Archifau Categori: E-Fwletin

E-fwletin Wythnosol

E-fwletin Mawrth 2, 2015

CAEL AIL

Heddiw yw’r ail o Fawrth. Bu cael Mawrth y cyntaf, diwrnod dathlu Gŵyl Ddewi, ar y Sul yn sobor o anghyfleus i sawl Cymdeithas Gymraeg a Chylch Cinio. [Wrth fynd heibio, un o’r pethau digrifaf a glywais i’r wythnos hon oedd am wraig a symudodd i fyw i’r parthau hyn yn chwilio am gapel i addoli ynddo ac yn gwrthod un capel am ei fod, yn ei barn hi, yn “rhy religious”!]

Cofiwch, fu ddoe ddim yn rhwystr i drefnwyr gorymdeithiau a chwifwyr baneri. I eraill, rhaid oedd dathlu’n gynnar ar Chwefror 28 neu ddathlu’n hwyr ar Fawrth 2. Dyna beth yw cawl eildwym; rhywbeth wedi ei ail bobi. Ond tybed nad hen syniadau, opiniynau neu chwedlau wedi eu llunio a’u cyflwyno o’r newydd fu unrhyw gyfeiriad at ein Nawddsant?

O barhau â’n hidiomau, gellir dweud am Dewi ei fod yn berson ail i’w le. Ei anogaeth oedd “byddwch lawen.” Sawl Cristion (a sawl capel ac eglwys) heddiw sy’n nodedig am ei lawenydd? “Cadwch eich ffydd a’ch cred.” Dyna neges berthnasol i genhedlaeth sy’n gwneud hobi o’i diffyg ffydd ac heb wybod beth yw oblygiadau credu. “A gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf fi.” A hynny mewn oes lle mae’r pwyslais ar gyflawni y pethau mawr.

Dyma, mae’n ymddangos, sant o arweinydd nad ‘sy’n arwain cenedl ar gyfeiliorn.’ Yn Luc 23:2 dyna oedd y cyhuddiad yn erbyn Iesu pan ddygwyd ef gerbron Pilat. Meddyliau cynllwyngar ac aristocrataidd y Sadwceaid oedd ar waith yno. Plaid y ceidwadwyr Iddewig, y tir-berchnogion fu’n rheoli’r Deml; y lleiafrif oedd a’u poblogrwydd yn diflannu a’u pryder yn cynyddu y byddai Iesu’n creu sefyllfa lle bydden nhw’n colli eu heiddo a’u pŵer.

Beth yw nodweddion arweinyddiaeth? ‘The ears of the leader must ring with the voices of the people.’ ‘Leadership is action not position.’ Mae arweinyddion da yn ysbrydoli, yn creu cyfleoedd ac yn rhoi egni i’r bobl – nid trwy esiampl o nerth ond trwy nerth eu hesiampl. ‘A good leader inspires others with confidence in him/her. A great leader inspires others with confidence in themselves.’

Dyna gyfrinach Warren Gatland a Sam Warburton a Chymry ‘Wales, Wales’ ym Mharis. Ymhell o’r cae chwarae, pwy heddiw sy’n arwain eu cenedl ar gyfeiliorn? Llamodd arweinwyr gwleidyddol y gorllewin i dywallt sen ar arweinyddiaeth Putin gan gondemnio llofruddiaeth Boris Nemtsov, un o feirniaid llymaf y cyfeiliorni yn yr Iwrcrain. Tra mae’r gwladweinwyr yn dangos eu dannedd yr hyn a wnaeth y werin bobl yn Rwsia oedd gadael torchau o flodau i ddangos parch. Gan Cameron. Obama, Merkel a Hollande clywsom am y “dyn dewr, dilys, cywir” ac am “y llais hynod a ddistewyd.” Rhybudd a gafwyd gan Mikhail Gorbachev oedd fod y llofruddiaeth hon yn “ymgais i wthio sefyllfa ddyrys i gymhlethdodau.”

A dyna ninnau’n meddwl am gymhlethdod y Grawys, y Pasg a’r atgyfodiad; am ddyn dewr, dilys arall a heriodd yr awdurdodau. Ac am lais a ddistewyd?

Pob bendith.

E-fwletin Chwefror 23ain, 2015

Mae’r stori syml ddigon hon yn ddameg i ti a minnau! Stori am feddyg o gyfnod Rhyfel y Crimea yw hi. Dyn oedd hwn wedi llwyr ymroi i’w alwedigaeth i esmwytháu poen a dioddef, ond ym mhresenoldeb poen a dioddefaint – i bob ymddangosiad o leiaf – un caled ydoedd, oer o ddideimlad.

Ar derfyn dydd caled o lawdriniaethau amrwd a chreulon, a’r meddyg hwn wedi dal wrth ei waith, heb i’r gwaed, sgrech a gwewyr effeithio’r dim lleiaf arno, methodd un cydweithiwr ag ymatal rhag mynegi ei farn: ‘Arswyd ddyn!’, meddai, ‘creadur dideimlad ydwyt!’ Ymatebodd y meddyg, yn sydyn gadarn, ‘Ers blynyddoedd bellach, dw i wedi dysgu hepgor ‘teimlad’ fel emosiwn, a’i fabwysiadu’n hytrach fel egwyddor!’

Pobl teimladwy ydym fel Cymry, a da hynny. Ceir gwrandawiad parod i bob apêl didwyll i’n calon, ac eto, da hynny; ond beth ddigwydd, trannoeth, wedi i’r teimlad glaeru? Gall ein brwdfrydedd, fel ffrwyth, o’i adael rhy hir heb ei fwyta – bydru.

