E-fwletin Mawrth 17eg, 2014

Bûm yn hel meddyliau’n ddiweddar am un peth yn benodol: priodas gyfunrywiol a’r eglwys leol Gristnogol. Mae’r pegynnu cas yn amlwg ddigon, a phobl yn cuddio y tu ôl i labeli hyll, cyfleus, neu’n dewis bod yn dawel rhag tarfu. Mi wn yn iawn am Gristnogion amlwg a dylanwadol yn y byd Cristnogol Cymreig sydd â barn bendant am hyn, ond barn na thraethir mohoni rhag creu cynnwrf. Efallai mai nhw sydd yn iawn, ond… dyma ychydig feddyliau, sydd yn araf grisialu yn argyhoeddiad.

Fy man cychwyn, yn rhyfedd iawn, yw’r hyn sydd gan Iesu i’w ddweud am ysgariad! Daeth y Phariseaid ato, meddai Marc wrthym (10: 1-12) a gofyn i Iesu a oedd yn gyfreithlon i ŵr ysgaru ei wraig. Amcan gofyn y cwestiwn oedd cornelu’r saer-bregethwr o Nasareth. Pe dyfarnai o blaid ysgariad, gellid ei ddangos fel un a oedd yn tanseilio gorchymyn Moses, ond pe dyfarnai yn erbyn, galli ennyn dicter Herod. ‘Roedd Herod wedi priodi Herodias, a adawsai ei gŵr. ‘Roedd Herod eisoes wedi lladd Ioan Fedyddiwr am iddo fentro herio’r sefyllfa honno!

Diben gwleidyddol/grefyddol sydd i gwestiwn y Phariseaid; nid gofyn er mwyn ehangu eu gorwelion ysbrydol y maen nhw. Cofnodir yn yr ychydig adnodau hyn ymgais fas, front, pobl a ddylai wybod yn well, i faglu Iesu, ac mi gredaf fod ymateb pwyllog, grasol Iesu i gwestiwn y Phariseaid yn gyfrwng i oleuo ein trafodaeth ninnau heddiw.

Gwelir Iesu’n symud yn ofalus rhwng y pegynau miniog. Yn ôl ei arfer, mae’n ateb cwestiwn y Phariseaid gyda chwestiwn ei hun: “Beth a orchmynnodd Moses i chwi?” Atebasant fod ysgariad yn gyfreithlon. Yn sydyn, ac yn dra annisgwyl, fe dry Iesu ei sylw o Moses at ddechreuad y greadigaeth: Adda ac Efa yng Ngardd Eden. Yn dawel, ddiffwdan, mae Iesu wedi symud y drafodaeth o gyd-destun cyfyng y Gyfraith i ehangder yr arena ysbrydol.

Buasai ein trafodaeth ni ar briodas gyfunrywiol a’r eglwys yn gallach, ac yn iachach, pe baem ni’n fwy parod i ofyn beth mae Duw yn fwriadau ar ein cyfer o fewn, a thrwy, y bywyd priodasol. Y cwestiwn tyngedfennol yw nid: Pwy ddylai briodi? ond yn hytrach: Pam y dylid priodi?

Wrth gyfeirio’r Phariseaid yn ôl at Adda ac Efa yng Ngardd Eden, cawn gipolwg, mi gredaf, ar ddeall Iesu o fwriad Duw ar ein cyfer o fewn, a thrwy y bywyd priodasol. Gellid credu mai mam a thad y ddynoliaeth yw Adda ac Efa, neu eu bod yn symbolau sy’n cyfeirio at y gwirionedd hwnnw, ac o’r herwydd, mae’n rhaid derbyn mai pennaf ddiben priodas yw cenhedlu plant. Ond, fe ellid credu mai dwy greadigaeth sydd mewn perffaith gynghanedd yw Adda ac Efa, ac o’r herwydd mai diben bywyd priodasol yw amlygu a diwallu angen pobl am berthynas, am undod creadigol rhwng dau. Wrth hel meddyliau, ni allaf lai na chredu mai’r ail ddehongliad sydd gryfaf, a bod Adda ac Efa yn amlygu i Iesu mai bwriad Duw ar gyfer ei bobl yw cymdeithas, cwmnïaeth a chytgord: “Nid da fod y dyn ar ei ben ei hun” (Genesis 2:18). Nid mater o genhedlu plant yn unig mo priodas, ond mae hefyd yn gyfrwng i gynnal a chadw cwmnïaeth agos – mynegiant ydyw o gynghanedd greadigol dau berson.

Ond, nid diben i leddfu dolur unigrwydd yn unig mo bywyd priodasol ’does bosib! I’r Cristion, mae priodas yn gyfrwng i gyflawni ewyllys Duw yn y byd. Arwydd ydyw o gyfamod tragwyddol Duw, cyfrwng ydyw i dystio i gariad Duw. Hanfod bywyd priodasol yw dweud ‘Na’ ac ‘Ie’ yr un pryd; ‘Na’ i sawl cymar er mwyn dweud ‘Ie’ i gymar oes. Mae priodas Gristnogol yn ddarlun o’n ffydd. Dywedwn ‘Na’ i ryfel er mwyn dweud ‘Ie’ brwd i bob ymgais i gymod ym mhob cylch. Dywedwn ‘Na’ i lacrwydd moesol, er mwyn cael dweud ‘Ie’ i egwyddor cariad ym mhob perthynas. Mi gredaf  y gall priodas gyfunrywiol, yn union fel priodas wahanrywiol, fod yn gyfrwng i gyflawni ewyllys Duw yn y byd; ac fe all priodas gyfunrywiol, yn union fel priodas wahanrywiol, fethu â chyflawni ewyllys Duw yn y byd!

Wn i ddim beth fydd pendraw’r drafodaeth gyfredol am briodas gyfunrywiol a’r eglwysi lleol, ond mi wn y deuai  gwell, dyfnach, ac iachach trafodaeth pe bai mwy o bobl yn mynegi eu barn. Nid diogelu ein hunain, nid celu ein safbwyntiau rhag i ni darfu ar bobl yw’r ffordd ymlaen. Y ffordd ymlaen yw bod yn ffyddlon i fwriad Duw ar ein cyfer o fewn, a thrwy fywyd priodasol. Credaf  yn ddidwyll mai ei bennaf fwriad Ef ar ein cyfer, o fewn a thrwy briodas yw cynghanedd ysbrydol rhwng dau, a bod y gynghanedd honno’n gyfrwng i ledu terfynau ei Deyrnas.