Newyddion Ebrill

Newyddion

Mwy na chytundeb Gwener y Groglith

Bu marwolaeth Martin McGuiness yn gyfle trist i bwyso a mesur arwyddion gobaith yng Ngogledd Iwerddon.

Ian Paisley a Martin McGuiness

Bu tröedigaeth McGuiness ei hun, o fod yn filwr rhyddid, neu derfysgwr, i ddilyn ffordd ddi-drais drwy’r bleidlais, yn ogystal â’r newid cyhoeddus yn Paisley, o fod yn corddi’r dyfroedd gyda’i anerchiadau  a’i bregethau ymfflamychol,  i fod yn gymodwr oedd yn barod i wrando, – bu’r cyfan yn destun diolch ac agor drysau. ‘Doedd y cyfeillgarwch a dyfodd rhwng y ddau ddim llai na gwyrth ac y mae’r darluniau o’r ddau gyda’i gilydd  yn ddelweddau hapus a llawer mwy grymus na geiriau (dealladwy a dialgar) rhai fel Norman Tebbit neu ambell i gyn-filwr a glywyd ar Radio Cymru. Efallai mai’r hyn a fynegodd orau y newid sydd wedi digwydd yn y Gogledd yw pan gerddodd y ferch gyntaf i fod yn Arweinydd y DUP, Arlene Foster, i’r gwasanaeth angladdol  yn Eglwys Gatholig St. Columba yn y Bogside ym Melffast – yr arweinydd cyntaf i wneud hynny – a chael cymeradwyaeth y gynulleidfa fawr oddi mewn ac oddi allan. Ategwyd y gymeradwyaeth honno gan eiriau Bill Clinton a gan fendith yr offeiriad, Y Tad Michael Canny ar ddiwedd y gwasanaeth yn cyfeirio at obaith y Pasg.

Yn ôl ar y bont

Mae digwyddiadau brynhawn Mercher, Mawrth 22ain ar Bont Westminster ac yn y fynedfa i Westminster ei hun, a hyd yn oed yr amser – 2.40p.m. – yn gyfarwydd i bawb erbyn hyn, ac nid oes angen i Agora ail adrodd y ffeithiau.

Bu’r cyfan yn drychineb i gynifer o unigolion, i deuluoedd (gan gynnwys teulu Khalis Masood ei hun ), i bobl Llundain, i Dŷ’r Cyffredin ac i’r Llywodraeth. Ond, ar drothwy’r Pasg, mae’r ymateb i’r drychineb yr un mor bwysig. Roedd arweinwyr y crefyddau ‘etifedd Abraham‘ wedi dod ynghyd, a phob un yn eu tro wedi gwneud datganiad byr o gydymdeimlad ac o ymrwymiad i  ymwrthod ag unrhyw ragfarn hiliol a chrefyddol ac i gydweithio i adeiladau byd o ryddid ac o ddiogelwch. Yna, wythnos union yn ddiweddarach, yn yr un lle ac ar yr un amser, daeth cannoedd lawer ynghyd o wahanol gefndiroedd, crefydd,  gwledydd a hil yn cynrychioli, nid yn unig Llundain, ond yr holl fyd. Mae’r darlun yn mynegi’r teimladau, y meddyliau, y gweddïau a’r neges oedd ar y bont wythnos yn ddiweddarach. Love for all, hatred for none,  yw’r neges syml ar y baneri.

Neges y Pasg yn Syria

Mae Archesgob Maronaidd Damascus, Archesgob Samir Nassar , wedi cyfuno   neges y Grawys gyda neges y Pasg eleni. Er bod Llywodraeth Assad (gyda chymorth bomiau Rwsia) fel petae yn gorchfygu IS a nifer o’r gwrthryfelwyr eraill yn erbyn y llywodraeth (a gafodd gymorth bomiau rhai o wledydd y Gorllewin yn eu brwydr), mae’r Archesgob yn dweud fod y dioddefaint a’r dinistr yn parhau. Mae’r eglwys yn Syria, meddai, yng nghanol ardaloedd â ddinistriwyd, cymunedau a chwalwyd, dinasoedd â ddinistriwyd. “Chwerw fu’r Grawys”, meddai, wrth ystyried yr eglwysi (a’r mosgiau) a fomiwyd. “Mae 12 miliwn heb do, mae 11 miliwn yn ffoaduriaid ac y mae bron i 500,000 wedi eu lladd mewn 5 mlynedd. Mae 40,000 a 10,000 o blant wedi ei lladd yn Aleppo yn unig. Ond fe fyddwn yn paratoi i ddathlu’r Pasg, fel y mae Cristnogion wedi ei wneud yn Syria er dyddiau Llyfr yr Actau.”

