E-fwletin Mawrth 10fed, 2014

Dychmygwch ddau ddyn yn syrthio lawr simnai; daw’r ddau i’r gwaelod yn ddianaf; mae’r naill yn frwnt, yn barddu i gyd; ond mae’r llall – yn rhyfedd iawn – yn gwbl lân. Pa un o’r ddau sydd yn ymolchi?

Cewch gyfle i hel meddyliau…

Awn ymlaen at yr ail gwestiwn: dau ddyn yn syrthio lawr simnai; daw’r ddau i’r gwaelod yn ddianaf; mae’r naill yn frwnt, yn barddu i gyd; ond mae’r llall – yn rhyfedd iawn – yn gwbl lân. Pa un o’r ddau sydd yn ymolchi?

Cewch gyfle i hel meddyliau…

A’r cwestiwn olaf: Dychmygwch ddau ddyn yn syrthio lawr simnai; daw’r ddau i’r gwaelod yn ddianaf; mae’r naill yn frwnt, yn barddu i gyd; ond mae’r llall – yn rhyfedd iawn – yn gwbl lân. Pa un o’r ddau sydd yn ymolchi?

Cewch, un cyfle arall i hel meddyliau…

Och! Nid tri chwestiwn sydd, dim ond un! Ti ’di gofyn yr un cwestiwn dair gwaith!

Mae’r geiriau’r un fath, ond mae’r cwestiwn yn wahanol! Ystyriwch y cyntaf. Pa un o’r ddau sydd yn ymolchi? Yr un brwnt. Nage. Yr un sydd yn lân sydd yn ymolchi. Pam? Wedi cyrraedd gwaelod y simnai, mae’r ddau ddyn yn codi, a syllu’r naill ar y llall. Mae’r brwnt yn gweld y llall yn lân, ac yn ymfalchïo bod y ddau wedi llwyddo i gyrraedd gwaelod y simnai nid yn unig yn ddianaf, ond yn gwbl lân! Mae’r glân yn gweld y llall yn frwnt, a gan mai peth naturiol yw bod yn frwnt ar ôl syrthio i lawr simnai, mae’r glân yn dychmygu ei hun i fod fel y llall – yn frwnt – ac yn mynd o’r herwydd i ymolchi.

Trown at yr ail gwestiwn. Pa un o’r ddau sydd yn ymolchi y tro hwn? Wel, gan fod yr ail gwestiwn yn union yr un fath a’r cyntaf, mae’n rhaid bod yr ateb yr un fath: y glân sydd yn ymolchi. Nage. Er bod y geiriau’r un fath, mae’r broblem yn gwbl wahanol. Y tro hwn y brwnt sydd yn ymolchi. Mae’r glân yn syllu at y brwnt, ac meddai, “Arswyd, rhaid bo’ fi’n frwnt!”, ond wedyn mae’n edrych ar ei ddwylo, ac maen nhw’n lân. Mae’r brwnt yn syllu ar y glân, ac meddai, “Arswyd! Syrthio i lawr simnai a chyrraedd y gwaelod yn gwbl lân! Rhyfedd o fyd!” Ond wedyn, mae hwnnw’n edrych ar ei ddwylo, ac yn sylweddoli mor frwnt ydyw, ac yn mynd o’r herwydd i ymolchi.

Ymlaen at yr olaf. Pa un o’r ddau sydd yn ymolchi y tro hwn? Y brwnt wrth gwrs! Nage. Yr un glân felly! Nage. Onid yr ateb i’r cwestiwn yw bod y cwestiwn yn wyrgam! Sut yn y byd allai dau ddyn syrthio i lawr simnai, a’r naill yn cyrraedd y gwaelod yn lân a’r llall yn frwnt?!

Os ydym yn mentro ymholi o gwbl am ein byw, mi gredaf mai’r un cwestiwn yn y bôn sydd gan bawb: Beth ydwyf fi? Plentyn i Dduw neu dim byd amgenach na “swp o esgyrn mewn gwisg o gnawd”? (T.H. Parry Williams (1887-1975); Yr Esgyrn Hyn, Cerddi: (1931)). Yr un yw’r cwestiwn, ond mae eithafion ein gwahanol atebion i’r un cwestiwn hwnnw yn amlwg iawn heddiw. Cyfnod yw hwn â’i atebion yn aneirif. Claddwyd y cwestiwn o dan bentwr o atebion. Saif bob ateb ar ei sodlau’n gadarn, gan herio pob un ateb arall. Er mai croes i’r graen yw hynny i lawer un, awgrymaf fod y gofyn didwyll yn bwysicach na chanfod ateb terfynol.

Yr ateb i anghydfod ein dyddiau yw llai o ymgecru di-fudd am y ffordd mae eraill yn dewis ateb y cwestiwn! Cydio yn dynnach yn y cwestiwn sydd rhaid; er pwysiced yw darganfod yr Ateb Mawr, nid yw’n ddigon! Cofiwn, ar awr ei dröedigaeth, mai cwestiwn oedd ar wefus Paul: Pwy wyt ti, Arglwydd? (Actau 9:5). Y sawl a gydia’n dyn yn y cwestiwn a wybu nerth yr oesol werthoedd.