E-fwletin Mawrth 23ain, 2015

O ran ein ffydd a’n crefydda dydw i ddim yn un o’r bobl hynny sy’n hiraethu am yr hyn a fu, dydw i ddim chwaith yn credu y dylem aros yn ein hunfan a pheidio newid. Nid yw’r hyn oedd yn digwydd ddoe, o reidrwydd, yn addas ar gyfer 2015. Mae esblygiad a datblygiad yn rhan annatod – yn wir yn rhywbeth cwbl angenrheidiol – o unrhyw gymdeithas a chenedl hyfyw. O ddweud hyn, rhaid i mi gyfaddef, bod dau beth wedi fy nghyffwrdd yr wythnos hon.

Yn gyntaf, trafod â rhiant am ymarferion eisteddfodol un o’n haelwydydd Urdd Gobaith Cymru mwyaf llwyddiannus. Yn yr aelwyd hon, gweithredir canllaw sy’n datgan na fydd cyfleoedd yn parhau i fod yn aelod o gôr neu barti, os bydd i’r aelod golli ymarfer. ‘Digon teg’ meddwn innau hyd nes i mi ddeall bod yr aelwyd benodol hon yn trefnu ymarferion ar Fore Sul ac felly, yn gwbl wynebgaled, yn disgwyl i fynychwyr Ysgol Sul roi heibio mynychu capel ac eglwys er mwyn bod yn bresennol mewn ymarfer. A’r hyn sydd yn fy nghynhyrfu – ac efallai fy nghythruddo – yn fwy na dim yw bod hyn gan sefydliad, sydd, hyd y gwn i o leiaf, yn dal i addunedu: “Byddaf ffyddlon i Gymru … byddaf ffyddlon i’m cyd-ddyn … byddaf ffyddlon i Grist a’i gariad Ef.” Rhyfedd o fyd!

Yr ail beth a’m cyffyrddodd, oedd darllen golygyddol Carys Moseley yn y Pedair Tudalen Gydenwadol. Son ‘roedd y Golygydd am ein parodrwydd oddi mewn i’n heglwysi i longyfarch a thrafod manylion gorchestion ein plant a’n pobl ifanc – boed addysgiadol, yn y campau, perfformio ac ati – ond ein hamharodrwydd i gychwyn sgwrs â hwy ac a’n cyd-aelodau am ffydd, am gred ac am fuchedd Gristnogol. A dyma sylweddoli mor wir oedd hyn. Heblaw am drafodaeth mewn astudiaeth Feiblaidd fedra i ddim cofio y tro diwethaf i gyd-aelod drafod fy ffydd â mi – fedra i ddim chwaith, mae arnaf ofn, gofio y tro diwethaf i minnau godi pwnc ffydd a chred gyda chyd-aelod. Fel rhyw arbrawf, dyma fynd ati fore heddiw i glustfeinio ar y sgyrsiau ymysg fy nghyd-aelodau cyn ac ar ôl yr oedfa – safon a gorchest rygbi Dydd Sadwrn oedd yn mynd â bryd y mwyafrif. Ofnaf na chlywais air am Efengyl, na phrofiad ysbrydol, na defosiwn nag adnod. Hynny, o fewn muriau eglwys! Onid dyna’r gymdeithas lle dylid fod yn trafod y materion hyn yn rheolaidd ac yn gwbl naturiol? Rhyfedd iawn o fyd!

Tynnwyd fy sylw yr wythnos hon i lyfryn Yr Argyfwng gan W Ambrose Bebb. Ynddo ceir cyfres o ysgrifau lle sôn yr awdur fod bywyd Cymru yn 1954 mewn argyfwng – arwyddion afiechyd a gwendid ar ddiwylliant Cymru, crefydd yn llai ei ddylanwad nag er cyn cof yr hynaf oedd yn byw ar y pryd a materoliaeth ronc yn rhodresa dros y tir, anffyddiaeth gadarn yn uchel ei phen. Datgan “mai’r dirywiad crefyddol ydyw achos blaenaf a phennaf pob dihoeni sydd ar fywyd Cymru heddiw”. Fedra i ddim llai yn sgil y profiadau uchod na meddwl fod llawer o’r hyn a wnaeth Ambrose Bebb ei ysgrifennu yn 1954 yn gwbl briodol ar ein cyfer heddiw yn 2015.