E-fwletin Ebrill 2il, 2017

Araf y tipiau’r cloc…

Gydag ethol Donald Trump yn Arlywydd ar UDA mae’n debyg bod bysedd ‘cloc dydd y farn’ (The Doomsday Clock) wedi cerdded hanner munud yn nes at hanner nos. Mae’r cloc yn ddyfais a ddefnyddir gan Fwletin y Gwyddonwyr Niwclear i arwyddo difrifoldeb y peryglon sy’n wynebu’r byd o ganlyniad i ddatblygiadau amgylcheddol a gwleidyddol a statws arfau niwclear. Ar ddechrau Ionawr symudwyd y bys mawr i ddwy funud a hanner i hanner nos.

Os nad ydy hynny’n ddigon i anfon ias lawr eich cefn chi, ‘sgwn i beth fydd yr asesiad Ionawr nesaf os gaiff Trump ei ffordd a dileu llawer iawn o’r mesurau amgylcheddol cadarnhaol a gyflwynwyd gan ei ragflaenydd, Barak Obama? Wedi methiant ei ymgais i ddileu ‘Obamacare’, ymddengys mai rheoliadau amgylcheddol yw ei darged nesaf.

Mae’n debyg bod y sbectrwm o wybodaeth ac ymwybyddiaeth ynghylch materion ‘gwyrdd’ yn UDA yn eang iawn – o’r chwith amgylcheddol a gynrychiolir gan bobl megis Al Gore, Michael Moore, Bernie Sanders ac eraill i ladmeryddion llafar a chroch sancteiddrwydd y farchnad rydd ar yr asgell dde. Dyma gynulleidfa Trump, wrth reswm. Gwae i hyd yn oed dyfodol y blaned ddod rhyngddyn nhw â’u ‘hawl’ i wneud elw.

Mae yna ffrwd gadwraethol yn ein crefydda fel Cristnogion, on’d oes? Ry’n ni i gyd wedi bod mewn gwasanaethau sy’n dathlu rhyfeddod y bydysawd, wedi adrodd y Salmau hynny sy’n dathlu’r greadigaeth ac yn moli’r Creawdwr. Ry’n ni hefyd yn gyfarwydd â’r gyfeiriadaeth at ein stiwardiaeth dybiedig o’r greadigaeth honno sydd yn y ddau Destament fel ei gilydd. “Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylo; gosodaist pob peth dan ei draed ef”.  A wele ni’n ‘neud llanast o bethau!

Ond beth ydyn ni yn ei wneud, fel eglwysi, yn ymarferol i warchod y blaned hon a hyrwyddo dulliau byw sy’n llai dinistriol ohoni? Yn y degawdau diwethaf rydyn ni wedi dod i arfer gweld Cristnogion unigol a chynrychiolwyr yr enwadau yn sefyll ochr yn ochr â mudiadau amrywiol sy’n arddel agendau ynghylch hyrwyddo cyfiawnder yn wyneb yr anghyfiawnderau lu sy’n wynebu pobl ym mhedwar ban byd – hiliaeth, ffoi rhag ryfeloedd, bygythiad arfau niwclear, tlodi yn y byd sy’n datblygu ac ati. Mae Cymorth Cristnogol yn gwneud gwaith campus a chlodwiw gyda’i ymgyrchoedd ynghylch dyledion y gwledydd tlawd, safle cymdeithasol menywod a datblygu economaidd lleol ar draws y byd. Maen nhw hefyd yn ceisio codi ymwybyddiaeth am y cyswllt rhwng tlodi a’r heriau sy’n wynebu’r amgylchedd. Fodd bynnag, anaml y gwelwn fudiadau Cristnogol – ar lefel cenedlaethol neu leol – yn sefyll ysgwydd yn ysgwydd â chyrff blaengar fel Greenpeace, Cyfeillion y Ddaear neu WWF. Pam hynny tybed?

‘Think global, act local’ yw’r slogan on’d taw e? Oes mwy y gallwn i ei wneud fel eglwysi lleol i hyrwyddo gwerthoedd cadwraethol, balchder mewn amgylchedd, dulliau o fyw cynaliadwy a lleihau ein hôl-troed carbon? Beth sy’n gwresogi’n adeiladau? Sut ‘yn ni’n teithio i’n gwasanaethau? Ydyn i’n cyfrannu at amgylchedd gwell yn lleol? Ydyn ni’n hybu ailgylchu a byw’n ddarbodus? Ydyn ni’n ymgyrchu ar y cyd â grwpiau blaengar o fewn ein hardal? Ydyn ni’n codi ymwybyddiaeth ac yn hyrwyddo prosiectau amgylcheddol ymysg ein cynulleidfaoedd? Amser am awdit amgylcheddol, efallai?

Dim ond holi ydw i – achos mae cloc dydd y farn yn tipian.