Archifau Categori: E-Fwletin

E-fwletin Wythnosol

E-fwletin Ebrill 23ain, 2017

Llysenwau

Mae rhai yn hanes wedi cael llysenw.  Rhai hyfryd, fel Dewi Sant, rhai ofnadwy fel Ivan the Terrible. Mae enghreifftiau yn y Testament Newydd.  Mewn wythnos sy’n dilyn y Pasg addas sylwi ar un a dyfodd allan o hanes am yr Atgyfodiad, sef Tomos yr Anghredadun.
 
Yr oedd gan Tomos lysenw’n barod, Tomos yr Efaill, ond ‘yr Anghredadun’ sy’n aros.  Diddorol ystyried a oedd y bobl a gafodd lysenw yn y gorffennol yn ei haeddu.  Beth am Tomos i ddechrau? 
 
Ymddangosodd yr Iesu atgyfodedig i rai o’i ddilynwyr un tro, a Tomos yn absennol.  Pan glywodd Tomos, dywedodd na chredai ef fod Iesu’n fyw heb weld ôl yr hoelion yn ei ddwylo, a’u cyffwrdd, a rhoi ei law yn ei ystlys. Sawl pregeth a luniwyd ar sail un esboniad o’r hanes hwnnw, yn dangos Tomos fel person materol a fynnai brofi popeth drosto’i hun?  Gwelais erthygl felly mewn papur enwadol yr wythnos ddiwethaf.  
 

“Tomos yr Anghredadun” – Llun enwog Caravaggio

Ond yn ôl rhai ysgolheigion, yr oedd agenda gan awdur Ioan, sydd wedi llywio’r stori am Tomos uchod, a hefyd yr oedd heresi y bu rhaid i’r Cristnogion cynnar ei hymladd, sef y gred mai ysbryd ac nid corff oedd yr Iesu atgyfodedig.  Yn ôl rhai, felly, eisiau sicrhau oedd Tomos, nad Iesu ffug oedd yr Iesu atgyfodedig.  Mae hefyd hanesyn arall sy’n awgrymu nad un gorochelgar oedd Tomos, ond un parod, beiddgar (Ioan 11, 1-16).  A gafodd Tomos gam dros y canrifoedd?
      
Mae llawer yn ei chael hi’n anodd osgoi ffurfio barn am eraill, ac nid yn unig gall eiddigedd a dicter ac agenda personol ac ati fod yn rhan o’u barn, ond fe all eu gwybodaeth am eraill fod yn arwynebol hefyd, felly mae camfarnu dynol yn broses anochel a pharhaol.
 
Nid unigolion yn unig sy’n cael ‘llysenw’.  Pan oeddwn i’n blentyn droeon clywais Iddewon yn cael eu disgrifio fel cenedl ‘ariangar’.  Onid yw’r meddylfryd esgeulus hwnnw’n rhan o bob hilyddiaeth?  Ac onid hilyddiaeth yw un o broblemau arswydus ein byd cyfoes?  Nid yr unig un wrth gwrs.
 
Mae’r Atgyfodiad yn fater aruthrol, ond o 89 pennod yr efengylau, dim ond 4 sy’n trafod yr Atgyfodiad, ac mae eu cymhlethdod yn fwy o broblem na’u byrder.  Ni anela’r awduron at drafod yr hyn a ddigwyddodd yn y bedd, er enghraifft.  (Sut mae trafod rhywbeth na ddaethpwyd ar ei draws erioed cynt?)  Ac nid ceisio rhoi gwarant bersonol i bawb bod bywyd wedi angau a wnai’r awduron.  Yr hyn a anelent ato oedd   rhoi cyfres o ddarluniau’n disgrifio’r hyn a ddeallent hwy orau am yr Atgyfodiad, sef patrymau gwahanol y math ar gymuned newydd a’i dilynodd.   Pan anelwn ninnau at greu cymunedau felly, cymunedau sy’n parchu pob enaid, er enghraifft,  ac sy’n rhoi i bawb ei lawn werth, heb ei fychanu’n esgeulus, yna gallwn ninnau barhau grym yr Atgyfodiad, a chyfrannu at greu gwell byd.  
 

E-fwletin Sul y Pasg

Rwy’n ysgrifennu’r geiriau hyn ar ddydd Gwener y Groglith, diwrnod pan fyddwn ni Gristnogion yn ymwybodol o ddioddefaint Iesu ar ddiwedd ei oes. Teimlais ers amser yn anniddig gyda rhai mathau ar sôn am ddioddefaint Iesu. Mae cof gennyf ddarllen ‘slawer dydd am sectau Cristnogol yn y canrifoedd cynnar yn cosbi eu cyrff – fel ffordd o ddilyn Iesu. O dro i dro teimlais fod rhai Cristnogion cyfoes hefyd yn gweld rhinwedd mewn dioddefaint ynddo’i hun.

Ond yn 1970, mewn ymateb i’r pwyslais hwn o bosibl, cyhoeddwyd gan yr United Church Press a’r National Catholic Reporter lyfr o erthyglau gan awduron gwahanol o dan y teitl ‘Creative Suffering’. Ysgrifennodd un ar boen corfforol, un arall ar faich penderfyniadau mawr, un arall am y straen o aros mewn eglwys na allai gytuno â hi mwyach, a soniodd un gwyddonydd blaenllaw am yr ing o feddu atebion i anghenion dynol, na chant eu defnyddio.

Alan Paton (1903 -1988)

Un o’r awduron oedd Alan Paton, awdur y llyfr ‘Cry, the Beloved Country’, llyfr enwog a dylanwadol iawn yn nyddiau’r terfysg hir a phoenus ynghylch apartheid yn Ne Affrica. Ysgrifennodd ef am rai o’i ffrindiau Cristnogol gwyn yn Ne Affrica a oedd yn ailddarganfod yr Efengyl yn y cyffro yno ar y pryd, ac o ganlyniad a oedd yn ceisio cael y drefn yn Ne Affrica i roi mwy o le a sylw i’r duon yno. Ond gallai gweithgarwch o’r natur hwnnw arwain at ddioddefaint. Eto, medd Paton, mae’n ddiddorol sylwi, wrth ysgrifennu am faterion felly, nad ysgrifennu am ddioddefaint y bydd rhywun mewn gwirionedd, ond am fyw, am garu, am roi – dyna’r amcan, ac weithiau dioddefaint yw rhan o’r pris i’w dalu am hynny.

