Un digwyddiad, dau lyfr.
Trychineb Aberfan yw’r digwyddiad, hanner canrif yn ôl i’r mis hwn. Y cyntaf o’r llyfrau yw hunangofiant y diweddar Erastus Jones, “Croesi Ffiniau – gyda’r Eglwys yn y byd.” Mae dwy bennod yn y llyfr yn cofnodi’i gyfnod yn Aberfan. Aeth yno yn enw ac ar ran yr eglwysi. Fel hyn mae’n crynhoi dechrau’r stori:
“Dydd Gwener, Hydrefn 21, 1966, am ddeg munud wedi naw y bore, ymollyngodd tomen 7, gwaith glo Merthyr Vale, ar y mynydd uwchlaw Aberfan. Llifodd drwy gartrefi ac ysgol. Lladdodd 144, 116 ohonynt yn blant, a difrodwyd eiddo. Gadawyd rhieni ac anwyliaid i alaru, rhai gwragedd a gwŷr gweddw, a nifer o bobl wedi eu creithio am oes yn gorfforol a meddyliol. Gan mai ysgol a ddioddefodd fwyaf, effeithiwyd ar bob stryd yn y pentref. Dilynwyd y trychineb cyntaf gan ddau arall: yr arian mawr a’i gymhlethdod aruthrol o geisio rhoi pris ar golled a chariad, a phresenoldeb didostur y wasg a’r cyfryngau eraill am flynyddoedd yn rhwystro hynt naturiol galar.”
Yr ail lyfr yw “Aberfan – a story of survival, love and community in one of Britain’s worst disasters” gan Gaynor Madgwick, yn ddisgybl wyth oed yn yr ysgol y diwrnod yna, ond a gollodd frawd a chwaer yn y trychineb. Mae cyflwyniad y newyddiadurwr Vincent Kane, oedd yn ohebydd ifanc ar y pryd, yn ddamniol o’r hyn ddigwyddodd yn y blynyddoedd yn dilyn. Ond llyfr am Gaynor yw’r llyfr, wrth iddi fynd i’r afael â dewrder, galar a ffydd. Ie, ffydd. Colli ffydd fu hanes ei rhieni, a dal gafael os nad ail-ddarganfod ffydd wnaeth hi, er efallai nad yw’n deg ceisio dadbacio natur y ffydd yna. Ond fe fu pobl ffydd yn rhan o’i bywyd ac yn help iddi ar y daith.
Beth bynnag oedd cyfraniad Yr Eglwys i’r gymuned a ddrylliwyd, ac nid bychan y cyfraniad yna, nid arbedwyd Aberfan yn yr hanner can mlynedd diwethaf rhag y chwalfa, a chau bu hanes capeli ac eglwysi yno fel ym mhob man arall. Ond o leiaf ar y pryd, roedd rhywrai yno allai ddaearu’r daioni a’r cariad sydd wrth wraidd bywyd a neges Iesu. Ac os na allwn ni heddiw fyw felly, pa werth ein Cristnogaeth?
Un o ffrwythau’r trychineb oedd emyn gan un o athrawon Ysgol Gyfun Afon Taf, ac mae geiriau un pennill yn oesol ac yn amserol i’r Eglwys a’r Byd:
Show the way of understanding, Let us know each other’s thought, Point the path of toleration, Judging others as we ought.
(Rhag ofn fod y neges am ddarlith John Spong heb eich cyrraedd am ryw reswm, cofiwch fod y cyfarfod a oedd i fod i gael ei gynnal nos yfory yng nghapel Salem, Caerdydd, wedi ei ohirio oherwydd salwch yr esgob. Ond da deall y bydd yn ail gydio yn ei flog wythnosol http://johnshelbyspong.com/ yn fuan, ac mae’n gobeithio medru cyhoeddi o leiaf ddwy gyfrol arall dros y blynyddoedd nesaf. Dymunwn yn dda iddo.)