Un o nodweddion ein cyfnod yw’r delfryd. Bu ein cyfnod yn drwm o sôn am ddiogelu’r amgylchfyd, dileu tlodi ac anghyfartaledd ymhell ac agos; dileu trais a throsedd; dileu rhyfel a therfysg. Erys y pethau hyn i gyd, a hynny, i raddau o leiaf, oherwydd ein bod ni’n euog o guddio ein diffyg pendantrwydd, diffuantrwydd a dalifyndrwydd o dan haen ar ôl haen o siarad, trwch o addewidion a bwriadau da. Mae teimlad mor aml, mor hawdd, mor esmwyth yn mwtadu i fod yn ddim byd amgenach na sentiment gwag…os nad ffôl.

Gwelir hyn yn gwbl amlwg yn ein crefydda. Awn am adre’ o’r oedfa yn sŵn emyn a thôn, Gair a gweddi, pregeth dda – ond dof ddigon – a chrefydd wedi cyflawni talp go fawr o’i briod waith, sef ein cynnal. Ond nid digon hyn i’n cadw! Oni wyddom go iawn, y buasai ein crefydda yn fwy pendant pe bai bygythiad fwy pendant iddi? Oni wyddom y buasai ein crefydd yn bwysicach i ni, pe baem yn gorfod pwyso’n drymach arni? Gwyddom, mi gredaf, bod Cristnogaeth yng Nghymru wedi mynd a’i phen i’w phlu oherwydd fod y bywyd mor dawel, esmwyth a hawdd iddi – cynnal mae hi bellach, nid cadw.

Pe bawn yn gallu ysgwyd fy hun, buaswn yn teimlo’r hawl i ysgwyd eraill i sylweddoli, o ddifri, fod Cristnogaeth naill ai’n dda a iachusol, neu’n ddrwg a niweidiol. Rhaid iddi fod yn un peth neu’r llall, ni all byth fod y naill beth a’r llall! Os drwg a niweidiol Cristnogaeth, rhaid ei dileu hi o’n byw; rhaid cau’r eglwysi a sgrwbio’n cenedl yn lân o fryntni ein crefydd fach bigog ni! Ond os da yw Cristnogaeth, os llesol ein ffydd, rhaid credu ynddi, a dilyn Iesu! Gweithredu ffydd, gobaith a chariad!

Dyletswydd pennaf y Cristion yw ffrwyno sentiment naturiol, cynhenid a’i droi i wasanaeth Duw. Byw a gweithredu, fel y meddyg hwnnw, a osododd teimlad fel emosiwn o’r neilltu, er mwyn ei adennill fel egwyddor.

E-fwletin 16eg o Chwefror, 2015

Ffwndamentaliaeth! Gair cyfarwydd ddigon erbyn hyn, ond beth yn union a olygir ganddo? Mentraf ddiffiniad:

GWRTHSAFIAD. Wrth wraidd Ffwndamentaliaeth mae’r rheidrwydd i wrthsefyll bygythiad. Tyf bob lliw a llun o Ffwndamentaliaeth grefyddol o’r un gwraidd: yr ymdeimlad o fygythiad. Boed gan foderniaeth, neu seciwlariaeth; rhyddfrydiaeth neu’r diwylliant Gorllewinol yn ei grynswth, teimlir fod yr hyn oll sydd yn greiddiol i argyhoeddiad crefyddol y Ffwndamentalydd o dan warchae. Saif Ffwndamentalwyr, felly, gyfysgwydd â’u tebyg, i wrthsefyll y bygythiad hwnnw; y gwrthsafiad hwn yw sail eu bodolaeth.

HERMENIWTEG. Gan mai bygythiad ydyw, saif Ffwndamentaliaeth yn erbyn pob dehongli ac esbonio o’r ysgrythurau sydd yn ystyried cyd-destun hanesyddol a diwylliannol. Anffaeledig yw ei ysgrythurau i’r Ffwndamentalydd. Crëir gan Ffwndamentaliaeth ffordd o gynnal a chadw cred, sydd yn gweithredu, nid yn gymaint yn erbyn hermeniwteg – nid digon hynny – ond er gwaethaf pob dehongliad gwahanol i’w dehongliad hwythau. Eu dehongliad hwy sydd gywir, golyga hynny fod pob dehongliad arall yn anghywir, ac felly’n fygythiad iddynt. Yr unig esboniad am ddiffyg deall a derbyn eraill o’u dehongliad ffwndamentalaidd hwythau yw amharodrwydd i dderbyn yr unig, gwir a chywir ddehongliad.

Mae moderniaeth yn gorfodi cyswllt. Bellach, mae crefyddau a diwylliannau’n gorgyffwrdd oddi fewn i’r gymuned leol. O’r herwydd, crëir pontydd rhwng gwahanol draddodiadau o fewn yr un crefydd, a rhwng crefyddau â’i gilydd. Mae’r pontio hwn yn lled awgrymu nad un Gwirionedd terfynol sydd, ond sawl gwirionedd wrthgyferbyniol. Gwêl y Ffwndamentalydd y pontio hyn fel arwydd o dranc y gwir ffydd, ac yn fygythiad enbyd i’r hyn a amddiffynnir ganddynt: DIDWYLLEDD CREFYDDOL.

Mynegir gwrthsafiad Ffwndamentaliaeth hefyd yn eu deall o natur HANES. Bu’r deall hwnnw o hanes yn bwrw ei wreiddiau yn y ganrif ar ôl cyhoeddi Origin of Species (24/12/1859) gan Charles Darwin (1809-1882). Mynnai Ffwndamentalwyr mai anghywir oedd deall Darwin o hanes a datblygiad dynol, gan mae deall anysgrythurol ydoedd; ond, yn raddol, coleddwyd y cysyniad o esblygiad gan ddiwinyddion ac eglwysi fel dehongliad cywir i hanes, ac fe impiwyd esblygiad i bren Genesis. Ni allai Ffwndamentaliaeth ond dehongli y derbyn hwn o esblygiad gan eraill fel arwydd, eto fyth o ymwrthod, – bwriadol, a hunanddinistriol – â thystiolaeth terfynol Gair Duw.

