Cristnogaeth 21 – E-fwletin Chwefror 24ain.
Fedrwch chi fynegi’r teimlad, mewn geiriau, o fod mewn cariad? Gamp i chi ddod o hyd i’r union ddiffiniad sy’n gweddu’n berffaith. Mi fydd yna dipyn o “hyn ydy o…” ac eto “mae o’n hyn hefyd” a “nid dyna’n union ydy o chwaith” wrth i chi geisio dod o hyd i eiriau. O’i ddiffinio, mae rhywun, rhywsut yn ei gyfyngu o i’r diffiniad hwnnw wedyn.
A dyna dristwch y crefyddol. Wrth geisio’i esbonio, caiff ei gyfyngu i’r esboniad hwnnw ohono. Fe gyll y dirgelwch. “Religions may begin as vehicles of longing for mysteries beyond description, but they end up claiming exclusive descriptive rights to them,” meddai Richard Holloway.
Rhywbeth anniffinadwy yw’r profiad ysbrydol- yr adegau pan gawn gipolwg ohono mewn gweithred brydferth; yn y cyfareddol; yn ddylanwad gweinidog ym mlodau’n dyddiau; yn lleufer lleuad llawn; yn llef ddistaw fain mewn munud o fyfyrdod; yn encil dawel yn Sant Beuno; yn harddwch eglwys wag “a’r seddau’n llawn sibrydion defosiynol.” *
Y cyfnodau hynny pan nad yw geiriau’n cyfleu yr union deimlad, pan fo’r profiad yn fwy nag unrhyw ddiffiniad ohono. A dyna’r profiadau a erys yn gerrig milltir ar hyd y daith. Ond yr hyn a wnawn ni o hyd yw brwydro ymhlith y diffiniadau ac o’r herwydd, fe gollwn yr hanfod. Llanwn ein crefydd â thraethu amlgymalog nes boddi’r huodledd a geir mewn tawelwch. Llanwn ein crefydd â cheriach nes ein mygu. Hidlwn y gwaddod i greu lle i atgof, a phrofiad, i deimlad a thrugaredd a chofleidio tosturi tawelwch a gwerth gwacter –
y gwacter sy’n llawn posibiliadau.
y gwacter sy’n llawn disgwylgarwch.
y gwacter sy’n ddirgelwch.
y gwacter sy’n llawn presenoldeb.
*llinell glo ‘Gweddi’ gan Dafydd John Pritchard
Mae’r ail argraffiad o Byw’r Cwestiynau ar gael erbyn hyn. Mae nifer o grwpiau trafod yn cael blas ar y llyfryn ac yn ei gael yn adnodd hyblyg i’w ddefnyddio. Mae nifer o unigolion hefyd wedi mynegi eu gwerthfawrogiad o lyfryn sy’n rhoi gwybodaeth, goleuni ac ysbrydoliaeth iddynt ar eu pererindod.
Cofiwch am grwp C21 yn y Morlan Aberystwyth nos Fercher Chwefror 26ain am 7.30 :
Iesu – yr aberth sy’n maddau