Soniodd y bardd Gwyddelig Patrick Kavanagh am ‘wild moments’. Mae gan ein byd ni ei ‘wild moments’. Gwener y Groglith yw’r diwrnod i gofio ‘our world’s wildest moment’, pan wnaeth mab i saer, Iesu bar Joseph, Rabi Iddewig, drwy fyw, caru a rhoi, costied a gostio, wneud ei hun uwchlaw neb arall erioed yn offeryn creadigrwydd Duw. Arweiniodd hynny at yr Atgyfodiad, wrth gwrs, digwyddiad a esgorodd ar fôr o obaith yn ein byd – ‘a laugh released for ever and ever’ medd Kavanagh eto.

A beth amdanom ni? Weithiau, medd Paton, ni fyddai fy ffrindiau’n newid unrhyw gyfraith, nac yn meddalu unrhyw arfer creulon, ond gwnaent y wlad yn well lle i fyw ynddi, gan droi gwlad o ofn a braw yn wlad o ddewrder hefyd. A’i roi mewn iaith grefyddol, meddai, gwnaethant eu hunain yn ‘offerynnau i greadigrwydd Duw.’

Os ildiwn ninnau i ‘wild moment’ y croeshoeliad, gallwn ninnau efallai fyw a charu a rhoi , costied a gostio, a thrwy hynny wneud ein byd yn well lle, cynnig i’n pentref global y mae cymaint o drais a thwyll ynddo ar hyn o bryd, ddewrder a ffydd.

Is-deitl y llyfr yr ysgrifennodd  Alan Paton ynddo oedd ‘Ripples of Hope’.

E-fwletin Sul y Blodau

Awelon yr Atgyfodiad

Mae’n Sul y Blodau ac mae cynulleidfaoedd ar draws y byd yn paratoi ar gyfer taith yr Wythnos Fawr tuag at yr Atgyfodiad.

Mewn pentref bach di-nod mewn cwm diarffordd yng Ngheredigion (galwn ni fe’n Llan-llwm) mae’r blodau ar y beddi’n barod ac mae cynulleidfaoedd Penuel a Seion yn dod ynghyd am yr untro yn y flwyddyn i ail berfformio defod y Gymanfa Ganu Unedig; defod a gyflwynwyd i’r ardal gan Ieuan Gwyllt (neb llai) ganrif a hanner yn ôl. Mae’n cael ei pherfformio fwy neu lai i’r union un ddoted cwefyr byth ers hynny.

Bydd dim côr yn y galeri eleni eto, fel a fu flynyddoedd yn ôl, ond fe fydd cryn obeithio ymhlith y dau ddwsin ffyddlon o frodorion y cwm y daw rhai o gantorion selog y broydd cyfagos i chwyddo’r gân yn ôl eu harfer – chwarae teg iddyn nhw. Bydd yna ambell emyn modern yn y Detholiad – wel, beirdd a welodd yr ugeinfed ganrif os nad yr unfed ganrif ar hugain. Ond stwff y ddeunawfed ganrif yw‘r ffefrynnau bob tro, wrth gwrs. Yn y rheini ‘ych chi’n cael ei morio hi – nid bod pawb yn deall y geiriau erbyn hyn, wrth reswm. A bydd canu mawr ar Williams eleni, garantîd.

Ar ddiwedd yr wythnos fe fydd Gwasanaeth y Groglith yn cael ei gynnal yn yr Eglwys – yr un pryd â chwrdd gweddi Penuel, yn ôl yr arfer. A chofiwch, fydd yna ddim gwasanaeth Sul y Pasg yn Seion eleni – mae cymaint ar eu gwyliau ar yr adeg yma o’r flwyddyn, on’d o‘s e?

Yn y cyfamser, ar ochr arall y cefndeuddwr yn Nyffryn Aeron, bydd holl eglwysi a chapeli’r dyffryn yn cydweithio a chydaddoli yn ystod yr Wythnos Fawr – yr Eglwys yng Nghymru, Annibynwyr ac Undodwyr – ac unrhyw un arall sydd â diddordeb o ran hynny.

Ar Sul y Blodau bydd gorymdaith ‘Dilyn yr Asyn’ o un man addoliad i’r llall am 1.00p.m., gyda sgwrs rhwng Huw Edwards ac Euros Lewis i ddilyn yn Theatr Felin-fach am 3.30p.m..

‘Panto Pantycelyn’, gan griw direidus Troed-y-rhiw a Garn-fach, yw’r arlwy ar gyfer nos Fawrth yn Neuadd Goffa Felin-fach; a nos Fercher bydd Dafydd Iwan yn cyflwyno cân, straeon a myfyrdod yn Nhafarn y Vale. Ceir Gwasanaeth Seder yn Eglwys Fach, Cribyn, ar nos Iau Cablyd am 7.00yh.

Bore Gwener y Groglith bydd gorymdaith arall yn dilyn Llwybr y Groes o Ysgol Felin-fach i Eglwys Ystrad Aeron. Cewch gyfle i groesawu’r wawr ar fore Sul yn Pasg am 6.00yb, eto yn Eglwys Ystrad. A daw’r cyfan i uchafbwynt gyda Chymanfa yng Nghapel Tynygwndwn ar nos Sul gyda’r telynor ifanc lleol Llywelyn Ifan Jones, ynghyd â phlant a phobl ifanc Tynygwndwn.

Y mudiad lleol at ein gilydd/gyda’n gilydd sy’n trefnu. Mae’r manylion llawn i’w canfod ar y We ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ymhle fydd awelon yr Atgyfodiad i’w deimlo eleni yng Ngheredigion ‘sgwn i?

