CADAIR WAG

Trigain niwrnod sydd ‘na cyn y steddfod wleidyddol. Y bygythiad ydi y bydd ’na gadair wag. Dwi ddim yn meddwl am funud mai felly bydd hi. Mae rhywun, rhywle, rhywbryd yn mynd i wneud tro pedol. Dwi’n mawr hyderu nad y darlledwyr fydd yn ildio.

Ar hyn o bryd mae’r BBC, ITV, Sky a Sianel 4 yn cynllunio tair trafodaeth ddwyawr yn y drefn yma: Ebrill 2 (ddiwrnod ar ei hôl hi hwyrach!): telediad ITV i saith arweinydd plaid; Ebrill 16: telediad y BBC rhwng y saith; Ebrill 30: telediad Sky/S4 rhwng y ddau ddarpar Brifweinidog [Cameron a Miliband].

Gan fod 10 Stryd Downing yn gwrthod y cynnig a’r darlledwyr yn honni bwrw mlaen â’r rhaglenni waeth beth ddywed y Prifweinidog, mae geno ni gyfnod o sgyrnygu dannedd a chyfarth o’n blaen. Eisoes y mae Miliband yn cyhuddo Cameron o “ffoi heb neb yn ei erlid.” Ei gyfaill, y Dirprwy Brifweinidog, Nick Clegg, yn cyhuddo Cameron o fod yn “drahaus” a “haerllug.” “Llwfrgi” yw’r Prifweinidog ym marn arweinyddion eraill, un sy’n mynnu ei ffordd ei hun yn groes i ddymuniad pawb arall. Mae llythyrau ac erthyglau yn y wasg yn ei feio am fod yn gachgi (‘chicken’ yw’r ymadrodd Seisnig).

Yn y cyfamser fe welir cefnogwyr Cameron yn cyhuddo’r darlledwyr o gam-ddefnyddio eu grym. Pan ystyriwch chi fod 22 miliwn wedi gwylio ymrysonau tebyg adeg yr etholiad cyffredinol diwethaf mae’r grym hwnnw yn sylweddol ei faint. Eisoes fe welir bygythiadau i’r darlledwyr. Bygwth Ofcom; bygwth Ymddiriedolaeth y BBC a bygwth y gyfraith. A welir rhaniad yn y rhengoedd? Dwi’n mawr obeithio y bydd y darlledwyr, ar gyfrif cyfrifoldeb i’r cyhoedd, sy’n bwysicach na ffigyrau gwylio yn y pen draw, yn sefyll yn gadarn.

A yw Cameron yn mynd i ddal ei dir gan adael i’r pleidiau eraill gael y cyhoeddusrwydd? Mae rhai fel Farage ac UKIP yn dra phrofiadol wrth droi dŵr i’w melin eu hunain, a bydd Nicola Sturgeon a Leanne Wood yn gwthio’r ddadl ddatganoli, heb sôn am Lafur ar gefn eu ceffyl … Ac os bydd yr SNP yn llwyddo i wneud camau breision yn yr Alban, “breaking up Britain” fel dywed Cameron droeon, does bosib ei fod e am adael cadair wag.

Y cwestiwn i’r Prifweinidog yw sut i adfer sefyllfa drychinebus iddo fe’n bersonol ac i’w blaid lywodraethol heb golli ei enw da neu gael ei gywilyddio am ymddangos yn wangalon. Tybed nad yw ei gynghorwyr yn ddigon hirben i ddeall fod Prydain eisoes yn newid. Gyda’r Blaid Geidwadol ei hun yn gwthio am fesur o hunan-lywodraeth i Loegr mae hynny ynddo’i hun yn creu sefyllfa sy’n debyg o gryfhau breuddwyd yr Alban am annibyniaeth. A phan ddigwydd hynny bydd y “bloody Welsh” ys dwedodd y Tori arall hwnnw, Tony Blair, yn clochdar fel ceiliogod ar domen.

A’r cyfan oherwydd styfnigrwydd un dyn. Pa egwyddor mae’r Prifweinidog yn sefyll trosto yn y mater hwn? “This (lady’s) not for turning.” Tybed !