E-fwletin Hydref 16eg, 2016

mclaren

Brian McLaren

Braint fawr nos Lun oedd cael ymuno gyda dros ugain o selogion C21 mewn cynulleidfa o ryw 170 yng nghanol Caerdydd i wrando ar yr Americanwr hynaws Brian McLaren.  Mae ei lyfrau yn crisialu ei daith trwy ffydd a bywyd.  Wedi ei fagu mewn traddodiad cul a chaeëdig iawn, mentrodd ar ffordd fawr ffydd agored gan annog eraill i ystyried eu llwybrau hwythau.

Mae teitlau ei lyfrau yn crisialu tipyn o’i brofiad wrth symud o’r meddylfryd caeëdig at un sy’n gwerthfawrogi’r rhyfeddodau ond yn anwesu cwestiynau gymaint ag y mae’n mwynhau yr atebion. 

Roedd ei apêl am ddatblygiad ffydd gariadus agored yn eglur yn ei glasur “A Generous Orthodoxy”. Yn ymwybodol o natur y grefydd gaeëdig oedd yn cydio fwy-fwy ym myd efengylaidd America, fe alwodd am rywbeth amgenach. Galwodd am ffydd fyddai’n annog ei gyd-ddilynwyr i ymroi at egwyddorion craidd Iesu Grist mewn ffydd gariadus a chenhadol. 

Wrth i’w broffil dyfu, a’i gysylltiadau gyda moslemiaid, iddewon ac hindwiaid luosogi,  fe ddeffrowyd ef i’r hyn y gellid ei ddysgu wrth draddodiadau eraill, a’u mewnwelediad hwythau o Dduw ac o fywyd. Yng ngoleuni hyn cyhoeddodd “Why did Jesus, Moses, The Buddha and Mohammed Cross the Road?” Un o’i ganfyddiadau oedd petai’r criw rhyfeddol yma yn mynd i Starbucks am goffi gyda’i gilydd, bydden nhw’n trin ei gilydd gyda mwy o barch nag sy’n nodweddu triniaeth eu dilynwyr o’i gilydd! 

Yn ei gyhoeddiad “We make the Road by Walking”, fe symudodd i drafodaeth o bwysigrwydd “praxis” – sef y gred fod rhywun yn sefydlu eu ffydd  trwy ei hymarfer. Mae ffyrdd mawr y byd gorllewinol bron i gyd wedi eu hadeiladu ar lwybrau hynafol.  Fe grëir ffyrdd wrth eu cerdded. Neges heriol arall i’r rheiny sy’n gweld set o osodiadau diwinyddol yn bwysicach na byw ffydd.  

Ac felly at ei lyfr diweddaraf, a rheswm ei ymweliad â Chymru, “The Great Spiritual Migration:  How the world’s largest religion is seeking a better way to be Christian”. Gan wrthod y ffydd statig sydd wedi nodweddu llawer o’r ddeialog Gristnogol dros y ganrif ddiwethaf, mae’n ein herio i weld y ffydd fel taith.   Galwodd ni nos Lun i ddilyn esiampl pendiliol hoff aderyn ei blentyndod – y Barcud Cynffon Gwennol (Swallow-Tailed Kite). Galwodd arnom ni i fod yn barod i symud, er mwyn ein hunain, ein gilydd, ein tlodion a’n planed i ffydd ddyfnach a mwy cyffrous. 

“Mae Cristnogaeth wedi cyflwyno ei hunan fel system o gredoau.   Mae’r system honno wedi cefnogi ystod o ganlyniadau anfwriadol – o goloneiddio i ddistrywiad amgylcheddol, o ddi-brisio gwragedd i stigmateiddio pobl hoyw.  Beth fyddai’n ei olygu i Gristnogion ail-ddarganfod eu ffydd – nid fel system o gredoau, ond fel ffordd o fyw gyfiawn a hael, wedi ei gwreiddio mewn bywyd myfyrgar, yn cael ei mynegi mewn gweithredu sy’n ceisio gwneud yn iawn am gamgymeriadau, ac sydd wedi ei chysegru i creu cymuned gariadus i bawb?”  

“Waw”, meddwn i. Mae ambell siaradwr wir gwerth gwrando arnynt. Diolch Brian McLaren.