E-fwletin Sul y Blodau

Awelon yr Atgyfodiad

Mae’n Sul y Blodau ac mae cynulleidfaoedd ar draws y byd yn paratoi ar gyfer taith yr Wythnos Fawr tuag at yr Atgyfodiad.

Mewn pentref bach di-nod mewn cwm diarffordd yng Ngheredigion (galwn ni fe’n Llan-llwm) mae’r blodau ar y beddi’n barod ac mae cynulleidfaoedd Penuel a Seion yn dod ynghyd am yr untro yn y flwyddyn i ail berfformio defod y Gymanfa Ganu Unedig; defod a gyflwynwyd i’r ardal gan Ieuan Gwyllt (neb llai) ganrif a hanner yn ôl. Mae’n cael ei pherfformio fwy neu lai i’r union un ddoted cwefyr byth ers hynny.

Bydd dim côr yn y galeri eleni eto, fel a fu flynyddoedd yn ôl, ond fe fydd cryn obeithio ymhlith y dau ddwsin ffyddlon o frodorion y cwm y daw rhai o gantorion selog y broydd cyfagos i chwyddo’r gân yn ôl eu harfer – chwarae teg iddyn nhw. Bydd yna ambell emyn modern yn y Detholiad – wel, beirdd a welodd yr ugeinfed ganrif os nad yr unfed ganrif ar hugain. Ond stwff y ddeunawfed ganrif yw‘r ffefrynnau bob tro, wrth gwrs. Yn y rheini ‘ych chi’n cael ei morio hi – nid bod pawb yn deall y geiriau erbyn hyn, wrth reswm. A bydd canu mawr ar Williams eleni, garantîd.

Ar ddiwedd yr wythnos fe fydd Gwasanaeth y Groglith yn cael ei gynnal yn yr Eglwys – yr un pryd â chwrdd gweddi Penuel, yn ôl yr arfer. A chofiwch, fydd yna ddim gwasanaeth Sul y Pasg yn Seion eleni – mae cymaint ar eu gwyliau ar yr adeg yma o’r flwyddyn, on’d o‘s e?

Yn y cyfamser, ar ochr arall y cefndeuddwr yn Nyffryn Aeron, bydd holl eglwysi a chapeli’r dyffryn yn cydweithio a chydaddoli yn ystod yr Wythnos Fawr – yr Eglwys yng Nghymru, Annibynwyr ac Undodwyr – ac unrhyw un arall sydd â diddordeb o ran hynny.

Ar Sul y Blodau bydd gorymdaith ‘Dilyn yr Asyn’ o un man addoliad i’r llall am 1.00p.m., gyda sgwrs rhwng Huw Edwards ac Euros Lewis i ddilyn yn Theatr Felin-fach am 3.30p.m..

‘Panto Pantycelyn’, gan griw direidus Troed-y-rhiw a Garn-fach, yw’r arlwy ar gyfer nos Fawrth yn Neuadd Goffa Felin-fach; a nos Fercher bydd Dafydd Iwan yn cyflwyno cân, straeon a myfyrdod yn Nhafarn y Vale. Ceir Gwasanaeth Seder yn Eglwys Fach, Cribyn, ar nos Iau Cablyd am 7.00yh.

Bore Gwener y Groglith bydd gorymdaith arall yn dilyn Llwybr y Groes o Ysgol Felin-fach i Eglwys Ystrad Aeron. Cewch gyfle i groesawu’r wawr ar fore Sul yn Pasg am 6.00yb, eto yn Eglwys Ystrad. A daw’r cyfan i uchafbwynt gyda Chymanfa yng Nghapel Tynygwndwn ar nos Sul gyda’r telynor ifanc lleol Llywelyn Ifan Jones, ynghyd â phlant a phobl ifanc Tynygwndwn.

Y mudiad lleol at ein gilydd/gyda’n gilydd sy’n trefnu. Mae’r manylion llawn i’w canfod ar y We ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ymhle fydd awelon yr Atgyfodiad i’w deimlo eleni yng Ngheredigion ‘sgwn i?