E-fwletin Ebrill 13eg, 2015

Ai yn fwriadol y dewiswyd Dydd Iau Cablyd i ladd 150 o Gristnogion – y rhan fwyaf ohonynt yn fyfyrwyr – ym Mhrifysgol Garissa, Kenya? Mae’r dychryn yn fwy, ar ryw olwg, o gofio fod yr un anoddefgarwch mileinig yn cael ei ddangos tuag at gyd-Fwslemiaid sydd o draddodiad gwahanol. Hynny yw ‘does yna ddim lle o gwbl i neb, na dim, sydd o wahanol farn a safbwynt, a syniadaeth – ddim hyd yn oed i gelfyddyd hynafol.
Mae yna rai o arweinwyr ein byd wedi ymdynghedu i ddifrodi ‘IS’ a’u cyffelyb yn llwyr, a hynny drwy ba ffordd bynnag fydd yn cyrraedd y nod. Ond a yw grym arfog yn llwyddo i newid meddyliau?
Dros y Pasg cafwyd ymateb i’r gyflafan yn Garissa gan Y Pab Francis a’r Archesgob Welby.
Y Pab yn sôn am hadau y ddynoliaeth wahanol y gelwir ar ddilynwyr Iesu i’w hamlygu. ‘Rwy’n dyfynnu: “Christians, by the grace of Christ, dead and risen, are the seeds of another humanity, in which we seek to live in service to one another, not to be arrogant, but rather respectful and ready to help. This is not weakness, but true strength! “
Dilyn yr un trywydd wnaeth Justin Welby. Wedi cyfeirio at y rhai a ‘ferthyrwyd’ meddai, ‘Christians must resist without violence the persecution they suffer and support persecuted communities, with love and goodness and generosity.’
Y tristwch oedd darllen yr ymateb ar y ‘cyfryngau cymdeithasol’ i sylwadau’r ddau. Y naill fel y llall yn cael eu galw’n naïf, allan o gyswllt â’r byd cyfoes. Yn wyneb hynny dyna galondid oedd darllen ymateb Deborah, un o 50 o ferched, a lwyddodd i ddianc, o’r 250 a gipiwyd gan y mudiad terfysgol Boko Haram o ysgol ym mhentref Chibok yn Nigeria bron i flwyddyn yn ôl.
“Even though they have done so much destruction, to me, punishing them will not be the best answer. It is by showing them what they are doing is wrong.”
Pan feddiannwyd dinas Homs gan wrthwynebwyr llywodraeth Syria flwyddyn yn ôl, lladdwyd cannoedd. Credir fod 60,000 o Gristnogion yn Homs ddechrau’r brwydro, bellach tua 100 sydd ar ôl. Ymhlith y rhai a laddwyd yr oedd y Tad Frans van der Lugt, yn wreiddiol o’r Iseldiroedd. Er pwyso arno i adael y ddinas mynnodd aros a throes un o’r eglwysi i fod yn ganolfan diogelwch i Fwslemiaid a Christnogion fel ei gilydd, gan fyw neges Iesu o gariad a chymod.
Ar Ebrill 7fed trywanwyd ef yn ei wddf a bu farw ar ddarn o dir rhwng ei gartref a’r eglwys. Yr oedd yn 75 oed. Ychydig ddyddiau cyn ei ladd ysgrifennodd y Tad Frans ar Facebook.
“Yr ydym yn paratoi am y Pasg ac yn myfyrio ar y croesi o farwolaeth i atgyfodiad. Yr ydym yn teimlo ein bod yng nglyn cysgod angau, ond fe welwn y golau fan draw yn ein arwain i fywyd. Gweddïwn y bydd Syria yn profi grym Ei atgyfodiad, oherwydd fe fyddwn eto yn dathlu atgyfodiad ein Gwaredwr.”
Teimlo’n wylaidd iawn y bydd rhywun o glywed tystiolaethau fel hyn. Ond y maent hefyd, tra yn ysbrydoli ac yn ysgogi, yn ein herio i arddel ein ffydd a dwyn ein tystiolaeth mewn ffordd a fydd yn ennyn ryw ymateb.