“Be wnawn ni gyda’r oedfa nos Sul?” Roedd mwy na digon yn mynychu oedfa’r bore, yn blant, yn bobl ifanc ac yn deuluoedd cyfan a’r bwrlwm crefyddol a chymdeithasol yn heintus. Ond stori arall oedd hi gyda’r nos a’r oedfa wedi mynd yn dipyn o embaras wrth i’r pregethwr gwadd wneud ei orau glas i danio brwdfrydedd dyrnaid o’r ffyddloniaid.
Penderfynwyd arbrofi gyda threfn newydd, nid er ei mwyn ei hun ond oherwydd rhyw ymdeimlad dan yr wyneb o ‘argyfwng gwacter ystyr’ ymhlith rhai o’r aelodau a’r angen i herio rhai o’r confensiynau, i fynd dan groen rhai o’r ystrydebau ac i gyfoethogi ein dealltwriaeth emosiynol yn ogystal â’n dealltwriaeth ymenyddol o’n cred.
A hon oedd y drefn a fabwysiadwyd, sef gwahodd pregethwyr ar ymweliad gyda’r nos i arwain rhyw fath o seiat ar sail ffydd a chred y pregethwr ei hun. Nid pawb oedd yn hapus i dderbyn yr her, i agor calonnau eu ffydd er mwyn i eraill eu cwestiynu. Wedi dwys ystyried ein cais, ymateb un ymwelydd oedd mai ei swyddogaeth fel pregethwr oedd i bregethu’r gair, dim mwy a dim llai, yn hytrach nag arwain trafodaeth. Popeth yn iawn, roeddem yn ddigon hapus, wrth gwrs, i barchu ei safbwynt. Nid wyf yn cofio pregeth yr ymwelydd hwnnw ond roedd bod yn bresennol yng nghwmni nifer o’r ymwelwyr eraill wrth iddynt gynhesu i ysbryd y fenter yn brofiad gwefreiddiol.
Un o’r ymwelwyr hynny oedd Merêd. Yr hyn sy’n aros yn glir yn y cof oedd ei ddiffuantrwydd a’i onestrwydd, ei awydd i wynebu pob cwestiwn ar ei ben, i osgoi ystrydebau cysurlon ond camarweiniol, i fwrw heibio pob ofergoel, i fynd yn ôl i’r sylfeini ac i gyfaddef nad oedd ganddo ateb i bob dim ond ei fod yn parhau ar daith ysbrydol bersonol. Roedd yn cydnabod cyfoeth crefyddau eraill y byd ac nid oedd yn honni goruchafiaeth unrhyw un grefydd dros un arall. Yn hytrach pwysleisiai ein bod yn rhwym o orfod dehongli ein bywyd ysbrydol drwy brism y grefydd y magwyd ni ynddi ac mai sancteiddrwydd – a gostyngeiddrwydd – a weddai i’w dŷ.
Mae’r cyfan fel ddoe yn y cof ond mae yn agos at ddeugain mlynedd wedi llithro heibio ers hynny.