Archifau Categori: E-Fwletin

E-fwletin Wythnosol

E-fwletin Mai 11eg, 2015

Pawb ŵyr ei boen?

Nid yw hunan-laddiad yn drosedd bellach. Dyfynnir “Duw biau edau bywyd” yn aml yn nhermau gwrthwynebu`r syniad. Mae`n amlwg na ddehonglir y geiriau hyn yn llythrennol, gan ein bod yn ymdrechu i estyn oes personau sydd wedi peidio â byw, ac sydd bellach yn bodoli`n unig. Ac onid yw tosturi, trugaredd a chariad yn ganolog i`n dealltwriaeth ni o`r ffydd Gristnogol? Mae hen air yn ein mysg ni fel Cymry, “Pawb ŵyr ei boen”.

Os ydych lythrenolwr, mae sail beiblaidd i gymorth i farw. Mae dwy fersiwn o sut y bu i Saul, brenin cyntaf Israel farw; un yw hunanladdiad trwy syrthio ar ei gleddyf ei hun am fod gwendid wedi cydio ynddo, a’r ail fersiwn yw iddo gael cymorth Amaleciad ifanc. Er, mae yr holl fersiwn yn simsan yn hanesyddol gan y tybir mai celwydd er budd hunanol ydoedd stori`r Amaleciad. Fodd bynnag, y mae penderfyniad person sydd am gymorth yn dibynnu`n llwyr ar deulu a meddygon sydd yn fodlon rhoi y cymorth hwnnw. I lawer y mae cytuno i roi cymorth yn creu anhawsterau personol – yn feddygol ac yn emosiynol.

O safbwynt y ddeddf ar hyn o bryd, ymddengys i mi fod y perygl o gael eich erlyn am gynorthwyo yn un amwys iawn. Ymddengys na chyhuddir neb a fu`n gymorth i fynd ag anwylyd i`r Swistir os y bernir fod y penderfyniad yn un dilys a chymhellion y cynorthwywyr yn ddilychwin: “voluntary, clear, settled and informed decision and whether the suspect acted out of compassion and reported the victim’s suicide to the police and fully assisted them in their inquiries into the circumstances of the suicide or the attempt and his or her part in providing encouragement or assistance” (Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus 2010). Ni bu erlyn wedi ymchwiliad manwl i`r achos y bûm i ynglŷn ag ef. Eto, os digwydd proses gyffelyb ym Mhrydain y mae erlyn y cynorthwywyr yn digwydd bron yn otomatig. Wrth gwrs ychydig iawn sydd yn medru fforddio mynd i`r Swistir. Pe bai`r gwasanaeth ar gael ym Mhrydain, gallasai`r galw gynyddu yn sylweddol.

Mae meddygon at ei gilydd yn erbyn gan bwysleisio bod cyfarpar digonol i liniaru poen i bob un. Eto, ganol Ebrill eleni, cyhoeddodd Elusen Marie Curie fod diffygion mawr yn y gofal a roir i rai sydd yn dioddef afiechydon terfynol yng Nghymru, gan ddatgan mai pobl groenddu, Asiaid, pobl dros 85 oed, a phobol sy’n byw mewn tlodi sy’n dioddef waethaf. Pa mor effeithiol ydyw ymhob achos beth bynnag? Mae Dirprwy-gadeirydd y BMA, Kallash Shand, hyd yn oed, yn rhagweld y bydd y ddeddf yn caniatau Cymorth i Farw o fewn dwy flynedd
Cred Rowan Williams os caniateir Cymorth i Farw yna bydd y wladwriaeth yn diffinio person o dan yr amgylchiadau hyn yn ddiwerth. A ydym yn mesur gwerth person yn nhermau munudau, dyddiau a blynyddoedd? Beth am rethreg yr eglwys ar hyd y canrifoedd? Nid y blynyddoedd sy`n bwysig ond beth a wnaed gyda`r blynyddoedd hynny? A ddylai person arall barhau mewn poen annioddefol er mwyn i`w deulu a`i gydnabod ymarfer eu cyfrifoldeb tuag ato ef neu hi? A beth yw arwyddocâd hyn oll yng ngoleuni ein dehongliad o dragwyddoldeb?

O fewn amser, pawb a ŵyr ei boen?

E-fwletin Mai 4ydd, 2015

CYMORTH I FARW

“Expanding life should always be celebrated. Postponing death should always be questioned” yw barn John Selby Spong (Eternal Life A New Vision) ar y mater hwn. Fe drafodwyd hyn yn llysoedd yr Hen Gorff rai blynyddoedd yn ôl, a derbyniwyd datganiad yr eglwysi ecwmenaidd Ewropeaidd yn gwrthwynebu ystyried cam o`r fath ar sail, yn bennaf, fod bywyd yn gysegredig. Y mae Rowan Williams yn cydnabod bod dadl gref dros gymorth i farw, ond eto deil at safbwynt ei eglwys gan ddadlau bod gwladwriaeth wrth ganiatáu hyn yn deddfu bod person o dan amgylchiadau o`r fath yn ddiwerth.

