E-fwletin Mawrth 12fed, 2017

E-fwletin Mawrth 12fed, 2017

Prosiect crefyddol oedd Prydain Fawr a Phrydeindod o’u dechreuad. Prosiect crefyddol hefyd oedd y Diwygiad Protestannaidd, yn Lloegr a’r Alban, pan y’i fabwysiadwyd gan y Sefydliadau. Prosiect i sicrhau ac ymestyn sofraniaeth ei goron a hunaniaeth ei deyrnas oedd Diwygiad Amrhrotestannaidd Harri VIIl a’i mwtaniadau dan Edward VI ac Elizabeth. Ac fe ellir, ac fe ddylid, gweld “Prydeindod” fel prosiect-o-fewn-prosiect, cyfres o gynllwyniau i uno Alban, Iwerddon a Lloegr Protestannaidd yn Brydain – ond prosiect a esgorodd ar imperialaeth front coron “Prydain Fawr” draflyncodd yn gyntaf yr Alban a’r Iwerddon, cyn troi at weddill y byd, a troi traean o’i fap yn binc.

Harri’r VIII

Dros gyfnod estynedig,  cuddiwyd realiti brwnt, amrwd a chyntefig gwleidyddiaeth grym, hil a chyffes grefyddol dan glogyn parchus – a, chwarae teg, optimistaidd a moesol – credo Cysyniad Cynnydd, the “Whig Idea of Progress” chwedl J. B. Bury. Yr hyn sy’n ddiddorol, ac a ddylai fod yn destun pryder difrifol – yw nid yn gymaint fod y clogyn wedi llithro yn ddiweddar, ond bod lleisiau croch o’r Dde gwleidyddol yn ymffrostio yn seiliau gwrthun ac adweithiol y Prydeindod crefyddol hwn.

Cyhoeddodd Michael Gove erthygl yn y Times ddydd Gwener, lle gwnaeth yr ensyniad anhygoel fod y Prif Weinidog yn rhy Babyddol i arwain Prydain yn llwyddiannus allan i fyd  heriol Brexit. Gobeithiaf y maddeuir i mi ddyfynu’r paragraff allweddol yn y Saesneg gwreiddiol; ceisiais ei gyfieithu, ond collir cyseiniant ei eirfa dethol o wneud hynny.

Michael Gove

“Britain’s [sic] path to preeminence in the past followed our break with Catholicism and embrace of the Reformation. We pursued a global, maritime, buccaneering, individualistic, liberal destiny — the spirit of our capitalism was infused with a very Protestant ethic. Now that we are once more freeing ourselves from a conformist Continent to make our own way in the world the question of whether we need to be more radical to maximise opportunities or more cautious to reassure and protect is central to our politics.”

Fe fyddai’n hawdd wfftio hyn i gyd fel gwallgofrwydd arferol Gove, a’i ddiystyru – pe na bai siarad fel hyn mor beryglus, a phe na bai elfen o wirionedd gwyrdroëdig iddo.

Heb os, fe ddefnyddiwyd crefydd i bweru cerrynt gwleidyddol luniodd Prydain o oes Iago’r VI a’r I ymlaen, ac ymhell y tu hwnt i gyfnod y rhyfeloedd crefyddol yr ail ganrif ar bymtheg. Yng Ngogledd yr Iwerddon, mae meddylfryd fel hyn yn dal mewn bod ar ôl chwarter canrif o’r Broses Heddwch. Prin fod angen atgoffa neb bod y grymoedd hyn wedi llunio a chyflwyno Prydeindod – nid heb wrthwynebiad – fel strwythur o ormes sy’n dilysu elît, yn  diffinio grwpiau fel y “gelyn oddi mewn”, (hoff ymadrodd Mrs Thatcher!) ac yn mynnu bod teyrngarwch i ‘r sylfaen sanctaidd – llythrennol sanctaidd – hwn yn faen prawf i benderfynu pwy sy’n cyfrif a phwy sydd ddim. Y tu hwnt i feysydd academaidd Hanes a Gwleidyddiaeth, fel goddrych astudiaeth maent yn nythu’n dwt o fewn Astudiaethau  Ôl-wladychol, ond yn fwy pwysig, maent wedi bod yn ffocws ymdrechion gwleidyddol tros ddwy os nad pedair canrif i’w trosgynnu. ‘Roeddem wedi dod i gredu eu bod yn perthyn i orffennol yr oeddem yn ymbellhau oddi wrtho.

Digon o achos pryder oedd bod y Prif Weinidog ac eraill wedi disgyn i’r arfer o ddefnyddio iaith ffydd i wneud cyfalaf gwleidyddol, ond mae ymyriad Grove – a’i ymosodiad ar Theresa May am fod yn rhy “Pabyddol” – yn torri tir newydd.

Mewn un paragraff croch, blêr, sy’n gamddefnydd digywilydd o ddamcaniaeth Max Weber parthed Protestaniaeth ac ysbryd cyfalafiaeth, llwydda Gove i uniaethu un amlygiad hanesyddol, brwnt ac annheilwng o ffydd Gristnogol ag eidentiti Prydeinig “go iawn.”

Llwydda ar gefn hynny i ensynio ar dir crefyddol nad yw’r Prif Weinidog Eingl-Gatholig yn “un ohonom ni” mewn gwirionedd, sy’n gampwaith o ffieiddio gwleidyddol nid ansylweddol ynddo’i hun, ond llwydda hefyd i awgrymu bod rhyw brofiad crefyddol cenedlaethol honedig wrth wraidd Prydeindod.  

Dechreuodd Mrs Thatcher y gwaith o ymosod ar wir seiliau Cristnogol cymdeithas – nid cymdeithas Prydeinig, ond cymdeithas fel y cyfryw. Yn awr, ymddengys fod Michael Gove yn benderfynol, nid yn unig o gwblhau’r gwaith o ddatgymalu cymdeithas, ond o fedyddio’r prosiect fel menter Cristnogol a Phrotestannaidd.

Sut y dylid – sut gellir – codi llais yn y Sgwâr Gyhoeddus yn erbyn cabledd digywilydd o’r fath?