E-fwletin Ebrill 2il, 2017

Araf y tipiau’r cloc…

Gydag ethol Donald Trump yn Arlywydd ar UDA mae’n debyg bod bysedd ‘cloc dydd y farn’ (The Doomsday Clock) wedi cerdded hanner munud yn nes at hanner nos. Mae’r cloc yn ddyfais a ddefnyddir gan Fwletin y Gwyddonwyr Niwclear i arwyddo difrifoldeb y peryglon sy’n wynebu’r byd o ganlyniad i ddatblygiadau amgylcheddol a gwleidyddol a statws arfau niwclear. Ar ddechrau Ionawr symudwyd y bys mawr i ddwy funud a hanner i hanner nos.

Os nad ydy hynny’n ddigon i anfon ias lawr eich cefn chi, ‘sgwn i beth fydd yr asesiad Ionawr nesaf os gaiff Trump ei ffordd a dileu llawer iawn o’r mesurau amgylcheddol cadarnhaol a gyflwynwyd gan ei ragflaenydd, Barak Obama? Wedi methiant ei ymgais i ddileu ‘Obamacare’, ymddengys mai rheoliadau amgylcheddol yw ei darged nesaf.

Mae’n debyg bod y sbectrwm o wybodaeth ac ymwybyddiaeth ynghylch materion ‘gwyrdd’ yn UDA yn eang iawn – o’r chwith amgylcheddol a gynrychiolir gan bobl megis Al Gore, Michael Moore, Bernie Sanders ac eraill i ladmeryddion llafar a chroch sancteiddrwydd y farchnad rydd ar yr asgell dde. Dyma gynulleidfa Trump, wrth reswm. Gwae i hyd yn oed dyfodol y blaned ddod rhyngddyn nhw â’u ‘hawl’ i wneud elw.

Mae yna ffrwd gadwraethol yn ein crefydda fel Cristnogion, on’d oes? Ry’n ni i gyd wedi bod mewn gwasanaethau sy’n dathlu rhyfeddod y bydysawd, wedi adrodd y Salmau hynny sy’n dathlu’r greadigaeth ac yn moli’r Creawdwr. Ry’n ni hefyd yn gyfarwydd â’r gyfeiriadaeth at ein stiwardiaeth dybiedig o’r greadigaeth honno sydd yn y ddau Destament fel ei gilydd. “Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylo; gosodaist pob peth dan ei draed ef”.  A wele ni’n ‘neud llanast o bethau!

Ond beth ydyn ni yn ei wneud, fel eglwysi, yn ymarferol i warchod y blaned hon a hyrwyddo dulliau byw sy’n llai dinistriol ohoni? Yn y degawdau diwethaf rydyn ni wedi dod i arfer gweld Cristnogion unigol a chynrychiolwyr yr enwadau yn sefyll ochr yn ochr â mudiadau amrywiol sy’n arddel agendau ynghylch hyrwyddo cyfiawnder yn wyneb yr anghyfiawnderau lu sy’n wynebu pobl ym mhedwar ban byd – hiliaeth, ffoi rhag ryfeloedd, bygythiad arfau niwclear, tlodi yn y byd sy’n datblygu ac ati. Mae Cymorth Cristnogol yn gwneud gwaith campus a chlodwiw gyda’i ymgyrchoedd ynghylch dyledion y gwledydd tlawd, safle cymdeithasol menywod a datblygu economaidd lleol ar draws y byd. Maen nhw hefyd yn ceisio codi ymwybyddiaeth am y cyswllt rhwng tlodi a’r heriau sy’n wynebu’r amgylchedd. Fodd bynnag, anaml y gwelwn fudiadau Cristnogol – ar lefel cenedlaethol neu leol – yn sefyll ysgwydd yn ysgwydd â chyrff blaengar fel Greenpeace, Cyfeillion y Ddaear neu WWF. Pam hynny tybed?

‘Think global, act local’ yw’r slogan on’d taw e? Oes mwy y gallwn i ei wneud fel eglwysi lleol i hyrwyddo gwerthoedd cadwraethol, balchder mewn amgylchedd, dulliau o fyw cynaliadwy a lleihau ein hôl-troed carbon? Beth sy’n gwresogi’n adeiladau? Sut ‘yn ni’n teithio i’n gwasanaethau? Ydyn i’n cyfrannu at amgylchedd gwell yn lleol? Ydyn ni’n hybu ailgylchu a byw’n ddarbodus? Ydyn ni’n ymgyrchu ar y cyd â grwpiau blaengar o fewn ein hardal? Ydyn ni’n codi ymwybyddiaeth ac yn hyrwyddo prosiectau amgylcheddol ymysg ein cynulleidfaoedd? Amser am awdit amgylcheddol, efallai?

Dim ond holi ydw i – achos mae cloc dydd y farn yn tipian.

E-fwletin Mawrth 27ain, 2017

“O Dad maddau iddynt oherwydd ni wyddant pa beth y maent yn ei wneud.”

Daw ymateb cymysg i farwolaeth Martin McGuiness yn 66 oed, a oedd yn ŵr, yn dad ac yn daid, yn Wyddel i’r carn, yn Weriniaethwr ac yn arddel y ffydd Gatholig Rufeinig gydag argyhoeddiad, ond un a fu hefyd yn gyn-ymladdwr dros ryddid, neu yn gyn-derfysgwr. Mae ein disgrifiad ohono yn dibynnu ar beth yw ein  safbwynt ac o ble rydan ni`n dŵad.  Roedd y gymuned weriniaethol wedi dioddef anghyfiawnder diffygion democrataidd, economaidd, crefyddol ac  addysgol ac yn arbennig felly yn Armagh, Derry a Belfast. Yno y gwelwyd brig y mynydd ia. Cymhlethwyd y sefyllfa gyda phresenoldeb y milwyr Prydeinig.

Eto, haerir mai presenoldeb  milwyr Prydain oedd yn gyfrifol am y ddwy dröedigaeth fawr yn hanes y ddau elyn McGuiness a Paisley a’u dwyn ynghyd i fod yn gyd-arweinyddion cyfnod newydd yn hanes y Gogledd. Fe welodd y naill  a’r llall nad trwy’r gwn y cyrhaeddir y nod, ond trwy rannu grym yn Stormont.