Eto, mae`r farn gyhoeddus yn newid yn gyflym. Gwelsom yn ddiweddar fod aelodau Tŷ`r Arglwyddi yn rhanedig: 2 ran o 3 o blaid parhau`r drafodaeth a`r gweddill yn erbyn. Gwelsom hefyd fod amrywiaeth barn ymhlith Cristnogion; y cyn-Archesgob Carey (ceidwadol), Desmond Tutu (rhyddfrydol) a`r cyn-Esgob Spong (radical) o blaid, ac eraill fel Rowan Williams a`r cyn Esgob Richard Harris yn erbyn. Cyhoeddodd un pôl piniwn yn ddiweddar fod 4 o bob 5 pleidleisiwr o blaid Cymorth i Farw. Fodd bynnag roedd golygyddol y Times yn datgan gwrthwynebiad, ond nodwyd ar yr un pryd bod 80% o Gristnogion bellach o blaid Cymorth i Farw. Gwyddom hefyd fod yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Luxembourg a`r Swistir, a rhai o daleithiau`r America yn caniatáu’r hawl i ddewis. Er syndod i mi y mae`r wefan hon wedi bod yn dawel iawn ynghylch y cwestiwn dyrys, dirdynnol ac emosiynol hwn. Pam tybed?

Oherwydd y newid yn hinsawdd y farn gyhoeddus, credaf ei bod yn bwysig i`r eglwys hefyd wyntyllu`r mater. Yn fwy na hynny, mae bellach yn fater bugeiliol i amryw ohonom. A dyna yn bennaf pam yr ydw i`n cyflwyno`r mater i drafodaeth ac i ystyriaeth bellach. Cefais brofiad o un o`n haelodau eglwysig mwyaf ymroddedig a mwyaf didwyll yn dewis yn ddi-amwys y llwybr hwn gyda chyd-syniad teulu ar ôl hir ystyriaeth a holi cydwybod. Roedd rhannu profiadau y teulu ar aelwyd ac yn y gwasanaeth angladdol yn brofiad unigryw a hynod heriol. Roedd penderfyniad person mor annwyl ac ystyriol yn un dewr ac yn un ingol yr un pryd, Ni allwn lai nag edmygu urddas rhyfeddol y profiad wrth rannu ing y teulu a`u llawenydd tawel: “poen a llawenydd ar y groes”. Yr oedd cymryd rhan yn y gwasanaeth yn heriol. Cefais fy hun yn gofyn, ‘A yw credu bod bywyd yn gysegredig yn groes i fynnu marw gydag urddas?’

Y mae poen a dioddefaint wrth galon yr Efengyl. A yw hynny yn golygu bod rhinwedd mewn dioddef poen eithafol pan fo dewis arall yn bosibl? Roedd Iesu, yn awyrgylch cythryblus ei gyfnod, yn ymwybodol bod dioddefaint rhywle ar ei lwybr. Pan ddaeth hynny`n amlwg yng Ngardd Gethsemane, ei ddyhead oedd am i`r cwpan fynd heibio, os oedd hynny`n bosib. Ond gwelodd nad oedd. Nid oedd yn dewis y dioddefaint oedd o`i flaen, ond gwelai nad oedd ddewis ganddo o dan yr amgylchiadau. Y mae dewis yn bosib yn y sefyllfa hon.
Bwriadaf barhau`r drafodaeth yn y bwletin nesaf.

E-fwletin Ebrill 27ain, 2015

“Be wnawn ni gyda’r oedfa nos Sul?” Roedd mwy na digon yn mynychu oedfa’r bore, yn blant, yn bobl ifanc ac yn deuluoedd cyfan a’r bwrlwm crefyddol a chymdeithasol yn heintus. Ond stori arall oedd hi gyda’r nos a’r oedfa wedi mynd yn dipyn o embaras wrth i’r pregethwr gwadd wneud ei orau glas i danio brwdfrydedd dyrnaid o’r ffyddloniaid.

Penderfynwyd arbrofi gyda threfn newydd, nid er ei mwyn ei hun ond oherwydd rhyw ymdeimlad dan yr wyneb o ‘argyfwng gwacter ystyr’ ymhlith rhai o’r aelodau a’r angen i herio rhai o’r confensiynau, i fynd dan groen rhai o’r ystrydebau ac i gyfoethogi ein dealltwriaeth emosiynol yn ogystal â’n dealltwriaeth ymenyddol o’n cred.

A hon oedd y drefn a fabwysiadwyd, sef gwahodd pregethwyr ar ymweliad gyda’r nos i arwain rhyw fath o seiat ar sail ffydd a chred y pregethwr ei hun. Nid pawb oedd yn hapus i dderbyn yr her, i agor calonnau eu ffydd er mwyn i eraill eu cwestiynu. Wedi dwys ystyried ein cais, ymateb un ymwelydd oedd mai ei swyddogaeth fel pregethwr oedd i bregethu’r gair, dim mwy a dim llai, yn hytrach nag arwain trafodaeth. Popeth yn iawn, roeddem yn ddigon hapus, wrth gwrs, i barchu ei safbwynt. Nid wyf yn cofio pregeth yr ymwelydd hwnnw ond roedd bod yn bresennol yng nghwmni nifer o’r ymwelwyr eraill wrth iddynt gynhesu i ysbryd y fenter yn brofiad gwefreiddiol.

