mae hefyd yn gyfrwng i gynnal a chadw cwmnïaeth agos – mynegiant ydyw o gynghanedd greadigol dau berson.

Ond, nid diben i leddfu dolur unigrwydd yn unig mo bywyd priodasol ’does bosib! I’r Cristion, mae priodas yn gyfrwng i gyflawni ewyllys Duw yn y byd. Arwydd ydyw o gyfamod tragwyddol Duw, cyfrwng ydyw i dystio i gariad Duw. Hanfod bywyd priodasol yw dweud ‘Na’ ac ‘Ie’ yr un pryd; ‘Na’ i sawl cymar er mwyn dweud ‘Ie’ i gymar oes. Mae priodas Gristnogol yn ddarlun o’n ffydd. Dywedwn ‘Na’ i ryfel er mwyn dweud ‘Ie’ brwd i bob ymgais i gymod ym mhob cylch. Dywedwn ‘Na’ i lacrwydd moesol, er mwyn cael dweud ‘Ie’ i egwyddor cariad ym mhob perthynas. Mi gredaf  y gall priodas gyfunrywiol, yn union fel priodas wahanrywiol, fod yn gyfrwng i gyflawni ewyllys Duw yn y byd; ac fe all priodas gyfunrywiol, yn union fel priodas wahanrywiol, fethu â chyflawni ewyllys Duw yn y byd!

Wn i ddim beth fydd pendraw’r drafodaeth gyfredol am briodas gyfunrywiol a’r eglwysi lleol, ond mi wn y deuai  gwell, dyfnach, ac iachach trafodaeth pe bai mwy o bobl yn mynegi eu barn. Nid diogelu ein hunain, nid celu ein safbwyntiau rhag i ni darfu ar bobl yw’r ffordd ymlaen. Y ffordd ymlaen yw bod yn ffyddlon i fwriad Duw ar ein cyfer o fewn, a thrwy fywyd priodasol. Credaf  yn ddidwyll mai ei bennaf fwriad Ef ar ein cyfer, o fewn a thrwy briodas yw cynghanedd ysbrydol rhwng dau, a bod y gynghanedd honno’n gyfrwng i ledu terfynau ei Deyrnas.

E-fwletin Mawrth 10fed, 2014

Dychmygwch ddau ddyn yn syrthio lawr simnai; daw’r ddau i’r gwaelod yn ddianaf; mae’r naill yn frwnt, yn barddu i gyd; ond mae’r llall – yn rhyfedd iawn – yn gwbl lân. Pa un o’r ddau sydd yn ymolchi?

Cewch gyfle i hel meddyliau…

Awn ymlaen at yr ail gwestiwn: dau ddyn yn syrthio lawr simnai; daw’r ddau i’r gwaelod yn ddianaf; mae’r naill yn frwnt, yn barddu i gyd; ond mae’r llall – yn rhyfedd iawn – yn gwbl lân. Pa un o’r ddau sydd yn ymolchi?

Cewch gyfle i hel meddyliau…

A’r cwestiwn olaf: Dychmygwch ddau ddyn yn syrthio lawr simnai; daw’r ddau i’r gwaelod yn ddianaf; mae’r naill yn frwnt, yn barddu i gyd; ond mae’r llall – yn rhyfedd iawn – yn gwbl lân. Pa un o’r ddau sydd yn ymolchi?

Cewch, un cyfle arall i hel meddyliau…

Och! Nid tri chwestiwn sydd, dim ond un! Ti ’di gofyn yr un cwestiwn dair gwaith!

Mae’r geiriau’r un fath, ond mae’r cwestiwn yn wahanol! Ystyriwch y cyntaf. Pa un o’r ddau sydd yn ymolchi? Yr un brwnt. Nage. Yr un sydd yn lân sydd yn ymolchi. Pam? Wedi cyrraedd gwaelod y simnai, mae’r ddau ddyn yn codi, a syllu’r naill ar y llall. Mae’r brwnt yn gweld y llall yn lân, ac yn ymfalchïo bod y ddau wedi llwyddo i gyrraedd gwaelod y simnai nid yn unig yn ddianaf, ond yn gwbl lân! Mae’r glân yn gweld y llall yn frwnt, a gan mai peth naturiol yw bod yn frwnt ar ôl syrthio i lawr simnai, mae’r glân yn dychmygu ei hun i fod fel y llall – yn frwnt – ac yn mynd o’r herwydd i ymolchi.