Ian Paisley a Martin McGuiness

Profodd y ddau eithafwr eu bod yn wladweinwyr er bod waliau yn cael eu codi i gadw cymunedau ar wahån ar yr un pryd.

Mae’n amlwg fod amgylchiadau å rhan allweddol yn y broses. Ond rhaid cydnabod rhan allweddol y rhai oedd yn y canol rhwng y ddwy blaid, yn arbennig gyfraniad tawel a chreadigol  eglwysi prif ffrwd Gogledd Iwerddon a gwleidyddion fel  John Hume a David Trimble a oedd yn ymwrthod ag eithafiaeth grefyddol a gwleidyddol y naill ochr a’r llall.

Ond beth am faddeuant? Y mae’r elfen hon yn sicr yn ganolog i’r Efengyl. Gwyddom beth oedd agwedd Iesu  at unigolion o Samaria, ac o fyddin Rhufain. Wrth faddau i’w ddienyddwyr, ai ar lefel bersonol, fel Iddew, yr oedd Iesu’n meddwl, neu  ar lefel y sustemau gwleidyddol  – neu’r naill a`r llall fel ei gilydd? Yn sicr maddeuant ar sail eu hanwybodaeth o bwy oedd Iesu fel dyn Duw. Awgrymir yn gryf fod y rhai a’i dedfrydodd ac a’i croeshoeliodd yn gwneud yr hyn oeddan nhw mewn anwybodaeth yn gredu oedd yn iawn ar y pryd.

Gwelwyd dau ymateb i farwolaeth Martin McGuiness, un yn faddeugar oddefgar yn parchu’r dröedigaeth o lwybr trais i lwybr cyd-weithio a chymod. Dyna oedd ymateb gweddw Ian Paisley heb ddiystyrru’r dioddefaint dychrynllyd a achoswyd gan yr I.R.A. o dan ei arweiniad.

Y llall oedd ymateb eithriadol chwerw a hir Norman Tebbitt. Bu bron iddo ef a`i wraig golli eu bywydau yn nhrychineb Brighton. Dedfrydwyd ei wraig i gadair olwyn am oes. Mae ei resymau dros fod yn chwerw yn peri i rhywun ofyn: tybed beth fyddai ei ymateb pe bai amgylchiadau wedi dod å’r ddau wyneb yn wyneb? Ond yn fwy ingol fyth, beth fuasai ein hymateb ni yn yr un sefyllfa?

Jo Tuffnell (Llun: The Guardian)

Ond agorodd Jo Tuffnell (née Berry) lwybr arall – cymryd y cam cyntaf.  Mynnodd gyfarfod y person a laddodd ei thad yn nhrychineb Brighton er mwyn ceisio deall ei gymhellion. Bu’r  cyfarfod rhyngddyn nhw yn un trydanol ond mynnodd y Gwyddel fod y weithred yn un dros gyfiawnder.

A beth am yr athro yn Enniskillen yn maddau i aelodau`r I.R.A a laddodd ei ferch, ac yntau’n plygu uwch ben ei chorff heb iddo eu cyfarfod nac ystyried erchylltra’r weithred?

Mae`n anodd rhagori ar ddisgrifiad Waldo o’r llwybr heriol a elwir yn faddeuant: “Cael ffordd drwy’r drain at ochr hen elyn.” Ymddengys bod rhai yn methu mynd drwy’r drain ac eraill yn llwyddo.

Ond deil anogaeth Joe Tuffnell ar y pryd yn heriol a gobeithiol : 

                        “bydd wrol
                       bydd ysbrydol
                 nid i mi gêm y llwyth,
             mae`n bosib codi pontydd.”

 

 

E-fwletin Mawrth 19eg, 2017

Mosg-Gadeirlan

Hydref diwethaf fe euthum am y tro cyntaf i Andalusia yn Sbaen, a Costa Del Sol yn benodol i ymweld â chysylltiadau teuluol. Yn ystod f`arhosiad roeddwn yn awyddus i ymweld ag un o hen ddinasoedd Sbaen fel Seville, Cadiz, Granada neu Cordoba, yr oll o fewn cyrraedd ymweliad diwrnod. Yr unig drefniant oedd yn gyfleus oedd y daith i Cordoba. Yno yr euthum.  Ar y daith roeddwn yn un o griw yn mynd trwy`r maes olewydd mwyaf yn y byd, heibio i Bagoda a phenglog aur y Bwda a mynydd a oedd fel pen Indiad (America) yn gorwedd! Wedi parcio`r bws roedd y bont Rufeinig hynod o drawiadol yn ein croesawu i’r  hen ddinas gaerog hanesyddol. Yn hawlio`r awyr o`n blaenau yr oedd y Fosg-Gadeirlan. Wedi cerdded dros y bont anelu am y synagog hynaf yn Ewrop, un fechan hynod,  yn un o strydoedd culion canol y ddinas ac yna ymweld â’r Fosg-Gadeirlan.

Mosg-Gadeirlan Cordoba

Beth yw`r eglurhad ar yr enw hynod hwn? Goresgynnwyd Sbaen Babyddol gan y Mwslim ddechrau’r 8g  Cyn hynny roedd yng Nghordoba eglwys (St. Vincent)  a sefydlwyd rhywbryd yn y 6g neu`r 7g, ond mae’n debyg ei bod wedi gweld dyddiau gwell erbyn dyddiau’r Mwslim. Pan ddaeth y Mwslim i’r ddinas yn yr 8g neilltuwyd un rhan o’r Eglwys i’r Cristnogion a rhan arall i’r Mwslim cyn codi’r Mosg yn yr 11g ar safle’r Eglwys. Felly y bu pethau am  dair canrif, cyn i’r Cristnogion gipio’r  wlad drachefn, o dan arweiniad Ferdinand ac Isabella yn 1236. Dinistriwyd pob Mosg yn Sbaen, ond penderfynodd y ddau, am resymau hanesyddol a diwylliannol (nid crefyddol), eu bod yn diogelu`r Mosg yn Cordoba ac, yn y man, adeiladu Eglwys Gadeiriol o’i chwmpas.