Mae pob Ffwndamentaliaeth grefyddol yn cynnig deall manwl gywir, nid yn unig o ddechreuadau’r cyfan oll, ond hefyd o DDIWEDD Y BYD. Credant mai Duw sofran sydd yn llywodraethu, ac mae ei bobl ef ydynt, ac fel unig wir bobl Dduw, mae ganddynt afael diogel ar ddyfodol na fydd yn eiddo i neb arall. Yn mhob lliw o Ffwndamentaliaeth, Cristnogol, Iddewig a Mwslimaidd, fe wel y ffwndamentalydd ei hyn fel aelod o gwmni dethol – etholedig Duw ydynt. Felly, cwbl ofer yw pob ymwneud â deiliad crefyddau eraill; Yn wir, beth all y Ffwndamentalydd drafod gyda phobl sydd yn rhannu yr un crefydd, ond nid yr un daliadau crefyddol? Dim. Gwaeth camgredwr nag anffyddiwr.

Myn Ffwndamentaliaeth, pob lliw a llun ohoni, fod yn rhaid ymwrthod â moderniaeth, a diogelu’r ffydd rhag ei frathiad. Safant, yn unigol, ond nid fel un, yn ei erbyn. Gwrthsefyll mewn ffydd, gwrthymosod i amddiffyn ffydd. Dyma, am wn i, yw hanfod pob Ffwndamentaliaeth – GWRTHSAFIAD. Y gwrthsafiad hwn yw gwaelod bodolaeth pob Ffwndamentaliaeth, ymhell ac agos, erchyll a fwy dof. Pa enw bynnag a fathir iddynt, amrywiadau ydynt ar yr un thema.

Mae Ffwndamentaliaeth wedi deall natur erydol moderniaeth – asid ydyw, a mynnant bod yn rhaid amddiffyn yr hyn a gredant i fod yr unig a gwir ffydd rhagddo, doed a ddelo, costied a gyst.

Mae pob traddodiad a mynegiant crefyddol yn gorfod ffeindio ffordd o ymdopi ag asid moderniaeth, ac anodd – os nad amhosibl – fydd dileu’r perygl Ffwndamentaliaeth, heb fod pobl crefyddol o wahanol argyhoeddiad, yn darganfod amgenach a llesach ymateb i foderniaeth.

E-fwletin Chwefror 9fed, 2015

Aeth bron i fis heibio ers rhaglen Jon Gower (S4C Gohebydd ) am ei ymweliad â De Corea yn dilyn ôl troed y Cymro Robert Jermain Thomas o Lanofer a ddienyddiwyd â chleddyf o flaen cannoedd o bobl pan ymosododd milwyr Corea ar long y credid ei bod yn cario milwyr o China. Yr oedd Jermain yn 27 oed ac y mae eglwys ar yr union fan ble cafodd ei ladd. Fe’i ystyrir yn sylfaenydd yr eglwysi Protestannaidd efengylaidd/caristmataidd – y Pentescostiaid a’r Presbyteriaid yn arbennig – ac yn eglwysi mawr a llwyddiannus.
Does dim amheuaeth am edmygedd Jon Gower o Robert Jermain – ei ffydd, ei ddewrder, ei aberth ‘a’i Feibl yn ei law’. Ond yr oedd y rhaglen hefyd yn bererindod bersonol iddo. Cyn mynd i’r capel yn Llanofer ble magwyd Robert Jermain fe aeth Jon â ni i gapel ei blentyndod – Libanus – ble roedd yn arfer mynd ‘dair gwaith pob Sul’ gyda’i fam. Roedd ei fam yn gwbl hapus yn y capel a’i ffydd dawel, syml ‘yn llosgi fel cannwyll tu mewn iddi’. Dywedodd Jon mai dyma’r ‘ffydd yr oedd ef wedi methu ei chadw’ oherwydd daeth bywyd a’i brysurdeb a’i swn ar ei draws. Ni ddywedodd ei fod bellach yn anffyddiwr a rhesymau digon cyffredin oedd tu ôl i’r cilio. Wrth ddweud hynny roedd tinc o hiraeth a chwithdod yn ei lais.
Wedi rhyfeddu o weld llwyddiant yr eglwysi yn Ne Corea, daeth Jon Gower i gredu fod y llwyddiant hwnnw yn rhan o lwyddiant cyfalafol, materol De Corea. Busnes a chrefydd, meddai, sy’n rheoli. Aeth i deimlo yn anghyfforddus a phenderfynodd ymweld â theml Fwdiaidd tu allan i Seoul. Gwlad Fwdiaidd yw De Corea. Bu’n siarad â lleian yno a’i hwyneb yn glowyi’n gynnes , groesawus. Dywedodd wrth Jon fod Bwdiaeth a Christnogaeth yn parchu ei gilydd; fod capel yn y deml wedi ei neilltuo i gydnabod presenoldeb crefyddau eraill. Soniodd wrtho hefyd fod rhai crefyddau wedi arwain i ryfeloedd a soniodd am y Croesgadau. Dywedodd hefyd mai Bwdiaeth yw ‘r unig grefydd na fu’n gyfrifol am ddechrau rhyfeloedd. Ni chafodd ei chroesholi. Soniodd fod bywyd yn y deml yn dechrau yn ddyddiol am 4.30 y bore gyda chanu’r gloch fawr 108 o weithiau, sef nifer y ‘pechodau dynol’ sydd ar y ddaear.
Yn y deml hon y daeth y rhaglen yn ôl at bererindod Jon ei hun, oherwydd yno, meddai, y daeth agosaf at ei brofiad yn Libanus gynt gyda’i fam. Daeth y ‘gyffes’ honno yn annisgwyl.
Mae’n hawdd deall na fyddai yn teimlo’n gyfforddus yng nghynulleidfaoedd mawr Seoul. Ond faint o genhedlaeth Jon Gower sydd wedi colli cysylltiad â’r ffydd Gristnogol a’u gadael heb ddim ond atgofion plentyndod? Mae anwybodaeth yn tanseilio Cristnogaeth yn fwy na dim. Efallai y dylai fod wedi ymweld ag un o eglwysi’r minjung , sef eglwysi bychain, bregus y di-freintiedig yn strydoedd cefn Seoul sy’n ceisio dirnad beth yw lle Cristnogaeth mewn byd mor gystadleuol a rhanedig a lle nad oes llwyddo i’r mwyafrif. Yno y maent yn addoli yn gynulleidfaoedd bychain. Tybed a fyddai wedi teimlo yn nes at ei wreiddiau yn y fan honno? Ni ddychwelodd i Libanus ar ddiwedd y rhaglen chwaith ond aeth i holi cenhadwr o Corea oedd yn pregethu yn Llanofer ac yn gweddïo am weld Llanofer eto yn dod yn ddechrau diwygiad i ennill Cymru yn ôl i Grist.
Roedd yn rhaglen ddiddorol am ddwy wlad, yn ogystal ag am ŵr ifanc a roddodd y cyfan i’w Arglwydd yn ei ddydd, a gŵr diwylliedig yn cynrychioli ei genhedlaeth yntau mewn oes arall.