Trown at yr ail gwestiwn. Pa un o’r ddau sydd yn ymolchi y tro hwn? Wel, gan fod yr ail gwestiwn yn union yr un fath a’r cyntaf, mae’n rhaid bod yr ateb yr un fath: y glân sydd yn ymolchi. Nage. Er bod y geiriau’r un fath, mae’r broblem yn gwbl wahanol. Y tro hwn y brwnt sydd yn ymolchi. Mae’r glân yn syllu at y brwnt, ac meddai, “Arswyd, rhaid bo’ fi’n frwnt!”, ond wedyn mae’n edrych ar ei ddwylo, ac maen nhw’n lân. Mae’r brwnt yn syllu ar y glân, ac meddai, “Arswyd! Syrthio i lawr simnai a chyrraedd y gwaelod yn gwbl lân! Rhyfedd o fyd!” Ond wedyn, mae hwnnw’n edrych ar ei ddwylo, ac yn sylweddoli mor frwnt ydyw, ac yn mynd o’r herwydd i ymolchi.

Ymlaen at yr olaf. Pa un o’r ddau sydd yn ymolchi y tro hwn? Y brwnt wrth gwrs! Nage. Yr un glân felly! Nage. Onid yr ateb i’r cwestiwn yw bod y cwestiwn yn wyrgam! Sut yn y byd allai dau ddyn syrthio i lawr simnai, a’r naill yn cyrraedd y gwaelod yn lân a’r llall yn frwnt?!

Os ydym yn mentro ymholi o gwbl am ein byw, mi gredaf mai’r un cwestiwn yn y bôn sydd gan bawb: Beth ydwyf fi? Plentyn i Dduw neu dim byd amgenach na “swp o esgyrn mewn gwisg o gnawd”? (T.H. Parry Williams (1887-1975); Yr Esgyrn Hyn, Cerddi: (1931)). Yr un yw’r cwestiwn, ond mae eithafion ein gwahanol atebion i’r un cwestiwn hwnnw yn amlwg iawn heddiw. Cyfnod yw hwn â’i atebion yn aneirif. Claddwyd y cwestiwn o dan bentwr o atebion. Saif bob ateb ar ei sodlau’n gadarn, gan herio pob un ateb arall. Er mai croes i’r graen yw hynny i lawer un, awgrymaf fod y gofyn didwyll yn bwysicach na chanfod ateb terfynol.

Yr ateb i anghydfod ein dyddiau yw llai o ymgecru di-fudd am y ffordd mae eraill yn dewis ateb y cwestiwn! Cydio yn dynnach yn y cwestiwn sydd rhaid; er pwysiced yw darganfod yr Ateb Mawr, nid yw’n ddigon! Cofiwn, ar awr ei dröedigaeth, mai cwestiwn oedd ar wefus Paul: Pwy wyt ti, Arglwydd? (Actau 9:5). Y sawl a gydia’n dyn yn y cwestiwn a wybu nerth yr oesol werthoedd.

E-fwletin Mawrth 3ydd, 2014

Yn y gyfrol Yr Un Hwyl a’r Un Wylo, ceir yr englyn hwn gan Dic Jones:

Cawl
                     (Ceir rysetiau ar gyfer popeth bron – ond cawl)

Berwa dy gig y bore, – yna dod
Dy datws a’th lysie,
Toc o fara gydag e
A chaws, beth mwy ‘chi eisie?

