E-fwletin Mawrth 16eg, 2015

Dydd Iau diwethaf cyhoeddwyd canlyniadau ymgynghoriad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar faterion yn ymwneud â rhyddid crefyddol. Daeth yn gwbl amlwg bod yna gamddealltwriaeth enbyd a chymysgwch sylweddol ynglŷn â’r deddfau sy’n ymwneud â rhyddid crefyddol a chred. Prif amcan yr ymgynghoriad oedd ceisio crynhoi profiadau dinasyddion gwledydd Prydain o’u profiadau bob dydd yng nghyd-destun eu cred, ynghyd a’u dealltwriaeth o’u hawliau i weithredu a chymryd safbwyntiau ar sail yr hyn a gredant. Y bwriad yw paratoi dogfen ymgynghorol i’r Llywodraeth ar addasrwydd y deddfau presennol a chyflwyno canllawiau i gyflogwyr a darparwyr gwasanaethau ar sut dylid gweithredu’r deddfau yn y gweithle.
Holwyd 2,483 o ddinasyddion yn cynnwys rhychwant o grefyddau – Cristnogion, Mwslimiaid, Iddewon a Bwdistiaid, ynghyd ag anffyddwyr, secwlaryddion a dyneiddwyr. Daeth y mwyafrif o’r ymatebion, rhyw 1,030 ohonynt, oddi wrth Gristnogion a 188 gan anffyddwyr. Thema reolaidd oddi wrth y rheini oedd yn arddel ffydd oedd eu bod yn teimlo dan bwysau trwm i ‘guddio’ eu ffydd; teimlent hefyd eu bod yn cael eu gwahaniaethu o arddangos eu ffydd yn gyhoeddus trwy wisgo symbolau crefyddol. Adroddodd nifer uchel o Gristnogion, Iddewon a Mwslimiaid eu bod yn wynebu cyhuddiadau o fod yn rhagfarnllyd oddi wrth eu cyd-weithwyr. O du’r anffyddwyr a’r dyneiddwyr, cafwyd nifer o adroddiadau eu bod yn teimlo eu bod yn dioddef o proselyteiddio crefyddol anchwenychedig. Teimlent hefyd eu bod yn cael eu heithrio mewn gweithleoedd lle cynhelir cyfarfodydd gweddi neu ddigwyddiadau mewn adeiladau crefyddol.
Derbyniodd yr ymdriniaeth o grefydd a chred gan sefydliadau addysgiadol feirniadaeth lem; nifer o rieni Cristnogol yn adrodd i’w plant gael eu gwawdio am eu safbwyntiau – nodwyd, yn benodol y gred mai Duw a greodd y byd. Ar y llaw arall, cafwyd rhiant o’r dyneiddwyr yn nodi i’w blentyn glywed rhiant arall yn dweud na ddylai dderbyn anrheg Nadolig am nad oedd yn credu mewn Duw. Teimlai nifer o ddarparwyr gwasanaethau cymdeithasol crefyddol nad oedd eu gwaith yn cael ei gydnabod, yn wir, i’r fath raddau bod cyllid yn cael ei wrthod.
Ymddengys felly nad oes neb yn hapus, boed grediniwr neu beidio! Cwyd yr ymatebion nifer o gwestiynau y dylid eu trafod. Pa hawl sydd gennym i ddisgwyl i gymdeithas ganiatáu i ni arddel ein cred, boed mewn Duw neu beidio, yn gyhoeddus? A ddylai Cristion, dweder, fod a’r hawl i gymryd safbwynt Cristnogol mewn cymdeithas sydd bellach bron a bod yn gwbl seciwlar ei hagwedd? Efallai, mai un canlyniad diddorol o’r ymgynghoriad hwn yw’r sylweddoliad annisgwyl braidd bod y dyneiddwyr a’r secwlaryddion eu hunain yn teimlo eu bod hwythau yn cael eu dieithrio gennym ni gredinwyr. I’r Cristion, cwyd cwestiwn sylfaenol. Sut mae gweithredu comisiwn mawr ein Harglwydd Iesu – “Ewch, gan hynny, a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw’r Tad, a’r Mab a’r Ysbryd Glan …” (Mathew 28: 19) mewn cymdeithas sydd ond yn rhy barod i ddwyn erlyniad yn ein herbyn? “Cei dy farnu, cei dy garu, cei dy wawdio lawer gwaith …” meddai Ben Davies yn ei gyfieithiad o emyn Norman MacLeod. Ymddengys o’r ymgynghoriad hwn mai dyna sydd o’n blaenau. A ydym yn barod?