Archifau Categori: E-Fwletin

E-fwletin Wythnosol

Cymdeithas Dyneiddwyr Cymru

E-fwletin Rhagfyr 4,2016
Cymdeithas Dyneiddwyr Cymru

Nos Fercher diwethaf yn adeilad Senedd Cymru ym Mae Caerdydd lansiwyd Cymdeithas Dyneiddwyr Cymru. Gobaith y Gymdeithas yw atal ysgolion rhag cynnal gwasanaethau crefyddol, cynnig cymorth i deuluoedd drefnu dathliadau di-grefydd addas ar gyfer dechrau a diwedd oes, yn ogystal â phriodasau, a cheisio perswadio pobl i dderbyn y byd a’i bethau yn ôl ein dealltwriaeth ohonynt heddiw ar sail darganfyddiadau gwyddonol.

Beth ddylai ymateb Cristnogion fod i sefydlu’r Gymdeithas hon tybed? Ai ei gweld hi fel bygythiad arall i genadwri’r eglwys, yn arf arall i ymosod ar achos sydd eisoes yn gwegian dan ergydion secwlar?

Neu tybed a ddylem fel dilynwyr Iesu Grist groesawu’r datblygiad hwn, a gweld y Gymdeithas fel llais a all ein helpu ni i adnabod ein hunain – ac i ddiffinio ein hunain yn well?

spong

Yr Esgob John Spong

Mae’n ddiddorol cofio yn y cyd-destun hwn bod yr Esgob John Shelby Spong (un o arwyr  llawer iawn o gefnogwyr Cristnogaeth 21, ac a oedd i fod i ddod atom i ddarlithio ddiwedd Hydref cyn iddo gael ei daro’n wael), wedi ei anrhydeddi â Gwobr Rhyddid Crefyddol gan Gymdeithas Dyneiddwyr America yn ei Chynhadledd Flynyddol yn gynharach eleni. Wrth groesawu’r anrhydedd hwn, dywedodd Spong ei fod, dros gyfnod o flynyddoedd, wedi derbyn un-ar-bymtheg o fygythiadau i’w ladd – a’r rheini, nid gan wrthwynebwyr i’r ffydd Gristnogol, ond gan rai a hawliai eu bod yn gredinwyr uniongred Cristnogol. Deilliodd y bygythiadau hyn o’r ffaith bod Spong yn ymwrthod â safbwyntiau rhagfarnllyd Cristnogol, er enghraifft yn erbyn merched a phobl hoyw, ac athrawiaethau Cristnogol sydd wedi eu gwrth-brofi yn wyddonol.

Fel Spong, byddai llawer ohonom sy’n dal i ystyried ein hunain yn Gristnogion yn barod i gefnogi a derbyn casgliadau ymchwil wyddonol sy’n ein helpu ni i ymgyrraedd at y gwirionedd amdanom ein hunain a’n hamgylchfyd, ac i gydnabod yr angen i ni fod yn llawer mwy cyfrifol a chydwybodol ynghylch yr effaith y mae’n ffordd o fyw yn ei chael ar y cread.

Yn yr ystyr yna byddem yn teimlo’n llawer agosach at ddyneiddwyr nag at y Cristnogion hynny sy’n gwrthod derbyn darganfyddiadau  gwyddonol megis esblygiad a’r ffaith bod cynhesu byd-eang yn ganlyniad dylanwad dynol.

Yng ngoleuni hynny gallai sefydlu Cymdeithas Dyneiddwyr Cymru fod yn symbyliad gwerthfawr i ffrindiau a chefnogwyr Cristnogaeth 21, yn enwedig os gellir meithrin trafodaeth rhyngom a’n gilydd. Felly, gyda phob diffuantrwydd, dymunwn yn dda i’r Gymdeithas newydd hon.

(Fe welwch ein bod wedi ychwanegu teyrnged i goffadwriaeth y diweddar Gethin Abrahan-Williams yn y rhifyn cyfredol o Agora. Medrwch ei darllen YMA)

E-fwletin Tachwedd 27ain, 2016

Yr Ail Ddyfodiad

Dyma ni wedi cyrraedd tymor yr Adfent unwaith eto a dechrau blwyddyn eglwysig newydd. Thema Sul cynta’r Adfent yn draddodiadol yw yr Ail Ddyfodiad, ac mae darlleniadau’r Sul hwn bob blwyddyn yn cynnwys o leiaf un cyfeiriad at Iesu Grist yn dod ar gymylau’r nef.

Ond faint mor gredadwy yw’r ddysgeidiaeth am yr ail ddyfodiad erbyn hyn? Mae’n wir mai geiriau a briodolir i Iesu Grist yw’r proffwydolaethau yn yr efengylau ynghylch yr ail ddyfodiad. Mae Paul yn 1 Thesaloniaid 1:10 hefyd yn dweud bod y Cristnogion yn ‘disgwyl Mab Duw o’r nefoedd, … yr un sy’n ein gwaredu oddi wrth y digofaint sydd i ddod’.

