E-fwletin Mai 4ydd, 2015

CYMORTH I FARW

“Expanding life should always be celebrated. Postponing death should always be questioned” yw barn John Selby Spong (Eternal Life A New Vision) ar y mater hwn. Fe drafodwyd hyn yn llysoedd yr Hen Gorff rai blynyddoedd yn ôl, a derbyniwyd datganiad yr eglwysi ecwmenaidd Ewropeaidd yn gwrthwynebu ystyried cam o`r fath ar sail, yn bennaf, fod bywyd yn gysegredig. Y mae Rowan Williams yn cydnabod bod dadl gref dros gymorth i farw, ond eto deil at safbwynt ei eglwys gan ddadlau bod gwladwriaeth wrth ganiatáu hyn yn deddfu bod person o dan amgylchiadau o`r fath yn ddiwerth.

Eto, mae`r farn gyhoeddus yn newid yn gyflym. Gwelsom yn ddiweddar fod aelodau Tŷ`r Arglwyddi yn rhanedig: 2 ran o 3 o blaid parhau`r drafodaeth a`r gweddill yn erbyn. Gwelsom hefyd fod amrywiaeth barn ymhlith Cristnogion; y cyn-Archesgob Carey (ceidwadol), Desmond Tutu (rhyddfrydol) a`r cyn-Esgob Spong (radical) o blaid, ac eraill fel Rowan Williams a`r cyn Esgob Richard Harris yn erbyn. Cyhoeddodd un pôl piniwn yn ddiweddar fod 4 o bob 5 pleidleisiwr o blaid Cymorth i Farw. Fodd bynnag roedd golygyddol y Times yn datgan gwrthwynebiad, ond nodwyd ar yr un pryd bod 80% o Gristnogion bellach o blaid Cymorth i Farw. Gwyddom hefyd fod yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Luxembourg a`r Swistir, a rhai o daleithiau`r America yn caniatáu’r hawl i ddewis. Er syndod i mi y mae`r wefan hon wedi bod yn dawel iawn ynghylch y cwestiwn dyrys, dirdynnol ac emosiynol hwn. Pam tybed?

Oherwydd y newid yn hinsawdd y farn gyhoeddus, credaf ei bod yn bwysig i`r eglwys hefyd wyntyllu`r mater. Yn fwy na hynny, mae bellach yn fater bugeiliol i amryw ohonom. A dyna yn bennaf pam yr ydw i`n cyflwyno`r mater i drafodaeth ac i ystyriaeth bellach. Cefais brofiad o un o`n haelodau eglwysig mwyaf ymroddedig a mwyaf didwyll yn dewis yn ddi-amwys y llwybr hwn gyda chyd-syniad teulu ar ôl hir ystyriaeth a holi cydwybod. Roedd rhannu profiadau y teulu ar aelwyd ac yn y gwasanaeth angladdol yn brofiad unigryw a hynod heriol. Roedd penderfyniad person mor annwyl ac ystyriol yn un dewr ac yn un ingol yr un pryd, Ni allwn lai nag edmygu urddas rhyfeddol y profiad wrth rannu ing y teulu a`u llawenydd tawel: “poen a llawenydd ar y groes”. Yr oedd cymryd rhan yn y gwasanaeth yn heriol. Cefais fy hun yn gofyn, ‘A yw credu bod bywyd yn gysegredig yn groes i fynnu marw gydag urddas?’

Y mae poen a dioddefaint wrth galon yr Efengyl. A yw hynny yn golygu bod rhinwedd mewn dioddef poen eithafol pan fo dewis arall yn bosibl? Roedd Iesu, yn awyrgylch cythryblus ei gyfnod, yn ymwybodol bod dioddefaint rhywle ar ei lwybr. Pan ddaeth hynny`n amlwg yng Ngardd Gethsemane, ei ddyhead oedd am i`r cwpan fynd heibio, os oedd hynny`n bosib. Ond gwelodd nad oedd. Nid oedd yn dewis y dioddefaint oedd o`i flaen, ond gwelai nad oedd ddewis ganddo o dan yr amgylchiadau. Y mae dewis yn bosib yn y sefyllfa hon.
Bwriadaf barhau`r drafodaeth yn y bwletin nesaf.