E-fwletin Chwefror 2il, 2015

Mae’r E-fwletin ychydig yn wahanol yr wythnos hon, ac oherwydd hynny y mae ychydig yn faith, efallai, wrth ystyried yr e-fwletin arferol.Ond gobeithio y byddwch yn cytuno fod rheswm da am hynny pan welwch beth yw byrdwn y neges…

Bu farw Marcus Borg ar Ionawr 22ain yn 72 oed. Yr oedd ymysg yr ysgolheigion â fu am oes yn ymchwilio i ‘Iesu Hanes’. Gydag eraill sefydlodd y ‘Jesus Seminar’ a oedd yn darllen ac astudio’r Efengylau yn onest a beirniadol er mwyn dod yn nes at Iesu’r dyn sydd, yn aml yn hanes yr eglwys, wedi mynd yn angof neu ar goll yn llwyr. Ysgrifennodd Borg 21ain o lyfrau ac y mae rhywbeth trawiadol yn rhai o’r teitlau fel ‘Meeting Jesus again for the first time’ a ‘The God we never knew’. Academydd ac ysgolhaig disglair ydoedd (bu’n Athro yr Adran Crefydd a Diwylliant ym Mhrifysgol Oregon am 28ain mlynedd) ac ni theimlodd alwad i fod yn weinidog a chael ei ordeinio.
Ond mae angen dweud mwy am Marcus Borg. Pan mae coffâd y New York Times yn ei ddisgrifio fel ‘leading evangelist of what is often called Progressive Christianity’ mae angen tynnu sylw at yr ‘evangelist’. Fe’i magwyd o fewn yr Eglwys Lutheraidd ond fel i lawer o’i gyfoeswyr aeth iaith crefydd yn ddi-ystyr ac yn ddi-sylwedd iddo. Ond aeth ei waith ysgolheigaidd yn fwy na phwnc academaidd iddo. Ymunodd â’r Eglwys Anglicanaidd. Mater o ddyfalu yw pa mor drwm oedd dylanwad ei briod, Marianne, arno, oherwydd fe ddaeth hi yn offeiriad yn Eglwys Gadeiriol Portland, Oregon. Mae hanesyn cynnes yn cael ei adrodd amdano gan Brian MacLaren oedd yn aml yn ymddangos mewn sesiynau cwestiwn ac ateb gyda Borg mewn colegau. Meddai B.M. wrth sôn amdano ef, Diana Butler Bass a Borg ar yr un panel :
“…nearly all the questions about theology and Christology were directed to Marcus, the questions about church history and trends went to Diana, and the questions about pastoral work and spirituality went to me. Near the end a question on prayer was directed – predictably – to me. After I responded, Marcus spoke up. “I pray too!” he interjected, and shared some tender and meaningful reflections on his own prayer life. I was deeply touched that Marcus didn’t want to stay in the zone of theory…” (Brian Maclaren)
Soniodd Tom Wright hefyd am brofiad mor gyfoethog oedd cynnal trafodaeth gyda Borg am Iesu trwy sbectol efengylaidd/geidwadol Wright a sbectol rhyddfrydol/’progressive’ a gyhoeddwyd mewn cyfrol yn 1999 (‘The meaning of Jesus’). Yn ogystal â’i ysgolheictod disglair, soniodd Wright am ei ostyngeiddrwydd a’i barodrwydd i wrando. Mae’n enghraifft ardderchog o drafodaeth adeiladol ac nid yw’n anodd gweld peth o ddylanwad y ddeialog honno yng nghyfrolau diweddar Wright.
Cyfrol fwyaf poblogaidd Borg yw ‘The Heart of Christianity’ (2004) a sylwadau un adolygydd oedd mai yn y gyfrol hon y mae ‘calon Cristnogaeth yn siarad yn uniongyrchol â’r galon ddynol fel ffydd i’w byw yng nghwmni Iesu’. Ei fwriad yn y gyfrol oedd cyflwyno gweledigaeth o Iesu fel “a way of seeing God, our relationship to God, and the path of transformation.” Roedd Iesu yn llawer mwy iddo na phwnc i’w drafod a maes i’w astudio. Y mae’n berson nad yw’n bosibl gollwng gafael arno. I Borg aeth yr ymchwil yn bererindod a phetai anffyddwyr yn fwy gonest yn eu hymchwil, meddai, fe fyddai cymaint o ‘anffyddiaeth ddamcaniaethol’ yn diflannu.
Ei gyfrol olaf (2014) oedd darn o hunangofiant : “Convictions – How I learned what matters most” ac yn y gyfrol honno daw angerdd ei argyhoeddiad o’r ffydd Gristnogol yn gwbl amlwg ac yn cyfiawnhau geiriau’r NYT wythnos yn ôl – “leading evangelist of what is often called progressive Christianity”.
Braint i ni yn Cristnogaeth 21 yw cael ychwanegu un llais arall o ddiolch am Marcus Borg – ei fywyd a’i waith, yn arbennig drwy’r Jesus Seminar. A diolch hefyd fod ei waith wedi tyfu’n argyhoeddiad dwfn fod yn rhaid cyflwyno Iesu yn newydd i bob oes. Methodd Marcus Borg beidio gwneud hyn, diolch am hynny.

