Cymdeithas Dyneiddwyr Cymru

E-fwletin Rhagfyr 4,2016
Cymdeithas Dyneiddwyr Cymru

Nos Fercher diwethaf yn adeilad Senedd Cymru ym Mae Caerdydd lansiwyd Cymdeithas Dyneiddwyr Cymru. Gobaith y Gymdeithas yw atal ysgolion rhag cynnal gwasanaethau crefyddol, cynnig cymorth i deuluoedd drefnu dathliadau di-grefydd addas ar gyfer dechrau a diwedd oes, yn ogystal â phriodasau, a cheisio perswadio pobl i dderbyn y byd a’i bethau yn ôl ein dealltwriaeth ohonynt heddiw ar sail darganfyddiadau gwyddonol.

Beth ddylai ymateb Cristnogion fod i sefydlu’r Gymdeithas hon tybed? Ai ei gweld hi fel bygythiad arall i genadwri’r eglwys, yn arf arall i ymosod ar achos sydd eisoes yn gwegian dan ergydion secwlar?

Neu tybed a ddylem fel dilynwyr Iesu Grist groesawu’r datblygiad hwn, a gweld y Gymdeithas fel llais a all ein helpu ni i adnabod ein hunain – ac i ddiffinio ein hunain yn well?

spong

Yr Esgob John Spong

Mae’n ddiddorol cofio yn y cyd-destun hwn bod yr Esgob John Shelby Spong (un o arwyr  llawer iawn o gefnogwyr Cristnogaeth 21, ac a oedd i fod i ddod atom i ddarlithio ddiwedd Hydref cyn iddo gael ei daro’n wael), wedi ei anrhydeddi â Gwobr Rhyddid Crefyddol gan Gymdeithas Dyneiddwyr America yn ei Chynhadledd Flynyddol yn gynharach eleni. Wrth groesawu’r anrhydedd hwn, dywedodd Spong ei fod, dros gyfnod o flynyddoedd, wedi derbyn un-ar-bymtheg o fygythiadau i’w ladd – a’r rheini, nid gan wrthwynebwyr i’r ffydd Gristnogol, ond gan rai a hawliai eu bod yn gredinwyr uniongred Cristnogol. Deilliodd y bygythiadau hyn o’r ffaith bod Spong yn ymwrthod â safbwyntiau rhagfarnllyd Cristnogol, er enghraifft yn erbyn merched a phobl hoyw, ac athrawiaethau Cristnogol sydd wedi eu gwrth-brofi yn wyddonol.

Fel Spong, byddai llawer ohonom sy’n dal i ystyried ein hunain yn Gristnogion yn barod i gefnogi a derbyn casgliadau ymchwil wyddonol sy’n ein helpu ni i ymgyrraedd at y gwirionedd amdanom ein hunain a’n hamgylchfyd, ac i gydnabod yr angen i ni fod yn llawer mwy cyfrifol a chydwybodol ynghylch yr effaith y mae’n ffordd o fyw yn ei chael ar y cread.

Yn yr ystyr yna byddem yn teimlo’n llawer agosach at ddyneiddwyr nag at y Cristnogion hynny sy’n gwrthod derbyn darganfyddiadau  gwyddonol megis esblygiad a’r ffaith bod cynhesu byd-eang yn ganlyniad dylanwad dynol.

Yng ngoleuni hynny gallai sefydlu Cymdeithas Dyneiddwyr Cymru fod yn symbyliad gwerthfawr i ffrindiau a chefnogwyr Cristnogaeth 21, yn enwedig os gellir meithrin trafodaeth rhyngom a’n gilydd. Felly, gyda phob diffuantrwydd, dymunwn yn dda i’r Gymdeithas newydd hon.

(Fe welwch ein bod wedi ychwanegu teyrnged i goffadwriaeth y diweddar Gethin Abrahan-Williams yn y rhifyn cyfredol o Agora. Medrwch ei darllen YMA)