Yr hyn a barodd syndod i mi oedd clywed gan ein harweinydd ar y daith am oddefgarwch crefyddol y llywodraeth Islamaidd. Roedd rhyddid am dair canrif i Fwslim, Iddew a Christion addoli yn ôl eu cydwybod. Holais yr arweinydd beth oedd ymateb y werin bobl i`r fath sefyllfa. Ni chefais ateb, ond fe ddaeth ateb yr wythnos diwethaf mewn adolygiad o lyfr yn y Church Times ar Islam (Pelican) gan Tariq Ramadan. Yn hwnnw nodir bod y werin Gristnogol wedi cael rhyddhad oddi wrth orthrwm a phoen y gwrthdaro rhwng Uniongred a Heretig. Bellach roedd rhyddid crefyddol a`r werin yn anadlu yn fwy rhydd. Nid oedd gan y llywodraeth Islamaidd unrhyw ddiddordeb mewn dadleuon athrawiaethol a oedd yn nodweddu Cristnogaeth y cyfnod. Tybed a oedd ein harweinydd yn Babydd ac efallai yn amharod i gydnabod y gwahaniaeth meddylfryd rhwng y cyfnod Cristnogol a’r cyfnod Islamaidd yn Sbaen?

Y mae Isis ffwndamentalaidd hyd y gwelir yn ceisio adfer y cyfnod Califfaidd hwnnw, ond Duw a ŵyr ble mae yr ysbryd goddefgar oedd mor nodweddiadol o’r cyfnod, a hynny pan mae prif ffrwd Cristnogaeth wedi mynd yn fwy goddefgar? Y maent yn rhoi enw drwg i grefydd Islam fel y mae elfennau ffwndamentalaidd anoddefgar cyffelyb o fewn Cristnogaeth yn rhoi enw drwg i’r Ffydd Gristnogol.

Y paradocs rhyfeddol yw, er mai trwy rym y daeth y Mwslim i feddiannu Sbaen, eto, wedi’r fuddugoliaeth yn dangos goddefgarwch annisgwyl. Mewn byd amherffaith ai breuddwyd ffôl yw meddwl fod y perffaith yn bosibl?

 

E-fwletin Mawrth 12fed, 2017

E-fwletin Mawrth 12fed, 2017

Prosiect crefyddol oedd Prydain Fawr a Phrydeindod o’u dechreuad. Prosiect crefyddol hefyd oedd y Diwygiad Protestannaidd, yn Lloegr a’r Alban, pan y’i fabwysiadwyd gan y Sefydliadau. Prosiect i sicrhau ac ymestyn sofraniaeth ei goron a hunaniaeth ei deyrnas oedd Diwygiad Amrhrotestannaidd Harri VIIl a’i mwtaniadau dan Edward VI ac Elizabeth. Ac fe ellir, ac fe ddylid, gweld “Prydeindod” fel prosiect-o-fewn-prosiect, cyfres o gynllwyniau i uno Alban, Iwerddon a Lloegr Protestannaidd yn Brydain – ond prosiect a esgorodd ar imperialaeth front coron “Prydain Fawr” draflyncodd yn gyntaf yr Alban a’r Iwerddon, cyn troi at weddill y byd, a troi traean o’i fap yn binc.

Harri’r VIII

Dros gyfnod estynedig,  cuddiwyd realiti brwnt, amrwd a chyntefig gwleidyddiaeth grym, hil a chyffes grefyddol dan glogyn parchus – a, chwarae teg, optimistaidd a moesol – credo Cysyniad Cynnydd, the “Whig Idea of Progress” chwedl J. B. Bury. Yr hyn sy’n ddiddorol, ac a ddylai fod yn destun pryder difrifol – yw nid yn gymaint fod y clogyn wedi llithro yn ddiweddar, ond bod lleisiau croch o’r Dde gwleidyddol yn ymffrostio yn seiliau gwrthun ac adweithiol y Prydeindod crefyddol hwn.

Cyhoeddodd Michael Gove erthygl yn y Times ddydd Gwener, lle gwnaeth yr ensyniad anhygoel fod y Prif Weinidog yn rhy Babyddol i arwain Prydain yn llwyddiannus allan i fyd  heriol Brexit. Gobeithiaf y maddeuir i mi ddyfynu’r paragraff allweddol yn y Saesneg gwreiddiol; ceisiais ei gyfieithu, ond collir cyseiniant ei eirfa dethol o wneud hynny.

Michael Gove

“Britain’s [sic] path to preeminence in the past followed our break with Catholicism and embrace of the Reformation. We pursued a global, maritime, buccaneering, individualistic, liberal destiny — the spirit of our capitalism was infused with a very Protestant ethic. Now that we are once more freeing ourselves from a conformist Continent to make our own way in the world the question of whether we need to be more radical to maximise opportunities or more cautious to reassure and protect is central to our politics.”

Fe fyddai’n hawdd wfftio hyn i gyd fel gwallgofrwydd arferol Gove, a’i ddiystyru – pe na bai siarad fel hyn mor beryglus, a phe na bai elfen o wirionedd gwyrdroëdig iddo.

Heb os, fe ddefnyddiwyd crefydd i bweru cerrynt gwleidyddol luniodd Prydain o oes Iago’r VI a’r I ymlaen, ac ymhell y tu hwnt i gyfnod y rhyfeloedd crefyddol yr ail ganrif ar bymtheg. Yng Ngogledd yr Iwerddon, mae meddylfryd fel hyn yn dal mewn bod ar ôl chwarter canrif o’r Broses Heddwch. Prin fod angen atgoffa neb bod y grymoedd hyn wedi llunio a chyflwyno Prydeindod – nid heb wrthwynebiad – fel strwythur o ormes sy’n dilysu elît, yn  diffinio grwpiau fel y “gelyn oddi mewn”, (hoff ymadrodd Mrs Thatcher!) ac yn mynnu bod teyrngarwch i ‘r sylfaen sanctaidd – llythrennol sanctaidd – hwn yn faen prawf i benderfynu pwy sy’n cyfrif a phwy sydd ddim. Y tu hwnt i feysydd academaidd Hanes a Gwleidyddiaeth, fel goddrych astudiaeth maent yn nythu’n dwt o fewn Astudiaethau  Ôl-wladychol, ond yn fwy pwysig, maent wedi bod yn ffocws ymdrechion gwleidyddol tros ddwy os nad pedair canrif i’w trosgynnu. ‘Roeddem wedi dod i gredu eu bod yn perthyn i orffennol yr oeddem yn ymbellhau oddi wrtho.