Mae’n amlwg hefyd bod awduron yr efengylau, a/neu Iesu Grist, yr Apostol Paul, ac ysgrifenwyr eraill yn y Testament newydd, o’r farn bod yr ail ddyfodiad yn mynd i ddigwydd yn fuan. “Nid â’r genhedlaeth hon heibio nes i’r holl bethau hyn ddigwydd” medd Iesu Grist yng ngyd-destun dyfodiad Mab y Dyn yn ôl efengyl Mathew, Marc a Luc, ac mae awdur Llyfr Datguddiad yn honni ‘y mae’r hwn sy’n tystiolaethu i’r pethau hyn yn dweud, “Yn wir yr wyf yn dod yn fuan.”’

Y casgliad rhesymol i ni ddod iddo yw eu bod wedi tybied yn anghywir. Ac eto mae’r syniad am Iesu Grist yn dod yn ôl i’r byd ar gymylau’r nef yn dal i gael ei bedlera yn ein plith. Yn hyn o beth ry’ ni’n camarwain pobl yn ddybryd – onid yn eu twyllo’n deg.

Un ffordd o ddehongli delwedd ail ddyfodiad Iesu Grist i’r byd yw trwy ystyried fod ei genadwri am fyd o degwch a chyfiawnder yn cael ei hyrwyddo gennym, ac wrth i’r hyn yr oedd Iesu’n ei gynrychioli neu yn ei ymgtorffori yn cael ei fabwysiadu gan mwy a mwy o bobl, y gellir dweud bod ei ddydd yn dod.  

Ar ddechrau’r flwyddyn eglwysig beth am i ni fel cefnogwyr C21 wneud adduned i fod yn fwy gonest gyda ni’n hunain a gyda’n gilydd yn ein dadansoddiad a’n dealltwriaeth o ddarlleniadau wythnosol yr eglwys y flwyddyn hon – gan ddechrau gyda’r darlleniadau am yr ail-ddyfodiad? Breuddwyd ffôl yw disgwyl am waredigaeth oddi allan i’n hachub ni rhag y trafferthion sy’n ein bygwth fel dynoliaeth. Mae ein dyfodol yn dibynnu ar ein parodrwydd ni ein hunain i gymryd cyfrifoldeb i wireddi’r dyfodol hwnnw.

Ac fel y mae’r agweddau hiliol a’r diffyg parch a goddefgarwch ry’ ni wedi ei weld yn ddiweddar yn sgil Brexit a’r etholiad arlywyddol yn yr Unol Daleithiau wedi dangos, ry’ ni’n bell iawn o weld y dydd hwnnw’n “dod yn fuan”.

(Cafwyd ymateb i’r e-fwletin hwn ar y Bwrdd Clebran. Gweler YMA  – Gol.)

E-fwletin Tachwedd 20fed, 2016

Awelon newid

“Mae’r byd wedi newid. Rwy’n ei deimlo yn y dyfroedd. Rwy’n ei deimlo yn y pridd. Mae sawr  newid ar yr awel”. Dyna eiriau rhoddodd JRR Tolkein yng ngenau Galadriel, brenhines y Tylwyth Teg, yn ei nofel ‘Brawdoliaeth y Fodrwy’. Rhyw ddyddiau tebyg yw hi ar hyn o bryd. Mae awelon newid (os nad corwyntoedd newid) yn chwythu’n gryf. Neu felly mae’n ymddangos i ni sy’n byw o fewn amlen y diwylliant Eingl-Americanaidd, beth bynnag.

paul-mason

Paul Mason, yr economegydd.

Un o broffwydi newid ein hoes yw’r sylwebydd economaidd Paul Mason. Bu ei lyfr ‘PostCapitalism: a guide to our future’ ar frig y siartiau llyfrau llynedd. Dadl sylfaenol Mason yw ein bod yn byw trwy gyfnod o drawsnewidiad sylfaenol yn natur y gymdeithas gyfalafol orllewinol. Mae cynhyrchu, caffael a defnyddio gwybodaeth yn disodli cynhyrchu a phrynu nwyddau o fewn yr economi, meddai, gan newid natur gwaith a newid natur y cysylltiadau rhwng llafur a chyfalaf. At hynny, mae’r chwyldro technolegol yn newid y modd ry’n ni’n rhyngweithio’n gymdeithasol ac yn cyfathrebu a chyfryngu â’n gilydd. Gwêl hadau dirywiad anorfod cyfalafiaeth yn y ddeubeth hyn. Mae’n cyfeirio at nifer o wrthdystiadau a chwyldroadau diweddar i awgrymu bod y patrymau grym hierarchaidd yn cael eu herio a’u hysgwyd gan y newidiadau hyn – o’r Gwanwyn Arabaidd i wrthryfel ymbarél Hong Kong a’r mudiad Occupy. Yn wahanol i Marx, nid y proletariat fydd y cyfrwng i’r newid hwn, meddai Mason, ond yr unigolyn addysgedig rhwydweithiol – cenhedlaeth y clustffonau gwynion, y genhedlaeth sydd wedi ei wifrio’n barhaus i’r Oes Wybodaeth.