E-fwletin Ionawr 26ain, 2015

Mae’r darlun a geir ar ddechrau llyfr Genesis o Dduw’n creu’r byd yn un hynod drawiadol. Mae’r creadydd (creationist) yn honni, wrth gwrs, bod yr hyn a adroddir yn llythrennol wir. Ond mewn gwirionedd, mae dwy stori: un ym mhennod 1, a stori Adda ac Efa ym mhennod 2 a 3. Mae nifer o ysgolheigion yn honni bod y stori gyntaf wedi’i dylanwadu gan drydedd stori, Stori Creu hŷn. Honno yw Stori Creu y Byd sy’n troi o gwmpas anghenfil; yr Anghenfil Anhrefn.

Mae’r Anghenfil hwn yn ymddangos yn Stori Creu y Babiloniaid a chenhedloedd eraill yn y rhanbarth hwnnw. Tiamat yw enw’r Anghenfil ac mae’n byw yn y môr. Yn ôl y myth mae Duw y Creu (Marduk yw ei enw, un o blith llawer o dduwiau Babilonaidd) yn brwydro yn erbyn yr Anghenfil a’i ladd a rhannu’r corff yn ddwy; un rhan i wneud y ddaear ac un rhan i wneud y nefoedd. Ac fel mae’n digwydd mae’r enw Tiamat yn agos iawn o ran tarddiad i’r gair tèhôm = dyfnder, sef gair pwysig yn stori’r creu Genesis 1. Yr oedd y ddaear yn afluniaidd a gwag, ac yr oedd tywyllwch ar wyneb y dyfnder (tèhôm). Anhrefn a gwagedd y ddaear sy’n cyfateb i’r anghenfil anhrefn gyda’i gysylltiad â’r dyfroedd. Mae gwaith gwahanu yn amlwg hefyd gyda Duw yn gwahanu dyfroedd oddi wrth ddyfroedd. Y gwahaniaeth mawr, wrth reswm, yw bod dim brwydr fel y cyfryw. Ond dweud y gair sydd rhaid iddo wneud, hynny yw, ar ddydd y cread llefarodd Duw.

Boed hynny yn wir neu beidio mae adleisiau o fyth y Babiloniaid mewn darnau eraill o’r Hen Destament. Llyfr Eseia sy’n dweud (51:9-10), “Deffro, deffro, gwisg dy nerth, O fraich yr ARGLWYDD; deffro, fel yn y dyddiau gynt, a’r oesoedd o’r blaen. Onid ti a ddrylliodd Rahab, a thrywanu’r ddraig? Onid ti a sychodd y môr, dyfroedd y dyfnder mawr? Onid ti a wnaeth ddyfnderau’r môr yn ffordd i’r gwaredigion groesi?” Mae’n bosib hefyd fod yr Anghenfil Anhrefn ynghlwm a’r gair Lefiathan. Mae Salm 74 yn datgan, “Ti, O Dduw, yw fy mrenin erioed, yn gweithio iachawdwriaeth ar y ddaear. Ti, â’th nerth, a rannodd y môr, torraist bennau’r dreigiau yn y dyfroedd. Ti a ddrylliodd bennau Lefiathan, a’i roi’n fwyd i fwystfilod y môr. Ti a agorodd ffynhonnau ac afonydd, a sychu’r dyfroedd di-baid. Eiddot ti yw dydd a nos, ti a sefydlodd oleuni a haul. Ti a osododd holl derfynau daear, ti a drefnodd haf a gaeaf.”

Mae’r syniad o anhrefn ym mherson draig y mae’n rhaid brwydro yn ei herbyn yn berthnasol i ni heddiw. Rydym yn wynebu anawsterau dwfn; cynhesu byd-eang, bwlch cynyddol rhwng y tlawd a’r cyfoethog, cyni economaidd ac eithafiaeth Islamaidd a’r teimlad yw ein bod ni’n boddi o dan anhrefn dyfrllyd. Yn chwedegau’r ganrif ddiwethaf roedd myfyrwyr yn protestio ar strydoedd Paris yn erbyn llywodraethau’r byd. Erbyn hyn, cymaint yw’r teimlad o analluedd a’r gydnabyddiaeth bod y problemau hyn y tu hwnt i’n hamgyffred nes bod llywodraethau yn cydio ym mreichiau’i gilydd i brotestio ar strydoedd Paris, fel y gwelwyd yn ddiweddar.

Peth dewr iawn fyddai cydnabod ein bod ni yn y gorllewin gyda’n cyfalafiaeth ronc wedi creu byd anghyfartal anghyfiawn sydd mewn argyfwng amgylcheddol. Onid ein lle ni yw sefyll ysgwydd yn ysgwydd yn enw Duw cariad ac yn enw’r Iesu a siaradodd a’i lais yn tawelu’r storm?

