E-fwletin Mawrth 30ain, 2015

Pam?

Waeth pa mor ddilys yw ein geiriau o gydymdeimlad, waeth pa mor ddwys yw ein tosturi, fedrwn ni byth roi ein hunain yn sefyllfa druenus y teuluoedd a gollodd anwyliaid yn y ddamwain awyren yr wythnos ddiwethaf. Pan dorrodd y newyddion am y trychineb, gwelsom luniau dirdynnol o dref Haltern am See yn yr Almaen, a’r camera y tu allan i ysgol Joseph König Gymnasium yn symud yn hamddenol ar hyd carped o flodau a chanhwyllau. Ynghanol y cyfan roedd cerdyn gwyn, ac un gair arno. “Warum?” (Pam?)
Does wybod beth yn union oedd hyd a lled cwestiwn y sawl a’i gosododd yno. Ai “Pam y caniataodd yr awdurdodau i ddamwain o’r fath ddigwydd?” neu hyd yn oed “Pam fod Duw yn caniatáu i bethau fel hyn ddigwydd?” Mae’r olaf yn gwestiwn hollol naturiol ar achlysuron o’r fath, a hawdd deall y dicter sy’n codi cwestiynau am fodolaeth Duw Cariad.
Efallai fod yr Eglwys ei hun ar fai am bortreadu Duw fel rhywun a fydd yn ein diogelu; rhywun y medrwn ni, fodau dynol, ddylanwadu arno i’n hamddiffyn rhag pob adfyd. Mae hynny’n bur wahanol i eiriau enwog Søren Kierkegaard pan ddywedodd, “Nid diben gweddi yw dylanwadu ar Dduw, ond yn hytrach newid y sawl sy’n gweddïo.”
Wrth i ragor o fanylion am y ddamwain ddod i’r amlwg, fe newidiodd natur y cwestiwn “Pam?” sawl gwaith. Ond roedd y “pam” sylfaenol hefyd yn mynnu aros, i’n herio a’n sobri. Ac ar ddechrau’r Wythnos Fawr, daw achlysur arall i’r cof lle gofynnwyd y cwestiwn, “Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?”
Clywsom dad un o’r teithwyr a laddwyd yn cyhoeddi nad oedd yn casáu Andreas Lubitz am yr hyn a wnaeth, ond ei fod yn hytrach yn meddwl am rieni’r cyd-beilot yn nhref Montabaur. Roedd ei galon yn gwaedu wrth feddwl am eu sefyllfa hwy, meddai.
Mae clywed hynny’n ein hatgoffa am ddigwyddiad erchyll arall ynghanol y trafferthion yng Ngogledd Iwerddon, dri degawd yn ôl. Ganol mis Hydref 1982 oedd hi, a merch ifanc o’r enw Karen McKewon wedi bod yn helpu gyda’r clwb pobl ifanc yn ei chapel yn Nwyrain Belfast. Roedd hi’n ugain oed, ac yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Queen’s. Wrth iddi fynd ati i lwytho’r car ar y diwedd, daeth aelod o’r INLA ati o’r tu ôl, a dal gwn at ei phen. Meddyliodd hithau fod un o’r bobl ifanc yn tynnu coes, ond cafodd ei saethu yn y fan a’r lle.
Bu’n dal yn fyw yn yr ysbyty am dair wythnos, a’i mam, Pearl McKewon, yn eistedd wrth erchwyn y gwely ac yn gofyn drosodd a throsodd yn ei dagrau, “Pam? Pam?” Yn sydyn, un dydd, agorodd Karen ei llygaid, ac meddai wrth ei mam, “Rwyt ti’n gofyn y cwestiwn anghywir. Pam na wnei di ofyn i ti dy hun pwy fyddai’n well gen ti fod, fy mam i neu fam y sawl a wnaeth hyn i mi?” Bu farw o fewn ychydig oriau.
Wn i ddim faint o deuluoedd sy’n gofyn yr un cwestiwn heddiw, yn sgil y ddamwain hon, ond o leiaf mae’n gwestiwn sy’n haws i’w ateb na “Pam?”.