Dychmygwch sicrhau dyfodol ein hiaith fel paratoi llond sosban o gawl. Buom, ers degawdau’n trafod, a thrafod, a thrafod eto fyth rysáit y cawl. Beth sydd yn rhaid cynnwys er mwyn sicrhau ffyniant ein hiaith? Mae angen berwi’r cig – ein hiaith ag iddi statws swyddogol cyfreithiol. Rhaid ychwanegu’r tatws a’r llysie – y Gymraeg wrth wraidd Llywodraeth Cymru a’n pleidiau gwleidyddol bob un, yn rhan annatod o’n democratiaeth Gymreig, ac yn fyw a gweithredol drwy gyfryngau digidol. Toc o fara wedyn – gweithgarwch cymunedol, a phawb yn fodlon a pharod eu cyfraniad lle bynnag y bônt; a chaws wedyn, ein hiaith yn iaith gymunedol fyw, nid dim ond i rywrai dethol, ond i bawb… beth mwy ‘chi eisie?

Ni fu sôn o gwbl am yr angen am gynnwys crefydd yn rysáit y cawl! Nid oes angen, mae’n debyg, ychwanegu crefydd i gawl parhad ein hiaith.

Bu crefydd yn rhan annatod bwysig o’n hymwybod cenedlaethol ers y dechrau’n deg. Y gair annatod sydd bwysig. Ie, annatod, ond bu ymgais i ddatod y cwlwm rhwng crefydd â chenedlaetholdeb, rhwng crefydd â thynged ein hiaith, ond cwlwm annatod yw hwn. Bu, ac y mae crefydd o hyd, yn allweddol bwysig i’n hegwyddorion cenedlaethol.

Y ddau ddrwg yn y cawl yw Seisnigrwydd iaith – dyma sydd yn crebachu’r iaith, a mawr bu’r sôn am hyn yn ddiweddar. Yr ail ddrwg, yw Seisnigrwydd meddwl ac agwedd, a hyn yn waeth na’r cyntaf, gan ei fod yn lladd y meddwl a’r dychymyg Cymraeg, a heb hwnnw, nid oes diben iaith, gan nad oes dim i’w fynegi ynddi a thrwyddi. Perthyn yr agwedd wrth-grefyddol sydd mor nodweddiadol o Gymry Cymraeg heddiw i’r Seisnigrwydd meddwl ac agwedd hwn. Nid rhywbeth greddfol, naturiol i ni’r Cymry mohono. Rhywbeth estron ydyw. Derbyniwyd ef yn llwyr a llawn – ac mae ein hymlyniad wrtho yn arwydd o lwfrdra enaid a diogi meddwl.

Diogelir ein hiaith, meddai lleisiau huawdl ein cyfnod, os ellir sicrhau Cymru rydd, Cymru gyfan a Chymru ddeffroedig, ddigidol – cig, tatws, llysie, toc o fara a chaws…beth mwy ‘chi eisie? Beth sydd eisie yw Cymru grefyddol, yn ystyr orau a llawnaf y gair hwnnw! Dyna’r peth mwy – ychwanegol – sydd yn rhaid! Fe ellid anwybyddu crefydd fel tegan gwaeth na diwerth, fe ellid datgan nad oes a wnelo crefydd ddim â’n cymeriad a’n bodolaeth fel cenedl heddiw. Gellid dadlau felly’n hawdd ddigon, ond mae gwneud hynny’n prysuro tranc ein hiaith! Pam? Oherwydd crefydd a ddiogelodd ein hiaith ar hyd y canrifoedd, crefydd a roes i ni ymwybod cenedlaethol, a pherthynas crefydd â chenedlaetholdeb yw’r pwnc pwysicaf o bob pwnc yn ein trafodaeth o dynged ein hiaith.

(Gyda llaw – mae’r ail argraffiad o Byw’r Cwestiynau ar gael erbyn hyn. Mae nifer o grwpiau trafod yn cael blas ar y llyfryn ac yn ei gael yn adnodd hyblyg i’w ddefnyddio. Mae nifer o unigolion hefyd wedi mynegi eu gwerthfawrogiad o lyfryn sy’n rhoi gwybodaeth, goleuni ac ysbrydoliaeth iddynt . Os hoffech archebu copi, dilynwch y cyfarwyddiadau ar ein gwefan, o dan y teitl “PRYNU’R LLYFR”.)