Ar hyn o bryd, yn y byd Eingl-Americanaidd, mae’n ymddangos mai lladmeryddion y dde geidwadol sydd wedi cymryd mantais ar yr awydd yma i herio’r dref hierarchaidd draddodiadol. Bu ‘Herio’r Sefydliad’ yn rhyfelgri ar ddwy ochr Yr Iwerydd yn ddiweddar – er, mae’n gwbl eironig mai cynrychiolwyr y Sefydliad a’r hen drefn gyfalafol fu’n arwain y gad yn hynny o beth (a hynny heb ddangos fawr o barch at addysg, gwybodaeth na ffeithiau chwaith). Mae’n ymddangos eu bod nhw wedi sawru’r awel yn fwy cywir na lladmeryddion y chwith rhyddfrydol hyd yn hyn.

Ond nid proffwydoliaeth dywyll sydd gan Paul Mason. Mae’n gweld cyfleoedd pellgyrhaeddol yn y trawsnewid mawr yma i gyfnod Ôl-gyfalafol. Gwêl gyfleoedd i adeiladu byd ar seiliau mwy cydradd ac unol. Mae yna gyfleoedd euraid i ail-greu perthnasau cymdeithasol trwy ymdrechion anghydffurfiol cydweithredol adeiladol sy’n rhoi bri ar werthoedd amgenach na’r hyn a hyrwyddir gan gyfalafiaeth hierarchaidd bresennol. Mae’n amlinellu sut y gallai’r prosesau economaidd newydd ail-ddosbarthu cyfoeth, lliniaru tlodi byd-eang ac osgoi cynhesu hinsawdd. O wireddu’r dyheadau hyn, meddai Mason (gan ddyfynnu J M Keynes) bydd un her oesol yn sefyll. “Am y tro cyntaf ers ei greu mi fydd yn rhaid i ddyn wynebu ei broblem sylfaenol barhaus – sut i ddefnyddio ei ryddid o ofalon economaidd dybryd… i fyw yn ddoeth yn gytûn ac yn dda”.

Os yw darogan Paul Mason ynghylch newidiadau cymdeithasol sylfaenol yn gywir, onid oes angen i ni ofyn i ni’n hunain yn go glou: sut mae sicrhau bod efengyl Iesu – ei werthoedd, ei weledigaeth a’i wirionedd – yn rhan o wead sylfaenol ein cymdeithas a’n cymdogaethau wrth i ni wynebu’r oes Ôl-gyfalafol, Ôl-Gysteninaidd, Ôl-wirionedd hon? Heb i Gristnogion hwylio’r gwyntoedd newid yma yn go ddeheuig mae yna berygl y bydd credu mewn Tylwyth Teg yn fwy deniadol a pherthnasol i lawer.

E-fwletin Tachwedd 13eg, 2016

Clywch sŵn y gwynt sy’n chwythu

Wel wir! Er iddo gael llai o bleidleisiau na Hillary Clinton – ac, yn wir, llai o bleidleisiau na’r hyn gafodd Mitt Romney yn erbyn Barak Obama bedair blynedd yn ôl – fe ŵyr y byd a’r betws erbyn hyn mai’r biliwnydd  Donald Trump a enillodd y ras i’r Tŷ Gwyn. Bu’n ymgyrch nodedig o filain a brwnt. Ni chafwyd fawr ddim trafodaeth ynghylch manylion polisi ond cafwyd digonedd o ymosodiadau personol a datganiadau cyffredinol ymfflamychol.

trumpErs i’r daeargryn annisgwyl yma ein taro bu’r sylwebyddion wrthi fel melinau pupur yn dadansoddi a darogan, gan geisio dirnad sut fydd pethau arnon ni ar y blaned hon â Trump yn llywio’r ‘byd rhydd’. Yn eu plith clywyd ambell lais o blith gwleidyddion dwyreiniol yn datgan yn go bendant, os mai dyma ganlyniad y ‘ddemocratiaeth’ ‘ych chi orllewinwyr yn ei hwrjo arnon ni – cadwch e! Mae gwyntoedd newid yn chwythu’n go arw drwy’r byd y dwthwn hwn.