Un o’r ymwelwyr hynny oedd Merêd. Yr hyn sy’n aros yn glir yn y cof oedd ei ddiffuantrwydd a’i onestrwydd, ei awydd i wynebu pob cwestiwn ar ei ben, i osgoi ystrydebau cysurlon ond camarweiniol, i fwrw heibio pob ofergoel, i fynd yn ôl i’r sylfeini ac i gyfaddef nad oedd ganddo ateb i bob dim ond ei fod yn parhau ar daith ysbrydol bersonol. Roedd yn cydnabod cyfoeth crefyddau eraill y byd ac nid oedd yn honni goruchafiaeth unrhyw un grefydd dros un arall. Yn hytrach pwysleisiai ein bod yn rhwym o orfod dehongli ein bywyd ysbrydol drwy brism y grefydd y magwyd ni ynddi ac mai sancteiddrwydd – a gostyngeiddrwydd – a weddai i’w dŷ.

Mae’r cyfan fel ddoe yn y cof ond mae yn agos at ddeugain mlynedd wedi llithro heibio ers hynny.

E-fwletin 20fed Ebrill, 2015

Cinio Dolig, a’r teulu estynedig wedi dod acw i fwynhau’r wledd yn ôl y patrwm blynyddol. Roedd Mam wedi paratoi’r llysiau y noson gynt ac wedi codi’n fore iawn i roi’r twrci yn y popty. Dad oedd wedi dilyn y ddefod o dorri’r cig ac roedd rhai o’r oedolion, ‘llwyr ymwrthodwyr’ bob un, wedi cael rhyw sieri bach i aros pryd – “gan ei bod hi’n Ddolig”.

Wrth i bawb gladdu i mewn i lond plât o ginio dyma sylweddoli’n sydyn nad oedd Mam gyda ni wrth y bwrdd. “Peidiwch â phoeni, amdana’ i,” gwaeddodd hi o’r gegin fach gefn. “Dwi’n iawn fan hyn.” Doedd dim modd dwyn perswâd arni i newid ei meddwl, roedd hi’n benstiff o bendant nad oedd digon o le i un arall wrth y bwrdd mawr ac y byddai hi’n iawn, ar ei phen ei hun fach, yn gwrando ar glebran pawb arall o hirbell.

Doedd hyn ddim yn debyg i Mam o gwbl: byddai bob amser yng nghanol unrhyw ddathliadau teuluol, yn enaid byw pob parti, yn fwrlwm o egni. Beth oedd yn bod? Oedd hi’n sâl, tybed? Erbyn pwyso arni, daeth y gwirionedd i’r golwg. Roeddem yn dri ar ddeg o deulu’r Dolig hwnnw a Mam wedi cofio sut y cafwyd annus horribilis yn hanes y teulu rai blynyddoedd ynghynt a hynny’n dilyn Dolig arall pan eisteddodd tri ar ddeg ohonom o amgylch y bwrdd cinio. “Nid fy mod yn ofergoelus,” protestiodd. “Ond jest rhag ofn!”

I ni, o’r genhedlaeth a fagwyd ar sail dull gwyddonol o ddadansoddi’r byd o’n cwmpas, ac i’n plant, cenhedlaeth y dechnoleg fodern, mae’r peth yn gwbl chwerthinllyd. Ceisiais ddarbwyllo Mam i osod y syniadau hyn o’r neilltu, ond y cyfan yn ofer. Daliai i ddadlau nad oedd hi’n ofergoelus, dim ond bod yn ofalus a doedd dim o’i le yn hynny. Wedi’r cyfan roedd peth synnwyr cyffredin hefyd, meddai, mewn peidio â cherdded dan ysgol, peidio â chroesi ar risiau, peidio â rhoi esgidiau ar ben bwrdd, ac ymlaen, ac ymlaen.

I rai mae crefydd ei hun yn ddim ond rhyw fath o ymestyniad o ofergoeledd. Ai crefydd un person yw ofergoeledd person arall? A ydym yn parhau, hyd yn oed yn yr oes oleuedig hon, i lynu wrth ein hofergoelion personol ein hunain – jest rhag ofn?

