E-fwletin Mawrth 3ydd, 2014

Yn y gyfrol Yr Un Hwyl a’r Un Wylo, ceir yr englyn hwn gan Dic Jones:

Cawl
                     (Ceir rysetiau ar gyfer popeth bron – ond cawl)

Berwa dy gig y bore, – yna dod
Dy datws a’th lysie,
Toc o fara gydag e
A chaws, beth mwy ‘chi eisie?

Dychmygwch sicrhau dyfodol ein hiaith fel paratoi llond sosban o gawl. Buom, ers degawdau’n trafod, a thrafod, a thrafod eto fyth rysáit y cawl. Beth sydd yn rhaid cynnwys er mwyn sicrhau ffyniant ein hiaith? Mae angen berwi’r cig – ein hiaith ag iddi statws swyddogol cyfreithiol. Rhaid ychwanegu’r tatws a’r llysie – y Gymraeg wrth wraidd Llywodraeth Cymru a’n pleidiau gwleidyddol bob un, yn rhan annatod o’n democratiaeth Gymreig, ac yn fyw a gweithredol drwy gyfryngau digidol. Toc o fara wedyn – gweithgarwch cymunedol, a phawb yn fodlon a pharod eu cyfraniad lle bynnag y bônt; a chaws wedyn, ein hiaith yn iaith gymunedol fyw, nid dim ond i rywrai dethol, ond i bawb… beth mwy ‘chi eisie?

Ni fu sôn o gwbl am yr angen am gynnwys crefydd yn rysáit y cawl! Nid oes angen, mae’n debyg, ychwanegu crefydd i gawl parhad ein hiaith.

Bu crefydd yn rhan annatod bwysig o’n hymwybod cenedlaethol ers y dechrau’n deg. Y gair annatod sydd bwysig. Ie, annatod, ond bu ymgais i ddatod y cwlwm rhwng crefydd â chenedlaetholdeb, rhwng crefydd â thynged ein hiaith, ond cwlwm annatod yw hwn. Bu, ac y mae crefydd o hyd, yn allweddol bwysig i’n hegwyddorion cenedlaethol.

Y ddau ddrwg yn y cawl yw Seisnigrwydd iaith – dyma sydd yn crebachu’r iaith, a mawr bu’r sôn am hyn yn ddiweddar. Yr ail ddrwg, yw Seisnigrwydd meddwl ac agwedd, a hyn yn waeth na’r cyntaf, gan ei fod yn lladd y meddwl a’r dychymyg Cymraeg, a heb hwnnw, nid oes diben iaith, gan nad oes dim i’w fynegi ynddi a thrwyddi. Perthyn yr agwedd wrth-grefyddol sydd mor nodweddiadol o Gymry Cymraeg heddiw i’r Seisnigrwydd meddwl ac agwedd hwn. Nid rhywbeth greddfol, naturiol i ni’r Cymry mohono. Rhywbeth estron ydyw. Derbyniwyd ef yn llwyr a llawn – ac mae ein hymlyniad wrtho yn arwydd o lwfrdra enaid a diogi meddwl.

Diogelir ein hiaith, meddai lleisiau huawdl ein cyfnod, os ellir sicrhau Cymru rydd, Cymru gyfan a Chymru ddeffroedig, ddigidol – cig, tatws, llysie, toc o fara a chaws…beth mwy ‘chi eisie? Beth sydd eisie yw Cymru grefyddol, yn ystyr orau a llawnaf y gair hwnnw! Dyna’r peth mwy – ychwanegol – sydd yn rhaid! Fe ellid anwybyddu crefydd fel tegan gwaeth na diwerth, fe ellid datgan nad oes a wnelo crefydd ddim â’n cymeriad a’n bodolaeth fel cenedl heddiw. Gellid dadlau felly’n hawdd ddigon, ond mae gwneud hynny’n prysuro tranc ein hiaith! Pam? Oherwydd crefydd a ddiogelodd ein hiaith ar hyd y canrifoedd, crefydd a roes i ni ymwybod cenedlaethol, a pherthynas crefydd â chenedlaetholdeb yw’r pwnc pwysicaf o bob pwnc yn ein trafodaeth o dynged ein hiaith.

(Gyda llaw – mae’r ail argraffiad o Byw’r Cwestiynau ar gael erbyn hyn. Mae nifer o grwpiau trafod yn cael blas ar y llyfryn ac yn ei gael yn adnodd hyblyg i’w ddefnyddio. Mae nifer o unigolion hefyd wedi mynegi eu gwerthfawrogiad o lyfryn sy’n rhoi gwybodaeth, goleuni ac ysbrydoliaeth iddynt . Os hoffech archebu copi, dilynwch y cyfarwyddiadau ar ein gwefan, o dan y teitl “PRYNU’R LLYFR”.)