Dechrau Tachwedd 2il
CRISTNOGAETH 21
Cylch Morlan Aberystwyth
– Tymor Hydref 2016
Chwech nos Fercher: Tach 2 – Rhag 7ed
7.30pm
ADDOLI – PAM A SUT?
Beth ydyn ni’n chwilio amdano mewn gwasanaeth cyhoeddus? Beth yw ystyr ‘cael bendith”? Ydyn ni’n disgwyl ei gael? Yng ngoleuni ein profiadau personol fe fyddwn dros gyfnod o 6 wythnos yn ystyried yr angen am drefn a phatrwm: am ystwythder a defod: dysgu a rhyfeddu; gweddi a meddwl: cerdd a llygad; gair a llun: Beibl ac emyn: rhydd a chaeth: defodol ac arweiniad yr ysbryd: pregeth - trafod. Fe ystyriwn ein gwahanol draddodiadau, y gwahaniaeth rhwng defosiwn personol, cylch gweddi bychan preifat, addoli mewn lle cyhoeddus, a’r peth prin hwnnw, y gynulleidfa fawr! Awn ati i arbrofi a llunio patrymau a sgriptiau ar gyfer gwahanol wasanaethau ac, ar ddiwedd y cwrs, eu defnyddio.
YMUNWCH Â NI I DORRI TIR NEWYDD.