E-fwletin Ebrill 13eg, 2015

Ai yn fwriadol y dewiswyd Dydd Iau Cablyd i ladd 150 o Gristnogion – y rhan fwyaf ohonynt yn fyfyrwyr – ym Mhrifysgol Garissa, Kenya? Mae’r dychryn yn fwy, ar ryw olwg, o gofio fod yr un anoddefgarwch mileinig yn cael ei ddangos tuag at gyd-Fwslemiaid sydd o draddodiad gwahanol. Hynny yw ‘does yna ddim lle o gwbl i neb, na dim, sydd o wahanol farn a safbwynt, a syniadaeth – ddim hyd yn oed i gelfyddyd hynafol.
Mae yna rai o arweinwyr ein byd wedi ymdynghedu i ddifrodi ‘IS’ a’u cyffelyb yn llwyr, a hynny drwy ba ffordd bynnag fydd yn cyrraedd y nod. Ond a yw grym arfog yn llwyddo i newid meddyliau?
Dros y Pasg cafwyd ymateb i’r gyflafan yn Garissa gan Y Pab Francis a’r Archesgob Welby.
Y Pab yn sôn am hadau y ddynoliaeth wahanol y gelwir ar ddilynwyr Iesu i’w hamlygu. ‘Rwy’n dyfynnu: “Christians, by the grace of Christ, dead and risen, are the seeds of another humanity, in which we seek to live in service to one another, not to be arrogant, but rather respectful and ready to help. This is not weakness, but true strength! “
Dilyn yr un trywydd wnaeth Justin Welby. Wedi cyfeirio at y rhai a ‘ferthyrwyd’ meddai, ‘Christians must resist without violence the persecution they suffer and support persecuted communities, with love and goodness and generosity.’
Y tristwch oedd darllen yr ymateb ar y ‘cyfryngau cymdeithasol’ i sylwadau’r ddau. Y naill fel y llall yn cael eu galw’n naïf, allan o gyswllt â’r byd cyfoes. Yn wyneb hynny dyna galondid oedd darllen ymateb Deborah, un o 50 o ferched, a lwyddodd i ddianc, o’r 250 a gipiwyd gan y mudiad terfysgol Boko Haram o ysgol ym mhentref Chibok yn Nigeria bron i flwyddyn yn ôl.
“Even though they have done so much destruction, to me, punishing them will not be the best answer. It is by showing them what they are doing is wrong.”
Pan feddiannwyd dinas Homs gan wrthwynebwyr llywodraeth Syria flwyddyn yn ôl, lladdwyd cannoedd. Credir fod 60,000 o Gristnogion yn Homs ddechrau’r brwydro, bellach tua 100 sydd ar ôl. Ymhlith y rhai a laddwyd yr oedd y Tad Frans van der Lugt, yn wreiddiol o’r Iseldiroedd. Er pwyso arno i adael y ddinas mynnodd aros a throes un o’r eglwysi i fod yn ganolfan diogelwch i Fwslemiaid a Christnogion fel ei gilydd, gan fyw neges Iesu o gariad a chymod.
Ar Ebrill 7fed trywanwyd ef yn ei wddf a bu farw ar ddarn o dir rhwng ei gartref a’r eglwys. Yr oedd yn 75 oed. Ychydig ddyddiau cyn ei ladd ysgrifennodd y Tad Frans ar Facebook.
“Yr ydym yn paratoi am y Pasg ac yn myfyrio ar y croesi o farwolaeth i atgyfodiad. Yr ydym yn teimlo ein bod yng nglyn cysgod angau, ond fe welwn y golau fan draw yn ein arwain i fywyd. Gweddïwn y bydd Syria yn profi grym Ei atgyfodiad, oherwydd fe fyddwn eto yn dathlu atgyfodiad ein Gwaredwr.”
Teimlo’n wylaidd iawn y bydd rhywun o glywed tystiolaethau fel hyn. Ond y maent hefyd, tra yn ysbrydoli ac yn ysgogi, yn ein herio i arddel ein ffydd a dwyn ein tystiolaeth mewn ffordd a fydd yn ennyn ryw ymateb.

E-fwletin Ebrill 7fed, 2015

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf daeth nifer o adroddiadau gan gyrff Cristnogol yn trafod, yn gynhwysfawr, le a gwaith yr eglwys yn y gymdeithas seciwlar gyfoes, a pherthnasedd Y Ffydd i’r bywyd hwnnw.

Yn eu plith adroddiad cynhwysfawr gan Eglwys yr Alban yn 2012; ‘The Common Good’ gan Synod Cyffredinol Eglwys Lloegr yn 2013; y gyfrol ‘On Rock or Sand’ dan olygyddiaeth John Sentamu eleni ac, yn benodol ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol, ‘2020 Vision of the Good Society’ gan CTBI.

Yn ȏl y disgwyl cafwyd adwaith digon anffafriol gan y wasg asgell dde, a dro ar ol tro clywyd adlais o’r cyhuddiad yn erbyn Desmond Tutu yn ystod y frwydr yn erbyn apartheid o gymysgu crefydd a gwleidyddiaeth. Mae’n siwr y cofiwn ateb Tutu “Pa Feibl ydych chi’n ddarllen os na welwch fod ei neges yn gwbl berthnsaol i’n bywyd cyfan”

 

Yr un oedd ymateb Martin Luther King yn ei dro, ac felly hefyd Oscar Romero a ddywedodd yn un o’i homiliau; “Mae rhai yn awyddus i ddad-berfeddu’r Efengyl i’r fath raddau fel nad yw’n berthnasol o gwbl i’r byd y mae i’w achub. Ond mae Iesu yn awr yn ran annatod o’n hanes. Mae Iesu yng nghraidd y bobl. Y mae Iesu yn awr yn creu nefoedd newydd a daear newydd“.

