E-fwletin Mawrth 6ed, 2017

Future Shock oedd teitl llyfr enwog y dyfodolegydd (os mai dyna’r cyfieithiad cywir o “futurologist”) Alvin Toffler, gyda’i thesis enwog nad yn unig fod newid yn cyflymu, ond bod cyfradd newid yn chwimio.

Alvin Toffler (1928-2016)

Ers y chwedegau, mae’r gair “exponential” – “esbonyddol” – wedi bod yn adnawdd handi i newyddiadurwyr dioglyd i fynegi’r syniad o gynnydd aruthrol mewn rhywbeth;  y gwir yw ein bod, yn ein profiad o fywyd bob-dydd yn dod yn agos iawn at ei ystyr llythrennol, mathemategol. Cofiaf fy athrawes gynradd rhyfeddol Miss Williams yn dweud wrth ddosbarth o blant deg oed “Mae’r byd wedi newid y tu hwnt i bob adnabyddiaeth ers cyfnod plentyndod eich teidiau a’ch neiniau…” Fe’i dyfynnais mewn pregeth, yn y naw-degau, a chynnig – ar gefn gosodiad Toffler –y sylwad fod y byd bellach yn newid allan o bob adnabyddiaeth bob deng mlynedd.

Bellach, mae dyn yn colli cyfrif o’r troeon mae’r byd wedi newid allan o bob adnabyddiaeth ers 2008, ac yn wir mae’r byd wedi newid yn llwyr o leiaf ddwywaith ers fis Mehefin y llynedd.

Dyna ystyr “newid esbonyddol”.

Caniatewch i mi ymestyn y trosiad. Mewn ffiseg a chemeg, mae cyflymu symudiad moleciwlau yn arwain at “drawsnewidiad gwedd” (“phase transition”) – try soled yn hylif, hylif yn nwy, nwy yn blasma. Ym 1848, roedd Karl Marx yn siarad felly am foderniaeth ddiwydiannol: “Mae popeth sy’n solet yn toddi i’r awyr…” Gyda’r cyflymu didrugaredd yng nghyfradd newid cymdeithasol, onid yw fel pe baem wedi pasio trwy feirioli a berwi i rhyw gyflwr o “plasma” di-gyswllt, i atomeiddio ac ïoneiddio didrugaredd lle mae cymdeithas, fel mynnodd Mrs Thatcher, yn gasgliad o unigolion a phrofiadau digyswllt?

Fe ddaeth y syniad o “trawsffurfiad gwedd” yn ôl yn rymus i mi tra’n sefyll wrth ddrws yr eglwys droeon yn y flwyddyn ddiwethaf.

Profiad pregethwyr dros y canrifoedd, am a wn i, yw o gwrteisi confensiynol wrth ddrws y cysegr. Gall fod yn ymateb Pavlovaidd, bron. “Diolch am y bregeth!”

Oni synhwyrwn fod ymateb pobl wedi newid? Mae pregethu nad yw’n gwneud mwy na’i ddyletswydd trwy wrthgyferbynnu realiti cymdeithas gyfoes a gofynion a gwerthoedd y Deyrnas, gwagedd moesol ac ensyniadau anfoesol arweinyddiaeth gwleidyddol a gwŷs diamwys y Crist, yn ennyn ymateb o ryddhad, a gollyngdod, a dirnadaeth gwirioneddol ysbrydol o reidrwydd gwrthsefyll.

Credaf fod hyn yn fewnwelediad i newid ym mherthynas eglwys a chymdeithas.

Ym moderniaeth, pan oedd y solet yn toddi a meirioli, beth oedd yn fwy solet, yn fwy cysurlon, na phresenoldeb sefydliadol yr Eglwys, a’r eglwysi?

Ystyriwch ei rhagfuriau, edrychwch ar ei phalasau; fel y mynegoch i’r oes a ddelo ar ôl. Canys y Duw hwn yw ein Duw ni (Ps.48:13-14)

Adeiladwaith o gerrig, a strwythur o drefniadaeth, oedd proffil cyhoeddus, cymdeithasol Cristnogaeth – ie, gan gynnwys yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr! Mae’r fath beth, wrth gwrs a “sefydliad gwrthsefydliadol”…

Ond gyda’r cynnydd enbyd yn “nhymheredd” cymdeithas, mae’r adeiladwaith a’r strwythurau wedi toddi ar y cyd a dadfeilio’r adeiladau. Nid ydym eto wedi peidio a phrofi hyn fel argyfwng – os nad math o brofedigaeth. Ond gallwn hefyd ddechrau ei weld fel gwaredigaeth…

Mewn amgylchfyd chwilboeth sy’n llosgi ymaith y sgaffaldau solet, yr hyn a adewir yw presenoldeb y Crist yn y canol, a gobaith y Deyrnas fel yr unig ffactor sy’n ein galluogi i edrych y tu hwnt i’r presennol brawychus; yr unig ffactor o gwbl, mewn gwirionedd, sy’n ein galluogi ni i sôn am “du hwnt” i hyn i gyd – am rhywbeth y tu allan i bethau fel ag y maent sy’n cynnig y posibilrwydd o wrthsefyll, ac o ddweud “NA! ‘Dydi hyn DDIM YN IAWN…”

Onid hyn yr ydym yn ei weld yn gynyddol?  Pobl yn ail-ddarganfod – neu darganfod am y tro cyntaf – dimensiwn gwleidyddol yr Efengyl, yn y gorchymyn i wrthsefyll. Pobl sydd, mewn byd sy’n atomeiddio cymdeithas, yn dyheu am, ac yn adnabod, grym gwir gymuned a chymundeb.

A dyma i chwi un twist bach arall ar y trosiad (gor-estynedig!) sy’n rhedeg trwy’r myfyrdod hwn: os yw “tymheredd” llethol cymdeithas yn troi bodau dynol yn atomau unigol, digyswllt, ac os gwir hanfod yr Eglwys yw ein cydlyniad a’n hundod, a’n solidariti yng Nghrist – onid ydi hynny’n gwneud yr Eglwys, trwy ddiffiniad, yn “cŵl”?