E-fwletin Ebrill 7fed, 2015

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf daeth nifer o adroddiadau gan gyrff Cristnogol yn trafod, yn gynhwysfawr, le a gwaith yr eglwys yn y gymdeithas seciwlar gyfoes, a pherthnasedd Y Ffydd i’r bywyd hwnnw.

Yn eu plith adroddiad cynhwysfawr gan Eglwys yr Alban yn 2012; ‘The Common Good’ gan Synod Cyffredinol Eglwys Lloegr yn 2013; y gyfrol ‘On Rock or Sand’ dan olygyddiaeth John Sentamu eleni ac, yn benodol ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol, ‘2020 Vision of the Good Society’ gan CTBI.

Yn ȏl y disgwyl cafwyd adwaith digon anffafriol gan y wasg asgell dde, a dro ar ol tro clywyd adlais o’r cyhuddiad yn erbyn Desmond Tutu yn ystod y frwydr yn erbyn apartheid o gymysgu crefydd a gwleidyddiaeth. Mae’n siwr y cofiwn ateb Tutu “Pa Feibl ydych chi’n ddarllen os na welwch fod ei neges yn gwbl berthnsaol i’n bywyd cyfan”

 

Yr un oedd ymateb Martin Luther King yn ei dro, ac felly hefyd Oscar Romero a ddywedodd yn un o’i homiliau; “Mae rhai yn awyddus i ddad-berfeddu’r Efengyl i’r fath raddau fel nad yw’n berthnasol o gwbl i’r byd y mae i’w achub. Ond mae Iesu yn awr yn ran annatod o’n hanes. Mae Iesu yng nghraidd y bobl. Y mae Iesu yn awr yn creu nefoedd newydd a daear newydd“.

Dilyn yr un trywydd y mae Dr Tudur Jones yn “Ffydd yn y Ffau“:

“Mae Cristnogaeth yn ogystal â bod yn achubiaeth bersonol yn tywys pobl hefyd i chwyldroi cymdeithas baganaidd a hunanol nid oherwydd bod hynny‘n mynd i wneud Cristnogion o‘n cyd-ddinasyddion di-Grist ond am fod llunio cymdeithas yn ȏl ewyllys Duw ’n weithred drugarog i atal pobl rhag effeithiau gwaethaf eu trachwant eu hunain“.

Yr un yw neges Jim Wallis wrth gloi ei gyfrol “On God’s Side”. Cyfeiria at frwydrau’r eglwys yn ystod y ddeugain mlynedd ddiwethaf ac at y frwydr sy’n wynebu’r eglwys heddiw (ac mae ei ddadansoddiad mor berthnasol i’r eglwys yma yng Nghymru ag y mae yn America).

Y frwydr fawr gyntaf oedd yn erbyn y syniad mai rhywbeth preifat yw ffydd.

Yr ail frwydr oedd yn erbyn y syniad mai’r unig faterion cymdeithasol y dylai Cristnogion fod yn bryderus amdanynt oedd ‘moesau personol’

Ond pan fydd ffydd yn cael ei dehongli fel hyn, yna bydd cyfoeth, pŵer, gormes a thrais yn parhau heb eu herio. Yn wir, mae ffydd breifat yn gaffaeliad i anghyfiawnder.
Y drydedd frwydr o’n blaenau, ac efallai yr anoddaf, yw yr un ynghylch natur y gymdeithas y mae Duw yn ein galw i’w hadeiladu
”.

A dyna ni yn ȏl gyda chnewyllyn ‘The Common Good’, ‘On Rock or Sand” a ‘2020 Vision of the Good Society’. Pa fath o gymdeithas ydym yn geisio? Ai un sy’n gweithredu er lles pawb yn ddi-wahân? I ddyfynnu “2020 Vision of the Good Society”: “A welwn ein hunain fel aelodau o un ‘Gymdeithas Dda’? A ydym yn fodlon ond i geisio ein lles personol, a gweld ein hawliau fel unigolion yn cael eu gwarchod? A allwn ddarganfod ffyrdd i gymodi rhwng ein lles ein hunain a lles pobl eraill, o fewn gweledigaeth ehangach o ‘Gymdeithas Dda’? Ym mha ffyrdd mae ansawdd bywyd pawb yn gydgysylltiedig, neu ein lles a’n hapusrwydd ni yn gysylltiedig â lles a hapusrwydd pobl eraill? Dyma gwestiynau sydd yn mynd â ni ymhell y tu hwnt i wleidyddiaeth plaid ac at y sylfeini yr adeiledir ein cymdeithas arnynt“.

Dyna’r cwestiynau sy’n ein herio fel Cristnogion yn fwy na neb arall os ydym yn credu fod Iesu yn ’Arglwydd ar y cwbl neu ddim o gwbl’ A chwestiwn a ddylai fod yn pwyso arnom wrth baratoi ein hunain ar gyfer Mai 7fed.