Un o’r sylwebyddion a glywais yn cyfrannu i’r post mortem oedd y cyflwynydd teledu Jerry Springer. Delfryd yw sylfaen America, meddai, delfryd a dyhead i geisio creu gwlad rydd a rhyddfrydol sy’n groesawus i bawb ac sy’n rhoi cyfle i bawb, beth bynnag fo eu crefydd, hil, rhyw neu dras. (Mae’n siŵr bod gan y brodorion cynhenid sy’n protestio yn Standing Rock farn ar hynny). Ond yr eironi o ethol Trump, meddai Springer, yw ei bod hi’n amlwg fod ei gefnogwyr, waeth pa mor wladgarol eu sentiment, wedi cael llond bol ar y ddelfryd amlddiwylliannol honno. Cael eu gwlad yn ôl a’i chael yn wych eto oedd eu deisyfiad – a honno’n wlad wen, unffurf a cheidwadol ei moes a’i chred.

Tebyg iawn fu dadansoddiad rhai sylwebyddion Prydeinig o’r hyn a achosodd Brexit – gyda’r bleidlais honno’r un mor dynn a rhanedig, wrth gwrs. Dwy wlad wedi eu rhannu’n ddwy. Dwy wlad sy’n mudferwi mewn cawl o ddrwgdybiaeth, rhwystredigaeth, cenfigen, gelyniaeth, diffyg ymddiriedaeth a chasineb. Tybed a ddaw’r etholiad nesaf yn Ffrainc â Marine le Pen i’r un amlygrwydd a Trump? Wrth daro sylw ar bennawd diweddar yn y Daily Mail a alwodd y tri barnwr uchel lys a gyfeiriodd Brexit at awdurdod y Senedd yn ‘elynion y bobl’, tynnodd y dychanwr Ian Hislop ein sylw bod traddodiad hanesyddol i’r fath ddatganiad, traddodiad sy’n cynnwys Robespierre, Lenin, Hitler a Pol Pot. Mae gwyntoedd Tachwedd yn filain.

Ond ble bu llais yr Eglwys yn hyn i gyd? Ble mae llais yr Eglwys yn hyn i gyd? Iawn, rhown yr efengylwyr Americanaidd o’r naill du am y tro – ond ble mae llais ein henwadau Cymreig? Mae nifer o fudiadau rhyddfrydol yn fywiog iawn ar y cyfryngau cymdeithasol yn ceisio codi llais dros amrywiaeth a goddefgarwch. Mae Hope not Hate yn un – elusen a gefnogwyd gan y diweddar Jo Cox AS. Mae AVAAZ, y lobïwyr rhyddfrydol rhyngwladol, yn un arall. Lansiwyd y mudiad Cymreig cynhwysol ‘Cymru i Bawb’ yn ddiweddar yn Aberystwyth. Mae ambell i wleidydd fel Nicola Sturgeon wedi bod yn fwy plaen ei thafod nag eraill. “I am not prepared to be a politician that maintains a diplomatic silence in the face of attitudes of racism, sexism, misogyny or intolerance of any kind.”

Ble mae’r lleisiau Cristnogol sy’n datgan yn groch a chroyw dros y weledigaeth o fyd sy’n trysori ffrwythau’r Ysbryd: cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunanddisgyblaeth? Clywch sŵn y gwynt sy’n chwythu.

O.N. Fe welwch erthygl am Joanna Penberthy, darpar Esgob Tyddewi, ar y botwm Newyddion.

E-fwletin Tachwedd 6ed, 2016

Chwilio am rywbeth ysgafn i’w ddarllen oeddwn pan es i mewn i un o’r amryw siopau elusen sydd yn yr ardal. Ymhlith y dewis helaeth oedd llyfr gan y newyddiadurwr a’r darlledwr o Gaerdydd, John Humphrys – un o hoelion wyth y BBC ers blynyddoedd. Fel gyda llawer llyfr dwi wedi’i brynu, y teitl a’m denodd i estyn ato,  Beyond Words – how language reveals the way we live now. Llyfr am eiriau ac ymadroddion sy’n ei gythruddo, yn gwneud iddo grafu pen, yn mynd dan ei groen.

*******HI RES******John Humphrys in the Today studio...John Humphrys (next to studio microphones), one of the presenters of the Today radio programme (the news and current affairs programme), which is broadcast on BBC Radio 4 (BBC Radio Four) each weekday morning 6-9am and on saturday"s 7-9am.'; Humphrys, John - BBC News Journalist / Presenter of the Today programme on BBC Radio Four

John Humphrys (Llun: BBC)

Mae iaith yn fwy nag offeryn i ni fynegi’n hunain, meddai, a dwi’n synhwyro mai tynnu sylw at bwysigrwydd defnyddio iaith yn gywir, yn fanwl ac yn ddealladwy oedd ei resymau dros ysgrifennu’r llyfr, a phartner i lyfr blaenorol ganddo yn ymwneud â geiriau,  Lost for Words, “a cry from the heart of an ageing hack who has made his living using words.”

