E-fwletin 20fed Ebrill, 2015

Cinio Dolig, a’r teulu estynedig wedi dod acw i fwynhau’r wledd yn ôl y patrwm blynyddol. Roedd Mam wedi paratoi’r llysiau y noson gynt ac wedi codi’n fore iawn i roi’r twrci yn y popty. Dad oedd wedi dilyn y ddefod o dorri’r cig ac roedd rhai o’r oedolion, ‘llwyr ymwrthodwyr’ bob un, wedi cael rhyw sieri bach i aros pryd – “gan ei bod hi’n Ddolig”.

Wrth i bawb gladdu i mewn i lond plât o ginio dyma sylweddoli’n sydyn nad oedd Mam gyda ni wrth y bwrdd. “Peidiwch â phoeni, amdana’ i,” gwaeddodd hi o’r gegin fach gefn. “Dwi’n iawn fan hyn.” Doedd dim modd dwyn perswâd arni i newid ei meddwl, roedd hi’n benstiff o bendant nad oedd digon o le i un arall wrth y bwrdd mawr ac y byddai hi’n iawn, ar ei phen ei hun fach, yn gwrando ar glebran pawb arall o hirbell.

Doedd hyn ddim yn debyg i Mam o gwbl: byddai bob amser yng nghanol unrhyw ddathliadau teuluol, yn enaid byw pob parti, yn fwrlwm o egni. Beth oedd yn bod? Oedd hi’n sâl, tybed? Erbyn pwyso arni, daeth y gwirionedd i’r golwg. Roeddem yn dri ar ddeg o deulu’r Dolig hwnnw a Mam wedi cofio sut y cafwyd annus horribilis yn hanes y teulu rai blynyddoedd ynghynt a hynny’n dilyn Dolig arall pan eisteddodd tri ar ddeg ohonom o amgylch y bwrdd cinio. “Nid fy mod yn ofergoelus,” protestiodd. “Ond jest rhag ofn!”

I ni, o’r genhedlaeth a fagwyd ar sail dull gwyddonol o ddadansoddi’r byd o’n cwmpas, ac i’n plant, cenhedlaeth y dechnoleg fodern, mae’r peth yn gwbl chwerthinllyd. Ceisiais ddarbwyllo Mam i osod y syniadau hyn o’r neilltu, ond y cyfan yn ofer. Daliai i ddadlau nad oedd hi’n ofergoelus, dim ond bod yn ofalus a doedd dim o’i le yn hynny. Wedi’r cyfan roedd peth synnwyr cyffredin hefyd, meddai, mewn peidio â cherdded dan ysgol, peidio â chroesi ar risiau, peidio â rhoi esgidiau ar ben bwrdd, ac ymlaen, ac ymlaen.

I rai mae crefydd ei hun yn ddim ond rhyw fath o ymestyniad o ofergoeledd. Ai crefydd un person yw ofergoeledd person arall? A ydym yn parhau, hyd yn oed yn yr oes oleuedig hon, i lynu wrth ein hofergoelion personol ein hunain – jest rhag ofn?