 

 

E-fwletin Chwefror 24

Cristnogaeth 21 – E-fwletin Chwefror 24ain.

Fedrwch chi fynegi’r teimlad, mewn geiriau, o fod mewn cariad? Gamp i chi ddod o hyd i’r union ddiffiniad sy’n gweddu’n berffaith. Mi fydd yna dipyn o “hyn ydy o…” ac eto “mae o’n hyn hefyd” a “nid dyna’n union ydy o chwaith” wrth i chi geisio dod o hyd i eiriau. O’i ddiffinio, mae rhywun, rhywsut yn ei gyfyngu o i’r diffiniad hwnnw wedyn.

A dyna dristwch y crefyddol. Wrth geisio’i esbonio, caiff ei gyfyngu i’r esboniad hwnnw ohono. Fe gyll y dirgelwch. “Religions may begin as vehicles of longing for mysteries beyond description, but they end up claiming exclusive descriptive rights to them,” meddai Richard Holloway.

Rhywbeth anniffinadwy yw’r profiad ysbrydol- yr adegau pan gawn gipolwg ohono mewn gweithred brydferth; yn y cyfareddol; yn ddylanwad gweinidog ym mlodau’n dyddiau;  yn lleufer lleuad llawn; yn llef ddistaw fain mewn munud o fyfyrdod; yn encil dawel yn Sant Beuno; yn harddwch eglwys wag “a’r seddau’n llawn sibrydion defosiynol.” *

Y cyfnodau hynny pan nad yw geiriau’n cyfleu yr union deimlad, pan fo’r profiad yn fwy nag unrhyw ddiffiniad ohono. A dyna’r profiadau a erys yn gerrig milltir ar hyd y daith. Ond yr hyn a wnawn ni o hyd yw brwydro ymhlith y diffiniadau ac o’r herwydd, fe gollwn yr hanfod. Llanwn ein crefydd â thraethu amlgymalog nes boddi’r huodledd a geir mewn tawelwch.  Llanwn ein crefydd â cheriach nes ein mygu. Hidlwn y gwaddod i greu lle i atgof, a phrofiad, i deimlad a thrugaredd a chofleidio tosturi tawelwch a gwerth gwacter –

y gwacter sy’n llawn posibiliadau.

y gwacter sy’n llawn disgwylgarwch.

y gwacter sy’n ddirgelwch.

y gwacter sy’n llawn presenoldeb.

 

*llinell glo ‘Gweddi’ gan Dafydd John Pritchard

 

Mae’r ail argraffiad o Byw’r Cwestiynau  ar gael erbyn hyn. Mae nifer o grwpiau trafod yn cael blas ar y llyfryn ac yn ei gael yn adnodd hyblyg i’w ddefnyddio. Mae nifer o unigolion hefyd wedi mynegi eu gwerthfawrogiad o lyfryn sy’n rhoi gwybodaeth, goleuni ac ysbrydoliaeth iddynt ar eu pererindod.

Cofiwch am grwp C21 yn y Morlan Aberystwyth nos Fercher Chwefror 26ain am 7.30 :

Iesu – yr aberth sy’n maddau

E-fwletin Chwefror 10ed

Cristnogaeth 21 – E-fwletin Chwefror 14eg

Un o’r cyfrolau gorau am C.S.Lewis ( bu 50 mlwyddiant ei farwolaeth yn 2013 ) yw cofiant Alister McGrath, C.S. Lewis: A Life (Hodder).Bu rhaid i neb llai nag A.N. Wilson – awdur y gyfrol C.S. Lewis: A Biography (Flamingo) – gydnabod rhagoriaeth y gwaith: “Cafwyd llawer o gofiannau i C.S. Lewis … ond ni chredaf fod yr un ohonynt yn well nag un Alister McGrath”. Nodweddir y gwaith gan ymchwil tra manwl, a chynnwys dadlennol a darllenadwy.

