E-fwletin Ebrill 23ain, 2017

Llysenwau

Mae rhai yn hanes wedi cael llysenw.  Rhai hyfryd, fel Dewi Sant, rhai ofnadwy fel Ivan the Terrible. Mae enghreifftiau yn y Testament Newydd.  Mewn wythnos sy’n dilyn y Pasg addas sylwi ar un a dyfodd allan o hanes am yr Atgyfodiad, sef Tomos yr Anghredadun.
 
Yr oedd gan Tomos lysenw’n barod, Tomos yr Efaill, ond ‘yr Anghredadun’ sy’n aros.  Diddorol ystyried a oedd y bobl a gafodd lysenw yn y gorffennol yn ei haeddu.  Beth am Tomos i ddechrau? 
 
Ymddangosodd yr Iesu atgyfodedig i rai o’i ddilynwyr un tro, a Tomos yn absennol.  Pan glywodd Tomos, dywedodd na chredai ef fod Iesu’n fyw heb weld ôl yr hoelion yn ei ddwylo, a’u cyffwrdd, a rhoi ei law yn ei ystlys. Sawl pregeth a luniwyd ar sail un esboniad o’r hanes hwnnw, yn dangos Tomos fel person materol a fynnai brofi popeth drosto’i hun?  Gwelais erthygl felly mewn papur enwadol yr wythnos ddiwethaf.  
 

“Tomos yr Anghredadun” – Llun enwog Caravaggio

Ond yn ôl rhai ysgolheigion, yr oedd agenda gan awdur Ioan, sydd wedi llywio’r stori am Tomos uchod, a hefyd yr oedd heresi y bu rhaid i’r Cristnogion cynnar ei hymladd, sef y gred mai ysbryd ac nid corff oedd yr Iesu atgyfodedig.  Yn ôl rhai, felly, eisiau sicrhau oedd Tomos, nad Iesu ffug oedd yr Iesu atgyfodedig.  Mae hefyd hanesyn arall sy’n awgrymu nad un gorochelgar oedd Tomos, ond un parod, beiddgar (Ioan 11, 1-16).  A gafodd Tomos gam dros y canrifoedd?
      
Mae llawer yn ei chael hi’n anodd osgoi ffurfio barn am eraill, ac nid yn unig gall eiddigedd a dicter ac agenda personol ac ati fod yn rhan o’u barn, ond fe all eu gwybodaeth am eraill fod yn arwynebol hefyd, felly mae camfarnu dynol yn broses anochel a pharhaol.
 
Nid unigolion yn unig sy’n cael ‘llysenw’.  Pan oeddwn i’n blentyn droeon clywais Iddewon yn cael eu disgrifio fel cenedl ‘ariangar’.  Onid yw’r meddylfryd esgeulus hwnnw’n rhan o bob hilyddiaeth?  Ac onid hilyddiaeth yw un o broblemau arswydus ein byd cyfoes?  Nid yr unig un wrth gwrs.
 
Mae’r Atgyfodiad yn fater aruthrol, ond o 89 pennod yr efengylau, dim ond 4 sy’n trafod yr Atgyfodiad, ac mae eu cymhlethdod yn fwy o broblem na’u byrder.  Ni anela’r awduron at drafod yr hyn a ddigwyddodd yn y bedd, er enghraifft.  (Sut mae trafod rhywbeth na ddaethpwyd ar ei draws erioed cynt?)  Ac nid ceisio rhoi gwarant bersonol i bawb bod bywyd wedi angau a wnai’r awduron.  Yr hyn a anelent ato oedd   rhoi cyfres o ddarluniau’n disgrifio’r hyn a ddeallent hwy orau am yr Atgyfodiad, sef patrymau gwahanol y math ar gymuned newydd a’i dilynodd.   Pan anelwn ninnau at greu cymunedau felly, cymunedau sy’n parchu pob enaid, er enghraifft,  ac sy’n rhoi i bawb ei lawn werth, heb ei fychanu’n esgeulus, yna gallwn ninnau barhau grym yr Atgyfodiad, a chyfrannu at greu gwell byd.