E-fwletin Hydref 10fed, 2016

Canllawiau Dehongli?

Wrth drafod effeithiau’r gwrthdaro rhwng Arminiaid a Chalfiniaid ar yr hen academïau ymneilltuol cywira Dewi Eirug Davies (Hoff Ddysgedig Nyth) un dybiaeth gyffredin ymhlith Cristnogion, sef mai’r Beibl yw unig sail eu ffydd. Yn ôl y Prifathro, ni all y gosodiad hwn fod yn hollol gywir gan fod Armin a Chalfin y cyfnod hwnnw, fel Cristnogion unrhyw gyfnod arall, yn selio’u credo ar eu dehongliadau gwahanol o’r ysgrythur.

Yn wyneb y ffaith bod dehongliadau Beiblaidd yn amrywio cymaint ac ar adegau’n ymddangos yn begynnol i’w gilydd mae’n briodol gofyn, “A oes y fath beth â dehongliad cywir, dilys a safonol o’r Beibl? Os felly, pa ganllawiau sydd ar gael i sicrhau bo’r dehonglwr yn cael ei hebrwng ganddynt i’w waith?”

Mae’n werth cofio, mae’n siŵr, nad oedd Iesu’n ail i neb fel dehonglwr ysgrythurol ac i’w ddehongliadau beri cryn drafferth i ddehonglwyr cydnabyddedig ei gyfnod. Er hynny, nid anwybodus mohono ynghylch gwaith dehonglwyr eraill a chawn ef ar dro yn oedi gyda hwynt uwchben adran o’r Ysgrythur.

Cymerer, er enghraifft, drafodaeth Iesu ag athro’r Gyfraith yn y rhagymadrodd i ddameg y Samariad Trugarog. Daw’n hysbys, â Iesu’n ymateb i gwestiwn â chwestiwn, drachefn a thrachefn, mai gwaith caib a rhaw yw dehongli’r Beibl. Ofer ceisio’r amlwg, yr uniongyrchol a’r parod. Rhaid colli chwŷs a chloddio oherwydd nid ar chwarae bach y mae datgan, ‘Fel hyn y dywed y Beibl.’ Yn wir, mai lle i gredu nad gosodiad felly yw pennaf diddordeb Iesu. Gŵyr ef cystal â’r nesaf beth yw ei gynnwys. Gorwedd diddordeb Iesu yn y dehongliad. ‘Beth a ddarlleni di yno?’ Ceir mwy nag awgrym bod dehongliad y ddau’n gwahaniaethu. A dderbyniodd yr athro ddehongliad Iesu, tybed? A wnaeth e’ ufuddhau i’r gorchymyn,‘Dos, a gwna dithau yr un modd. Mae tipyn o daith, mwy ymhob ystyr na’r un o Jerwsalem i Jericho, rhwng darllen y Beibl a gweithredu trugaredd i’r anhysbys, ddieithr, un tu fa’s i’n gwersyll. Hynny, wedi’r cyfan, onid e, sy’n dilysu’n dehongliadau.