Falle bod rhai ohonoch sy’n darllen y geiriau hyn yn / wedi ennill bywoliaeth yn defnyddio geiriau. Yn sicr, os addolwyr a mynychwyr oedfaon y buom, ac yr ydym o hyd o ran hynny, fe fyddwn wedi boddi mewn geiriau. A beth am y geiriau hynny – geiriau emyn, darlleniad, gweddi a phregeth? Yn gymorth i fyw, i ddeall, i wneud synnwyr o fywyd, yn ateb i’n cwestiynau dyfnaf? Ydy iaith ein crefydda ni yn ateb gofynion a galwadau’r cyfnod rydym yn byw ynddo?

Mae Humphrys yn adrodd stori am wraig yn mynd i Tesco’s un noson. Ar ôl prynu beth oedd ei angen mae’n mynd i dalu, a llanc yn ei ugeiniau yn gwneud beth oedd rhaid. Mae’n rhoi arian iddo ac wrth iddo roi newid iddi mae’n dweud “There you go.”  Ac mae’n ddechrau sgwrs. “Beth yw ystyr hynny?” “Dwi ddim yn gwybod.” “Pam ei ddweud, felly?” “Dwi ddim yn gwybod.” Mae rhagor i’r stori, ond mae’n gorffen gyda’r wraig yn awgrymu i’r llanc y byddai dweud “Diolch” wedi gwneud llawer mwy o synnwyr na “There you go.” A  dyna enghraifft fach o eiriau’n cael eu defnyddio sy’n cyfleu na golygu dim byd mewn gwirionedd.

Tristwch yw clywed pentyrru geiriau “there you go” mewn oedfaon ac ar achlysuron megis gwasanaethau bedydd, priodi a chladdu sydd wedi peidio bod yn ystyrlon i lawer o’r gweddill ffyddlon, heb sôn am y mwyafrif sy’n fodlon eu byd heb na Duw, na Gwaredwr, na chredo, na ffydd – beth bynnag yw ystyr geiriau fel yna!

Tu hwnt i eiriau – sut mae iaith yn datgelu sut rydym nid yn unig yn byw ond yn crefydda nawr.

Gwahoddiad – oes gyda chi eiriau ‘there you go’ yn eich / ein crefydda? Beth am eu rhannu â darllenwyr yr e-fwletin.

E-fwletin Hydref 30ain, 2016

E-fwletin Hydref 30ain, 2016

Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn un anodd i ddemocratiaeth. 

Mewn llai na phythefnos cawn wybod pwy fydd arlywydd newydd America, wedi blwyddyn o gecru a chreu drwgdeimlad anghyffredin yn erbyn grwpiau o bobl.   Mae’n ymddangos mai prin yw’r bobl hynny sy’n fodlon mabwysiadu mantra Michelle Obama, “When they aim low, we’ll aim high”.

Yr ochr hyn i’r Iwerydd mae nifer ohonom wedi blino ar gael ein galw’n “Remoaners” gan ambell bapur newydd, sy’n mynnu nad oes hawl pellach i fynegi barn ar fater Ewrop.  Yr un papurau sy’n bwrw sen ar blant y jyngl yn Calais, y teuluoedd sy’n croesi Môr y Canoldir am un ddihangfa ddiwethaf obeithiol, nawdd i wledydd sy’n datblygu a llwyth o faterion eraill a fyddai wedi bod yn brosiectau naturiol i gymdeithas mewn oes oedd yn gwybod beth oedd beth. 

Er mwyn hwyluso pethau, gwnaed arolwg ar ran C21 o’r grwpiau y cawn eu casáu, a hynny gyda bendith  llawn y tragwyddol.   Tra’n llwyr ymwybodol fod yr eglwys ar hyd yr oesau wedi ychwanegu grwpiau eraill o bobol i’r rhestr a newid ei blaenoriaethau o dro i dro, mae’n amlwg mai’r 10 categori isod o bobl yw’r unig rai y gallwn eu casáu gyda bendith llawn y Bod Mawr a chyd-gyfeillion C21.

Er mwyn cadarnhau y rhestr fe wnaed dadansoddiad gofalus o eiriau Iesu ac astudiaeth o draddodiad yr eglwys fyd-eang ar ei gorau. Felly dyma’r 10 categori o bobl y cewch eu casáu gydag arddeliad a brwdfrydedd a gyda bendith llawn eich cyfeillion ar C21

Y 10 GRŴP O BOBL Y CEWCH EU CASÁU GYDAG ARDDELIAD.   Ewch amdani. 

1.
2.
3.
4.
5.
6.
7.
8.
9.
10.

Dych chi wedi clywed i hyn gael  ei ddweud “Rwyt i garu dy gymydog (ac i gasáu dy elyn”).  Ond dw i’n dweud wrthoch chi: Carwch eich gelynion a gweddïwch dros y rhai sy’n eich erlid chi!

Mathew 5. 43-44

E-fwletin Hydref 23ain, 2016

Un digwyddiad, dau lyfr.