Ar ôl clywed am y drychineb yn Llundain ar Fawrth 22ain anfonodd hefyd neges o gydymdeimlad at Faer Llundain, gan nodi fod eu cydymdeimlad yn fawr oherwydd eu bod hwy wedi byw gyda thrychinebau llawer iawn mwy ers blynyddoedd maith. Dywedodd mai dyna yw bywyd yn Syria fel mannau eraill yn y Dwyrain Canol.

Ar gyfer pererinion y Pasg.

Ar Fawrth 22ain cwblhawyd naw mis o waith adfer ar Eglwys y Bedd Sanctaidd yn Jerwsalem, cyrchfan a fydd, er gwaethaf y sefyllfa fregus, yn denu miloedd eto eleni. Honnir mai dyma’r fan (ond nid oes cytundeb ar hynny)  lle y croeshoeliwyd, y claddwyd ac felly yr atgyfododd Iesu.

Mae 50 o wyddonwyr a thechnegwyr  Groegaidd wedi bod yn gweithio bob nos am naw mis i adfer yr hyn sy’n cael ei alw yn Ediciwl sydd uwchben y bedd. Y Gronfa Cofadfeilion Byd sydd wedi goruchwylio’r gwaith. Am y tro cyntaf ers dwy ganrif roedd yn rhaid codi’r graig oedd ar ddrws y bedd er mwyn gwneud y gwaith. Oherwydd y gwrthdaro sydd wedi bod ers canrifoedd rhwng eglwysi a thraddodiadau ynglŷn â meddiant o’r safle, mae’n arwyddocaol  mai gan Fwslim mae allweddau’r eglwys.

Marwolaeth David Ollerton

Dydd Gwener, Mawrth 31ain cynhaliwyd gwasanaeth o ddiolchgarwch am fywyd David Ollerton yng Nghanolfan Christchurch, Casnewydd. David Ollerton oedd sylfaenydd mudiad Cymrugyfan, sydd, yn ôl y wefan yn rwydwaith ‘i blannu a chryfhau eglwysi … sydd yn cydweithio gyda grwpiau ac enwadau efengylaidd.  Mae  Cymrugyfan yn ceisio hyrwyddo a hybu lluosiad eglwysi efengylaidd ar draws ein cenedl ac annog eglwysi sy’n bodoli i blannu eglwysi mewn modd mwy effeithiol ac arloesi wrth efengylu yn yr ardaloedd mwyaf anghenus.’

Trwy ei gariad at Gymru a thrwytho’i hun yn yr iaith a hanes Cymru, daeth i ymdeimlo, a defnyddio ei eiriau ei hun, ‘â baich dros Gymru.’ Bu’n arweinydd dylanwadol a galw mawr arno i siarad mewn cynadleddau Cristnogol Efengylaidd. Yn 2016 cyhoeddodd ei waith ymchwil manwl mewn cyfrol o’r enw ‘Cenhadaeth newydd i Gymru’ (Cyhoeddiadau’r Gair. Cyfieithiad Cymraeg gan Meirion Morris.) Mae’n gyfrol swmpus o 304 o dudalennau yn llawn gwybodaeth ac ystadegau, ond hefyd yn cyflwyno’r ffordd ymlaen i eglwysi sydd am dyfu ac ar gyfer eglwysi sydd eto i’w plannu. Cafodd ei hadolygu ar wefan Cristnogaeth 21. Mae Agora yn cydymdeimlo yn fawr â’i deulu ac â’i ffrindiau led-led Cymru a thu hwnt.

 

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.