Dilyn yr un trywydd y mae Dr Tudur Jones yn “Ffydd yn y Ffau“:

“Mae Cristnogaeth yn ogystal â bod yn achubiaeth bersonol yn tywys pobl hefyd i chwyldroi cymdeithas baganaidd a hunanol nid oherwydd bod hynny‘n mynd i wneud Cristnogion o‘n cyd-ddinasyddion di-Grist ond am fod llunio cymdeithas yn ȏl ewyllys Duw ’n weithred drugarog i atal pobl rhag effeithiau gwaethaf eu trachwant eu hunain“.

Yr un yw neges Jim Wallis wrth gloi ei gyfrol “On God’s Side”. Cyfeiria at frwydrau’r eglwys yn ystod y ddeugain mlynedd ddiwethaf ac at y frwydr sy’n wynebu’r eglwys heddiw (ac mae ei ddadansoddiad mor berthnasol i’r eglwys yma yng Nghymru ag y mae yn America).

Y frwydr fawr gyntaf oedd yn erbyn y syniad mai rhywbeth preifat yw ffydd.

Yr ail frwydr oedd yn erbyn y syniad mai’r unig faterion cymdeithasol y dylai Cristnogion fod yn bryderus amdanynt oedd ‘moesau personol’

Ond pan fydd ffydd yn cael ei dehongli fel hyn, yna bydd cyfoeth, pŵer, gormes a thrais yn parhau heb eu herio. Yn wir, mae ffydd breifat yn gaffaeliad i anghyfiawnder.
Y drydedd frwydr o’n blaenau, ac efallai yr anoddaf, yw yr un ynghylch natur y gymdeithas y mae Duw yn ein galw i’w hadeiladu
”.

A dyna ni yn ȏl gyda chnewyllyn ‘The Common Good’, ‘On Rock or Sand” a ‘2020 Vision of the Good Society’. Pa fath o gymdeithas ydym yn geisio? Ai un sy’n gweithredu er lles pawb yn ddi-wahân? I ddyfynnu “2020 Vision of the Good Society”: “A welwn ein hunain fel aelodau o un ‘Gymdeithas Dda’? A ydym yn fodlon ond i geisio ein lles personol, a gweld ein hawliau fel unigolion yn cael eu gwarchod? A allwn ddarganfod ffyrdd i gymodi rhwng ein lles ein hunain a lles pobl eraill, o fewn gweledigaeth ehangach o ‘Gymdeithas Dda’? Ym mha ffyrdd mae ansawdd bywyd pawb yn gydgysylltiedig, neu ein lles a’n hapusrwydd ni yn gysylltiedig â lles a hapusrwydd pobl eraill? Dyma gwestiynau sydd yn mynd â ni ymhell y tu hwnt i wleidyddiaeth plaid ac at y sylfeini yr adeiledir ein cymdeithas arnynt“.

Dyna’r cwestiynau sy’n ein herio fel Cristnogion yn fwy na neb arall os ydym yn credu fod Iesu yn ’Arglwydd ar y cwbl neu ddim o gwbl’ A chwestiwn a ddylai fod yn pwyso arnom wrth baratoi ein hunain ar gyfer Mai 7fed.

E-fwletin Mawrth 30ain, 2015

Pam?