Digon o achos pryder oedd bod y Prif Weinidog ac eraill wedi disgyn i’r arfer o ddefnyddio iaith ffydd i wneud cyfalaf gwleidyddol, ond mae ymyriad Grove – a’i ymosodiad ar Theresa May am fod yn rhy “Pabyddol” – yn torri tir newydd.

Mewn un paragraff croch, blêr, sy’n gamddefnydd digywilydd o ddamcaniaeth Max Weber parthed Protestaniaeth ac ysbryd cyfalafiaeth, llwydda Gove i uniaethu un amlygiad hanesyddol, brwnt ac annheilwng o ffydd Gristnogol ag eidentiti Prydeinig “go iawn.”

Llwydda ar gefn hynny i ensynio ar dir crefyddol nad yw’r Prif Weinidog Eingl-Gatholig yn “un ohonom ni” mewn gwirionedd, sy’n gampwaith o ffieiddio gwleidyddol nid ansylweddol ynddo’i hun, ond llwydda hefyd i awgrymu bod rhyw brofiad crefyddol cenedlaethol honedig wrth wraidd Prydeindod.  

Dechreuodd Mrs Thatcher y gwaith o ymosod ar wir seiliau Cristnogol cymdeithas – nid cymdeithas Prydeinig, ond cymdeithas fel y cyfryw. Yn awr, ymddengys fod Michael Gove yn benderfynol, nid yn unig o gwblhau’r gwaith o ddatgymalu cymdeithas, ond o fedyddio’r prosiect fel menter Cristnogol a Phrotestannaidd.

Sut y dylid – sut gellir – codi llais yn y Sgwâr Gyhoeddus yn erbyn cabledd digywilydd o’r fath?

E-fwletin Mawrth 6ed, 2017

Future Shock oedd teitl llyfr enwog y dyfodolegydd (os mai dyna’r cyfieithiad cywir o “futurologist”) Alvin Toffler, gyda’i thesis enwog nad yn unig fod newid yn cyflymu, ond bod cyfradd newid yn chwimio.

Alvin Toffler (1928-2016)

Ers y chwedegau, mae’r gair “exponential” – “esbonyddol” – wedi bod yn adnawdd handi i newyddiadurwyr dioglyd i fynegi’r syniad o gynnydd aruthrol mewn rhywbeth;  y gwir yw ein bod, yn ein profiad o fywyd bob-dydd yn dod yn agos iawn at ei ystyr llythrennol, mathemategol. Cofiaf fy athrawes gynradd rhyfeddol Miss Williams yn dweud wrth ddosbarth o blant deg oed “Mae’r byd wedi newid y tu hwnt i bob adnabyddiaeth ers cyfnod plentyndod eich teidiau a’ch neiniau…” Fe’i dyfynnais mewn pregeth, yn y naw-degau, a chynnig – ar gefn gosodiad Toffler –y sylwad fod y byd bellach yn newid allan o bob adnabyddiaeth bob deng mlynedd.

Bellach, mae dyn yn colli cyfrif o’r troeon mae’r byd wedi newid allan o bob adnabyddiaeth ers 2008, ac yn wir mae’r byd wedi newid yn llwyr o leiaf ddwywaith ers fis Mehefin y llynedd.

Dyna ystyr “newid esbonyddol”.

Caniatewch i mi ymestyn y trosiad. Mewn ffiseg a chemeg, mae cyflymu symudiad moleciwlau yn arwain at “drawsnewidiad gwedd” (“phase transition”) – try soled yn hylif, hylif yn nwy, nwy yn blasma. Ym 1848, roedd Karl Marx yn siarad felly am foderniaeth ddiwydiannol: “Mae popeth sy’n solet yn toddi i’r awyr…” Gyda’r cyflymu didrugaredd yng nghyfradd newid cymdeithasol, onid yw fel pe baem wedi pasio trwy feirioli a berwi i rhyw gyflwr o “plasma” di-gyswllt, i atomeiddio ac ïoneiddio didrugaredd lle mae cymdeithas, fel mynnodd Mrs Thatcher, yn gasgliad o unigolion a phrofiadau digyswllt?

Fe ddaeth y syniad o “trawsffurfiad gwedd” yn ôl yn rymus i mi tra’n sefyll wrth ddrws yr eglwys droeon yn y flwyddyn ddiwethaf.

Profiad pregethwyr dros y canrifoedd, am a wn i, yw o gwrteisi confensiynol wrth ddrws y cysegr. Gall fod yn ymateb Pavlovaidd, bron. “Diolch am y bregeth!”

Oni synhwyrwn fod ymateb pobl wedi newid? Mae pregethu nad yw’n gwneud mwy na’i ddyletswydd trwy wrthgyferbynnu realiti cymdeithas gyfoes a gofynion a gwerthoedd y Deyrnas, gwagedd moesol ac ensyniadau anfoesol arweinyddiaeth gwleidyddol a gwŷs diamwys y Crist, yn ennyn ymateb o ryddhad, a gollyngdod, a dirnadaeth gwirioneddol ysbrydol o reidrwydd gwrthsefyll.

Credaf fod hyn yn fewnwelediad i newid ym mherthynas eglwys a chymdeithas.

Ym moderniaeth, pan oedd y solet yn toddi a meirioli, beth oedd yn fwy solet, yn fwy cysurlon, na phresenoldeb sefydliadol yr Eglwys, a’r eglwysi?