Trychineb Aberfan yw’r digwyddiad, hanner canrif yn ôl i’r mis hwn. Y cyntaf o’r llyfrau yw hunangofiant y diweddar Erastus Jones, “Croesi Ffiniau – gyda’r Eglwys yn y byd.”  Mae dwy bennod yn y llyfr yn cofnodi’i gyfnod yn Aberfan. Aeth yno yn enw ac ar ran yr eglwysi. Fel hyn mae’n crynhoi dechrau’r stori:

“Dydd Gwener, Hydrefn 21, 1966, am ddeg munud wedi naw y bore, ymollyngodd tomen 7, gwaith glo Merthyr Vale, ar y mynydd uwchlaw Aberfan. Llifodd drwy gartrefi ac ysgol. Lladdodd 144, 116 ohonynt yn blant, a difrodwyd eiddo. Gadawyd rhieni ac anwyliaid i alaru, rhai gwragedd a gwŷr gweddw, a nifer o bobl wedi eu creithio am oes yn gorfforol a meddyliol. Gan mai ysgol a ddioddefodd fwyaf, effeithiwyd ar bob stryd yn y pentref. Dilynwyd y trychineb cyntaf gan ddau arall: yr arian mawr a’i gymhlethdod aruthrol o geisio rhoi pris ar golled a chariad, a phresenoldeb didostur y wasg a’r cyfryngau eraill am flynyddoedd yn rhwystro hynt naturiol galar.”

Yr ail lyfr yw “Aberfan – a story of survival, love and community in one of Britain’s worst disasters” gan Gaynor Madgwick, yn ddisgybl wyth oed yn yr ysgol y diwrnod yna, ond a gollodd frawd a chwaer yn y trychineb. Mae cyflwyniad y newyddiadurwr Vincent Kane, oedd yn ohebydd ifanc ar y pryd, yn ddamniol o’r hyn ddigwyddodd yn y blynyddoedd yn dilyn. Ond llyfr am Gaynor yw’r llyfr, wrth iddi fynd i’r afael â dewrder, galar a ffydd. Ie, ffydd. Colli ffydd fu hanes ei rhieni, a dal gafael os nad  ail-ddarganfod ffydd wnaeth hi, er efallai nad yw’n deg ceisio dadbacio natur y ffydd yna. Ond fe fu pobl ffydd yn rhan o’i bywyd ac yn help iddi ar y daith.

Beth bynnag oedd cyfraniad Yr Eglwys i’r gymuned a ddrylliwyd, ac nid bychan y cyfraniad yna, nid arbedwyd Aberfan yn yr hanner can mlynedd diwethaf rhag y chwalfa, a chau bu hanes capeli ac eglwysi yno fel ym mhob man arall. Ond o leiaf ar y pryd, roedd rhywrai yno allai ddaearu’r daioni a’r cariad sydd wrth wraidd bywyd a neges Iesu. Ac os na allwn ni heddiw fyw felly, pa werth ein Cristnogaeth?

Un o ffrwythau’r  trychineb oedd emyn gan un o athrawon Ysgol Gyfun Afon Taf, ac mae geiriau un pennill yn oesol ac yn amserol i’r Eglwys a’r Byd:

Show the way of understanding,
Let us know each other’s thought,
Point the path of toleration,
Judging others as we ought.

(Rhag ofn fod y neges am ddarlith John Spong heb eich cyrraedd am ryw reswm, cofiwch fod y cyfarfod a oedd i fod i gael ei gynnal nos yfory yng nghapel Salem, Caerdydd, wedi ei ohirio oherwydd salwch yr esgob. Ond da deall y bydd yn ail gydio yn ei flog wythnosol http://johnshelbyspong.com/ yn fuan, ac mae’n gobeithio medru cyhoeddi o leiaf ddwy gyfrol arall dros y blynyddoedd nesaf. Dymunwn yn dda iddo.)

E-fwletin Hydref 16eg, 2016

mclaren

Brian McLaren

Braint fawr nos Lun oedd cael ymuno gyda dros ugain o selogion C21 mewn cynulleidfa o ryw 170 yng nghanol Caerdydd i wrando ar yr Americanwr hynaws Brian McLaren.  Mae ei lyfrau yn crisialu ei daith trwy ffydd a bywyd.  Wedi ei fagu mewn traddodiad cul a chaeëdig iawn, mentrodd ar ffordd fawr ffydd agored gan annog eraill i ystyried eu llwybrau hwythau.

Mae teitlau ei lyfrau yn crisialu tipyn o’i brofiad wrth symud o’r meddylfryd caeëdig at un sy’n gwerthfawrogi’r rhyfeddodau ond yn anwesu cwestiynau gymaint ag y mae’n mwynhau yr atebion. 

Roedd ei apêl am ddatblygiad ffydd gariadus agored yn eglur yn ei glasur “A Generous Orthodoxy”. Yn ymwybodol o natur y grefydd gaeëdig oedd yn cydio fwy-fwy ym myd efengylaidd America, fe alwodd am rywbeth amgenach. Galwodd am ffydd fyddai’n annog ei gyd-ddilynwyr i ymroi at egwyddorion craidd Iesu Grist mewn ffydd gariadus a chenhadol. 