Waeth pa mor ddilys yw ein geiriau o gydymdeimlad, waeth pa mor ddwys yw ein tosturi, fedrwn ni byth roi ein hunain yn sefyllfa druenus y teuluoedd a gollodd anwyliaid yn y ddamwain awyren yr wythnos ddiwethaf. Pan dorrodd y newyddion am y trychineb, gwelsom luniau dirdynnol o dref Haltern am See yn yr Almaen, a’r camera y tu allan i ysgol Joseph König Gymnasium yn symud yn hamddenol ar hyd carped o flodau a chanhwyllau. Ynghanol y cyfan roedd cerdyn gwyn, ac un gair arno. “Warum?” (Pam?)
Does wybod beth yn union oedd hyd a lled cwestiwn y sawl a’i gosododd yno. Ai “Pam y caniataodd yr awdurdodau i ddamwain o’r fath ddigwydd?” neu hyd yn oed “Pam fod Duw yn caniatáu i bethau fel hyn ddigwydd?” Mae’r olaf yn gwestiwn hollol naturiol ar achlysuron o’r fath, a hawdd deall y dicter sy’n codi cwestiynau am fodolaeth Duw Cariad.
Efallai fod yr Eglwys ei hun ar fai am bortreadu Duw fel rhywun a fydd yn ein diogelu; rhywun y medrwn ni, fodau dynol, ddylanwadu arno i’n hamddiffyn rhag pob adfyd. Mae hynny’n bur wahanol i eiriau enwog Søren Kierkegaard pan ddywedodd, “Nid diben gweddi yw dylanwadu ar Dduw, ond yn hytrach newid y sawl sy’n gweddïo.”
Wrth i ragor o fanylion am y ddamwain ddod i’r amlwg, fe newidiodd natur y cwestiwn “Pam?” sawl gwaith. Ond roedd y “pam” sylfaenol hefyd yn mynnu aros, i’n herio a’n sobri. Ac ar ddechrau’r Wythnos Fawr, daw achlysur arall i’r cof lle gofynnwyd y cwestiwn, “Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?”
Clywsom dad un o’r teithwyr a laddwyd yn cyhoeddi nad oedd yn casáu Andreas Lubitz am yr hyn a wnaeth, ond ei fod yn hytrach yn meddwl am rieni’r cyd-beilot yn nhref Montabaur. Roedd ei galon yn gwaedu wrth feddwl am eu sefyllfa hwy, meddai.
Mae clywed hynny’n ein hatgoffa am ddigwyddiad erchyll arall ynghanol y trafferthion yng Ngogledd Iwerddon, dri degawd yn ôl. Ganol mis Hydref 1982 oedd hi, a merch ifanc o’r enw Karen McKewon wedi bod yn helpu gyda’r clwb pobl ifanc yn ei chapel yn Nwyrain Belfast. Roedd hi’n ugain oed, ac yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Queen’s. Wrth iddi fynd ati i lwytho’r car ar y diwedd, daeth aelod o’r INLA ati o’r tu ôl, a dal gwn at ei phen. Meddyliodd hithau fod un o’r bobl ifanc yn tynnu coes, ond cafodd ei saethu yn y fan a’r lle.
Bu’n dal yn fyw yn yr ysbyty am dair wythnos, a’i mam, Pearl McKewon, yn eistedd wrth erchwyn y gwely ac yn gofyn drosodd a throsodd yn ei dagrau, “Pam? Pam?” Yn sydyn, un dydd, agorodd Karen ei llygaid, ac meddai wrth ei mam, “Rwyt ti’n gofyn y cwestiwn anghywir. Pam na wnei di ofyn i ti dy hun pwy fyddai’n well gen ti fod, fy mam i neu fam y sawl a wnaeth hyn i mi?” Bu farw o fewn ychydig oriau.
Wn i ddim faint o deuluoedd sy’n gofyn yr un cwestiwn heddiw, yn sgil y ddamwain hon, ond o leiaf mae’n gwestiwn sy’n haws i’w ateb na “Pam?”.

 

E-fwletin Mawrth 23ain, 2015

O ran ein ffydd a’n crefydda dydw i ddim yn un o’r bobl hynny sy’n hiraethu am yr hyn a fu, dydw i ddim chwaith yn credu y dylem aros yn ein hunfan a pheidio newid. Nid yw’r hyn oedd yn digwydd ddoe, o reidrwydd, yn addas ar gyfer 2015. Mae esblygiad a datblygiad yn rhan annatod – yn wir yn rhywbeth cwbl angenrheidiol – o unrhyw gymdeithas a chenedl hyfyw. O ddweud hyn, rhaid i mi gyfaddef, bod dau beth wedi fy nghyffwrdd yr wythnos hon.

Yn gyntaf, trafod â rhiant am ymarferion eisteddfodol un o’n haelwydydd Urdd Gobaith Cymru mwyaf llwyddiannus. Yn yr aelwyd hon, gweithredir canllaw sy’n datgan na fydd cyfleoedd yn parhau i fod yn aelod o gôr neu barti, os bydd i’r aelod golli ymarfer. ‘Digon teg’ meddwn innau hyd nes i mi ddeall bod yr aelwyd benodol hon yn trefnu ymarferion ar Fore Sul ac felly, yn gwbl wynebgaled, yn disgwyl i fynychwyr Ysgol Sul roi heibio mynychu capel ac eglwys er mwyn bod yn bresennol mewn ymarfer. A’r hyn sydd yn fy nghynhyrfu – ac efallai fy nghythruddo – yn fwy na dim yw bod hyn gan sefydliad, sydd, hyd y gwn i o leiaf, yn dal i addunedu: “Byddaf ffyddlon i Gymru … byddaf ffyddlon i’m cyd-ddyn … byddaf ffyddlon i Grist a’i gariad Ef.” Rhyfedd o fyd!

Yr ail beth a’m cyffyrddodd, oedd darllen golygyddol Carys Moseley yn y Pedair Tudalen Gydenwadol. Son ‘roedd y Golygydd am ein parodrwydd oddi mewn i’n heglwysi i longyfarch a thrafod manylion gorchestion ein plant a’n pobl ifanc – boed addysgiadol, yn y campau, perfformio ac ati – ond ein hamharodrwydd i gychwyn sgwrs â hwy ac a’n cyd-aelodau am ffydd, am gred ac am fuchedd Gristnogol. A dyma sylweddoli mor wir oedd hyn. Heblaw am drafodaeth mewn astudiaeth Feiblaidd fedra i ddim cofio y tro diwethaf i gyd-aelod drafod fy ffydd â mi – fedra i ddim chwaith, mae arnaf ofn, gofio y tro diwethaf i minnau godi pwnc ffydd a chred gyda chyd-aelod. Fel rhyw arbrawf, dyma fynd ati fore heddiw i glustfeinio ar y sgyrsiau ymysg fy nghyd-aelodau cyn ac ar ôl yr oedfa – safon a gorchest rygbi Dydd Sadwrn oedd yn mynd â bryd y mwyafrif. Ofnaf na chlywais air am Efengyl, na phrofiad ysbrydol, na defosiwn nag adnod. Hynny, o fewn muriau eglwys! Onid dyna’r gymdeithas lle dylid fod yn trafod y materion hyn yn rheolaidd ac yn gwbl naturiol? Rhyfedd iawn o fyd!