Anffyddiwr a drodd yn Gristion oedd C.S. Lewis. Soniodd am ei brofiad  yn ei ystafell yn Rhydychen:

Y mae’n rhaid ichi fy nychmygu wrthyf fy hun yn f’ystafell … nos ar ôl nos, yn ymwybodol, pryd bynnag y codwn fy mhen o’r papur, fod yr Hwn nad oeddwn  am ei gyfarfod ar unrhyw delerau, yn agosáu ataf yn gyson a di-ildio. Yn ystod tymor y Drindod, 1929 [y mae McGrath yn dadlau mai yn ystod 1930 y digwyddodd  hyn], ildiais a chyffesais mai Duw oedd Duw, euthum ar fy ngliniau, a gweddïais.”

 Mynnai Lewis nad oedd y profiad yn rhywbeth y bu ef yn ei geisio; yn hytrach yr oedd y profiad, a’r Un oedd yn gyfrifol amdano, yn ei geisio ef. “the narrative of ‘Surprised by Joy’ is not that of Lewis’ discovery of God, but of God’s patient approach to him.” (McGrath, 136).

Yn Invitation to Pilgrimage, y mae John Baillie yn dyfynnu pennill a wnaeth gryn argraff arno:

             I sought the Lord, and afterward I knew

        He moved my soul to seek Him, seeking me;

             It was not I that found, O Saviour true –

                No, I was found by Thee.

(  ‘Dy ddwyfol ymchwil am fy enaid i’ yw cyfieithiad Maurice Loader )

Ynghyd â’i bwyslais ar Dduw yn cymryd y cam cyntaf, y mae C.S. Lewis yr un mor sicr fod yn gorwedd yng nghalon dyn ddyhead dwfn am y trosgynnol a’r ysbrydol. Y mae’r “ddadl o ddyhead” yn un o brif resymau Lewis dros gredu ym modolaeth Duw ac yn tarddu o’r gwacter mewn dyn na fedr neb ond Duw ei lenwi. Ond pa ddiben fyddai i’r dyhead hwn oni bai bod modd i’w ddiwallu? Beth fyddai diben syched oni bai fod yna ddwr i’n disychedu? I Lewis, y mae’r ffaith fod dyn yn dyheu â’i holl enaid am Dduw yn ein hannog i gredu fod y Duw hwnnw’n bod; oni bai am hynny ni fyddai modd esbonio’r hiraeth a’r dyhead. Nid yw Lewis yn honni bod modd “profi” bodolaeth Duw y tu hwnt i bob amheuaeth ( “adenydd byrion” sydd gan reswm,chwedl Dante ), ond y mae’r ymwybyddiaeth â fedd o bresenoldeb y dwyfol yn cadarnhau ei ffydd.

Hyd yn oed mewn oes seciwlar, faterol ac anghrefyddol, y mae’n anodd gwadu bod dyn, yng nghraidd ei fodolaeth, yn ymestyn allan at rhywbeth, neu rhywun, mwy nag ef ei hun. Y cwestiwn mawr, wrth gwrs, ydi hwn: A oes yna realiti yn bod sy’n cyfateb i’r dyhead?

Ond nid yw’r dyhead am ryw wrthrych neu’i gilydd yn brawf o fodolaeth y gwrthrych hwnnw. Y mae McGrath (t. 291) yn dyfynnu cyffes ingol Bertrand Russell, un o’r anffyddwyr mwyaf dylanwadaol, y ganrif ddiwethaf:

“The centre of me is always and eternally a terrible pain … a searching for something beyond what the world contains, something transfigured and infinite. The beatific vision – God. I do not find it, I do not think it is to be found – but the love of it is my life … It is the actual spring of life within me.”