Ystyriwch ei rhagfuriau, edrychwch ar ei phalasau; fel y mynegoch i’r oes a ddelo ar ôl. Canys y Duw hwn yw ein Duw ni (Ps.48:13-14)

Adeiladwaith o gerrig, a strwythur o drefniadaeth, oedd proffil cyhoeddus, cymdeithasol Cristnogaeth – ie, gan gynnwys yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr! Mae’r fath beth, wrth gwrs a “sefydliad gwrthsefydliadol”…

Ond gyda’r cynnydd enbyd yn “nhymheredd” cymdeithas, mae’r adeiladwaith a’r strwythurau wedi toddi ar y cyd a dadfeilio’r adeiladau. Nid ydym eto wedi peidio a phrofi hyn fel argyfwng – os nad math o brofedigaeth. Ond gallwn hefyd ddechrau ei weld fel gwaredigaeth…

Mewn amgylchfyd chwilboeth sy’n llosgi ymaith y sgaffaldau solet, yr hyn a adewir yw presenoldeb y Crist yn y canol, a gobaith y Deyrnas fel yr unig ffactor sy’n ein galluogi i edrych y tu hwnt i’r presennol brawychus; yr unig ffactor o gwbl, mewn gwirionedd, sy’n ein galluogi ni i sôn am “du hwnt” i hyn i gyd – am rhywbeth y tu allan i bethau fel ag y maent sy’n cynnig y posibilrwydd o wrthsefyll, ac o ddweud “NA! ‘Dydi hyn DDIM YN IAWN…”

Onid hyn yr ydym yn ei weld yn gynyddol?  Pobl yn ail-ddarganfod – neu darganfod am y tro cyntaf – dimensiwn gwleidyddol yr Efengyl, yn y gorchymyn i wrthsefyll. Pobl sydd, mewn byd sy’n atomeiddio cymdeithas, yn dyheu am, ac yn adnabod, grym gwir gymuned a chymundeb.

A dyma i chwi un twist bach arall ar y trosiad (gor-estynedig!) sy’n rhedeg trwy’r myfyrdod hwn: os yw “tymheredd” llethol cymdeithas yn troi bodau dynol yn atomau unigol, digyswllt, ac os gwir hanfod yr Eglwys yw ein cydlyniad a’n hundod, a’n solidariti yng Nghrist – onid ydi hynny’n gwneud yr Eglwys, trwy ddiffiniad, yn “cŵl”?

E-fwletin Chwefror 26ain, 2017

 

YR ALWAD I WEINYDDU

Yn ôl sawl arolwg diweddar, mae gweinidogion bellach, yn gorfod gwario mwy a mwy o amser yn gweinyddu, ac yn mwynhau’r gweinyddu llai a llai. Nid oedd angen arolygon i ddatgan hyn! Mae pob un gweinidog yn gwybod hyn eisoes! Fel gweinidogion, credwn fod gweinyddiaeth yn ein tynnu o’n gweinidogaeth. Ond tybed, a allai gweinyddiaeth gynorthwyo’n gweinidogaeth? Tybed, pe byddem yn dysgu (ac i hynny mae angen hyfforddiant, a pharodrwydd i ddysgu), dulliau gweinyddu mwy effeithiol a fuasem fel gweinidogion yn cwyno llai am ein gwaith gweinyddol? Cwestiwn digon arwynebol yw hwnnw; mae cwestiwn arall, trymach, yn y dyfnder …

Mae gweinyddu yn wrthun gennym. Credwn fod gweinyddiaeth yn mynd yn groes i ysbryd y weinidogaeth. Geilw gweinyddu arnom i osod nodau i’n gwaith; i osod cynllun gwaith a sticio iddi; i ddatblygu strategaeth, a dilyn y strategaeth i’w phendraw, hyd yn oed pan mae sglein y syniad ‘newydd’ wedi dechrau pylu. Nid hoff gennym hyn o beth, ac yn fynych, ein dadl yw mai hanfod gweinyddu yw cadwyn drom o gynlluniau, strategaethau a nodau, tra mai hanfod y weinidogaeth yw pobl, ac i ymwneud â phobl, rhaid wrth yr hyblygrwydd a dardd o ryddid bendigedig yr Ysbryd!

Martin Luther

Hanner y gwirionedd sydd yn y ddadl hon. Fel y gwyddom, bu Martin Luther yn cyson drafod y tensiwn rhwng Cyfraith ac Efengyl. Mae’r dynfa hon yn berthnasol yng nghyd-destun y myfyrdod bach hwn.

Dyma ychydig sylwadau ganddo o’i esboniad ar Lythyr Paul at y Galatiaid (3:23).

 

“Mae amser i’r Gyfraith ac amser i ras. Gadewch i ni graffu ar fod yn ofalus gydag amser. Gall y Gyfraith a gras fod filltiroedd ar wahân yn eu hanfod, ond yn y galon, maen nhw’n eithaf agos at ei gilydd. Yn y galon mae ofn ac ymddiried, pechod a gras, y Gyfraith a’r Efengyl, yn croesi llwybrau’n barhaus.

Pan glyw rheswm y ceir cyfiawnhad gerbron Duw drwy ras yn unig,  daw i’r casgliad nad oes gwerth i’r Gyfraith. Felly rhaid astudio Athrawiaeth y Gyfraith yn ofalus rhag i ni naill ai wrthod y Gyfraith yn gyfangwbl, neu gael ein temtio i briodoli’r gallu i achub i’r Gyfraith.

Mae tair ffordd o gam-ddefnyddio’r Gyfraith. Yn gyntaf, gan ragrithwyr hunangyfiawn sy’n tybio y gallan nhw gyfiawnhau eu hunain drwy’r Gyfraith. Yn ail, gan y rhai sy’n honni bod rhyddid Cristnogol yn eithrio Cristion o barchu’r Gyfraith…..Yn drydydd cam-ddefnyddir y Gyfraith gan y rhai nad ydynt yn deall y bwriedir i’r Gyfraith ein gyrru at Grist. O ddefnyddio’r Gyfraith yn briodol, ni ellir ei gor-werthfawrogi. Mae’n fy hebrwng i at Grist bob tro.”

Mae Cyfraith ac Efengyl yn perthyn y naill i’r llall; yn y dynfa rhyngddynt mae hanfod y gwirionedd am y ddau.  Mae’r naill yn cynnig strwythur a ffurf, tra bod y llall yn cynnig cydymdeimlad a gofal.

