E-fwletin Sul y Pasg

Rwy’n ysgrifennu’r geiriau hyn ar ddydd Gwener y Groglith, diwrnod pan fyddwn ni Gristnogion yn ymwybodol o ddioddefaint Iesu ar ddiwedd ei oes. Teimlais ers amser yn anniddig gyda rhai mathau ar sôn am ddioddefaint Iesu. Mae cof gennyf ddarllen ‘slawer dydd am sectau Cristnogol yn y canrifoedd cynnar yn cosbi eu cyrff – fel ffordd o ddilyn Iesu. O dro i dro teimlais fod rhai Cristnogion cyfoes hefyd yn gweld rhinwedd mewn dioddefaint ynddo’i hun.

Ond yn 1970, mewn ymateb i’r pwyslais hwn o bosibl, cyhoeddwyd gan yr United Church Press a’r National Catholic Reporter lyfr o erthyglau gan awduron gwahanol o dan y teitl ‘Creative Suffering’. Ysgrifennodd un ar boen corfforol, un arall ar faich penderfyniadau mawr, un arall am y straen o aros mewn eglwys na allai gytuno â hi mwyach, a soniodd un gwyddonydd blaenllaw am yr ing o feddu atebion i anghenion dynol, na chant eu defnyddio.

Alan Paton (1903 -1988)

Un o’r awduron oedd Alan Paton, awdur y llyfr ‘Cry, the Beloved Country’, llyfr enwog a dylanwadol iawn yn nyddiau’r terfysg hir a phoenus ynghylch apartheid yn Ne Affrica. Ysgrifennodd ef am rai o’i ffrindiau Cristnogol gwyn yn Ne Affrica a oedd yn ailddarganfod yr Efengyl yn y cyffro yno ar y pryd, ac o ganlyniad a oedd yn ceisio cael y drefn yn Ne Affrica i roi mwy o le a sylw i’r duon yno. Ond gallai gweithgarwch o’r natur hwnnw arwain at ddioddefaint. Eto, medd Paton, mae’n ddiddorol sylwi, wrth ysgrifennu am faterion felly, nad ysgrifennu am ddioddefaint y bydd rhywun mewn gwirionedd, ond am fyw, am garu, am roi – dyna’r amcan, ac weithiau dioddefaint yw rhan o’r pris i’w dalu am hynny.

Soniodd y bardd Gwyddelig Patrick Kavanagh am ‘wild moments’. Mae gan ein byd ni ei ‘wild moments’. Gwener y Groglith yw’r diwrnod i gofio ‘our world’s wildest moment’, pan wnaeth mab i saer, Iesu bar Joseph, Rabi Iddewig, drwy fyw, caru a rhoi, costied a gostio, wneud ei hun uwchlaw neb arall erioed yn offeryn creadigrwydd Duw. Arweiniodd hynny at yr Atgyfodiad, wrth gwrs, digwyddiad a esgorodd ar fôr o obaith yn ein byd – ‘a laugh released for ever and ever’ medd Kavanagh eto.

A beth amdanom ni? Weithiau, medd Paton, ni fyddai fy ffrindiau’n newid unrhyw gyfraith, nac yn meddalu unrhyw arfer creulon, ond gwnaent y wlad yn well lle i fyw ynddi, gan droi gwlad o ofn a braw yn wlad o ddewrder hefyd. A’i roi mewn iaith grefyddol, meddai, gwnaethant eu hunain yn ‘offerynnau i greadigrwydd Duw.’

Os ildiwn ninnau i ‘wild moment’ y croeshoeliad, gallwn ninnau efallai fyw a charu a rhoi , costied a gostio, a thrwy hynny wneud ein byd yn well lle, cynnig i’n pentref global y mae cymaint o drais a thwyll ynddo ar hyn o bryd, ddewrder a ffydd.

Is-deitl y llyfr yr ysgrifennodd  Alan Paton ynddo oedd ‘Ripples of Hope’.