Dyma ddyhead nad yw’n cael ei sylweddoli. Arall oedd profiad C.S. Lewis. ‘Roedd ganddo resymau eraill dros fod the theist (e.e. bodolaeth y ddeddf foesol), ond fe’i gwelir yn dychwelyd, o hyd ac o hyd, at yr ymdeimlad fod Duw wedi plannu yn enaid dyn ddyhead amdano’i hun, na all neb na dim ond ef ei hunan ei ddiwallu. Dyma brofiad y Salmydd (e.e. Salm 42); Awstin Sant (“Tydi a’n creaist i ti dy hun, a diorffwys yw ein calonnau hyd oni orffwysont ynot ti”); a phob credadun, yn wir. Mae’r ffaith fod Russell, er yn gwadu bodolaeth Duw, eto’n barod i gydnabod ei ddyhead amdano, yn hynod awgrymog. Fe’n temtir i holi: a yw’r dyn seciwlar yn gwbl amddifad o brofiad ysbrydol?

Fe fydd yr ail argraffiad o ‘Byw’r Cwestiynau’ ar gael yn fuan. Cysylltwch â ni os ydych am archebu copi (au )

E-fwletin Chwefror 3ydd, 2014

Fis Tachwedd diwethaf, o dan nawdd Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr, bu’r diwinydd Jürgen Moltmann yn annerch cyfarfodydd ym Manceinion a Reading. Thema’r cynadleddau hyn oedd “Cenhadaeth y Meddwl” (Mission of the Mind), ac ar y daflen gyhoeddusrwydd nodwyd y sylwadau hyn:

“Yn amlach na pheidio diffinir cenhadaeth mewn termau daearyddol: cenhadaeth  dramor, neu ymgais i gyrraedd rhywrai na chlywsant erioed yr Efengyl. Eithr y mae’r ffin newydd y mae’n rhaid i’r eglwys ei chroesi heddiw yn gorwedd yn y  meddwl. Dyma’r frwydr syniadaol. Dyma genhadaeth y meddwl.”

Ar un llaw, y mae Moltmann yn herio anffyddwyr, gan ddadlau nad yw seciwlariaeth atheistaidd yn cynnig i ddynion fywyd llawn a phwrpasol; ar y llaw arall y mae’n herio’r eglwys i wrthsefyll y ffwndamentaliaeth honno sy’n ei hamlygu ei hun mewn llawer rhan o’r byd (yn enwedig yn yr Unol Daleithiau), ac sy’n ymdebygu i’r hyn a geir mewn rhai carfannau y tu mewn i Islam ac Iddewiaeth. Yn ôl Moltmann, un o’r rhesymau sydd i gyfrif am y ffwndamentaliaeth niwediol hon yw gwrth-ddeallusrwydd, sef amharodrwydd i ddefnyddio rheswm i ddehongli ffydd mewn termau rhesymegol a synhwyrol. Wedi’r cyfan, er bod ffydd, ar adegau, yn symud y tu hwnt i reswm, nid yw byth yn groes iddo. Er y dirgelion a berthyn iddi, nid yw ffydd, yn ei hanfod, yn rhywbeth abswrd ac afresymol.

Cyfeiria Gwili yn un o’i emynau at gynnydd y Cristion “mewn gwybodaeth ac mewn gras”. Ni ellir gorbwysleisio’r angen i dyfu mewn gras, ac i feithrin y rhinweddau Crist-debyg. Ond y mae cynyddu mewn gwybodaeth yr un mor hanfodol i’r Cristion.

O feddwl am y datblygiadau cyffrous a ddigwyddodd yn ystod y degawdau diwethaf hyn mewn Diwinyddiaeth ac ym maes Beirniadaeth Feiblaidd, mae’n drist meddwl gyn lleied o’u dylanwad sydd wedi treiddio drwodd i’n heglwysi. Bellach, nid anllythrennedd yw’r bwgan, ond anwybodaeth.

