E-fwletin Hydref 30ain, 2016
Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn un anodd i ddemocratiaeth.
Mewn llai na phythefnos cawn wybod pwy fydd arlywydd newydd America, wedi blwyddyn o gecru a chreu drwgdeimlad anghyffredin yn erbyn grwpiau o bobl. Mae’n ymddangos mai prin yw’r bobl hynny sy’n fodlon mabwysiadu mantra Michelle Obama, “When they aim low, we’ll aim high”.
Yr ochr hyn i’r Iwerydd mae nifer ohonom wedi blino ar gael ein galw’n “Remoaners” gan ambell bapur newydd, sy’n mynnu nad oes hawl pellach i fynegi barn ar fater Ewrop. Yr un papurau sy’n bwrw sen ar blant y jyngl yn Calais, y teuluoedd sy’n croesi Môr y Canoldir am un ddihangfa ddiwethaf obeithiol, nawdd i wledydd sy’n datblygu a llwyth o faterion eraill a fyddai wedi bod yn brosiectau naturiol i gymdeithas mewn oes oedd yn gwybod beth oedd beth.
Er mwyn hwyluso pethau, gwnaed arolwg ar ran C21 o’r grwpiau y cawn eu casáu, a hynny gyda bendith llawn y tragwyddol. Tra’n llwyr ymwybodol fod yr eglwys ar hyd yr oesau wedi ychwanegu grwpiau eraill o bobol i’r rhestr a newid ei blaenoriaethau o dro i dro, mae’n amlwg mai’r 10 categori isod o bobl yw’r unig rai y gallwn eu casáu gyda bendith llawn y Bod Mawr a chyd-gyfeillion C21.
Er mwyn cadarnhau y rhestr fe wnaed dadansoddiad gofalus o eiriau Iesu ac astudiaeth o draddodiad yr eglwys fyd-eang ar ei gorau. Felly dyma’r 10 categori o bobl y cewch eu casáu gydag arddeliad a brwdfrydedd a gyda bendith llawn eich cyfeillion ar C21
Y 10 GRŴP O BOBL Y CEWCH EU CASÁU GYDAG ARDDELIAD. Ewch amdani.
1. 2. 3. 4. 5. 6. 7. 8. 9. 10.
Dych chi wedi clywed i hyn gael ei ddweud “Rwyt i garu dy gymydog (ac i gasáu dy elyn”). Ond dw i’n dweud wrthoch chi: Carwch eich gelynion a gweddïwch dros y rhai sy’n eich erlid chi!
Mathew 5. 43-44