Tynnwyd fy sylw yr wythnos hon i lyfryn Yr Argyfwng gan W Ambrose Bebb. Ynddo ceir cyfres o ysgrifau lle sôn yr awdur fod bywyd Cymru yn 1954 mewn argyfwng – arwyddion afiechyd a gwendid ar ddiwylliant Cymru, crefydd yn llai ei ddylanwad nag er cyn cof yr hynaf oedd yn byw ar y pryd a materoliaeth ronc yn rhodresa dros y tir, anffyddiaeth gadarn yn uchel ei phen. Datgan “mai’r dirywiad crefyddol ydyw achos blaenaf a phennaf pob dihoeni sydd ar fywyd Cymru heddiw”. Fedra i ddim llai yn sgil y profiadau uchod na meddwl fod llawer o’r hyn a wnaeth Ambrose Bebb ei ysgrifennu yn 1954 yn gwbl briodol ar ein cyfer heddiw yn 2015.

 

E-fwletin Mawrth 16eg, 2015

Dydd Iau diwethaf cyhoeddwyd canlyniadau ymgynghoriad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar faterion yn ymwneud â rhyddid crefyddol. Daeth yn gwbl amlwg bod yna gamddealltwriaeth enbyd a chymysgwch sylweddol ynglŷn â’r deddfau sy’n ymwneud â rhyddid crefyddol a chred. Prif amcan yr ymgynghoriad oedd ceisio crynhoi profiadau dinasyddion gwledydd Prydain o’u profiadau bob dydd yng nghyd-destun eu cred, ynghyd a’u dealltwriaeth o’u hawliau i weithredu a chymryd safbwyntiau ar sail yr hyn a gredant. Y bwriad yw paratoi dogfen ymgynghorol i’r Llywodraeth ar addasrwydd y deddfau presennol a chyflwyno canllawiau i gyflogwyr a darparwyr gwasanaethau ar sut dylid gweithredu’r deddfau yn y gweithle.
Holwyd 2,483 o ddinasyddion yn cynnwys rhychwant o grefyddau – Cristnogion, Mwslimiaid, Iddewon a Bwdistiaid, ynghyd ag anffyddwyr, secwlaryddion a dyneiddwyr. Daeth y mwyafrif o’r ymatebion, rhyw 1,030 ohonynt, oddi wrth Gristnogion a 188 gan anffyddwyr. Thema reolaidd oddi wrth y rheini oedd yn arddel ffydd oedd eu bod yn teimlo dan bwysau trwm i ‘guddio’ eu ffydd; teimlent hefyd eu bod yn cael eu gwahaniaethu o arddangos eu ffydd yn gyhoeddus trwy wisgo symbolau crefyddol. Adroddodd nifer uchel o Gristnogion, Iddewon a Mwslimiaid eu bod yn wynebu cyhuddiadau o fod yn rhagfarnllyd oddi wrth eu cyd-weithwyr. O du’r anffyddwyr a’r dyneiddwyr, cafwyd nifer o adroddiadau eu bod yn teimlo eu bod yn dioddef o proselyteiddio crefyddol anchwenychedig. Teimlent hefyd eu bod yn cael eu heithrio mewn gweithleoedd lle cynhelir cyfarfodydd gweddi neu ddigwyddiadau mewn adeiladau crefyddol.
Derbyniodd yr ymdriniaeth o grefydd a chred gan sefydliadau addysgiadol feirniadaeth lem; nifer o rieni Cristnogol yn adrodd i’w plant gael eu gwawdio am eu safbwyntiau – nodwyd, yn benodol y gred mai Duw a greodd y byd. Ar y llaw arall, cafwyd rhiant o’r dyneiddwyr yn nodi i’w blentyn glywed rhiant arall yn dweud na ddylai dderbyn anrheg Nadolig am nad oedd yn credu mewn Duw. Teimlai nifer o ddarparwyr gwasanaethau cymdeithasol crefyddol nad oedd eu gwaith yn cael ei gydnabod, yn wir, i’r fath raddau bod cyllid yn cael ei wrthod.
Ymddengys felly nad oes neb yn hapus, boed grediniwr neu beidio! Cwyd yr ymatebion nifer o gwestiynau y dylid eu trafod. Pa hawl sydd gennym i ddisgwyl i gymdeithas ganiatáu i ni arddel ein cred, boed mewn Duw neu beidio, yn gyhoeddus? A ddylai Cristion, dweder, fod a’r hawl i gymryd safbwynt Cristnogol mewn cymdeithas sydd bellach bron a bod yn gwbl seciwlar ei hagwedd? Efallai, mai un canlyniad diddorol o’r ymgynghoriad hwn yw’r sylweddoliad annisgwyl braidd bod y dyneiddwyr a’r secwlaryddion eu hunain yn teimlo eu bod hwythau yn cael eu dieithrio gennym ni gredinwyr. I’r Cristion, cwyd cwestiwn sylfaenol. Sut mae gweithredu comisiwn mawr ein Harglwydd Iesu – “Ewch, gan hynny, a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw’r Tad, a’r Mab a’r Ysbryd Glan …” (Mathew 28: 19) mewn cymdeithas sydd ond yn rhy barod i ddwyn erlyniad yn ein herbyn? “Cei dy farnu, cei dy garu, cei dy wawdio lawer gwaith …” meddai Ben Davies yn ei gyfieithiad o emyn Norman MacLeod. Ymddengys o’r ymgynghoriad hwn mai dyna sydd o’n blaenau. A ydym yn barod?