Wrth i’w broffil dyfu, a’i gysylltiadau gyda moslemiaid, iddewon ac hindwiaid luosogi,  fe ddeffrowyd ef i’r hyn y gellid ei ddysgu wrth draddodiadau eraill, a’u mewnwelediad hwythau o Dduw ac o fywyd. Yng ngoleuni hyn cyhoeddodd “Why did Jesus, Moses, The Buddha and Mohammed Cross the Road?” Un o’i ganfyddiadau oedd petai’r criw rhyfeddol yma yn mynd i Starbucks am goffi gyda’i gilydd, bydden nhw’n trin ei gilydd gyda mwy o barch nag sy’n nodweddu triniaeth eu dilynwyr o’i gilydd! 

Yn ei gyhoeddiad “We make the Road by Walking”, fe symudodd i drafodaeth o bwysigrwydd “praxis” – sef y gred fod rhywun yn sefydlu eu ffydd  trwy ei hymarfer. Mae ffyrdd mawr y byd gorllewinol bron i gyd wedi eu hadeiladu ar lwybrau hynafol.  Fe grëir ffyrdd wrth eu cerdded. Neges heriol arall i’r rheiny sy’n gweld set o osodiadau diwinyddol yn bwysicach na byw ffydd.  

Ac felly at ei lyfr diweddaraf, a rheswm ei ymweliad â Chymru, “The Great Spiritual Migration:  How the world’s largest religion is seeking a better way to be Christian”. Gan wrthod y ffydd statig sydd wedi nodweddu llawer o’r ddeialog Gristnogol dros y ganrif ddiwethaf, mae’n ein herio i weld y ffydd fel taith.   Galwodd ni nos Lun i ddilyn esiampl pendiliol hoff aderyn ei blentyndod – y Barcud Cynffon Gwennol (Swallow-Tailed Kite). Galwodd arnom ni i fod yn barod i symud, er mwyn ein hunain, ein gilydd, ein tlodion a’n planed i ffydd ddyfnach a mwy cyffrous. 

“Mae Cristnogaeth wedi cyflwyno ei hunan fel system o gredoau.   Mae’r system honno wedi cefnogi ystod o ganlyniadau anfwriadol – o goloneiddio i ddistrywiad amgylcheddol, o ddi-brisio gwragedd i stigmateiddio pobl hoyw.  Beth fyddai’n ei olygu i Gristnogion ail-ddarganfod eu ffydd – nid fel system o gredoau, ond fel ffordd o fyw gyfiawn a hael, wedi ei gwreiddio mewn bywyd myfyrgar, yn cael ei mynegi mewn gweithredu sy’n ceisio gwneud yn iawn am gamgymeriadau, ac sydd wedi ei chysegru i creu cymuned gariadus i bawb?”  

“Waw”, meddwn i. Mae ambell siaradwr wir gwerth gwrando arnynt. Diolch Brian McLaren.

E-fwletin Hydref 10fed, 2016

Canllawiau Dehongli?

Wrth drafod effeithiau’r gwrthdaro rhwng Arminiaid a Chalfiniaid ar yr hen academïau ymneilltuol cywira Dewi Eirug Davies (Hoff Ddysgedig Nyth) un dybiaeth gyffredin ymhlith Cristnogion, sef mai’r Beibl yw unig sail eu ffydd. Yn ôl y Prifathro, ni all y gosodiad hwn fod yn hollol gywir gan fod Armin a Chalfin y cyfnod hwnnw, fel Cristnogion unrhyw gyfnod arall, yn selio’u credo ar eu dehongliadau gwahanol o’r ysgrythur.

Yn wyneb y ffaith bod dehongliadau Beiblaidd yn amrywio cymaint ac ar adegau’n ymddangos yn begynnol i’w gilydd mae’n briodol gofyn, “A oes y fath beth â dehongliad cywir, dilys a safonol o’r Beibl? Os felly, pa ganllawiau sydd ar gael i sicrhau bo’r dehonglwr yn cael ei hebrwng ganddynt i’w waith?”

Mae’n werth cofio, mae’n siŵr, nad oedd Iesu’n ail i neb fel dehonglwr ysgrythurol ac i’w ddehongliadau beri cryn drafferth i ddehonglwyr cydnabyddedig ei gyfnod. Er hynny, nid anwybodus mohono ynghylch gwaith dehonglwyr eraill a chawn ef ar dro yn oedi gyda hwynt uwchben adran o’r Ysgrythur.

