E-fwletin Mawrth 24ain, 2014

Efengyl gryno yw’r ail Efengyl; mae Marc yn adrodd hanes gweinidogaeth Iesu gyda moelni bendigedig. Tra bod y gweddill yn manylu, ehangu ac ymhelaethu, mae Marc yn adrodd yr hanes yn dwt, a syml. Fel esiampl, dyma gofnod Marc o Demtiad Iesu. Nid oes angen i chi fynd i chwilio Beibl, gan mae dwy adnod yn unig a gymer Marc i gofnodi’r cyfan oll:

Ac yna gyrrodd yr Ysbryd ef ymaith i’r anialwch, a bu yn yr anialwch am ddeugain diwrnod yn cael ei demtio gan Satan. Yr oedd yng nghanol yr anifeiliaid gwylltion, a’r angylion oedd yn gweini arno (1:12&13).

Tra bod Mathew a Luc yn nodi union natur y gwahanol demtasiynau, ac yn cynnwys cofnod o’r drafodaeth a fu rhwng Iesu â Satan, mae Marc yn distyllu’r cyfan i ddwy adnod syml, moel…a thrawiadol!

Anialwch…temtiad…anifeiliaid gwylltion…angylion.

Gyda phedair delwedd syml mae Marc yn llwyddo i greu ynom ymdeimlad byw o anferthedd y sialens y mae’n rhaid i Iesu ei wynebu a’i oresgyn cyn dechrau ei weinidogaeth gyhoeddus.

Gyda phedair delwedd syml, gallwn wynebu ar daith anodd y Grawys.

Anialwch. Gwyddom, un ac oll am anialwch. Anialwch galar. Anialwch diflastod. Anialwch tor perthynas. Anialwch anghyfiawnder. Anialwch unigrwydd. Y Grawys hwn, cydnabyddwn fod gennym ein hanialwch; rhan annatod o fywyd yw derbyn realiti yr anialwch hwnnw, a mentro iddo i brofi…a goresgyn ei her.

Temtiad. Gwyddom, un ac oll am demtasiwn. Nid yw Marc yn nodi pa demtasiynau yn benodol y bu’n rhaid i Iesu eu hwynebu, yn hytrach mae’r cyfan yn cael ei wasgu i’r cymal: yn cael ei demtio. Wrth gywasgu’r cyfan i ychydig eiriau dethol, mae Marc yn llwyddo i fynegi mor finiog yw temtasiwn, ac mor hawdd i ti a minnau yw ildio i’r hyn sydd – yn arwynebol o leiaf – yn ymddangos yn gwbl synhwyrol a hollol naturiol, ond sydd – go iawn – yn llwyr ddinistriol i’r gorau a’r sanctaidd yn ein byw.

Anifeiliaid gwylltion. Mae pawb ohonom, ar adegau’n synhwyro’r anifeiliaid gwylltion yn ymgasglu o’n cwmpas. Fe ddônt mewn amrywiol ffyrdd, dônt fel hunllefau gan ddwyn gorffwys rhagom; fe ddônt fel amheuaeth gan erydu ein hunan hyder, fel gofid i grafu yn erbyn graen ein byw.

 …a’r angylion oedd yn gweini arno. Angylion yn yr anialwch?! Angylion ymhlith yr anifeiliaid gwylltion?! Yn yr anialwch, pan oedd Iesu yn cael ei demtio gan Satan ’roedd angylion Duw wrth ymyl; pan oedd Iesu yng nghanol yr anifeiliaid gwylltion ’roedd angylion Duw yn dawel wrth ymyl, yn aros eu cyfle i weini arno. Angylion yw llaw fer awduron y Beibl am weinidogaeth dawel ddirgel Duw ymhlith ei bobl.

Ydi’r angylion yn gweini arnom heddiw? Mi welais sawl angel wrth eu gwaith yr wythnos aeth heibio! Ni fu na siffrwd adenydd, na gwawl o olau, na chanu nefolaidd, ond gwelais bobl yn adennill nerth a gobaith. Collodd yr anialwch ei fraw, goresgynnwyd temtasiwn, ciliodd yr anifeiliaid gwylltion i’r cyrion tywyll. Bu’r angylion yn brysur…a llwyddiannus.

Y Grawys hwn, mynnwch bob cyfle i gydnabod yr angylion sydd ar waith yn anialwch eich profiad, a mynnwch gyfle i fod yn angel, ar waith, yn gweini.