 

E-fwletin 12 Ionawr 2015

Hawdd fyddai ymuno yn y rhuthr i ddweud rhywbeth am erchyllterau Paris yr wythnos hon. Fe fydd E-fwletin yr wythnos nesaf yn codi ambell agwedd ar y digwyddiadau hynny. Ond am y tro, fe drown i gyfeiriad arall.
Cawsom gyfle dros y Calan i ymweld ag Eglwys Gadeiriol Caerwrangon. Mae’r Gadeirlan ynghanol y ddinas – gyferbyn â chanolfan siopa hyll o’r 70au. Braf oedd gweld nad oedd angen talu – yn wahanol i gymaint o eglwysi cadeiriol eraill Lloegr lle y codir hyd at £20 y pen am y fraint o gamu i’r lle. Peth da yw i’r Eglwys yng Nghymru hithau gadw at y traddodiad o gynnig mynediad am ddim i ymwelwyr. Cawsom groeso wrth y drws gan wirfoddolwr – ac fe gyfrannom trwy’r cynllun Rhodd Cymorth.
Mae’n adeilad diddorol yn bensaernïol, ond yn fwy diddorol fyth o ran cyflwyno’i hanes a’r ffydd a’i hysbrydolodd. Gan ein bod yno cyn yr Ystwyll roedd taith o amgylch yr eglwys yn dilyn hanes Mair, Joseff a’r baban Iesu, ac yn ein cymell i fyfyrio am agweddau o’r stori a gweddïo am ein hanghenion ni ac anghenion y byd. Roedd hefyd gŵyl coed Nadolig wedi’i noddi gan gwmnïau a mudiadau lleol, yn cynnwys un goeden ddirdynnol wedi’i hamgylchynnu â wal yn ein hatgoffa am bobl Palesteina sydd wedi’u caethiwo y tu ôl i’r wal ddieflig sy’n cwmpasu eu tir a man geni Iesu.
Gellir lawrlwytho ap ar eich ffôn a dilyn sawl taith arall gan ddibynnu ar eich diddordebau. Yno y claddwyd Ioan, Brenin Lloegr, a arwyddodd y Magna Carta yn 1215. Fe ddethlir eleni naw can mlwyddiant y siarter honno a ddechreuodd gyfyngu ar rym absoliwt y frenhiniaeth. Ar ei bwys fe gladdwyd Arthur, Tywysog Cymru, mab y Brenin Harri VII a fyddai wedi etifeddu coron Lloegr onibai iddo farw yn ifanc. Pe byddai wedi byw, ni fyddai ysgariad Harri VIII wedi arwain at Ddiwygiad Protestannaidd mileinig, ac ni fyddai Deddfau Uno â Chymru wedi bod ym 1536 a 1543. Pa fath wledydd fyddai’r rhain wedyn…?
Un o ganlyniadau gwaethaf y Diwygiad Protestannaidd oedd colli cymaint o gyfoeth gweledol yr eglwysi a’r traddodiad addysgol a chroesawgar a gynrychiolwyd gan, er enghraifft, mynachdy Benedictaidd Caerwrangon. Mae awdurdodau presennol y Gadeirlan yn ceisio ail-greu’r traddodiad hwnnw, a’n teimlad ni oedd eu bod yn gwneud hynny yn llwyddiannus iawn. Ni orfodir diwinyddiaeth na chredo ar neb a ddaw i mewn – ond mae digon o esboniadau am y pethau hynny i’r sawl sydd eu heisiau, a mae gweinidogion y Gadeirlan yn eu gwisgoedd coch ar gael i siarad a gweddïo i’r neb a fynn. O na fyddai capeli Cymru ar agor ac yn croesawu pobl yn yr un modd!
Er fy mod yn gapelwr, rwy mor falch fod yr eglwysi cadeiriol hyn yn bod yng Nghymru ac yn Lloegr, yn agored i bawb. Trueni i ddad-waddoli’r Eglwys yng Nghymru ym 1920 olygu fod adnoddau eglwysi cadeiriol Cymru yn brinnach a’i bod yn anos iddyn nhw gynnig yr un math o wasanaeth i’n pobl ni. Tybed a wnaeth Lloyd George gam gwag yn hyn o beth? Dim ond gofyn….

E-fwletin Rhagfyr 22ain, 2014

Bu eleni yn flwyddyn o goffáu dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf ac ar hyd a lled ein gwlad cynhaliwyd pob math o ddigwyddiadau i nodi’r canmlwyddiant. Cynhyrchwyd rhaglenni ar gyfer y teledu a’r radio, cyhoeddwyd sawl llyfr, traddodwyd darlithoedd mewn cynadleddau, cynhaliwyd arddangosfeydd a llwyfannwyd cyflwyniadau dramatig. Paratowyd deunydd helaeth ar gyfer ysgolion a gosodwyd toreth o wybodaeth ar y we. Yn ogystal, daeth creiriau gwerthfawr i’r golwg am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer wrth i bobl fynd ati i chwilio am hanes eu cyn-deidiau yn y rhyfel. Do, cawsom gyfleoedd o bob math i fyfyrio’n ddwys ar y gyflafan erchyll. Ond yn fwy na dim, bu’r cyfan yn fodd i’n hatgoffa o’r gwastraff ar faes y gad, ac o’r chwalu gobeithion a breuddwydion yn hanes ieuenctid ein gwlad.

Ac wrth inni baratoi yn awr i ddathlu’r Nadolig eleni mae’r hyn a ddigwyddodd ar Noswyl Nadolig 1914 yn dod i’r cof pan benderfynodd rhai o’r milwyr ar y ffrynt orllewinol roi’r gorau i’r ymladd am ychydig. Yn ôl haneswyr y cyfnod clywyd milwyr yr Almaen yn canu’r garol Dawel Nos yn y ffosydd. Ymatebodd rhai o filwyr Prydain drwy osod llun o’r Kaiser gyda’r cyfarchiad Nadolig Llawen ar ddarn o gynfas a’i godi uwchben y ffôs. Ar ddydd Nadolig mentrodd rhai o’r milwyr o’r ddwy ochr i gwrdd â’i gilydd ar dir neb a chyfnewid anrhegion fel jam, sigarau, melysion a siocledi. Cynhaliwyd gêm bêl droed anffurfiol a thynnwyd lluniau o’r milwyr gyda’i gilydd cyn iddynt ddychwelyd i’r ffosydd. Yn ystod y cadoediad hefyd cafwyd cyfle i gladdu’r milwyr a laddwyd ar dir neb. Ni ddigwyddodd cadoediadau tebyg yn y blynyddoedd canlynol a hynny mae’n siŵr am fod yr awdurdodau yn ofni y byddai unrhyw ysbryd o frawdgarwch rhwng y ddwy ochr yn rhwystro parhad y frwydr.