‘Rydym newydd ddathlu’r Nadolig. O holl storïau’r Beibl prin fod yr un yn fwy cyfarwydd na stori’r geni, ond fe’i cyflwynwyd y tro hwn eto (i oedolion yn ogystal ag i blant) fel tase’r holl elfennau symbolaidd a geir ynddi i’w credu’n llythrennol ac yn anfeirniadol. Y mae byd o wahaniaeth rhwng Drama’r Geni draddodiadol (a’r stabal a’r seren a’r sêr-ddewiniaid, a’r angylion a’r dianc i’r Aifft) a, dyweder,  cyfrol Geza Vermes, The Nativity; ac yn fwy fyth gyfrol Raymond Brown, The Birth of the Messiah.

A yw hyn yn golygu ein bod yn disgwyl i bob aelod eglwysig fod â gradd mewn Diwinyddiaeth neu Astudiaethau Crefydd? Dim o gwbl! Duw a’n gwaredo! Pwy ydym ninnau i amau gwerth y broffes syml, ddidwyll sy’n tarddu o galon gywir? Ond rhywsut, y mae’n rhaid darganfod ffyrdd i alluogi’n pobl i gael gafael mwy credadwy a llai ffuantus ar eu ffydd. O’r holl heriau sy’n wynebu’r eglwys heddiw prin fod yr un yn bwysicach na’r her addysgol. Ys dywed Moltmann, y mae gwrth-ddeallusrwydd yn arwydd o ffydd farw. Os mai Duw a roes inni’r gallu i feddwl ac i resymu, dylem ei ddefnyddio i’r diben o feddu ar well dealltwriaeth o’n cred. Gyda Moltmann, credwn ninnau mai trwy hyn y llwyddir i oresgyn peryglon ffwndamentaliaeth.

 

Fe fydd cyfres o 5 sesiwn wythnosol ar ‘Byw’r cwestiynau’ yn dechrau am 7.30 yng Nghapel y Porth, Porthmadog nos Iau nesaf,  am 7.30 ac yn parhau tan Fawrth 6ed. Cylch Cristnogaeth 21 lleol sydd wedi trefnu ac fe fydd y sesiynau yn cael eu harwain gan Aled Jones Williams

 

 

E-fwletin Ionawr 27ain, 2014

Ar Ddydd Cofio’r Holocost mae’n anodd peidio teimlo nad diwrnod i drafod, dadlau, ymresymu, pregethu, diwinydda, nac anfon e-fwletin yw hwn, ond yn gyntaf, diwrnod i fod yn dawel. Efallai mai dyna wir ystyr gweddi – ac mae digon o dystiolaeth i hynny yn dod o’r Holocost. 

Ond mae yna rai sy’n fwy cymwys na ni i siarad, er mwyn i ni  ‘ddysgu tawelwch’. 

“Y Duw sy’n maddau, paid â maddau.” Y nofelydd Elie Wiesel – Nos  yw ei nofel enwocaf –  a gollodd ei deulu i gyd yn Auschwitz, ond fe ddaeth allan yn fyw. Geiriau a ddywedodd mewn cyfarfod  yn Auschwitz yn 1995 i gofio rhyddhau yr uffern honno ple roedd y llwch yn disgyn yn dawel. 

“Nid oes wirionedd y gallaf ei amddiffyn – a throi fy nghefn ar Auschwitz; ac nid oes Dduw y gallaf weddïo arno – a throi fy nghefn ar Auschwitz.” 

Y diwinydd o’r Almaen Johann-Baptist Metz a fu’n ymgodymu ar hyd ei oes , fel Wiesel ei hun , ac fel llawer o Gristnogion eraill,  â chred a hygrededd y Ffydd Gristnogol ar ôl yr Holocost.  

Efallai nad yw’r Cyngor Cristnogion ac Iddewon yn golygu ddim mwy i lawer o bobl  na, wel, dim ond ‘Cyngor’ arall – Cyngor trafod, cynadledda, datganiadau. Ond tu ôl iddo mae profiad gwareiddiad Cristnogol Ewrop yn dod i sylweddoli na all hi bellach fod yn ddigonol nac yn dyst diogel i Iesu o Nasareth, yr Iddew. Daeth machlud y Ffydd Fuddugoliaethus a rhoi lle i Was Dioddefus. 