CADAIR WAG

Trigain niwrnod sydd ‘na cyn y steddfod wleidyddol. Y bygythiad ydi y bydd ’na gadair wag. Dwi ddim yn meddwl am funud mai felly bydd hi. Mae rhywun, rhywle, rhywbryd yn mynd i wneud tro pedol. Dwi’n mawr hyderu nad y darlledwyr fydd yn ildio.

Ar hyn o bryd mae’r BBC, ITV, Sky a Sianel 4 yn cynllunio tair trafodaeth ddwyawr yn y drefn yma: Ebrill 2 (ddiwrnod ar ei hôl hi hwyrach!): telediad ITV i saith arweinydd plaid; Ebrill 16: telediad y BBC rhwng y saith; Ebrill 30: telediad Sky/S4 rhwng y ddau ddarpar Brifweinidog [Cameron a Miliband].

Gan fod 10 Stryd Downing yn gwrthod y cynnig a’r darlledwyr yn honni bwrw mlaen â’r rhaglenni waeth beth ddywed y Prifweinidog, mae geno ni gyfnod o sgyrnygu dannedd a chyfarth o’n blaen. Eisoes y mae Miliband yn cyhuddo Cameron o “ffoi heb neb yn ei erlid.” Ei gyfaill, y Dirprwy Brifweinidog, Nick Clegg, yn cyhuddo Cameron o fod yn “drahaus” a “haerllug.” “Llwfrgi” yw’r Prifweinidog ym marn arweinyddion eraill, un sy’n mynnu ei ffordd ei hun yn groes i ddymuniad pawb arall. Mae llythyrau ac erthyglau yn y wasg yn ei feio am fod yn gachgi (‘chicken’ yw’r ymadrodd Seisnig).

Yn y cyfamser fe welir cefnogwyr Cameron yn cyhuddo’r darlledwyr o gam-ddefnyddio eu grym. Pan ystyriwch chi fod 22 miliwn wedi gwylio ymrysonau tebyg adeg yr etholiad cyffredinol diwethaf mae’r grym hwnnw yn sylweddol ei faint. Eisoes fe welir bygythiadau i’r darlledwyr. Bygwth Ofcom; bygwth Ymddiriedolaeth y BBC a bygwth y gyfraith. A welir rhaniad yn y rhengoedd? Dwi’n mawr obeithio y bydd y darlledwyr, ar gyfrif cyfrifoldeb i’r cyhoedd, sy’n bwysicach na ffigyrau gwylio yn y pen draw, yn sefyll yn gadarn.

A yw Cameron yn mynd i ddal ei dir gan adael i’r pleidiau eraill gael y cyhoeddusrwydd? Mae rhai fel Farage ac UKIP yn dra phrofiadol wrth droi dŵr i’w melin eu hunain, a bydd Nicola Sturgeon a Leanne Wood yn gwthio’r ddadl ddatganoli, heb sôn am Lafur ar gefn eu ceffyl … Ac os bydd yr SNP yn llwyddo i wneud camau breision yn yr Alban, “breaking up Britain” fel dywed Cameron droeon, does bosib ei fod e am adael cadair wag.

Y cwestiwn i’r Prifweinidog yw sut i adfer sefyllfa drychinebus iddo fe’n bersonol ac i’w blaid lywodraethol heb golli ei enw da neu gael ei gywilyddio am ymddangos yn wangalon. Tybed nad yw ei gynghorwyr yn ddigon hirben i ddeall fod Prydain eisoes yn newid. Gyda’r Blaid Geidwadol ei hun yn gwthio am fesur o hunan-lywodraeth i Loegr mae hynny ynddo’i hun yn creu sefyllfa sy’n debyg o gryfhau breuddwyd yr Alban am annibyniaeth. A phan ddigwydd hynny bydd y “bloody Welsh” ys dwedodd y Tori arall hwnnw, Tony Blair, yn clochdar fel ceiliogod ar domen.

A’r cyfan oherwydd styfnigrwydd un dyn. Pa egwyddor mae’r Prifweinidog yn sefyll trosto yn y mater hwn? “This (lady’s) not for turning.” Tybed !