Cymerer, er enghraifft, drafodaeth Iesu ag athro’r Gyfraith yn y rhagymadrodd i ddameg y Samariad Trugarog. Daw’n hysbys, â Iesu’n ymateb i gwestiwn â chwestiwn, drachefn a thrachefn, mai gwaith caib a rhaw yw dehongli’r Beibl. Ofer ceisio’r amlwg, yr uniongyrchol a’r parod. Rhaid colli chwŷs a chloddio oherwydd nid ar chwarae bach y mae datgan, ‘Fel hyn y dywed y Beibl.’ Yn wir, mai lle i gredu nad gosodiad felly yw pennaf diddordeb Iesu. Gŵyr ef cystal â’r nesaf beth yw ei gynnwys. Gorwedd diddordeb Iesu yn y dehongliad. ‘Beth a ddarlleni di yno?’ Ceir mwy nag awgrym bod dehongliad y ddau’n gwahaniaethu. A dderbyniodd yr athro ddehongliad Iesu, tybed? A wnaeth e’ ufuddhau i’r gorchymyn,‘Dos, a gwna dithau yr un modd. Mae tipyn o daith, mwy ymhob ystyr na’r un o Jerwsalem i Jericho, rhwng darllen y Beibl a gweithredu trugaredd i’r anhysbys, ddieithr, un tu fa’s i’n gwersyll. Hynny, wedi’r cyfan, onid e, sy’n dilysu’n dehongliadau.

E-fwletin Hydref 2il, 2016

E-fwletin Hydref 2il, 2016

Marw Iesu

Tystia’r bedair efengyl i Iesu gael ei ddienyddio. Iddo ddioddef dan Pontius Pilat, a’i ladd, sy’n ffaith gaiff gryn ofod gan eu hawduron. A chofio’r lle amlwg canolog sydd i wythnos olaf Iesu yn yr efengylau, a’u portreadau byw o’i fywyd yn ei ddiwrnodau a’i oriau olaf, mae’n syndod meddwl bod Cristnogion, yn eu hymdrechion i ddehongli marwolaeth Iesu, yn gallu esgeuluso, os nad anwybyddu’n fynych,  y rhesymau hanesyddol dros ei hoelio ar groes.   

Cedwid y groes ar gyfer troseddwyr a fygythiai’r wladwriaeth. Teyrnfradwriaeth fyddai’n arwain person i’w ddiwedd arni.  Annheyrngarwch Iesu  i Dduw oedd gofid yr awdurdod Iddewig a’i ddiffyg teyrngarwch i Cesar oedd gofid y Rhufeiniaid.  O’r foment yr ildiodd Iesu ei hunan yn gyhoeddus  i frenhiniaeth Duw, i fyw bywyd y deyrnas a chyhoeddi ei neges, roedd ganddo  elynion, a  gelyniaeth y byddai’n brwydro â hi hyd at angau, ie, angau ar groes.

Nid amhriodol sylw Marcus Borg, i Iesu, yng ngoleuni’r efengylau, ddioddef croeshoeliad  ‘because he was a social prophet and movement initiator, a passionate advocate of God’s justice, and radical critic of the domination system who had attracted a following.’  Fe’i lladdwyd o ganlyniad i’w ffordd o fyw.  Mae Elfed ar ei gwar hi, siwr,  wrth  nodi yn ei emyn (Can. Ffydd 365) bod Iesu, yn ei fyw a’i farw, drosom ni.  Iesu Galilea yn ogystal â Iesu Jerwsalem, y Bregeth ar y Mynydd yn ogystal â’r Groes.

Enghraifft o golli golwg ar hynny yw sylw’r efengylydd Franklin Graham (nodir gan Morgan Guyton yn y gyfrol, How Jesus Saves the World from Us), yn wyneb camdriniaeth a marwolaeth Sandra Bland o dan law yr heddlu yn Texas yn 2015. ‘Listen up – Blacks, Whites, Latinos, and everybody else. Most police shootings can be avoided. It comes down to respect for authority and obedience. If a police officer tells you to stop, you stop…. tells you to put your hands in the air, you put your hands in the air, … tells you to lay face down first with your hands behind your back, you lay [sic] down face first with your hands behind your back. It’s as simple as that. Even if you think the police officer is wrong – YOU OBEY.’ Tybed?

Beth wna’r meddylfryd uchod yw codi’r groes o ddaear Golgotha a’i throi’n ddigwyddiad tu fa’s i hanes (ahistorical) gyda Iesu’n grogi arni, bellach, nid o ganlyniad i’w brawf gerbron Caiaffas, Herod a Philat ond fel troseddwr gerbron Duw, a’i ddedfrydu fel un ‘yn haeddu marwolaeth’, nid am i’w ufudd-dod i Dduw beri gwrthdaro rhyngddo ag awdurdodau ei ddydd, ond am i’w uniaethiad â’r ddynoliaeth anufudd weiddi am ei daro, nid â hoelion Rhufain, ond ‘â chleddyf ei dad’.

I Iesu fyw a marw drosom sydd ddim amheuaeth.