Lle peryglus oedd tir neb. Dyma’r tir dadleuol a fodolai rhwng y ddwy ochr ac roedd sawl milwr chwilfrydig a newydd i’r ffrynt wedi colli ei fywyd wrth godi ei ben uwchben parapet y ffos. Gan amlaf, yn ystod oriau’r nos y byddai’r milwyr yn mentro i dir neb, yn niogelwch y tywyllwch, i drwsio’r gwifrau pigog a chladdu milwyr oedd wedi’u saethu’n farw. Ond ar Ddydd Nadolig 1914 mentrodd rhai o filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf i’r tir hwn a chreu ysbryd o frawdgarwch.

Gyda breuddwydion a gobeithion ieuenctid yn cael eu chwalu heddiw eto ym Mhacistan, Palesteina, Nigeria, Afghanistan ac mewn gwledydd eraill ar draws y byd, gwyddom am yr angen y Nadolig hwn i dawelu’r gwn, i atal yr awyrennau di-beilot, i osod y grenâd o’r neilltu a chodi’n pennau uwchben y parapet cyn mentro’n wylaidd i dir neb, y tir peryglus, a darganfod o’r newydd ysbryd tangnefedd.

 

E-fwletin Rhagfyr 15fed, 2014

Hyfrydwch oedd darllen yr adroddiadau yn y wasg grefyddol yn ddiweddar am yr eglwysi hynny a fu’n llwyfannu drama’r geni yng Nghaerdydd, Llanddarog, Aberafan, Aberdâr a Chaerfyrddin gyda’r bwriad o gyflwyno stori’r geni yn syml i gynulleidfaoedd ehangach na’r rhai sy’n mynychu oedfaon yn rheolaidd ar y Sul. Yn Efengylau Mathew a Luc y ceir yr hanesion traddodiadol am enedigaeth Iesu yn y Beibl. Yno, cewch ddarllen y storïau cyfarwydd am y geni gwyrthiol, yr angylion, y bugeiliaid a’r doethion, yn ogystal â’r adroddiad brawychus am y Brenin Herod yn lladd pob bachgen dwyflwydd oed neu lai yn Methlehem a’r cyffiniau. Ond os oes gwell gennych adroddiad mwy diwinyddol ei gynnwys a’i naws, yna rhaid troi at bennod agoriadol Efengyl Ioan ac at un o ddarnau cyfoethocaf y Beibl sy’n sôn am ddyfodiad y Gair yn Gnawd.

Ond beth am Efengyl Marc, y gynharaf a’r byrraf o’r pedair efengyl, sinderela yr efengylau yn ôl rhai? Nid yw Marc yn cyfeirio at hanesion y geni o gwbl ac nid oes ganddo lith ddiwinyddol chwaith. Yn hytrach mae’n dechrau ei efengyl gyda’r cymeriad asetaidd Ioan Fedyddiwr yn brasgamu i’r llwyfan yn ei wisg o flew camel gan gyhoeddi bedydd edifeirwch a datgan bod yna un cryfach nag ef yn dod ar ei ôl.

Mae’n siwr nad dyma’r darn o’r Ysgrythur a ddarllenir eleni yn oedfaon Nadolig y plant, neu ar fore dydd Nadolig cyn i bawb fynd tuag adre’ i fwyta ei ginio moethus, ond mae’n rhaid imi gyfaddef bod Efengyl Marc yn un da am gynnig yr antidote perffaith i’r gormodiaeth sydd ar garlam yr adeg hon o’r flwyddyn. Ydi, mae’r portread o Ioan ei hun a’i gyflwyniad o’r Iesu yn ddigon i’n sobri a’n hysgwyd o sentimentaleiddiwch materol y Nadolig. Yn dilyn y cyflwyniad byr am Ioan Fedyddiwr, mae Marc yn bwrw ati yn ddiymdroi i sôn am weinidogaeth Iesu. Down wyneb yn wyneb â dirgelwch y Crist byw a’r gyfrinach Feseianaidd. Nid oes amser i wastraffu mewn beudy ym Methlehem Jwdea. Daw digon o gyfle eto i ryfeddu.

Mae Rowan Williams yn ei gyfrol Meeting God in Mark yn disgrifio sut y bu i Efengyl Marc chwarae rhan allweddol ym mywydau dau o gyfathrebwyr Cristnogol pennaf ein cyfnod, sef Jürgen Moltmann a’r diweddar Anthony Bloom. Yn 1945 roedd yr Almaenwr Moltmann yn garcharor rhyfel yn yr Alban pan dderbyniodd gopi o’r Beibl gan un o gaplaniaid y fyddin. Roedd newydd weld lluniau o drychinebau Belsen a Buchenwald a cheisiai dygymod â’r ffaith iddo frwydro dros gyfundrefn a oedd wedi bod yn gyfrifol am erchyllterau lawer. Yn achos Anthony Bloom roedd yntau wedi mynychu gwersyll ar gyfer pobl ifainc ac wedi cael ei gynddeiriogi gan bregeth a glywodd gan offeiriad o’r Eglwys Uniongred. Roedd yn benderfynol o ddangos mai ffolineb pur oedd y ffydd Gristnogol ac er mwyn gwneud hynny penderfynodd fynd ati i ddarllen Efengyl Marc gan mai hon oedd yr efengyl fyrraf. Ond yn groes i’r disgwyl, cafodd Moltmann a Bloom brofiadau o bresenoldeb Crist ac fel y gwyddom daeth Moltmann yn ddiweddarach yn un o ddiwinyddion mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif a Bloom yn arweinydd blaenllaw yn yr Eglwys Uniongred.