Mae tynfa debyg ar waith rhwng gweinidogaethu a gweinyddu. Hoffwn nodi, yn fas iawn, ddau beth: Yn gyntaf, gwelir yn ein cymdeithas y tueddiad i or-weinyddu, a bod yr unigolyn o’r herwydd yn ddim byd amgenach na chyfres o rifau oer. Gall yr eglwys leol, ac o’r herwydd yr enwadau hefyd, amlygu gwendidau gor-weinyddu, ond i wneud hynny, rhaid wrth ragorach ffordd o weinyddu pobl, nid gosod gweinyddiaeth yn llwyr o’r neilltu! Yn ail, oherwydd i ni dynnu gweinyddiaeth a gweinidogaeth ar wahân, crëwyd gennym y cyfuniad rhyfedd o strwythurau haearnaidd oer, nad sydd ddigon ystwyth i blygu gyda newid a datblygiad, ac eglwysi sydd mor hyblyg nes peri iddynt fyd yn gwbl aneffeithiol – yn feddal mewn byd caled.

Onid oes rheidrwydd arnom fel gweinidogion bellach, ac o’r herwydd hefyd, eglwys neu eglwysi ein gofal, ac felly’n naturiol ddigon … yr enwad yn gyfan, i gael gwell gafael ar ystyr gweinyddu a gweinidogaethu? Pobl sydd yn bwysig! Heb os! Byddai cael gwell gweinyddiaeth yn arwain yn anochel at well gweinidogaeth: gwell gofal o’n pobl.

E-fwletin Chwefror 19eg, 2017

Mae capeli’n fwy diogel: mae amddiffynfeydd yn eu lle i’n gwarchod, ond mae eglwysi plwyf yn gwbl agored – nid oes eu hamddiffyn, na’r offeiriad rhag priodasau, bedyddiadau ac angladdau rent-a-church.

Gan ein bod ni’n gymdogion bellach, caf gyfle i siarad dipyn ag offeiriad newydd, ifanc – ugeiniau hwyr – yr eglwys ar ben y stryd. Ganddo yntau y clywais yr ymadrodd rent-a-church wedding. ’Roedd newydd orffen y gwasanaeth, ac yn ymlwybro tuag adre. Digalon ydoedd meddai, gan iddo deimlo mae service provider oedd – un ymhlith nifer. Wrth hyfforddi, ’roedd wedi addo’i hun na fuasai byth yn gwneud y fath beth – a dyma fe, meddai, selling out! Os mai selling out mae ef, sold out ydwyf innau!

Ond, er tegwch i’r naill a’r llall ohonom, selling out neu sold out yw hanes y rhan fwyaf o weinidogion ac eglwysi. Gwelsom ddirywiad enbyd, a’n hymateb greddfol oedd – ac yw – hepgor y syniadau, daliadau ac egwyddorion caled Cristnogol, a chynnig yn hytrach adloniant ysgafn Cristnogol Christianity-lite. Mae’r eglwysi ‘ceidwadol’ llawn mor euog o hyn â’r eglwysi ‘rhyddfrydol’. Credwn, os byddwn yn cynnig beth mae pawb ei eisiau, fe ddôn nhw yn ôl atom. Mae’n amlwg ddigon nad yw’r polisi hwnnw wedi gweithio erioed, ond daliwn ati i ddal ati…ac i ddal ati eto fyth.

O’r herwydd, aethom yn service provider o fath, a phobl yn teimlo ein bod ar gael iddynt i gynnal eu priodasau, bedyddiadau ac angladdau. Os ydym yn barod i werthu ein ffydd, bydd pobl yn mynnu’r hawl i brynu beth maen nhw’n ddymuno’i gael, i wneud fel y mynnon nhw â hi. Os ydym yn ceisio cynnig beth mae pobl ei eisiau, yn naturiol ddigon daw pobl atom i weld beth sydd gennym i’w gynnig – i weld a fedrwn ni gynnig beth sydd angen arnyn nhw’n ysbrydol, ac os na fedrwn wneud hynny, fe ân nhw i rywle arall. Mi hoffwn awgrymu’n garedig nad ydym bob amser yn gwybod yn iawn beth yw ein hanghenion ysbrydol, ac o’r herwydd dewiswn beth i’w hoffi’n ysbrydol, sef ffydd sydd yn gofyn fawr o ddim gennym. Yr hyn sydd angen arnom yw crefydd sydd yn gosod rhwymedigaethau arnom. Mae pobl yn chwilio – ac yn fynych iawn – yn dewis capel sydd yn adlewyrchu eu hanghenion, yn hytrach nag yn llywio eu hanghenion. Ond, er tegwch i bawb, faint o eglwys sydd o ddifri am gyflawni’r gwaith caled o lywio anghenion eu pobl?

Mae fy nghymydog wedi blasu’r weinidogaeth, ac wedi ei gael yn chwerw. Heb yr hunan-faldod sydd mor nodweddiadol o’r weinidogaeth Gymreig, mi hoffwn ddweud fy mod i’n deall. Peth cas yw llyncu balchder o hyd – mae blas cas i egwyddor o orfod ei chyson lyncu! Ond mae cynhaliaeth mewn gweinidogaeth tymor hir. Mi wn rywbeth am y pwysau i ddiwallu anghenion pawb, mi wn hefyd am briodasau, bedyddiadau ac angladdau rent-a-church. Mi wn yn iawn am y temtasiwn parod i gynnig Christianity-lite, gan fod hwnnw’n haws i mi ei ‘werthu’ ac i bobl ei ‘brynu’. Mi wn yn iawn am selling out! Ar adegau bu gen i gywilydd o’r Eglwys, a sawl gwaith bu gen i gywilydd ohonof fi fy hun a’m gweinidogaeth. Ond, mi wn hefyd, wedi dau gyfnod hapus o weinidogaeth tymor hir, bod yr eglwys leol, er ei gwaethaf hi ei hun, yn gallu ymwrthod â’r temtasiwn parod i fod yn ddim byd amgenach na chlwb crefyddol rywbeth-i-bawb, a mynnu’n hytrach bod yn eglwys Iesu Grist.