Y dirglewch mawr yw fod Auschwitz-fy-Nuw-fy-Nuw–paham-ym–gadewaist wedi esgor ar dystiolaeth achubol o obaith yn dod o fedd, a bod Elie Wiesel yn cael ei adnabod bellach fel ‘ llysgennad i’r ddynoliaeth’ a merched ifanc fel Etty Hillesum, fu farw yn  29ain oed, yn dangos dyfnder o faddeuant a chariad oedd deilwng o’r Testament Newydd ar ei orau.

E-fwletin Ionawr 20

Cristnogaeth 21 – E-fwletin Ionawr 20ed.

 Croesi Ffiniau yn Morlan

Tybed sawl un o’r dyrfa niferus a ddaeth ynghyd yng Nghanolfan Morlan Aberystwyth (Ion 16) i lansio Ffinau ac Arfordir Ffydd Pryderi Llwyd Jones a oedd yn edrych ymlaen at dipyn o fygylu rhwng Densil ac Enid Morgan? Nid bygylu a gafwyd (o dan gadeiryddiaeth fedrus John Roberts) ond dau grediniwr cynnes, hyddysg a diymhongar yn cyd-ymgodymu’n angerddol â rhai o themâu cyfrol Pryderi. Engagement fyddai’r disgrifiad yn Ffrangeg.

Ar gwestiwn ffin a diffinio pwysleisiodd Enid na ddylid fyth eu defnyddio yn fodd o gau allan, y dylai’r croeso i gymdeithas yr eglwys fod yn ddiamod. Cytunodd Densil ond fe welai fe’r angen serch hynny i ddiffio’r hyn y croesewid pobl i ymuno ag e. I Enid gwybod ei bod yn wrthrych cariad Duw oedd hanfod y peth. Cynigiodd Densil yr adnod enwog ‘Canys felly y carodd Duw y byd…’ yn ddifiniad. Atebion nid annhebyg, ond y cwestiwn i Enid oedd sut i wneud yr adnod yna, a’r Ysgrythurau’n gyffredinol, yn ystyrlon i anghrediniwr cyfoes.

A dyna ni at gwestiwn Awdurdod yr Ysgrythurau. Gair Duw meddai Densil yn yr ystyr mai yma yn anad unman yr adroddir y stori am Dduw yn caru’r byd ac yn danfon Iesu Grist. Pwysleisiodd Enid mai cynnyrch yr eglwys fore mewn cyfnod hanesyddol arbennig yw’r canon ac mai fel ‘testun mewn gwewyr esgor’ yr oedd angen ei weld, i’w ddehongli o berspectif ein hoes ni. Dim byd newydd yn hynny meddai Densil: drwy’r oesedd fe ddaethpwyd o hyd i ystyron newydd yn yr Ysgrythyrau ac mae’r broses yn parhau.

Roedd y drafodaeth beth wmbreth yn fwy amrywiol a chyfoethog nag y mae’r crynodeb amrwd uchod yn awgrymu. Bydd cyfrol Pryderi, a oedd ar werth ar ddiwedd y cyfarfod, nid ar y dechrau, yn cynnig sbardun pellach i’r meddwl a’r enaid.

Cafwyd Ôl-Nodyn craff gan John Tudno Williams. Gobeithio meddai y byddai efengylwyr heddiw yn ymateb yn gadarnhaol i alwad rhai o’u mysg i groesawu yn hytrach nag ymwrthod â’r Feirniadaeth Feiblaidd sy wedi gweddnewid ein dealltwriaeth o’r Ysgrythurau dros y ganrif-a-hanner ddiwethaf. Efengyliaeth ryddfrydig myn brain-i! Dyna beth fyddai croesi ffin arwyddocäol.

Mae’r llyfryn ‘Fffiniau ac arfordir ffydd’ ( Y Lolfa. £3.95 ) ar werth yn eich siop lyfrau leol.

( Adroddiad Cynog Dafis )