Tra rhydd Gŵyl y Nadolig gyfle i ni ddarllen o’r newydd yr hanesion hynny sy’n cofnodi dyfodiad Crist i’n byd mewn stabl ddi-nod ym Methehem, mae modd i ninnau hefyd, fel yn hanes Moltmann a Bloom, ddod o hyd i’r un sy’n gryfach na’r un ohonom drwy deithio ar hyd ffyrdd efengyl Marc a chael profi o’r presenoldeb dwyfol sydd y tu hwnt i’n hamgyffred dynol.

E-fwletin Rhagfyr 8fed, 2014

Cenedligrwydd

Cyn bo hir bydd ein llefydd cwrdd yng nghyfnod yr Adfent yn atsain i ddarlleniadau cyfarwydd y Nadolig. Yn eu plith yr hanes yn Efengyl Luc am Joseff yn hebrwng Mair i Fethlehem i gael ei gofrestru “oherwydd ei fod yn perthyn i dŷ a theulu Dafydd”. Prin, trwy drugaredd, fydd y darllen cyhoeddus ar adnodau cyntaf Efengyl Mathew, sy’n rhestru achau Iesu hyd at Abraham. Ond mae’r ddau ddarn, fel ei gilydd, yn amlygu arwyddocâd achres, tras a chenedl i’r Iddewon – fel sawl diwylliant arall.

Mae’r pwyslais hwnnw ar arwyddocâd neilltuol tras Iddewig i’r genedl Iddewig wedi codi ei ben eto yn ddiweddar wrth i Binyamin Netanyahu geisio ei orau i wthio’r Bil Cenedligrwydd drwy’r Knesset. Amcan y ddeddf yw cyfyngu ar hawliau cenedlaethol trigolion Israel nad ydynt yn Iddewon. Bwriad lladmeryddion y ddeddf yw dathlu a dyrchafu hunaniaeth genedlaethol yr Iddew. Ond gwneir hynny drwy anwybyddu hawliau democrataidd sylfaenol gweddill trigolion y wladwriaeth. Mae hefyd yn tanseilio rhai o bileri datganiad annibyniaeth gwladwriaeth Israel sy’n datgan yn groyw bod y wladwriaeth i’w sylfaenu ar “yr egwyddorion a fynegwyd gan broffwydi Israel – hawliau’r unigolyn, cyfiawnder a rhyddid“ gan gynnig “cydraddoldeb cymdeithasol a gwleidyddol cyflawn i bod dinesydd, waeth beth fo ei grefydd, hil neu ryw”.

Mae’r ddeddf hefyd, yn ôl ei wrthwynebwyr, yn mynd yn groes i ysbryd a gorchymyn yr Hen Destament mewn ffordd ddofon iawn. Nododd y Canon Giles Fraser yn ddiweddar y dylai’r Iddewon, o bawb, wybod am y profiad o fyw mewn gwlad estron, heb hawliau, ac yn brae i ragfarnau trigolion cysefin. Mae’r Hen Destament yn gronicl o brofiadau sy’n deillio o gaethglud a chwalfa a chanlyniadau seicolegol y cyfnodau hynny. Mae’n siŵr mai eu profiad hallt o alltudiaeth drwy’r canrifoedd sy’n bwydo’r awydd dwys yn yr Iddew pybyr i sicrhau meddiant ar Wlad yr Addewid iddyn nhw a’u disgynyddion.

Ond gellid dadlau bod yr ysfa hon yn milwrio yn erbyn gwerthoedd craidd eu crefydd. Ceir yr adnod hon yn Deuteronomium (10:19) – “ Yr ydych chwi i garu’r dieithryn, gan i chi fod yn ddieithriaid yng ngwlad yr Aifft”. Nid un adnod unig yw honno chwaith, mae’n cynrychioli thema barhaus yn yr Hen Destament sy’n gweld proffwyd ar ôl proffwyd yn annog y genedl Iddewig i ddangos cydymdeimlad at estroniaid a dieithriaid sy’n byw yn eu plith ac arfer cydraddoldeb wrth ddelio â nhw. Mae’r thema honno yn dwyn i gof ddisgrifiad Waldo o Deyrnas Dduw: “Mae Teyrnas gref, a’i rhaith yw cydymdeimlad maith”.

Ond wrth i ni dynnu llinyn mesur ar Binyamin Netanyahu a’i gynghreiriaid – beth amdanom ni, Gristnogion, yn y Gymru Gymraeg; ac yng nghymdogaethau Cymraeg traddodiadol y gogledd a’r gorllewin yn enwedig? Mae yna ddieithriaid ac estroniaid yn ein plith ni, wrth y fil – yn Saeson a thramorwyr. Sut ddylen ni ymagweddu tuag at y mewnlifiad hwn? Sut allwn ni estyn allan mewn cydymdeimlad a brawdgarwch at eu hanghenion ysbrydol nhw? Sut mae amlygu cyfoeth ein hetifeddiaeth Gristnogol iddyn nhw – a hynny heb ei wanhau? Sut mae adeiladu ar ein hunaniaeth fel Cristnogion Cymraeg yn y sefyllfa amlddiwylliannol sy’n datblygu o’n cwmpas?

Ddwywaith yr wythnos hon dwi wedi cael fy holi gan fewnfudwyr o Saeson – “When is the Plygain this year? It’s such a special atmosphere. I don’t understand a word but I really get a lot out of it”.

(Gyda llaw, os ewch chi i’r adran Materion Cyfoes yn y Bwrdd Clebran, fe welwch fod Vivian Jones wedi ymateb i neges Morris Pugh Morris dan y teitl “Dryllio credoau, a chofleidio bywyd!”)