E-fwletin Chwefror 19eg, 2017

Mae capeli’n fwy diogel: mae amddiffynfeydd yn eu lle i’n gwarchod, ond mae eglwysi plwyf yn gwbl agored – nid oes eu hamddiffyn, na’r offeiriad rhag priodasau, bedyddiadau ac angladdau rent-a-church.

Gan ein bod ni’n gymdogion bellach, caf gyfle i siarad dipyn ag offeiriad newydd, ifanc – ugeiniau hwyr – yr eglwys ar ben y stryd. Ganddo yntau y clywais yr ymadrodd rent-a-church wedding. ’Roedd newydd orffen y gwasanaeth, ac yn ymlwybro tuag adre. Digalon ydoedd meddai, gan iddo deimlo mae service provider oedd – un ymhlith nifer. Wrth hyfforddi, ’roedd wedi addo’i hun na fuasai byth yn gwneud y fath beth – a dyma fe, meddai, selling out! Os mai selling out mae ef, sold out ydwyf innau!

Ond, er tegwch i’r naill a’r llall ohonom, selling out neu sold out yw hanes y rhan fwyaf o weinidogion ac eglwysi. Gwelsom ddirywiad enbyd, a’n hymateb greddfol oedd – ac yw – hepgor y syniadau, daliadau ac egwyddorion caled Cristnogol, a chynnig yn hytrach adloniant ysgafn Cristnogol Christianity-lite. Mae’r eglwysi ‘ceidwadol’ llawn mor euog o hyn â’r eglwysi ‘rhyddfrydol’. Credwn, os byddwn yn cynnig beth mae pawb ei eisiau, fe ddôn nhw yn ôl atom. Mae’n amlwg ddigon nad yw’r polisi hwnnw wedi gweithio erioed, ond daliwn ati i ddal ati…ac i ddal ati eto fyth.

O’r herwydd, aethom yn service provider o fath, a phobl yn teimlo ein bod ar gael iddynt i gynnal eu priodasau, bedyddiadau ac angladdau. Os ydym yn barod i werthu ein ffydd, bydd pobl yn mynnu’r hawl i brynu beth maen nhw’n ddymuno’i gael, i wneud fel y mynnon nhw â hi. Os ydym yn ceisio cynnig beth mae pobl ei eisiau, yn naturiol ddigon daw pobl atom i weld beth sydd gennym i’w gynnig – i weld a fedrwn ni gynnig beth sydd angen arnyn nhw’n ysbrydol, ac os na fedrwn wneud hynny, fe ân nhw i rywle arall. Mi hoffwn awgrymu’n garedig nad ydym bob amser yn gwybod yn iawn beth yw ein hanghenion ysbrydol, ac o’r herwydd dewiswn beth i’w hoffi’n ysbrydol, sef ffydd sydd yn gofyn fawr o ddim gennym. Yr hyn sydd angen arnom yw crefydd sydd yn gosod rhwymedigaethau arnom. Mae pobl yn chwilio – ac yn fynych iawn – yn dewis capel sydd yn adlewyrchu eu hanghenion, yn hytrach nag yn llywio eu hanghenion. Ond, er tegwch i bawb, faint o eglwys sydd o ddifri am gyflawni’r gwaith caled o lywio anghenion eu pobl?

Mae fy nghymydog wedi blasu’r weinidogaeth, ac wedi ei gael yn chwerw. Heb yr hunan-faldod sydd mor nodweddiadol o’r weinidogaeth Gymreig, mi hoffwn ddweud fy mod i’n deall. Peth cas yw llyncu balchder o hyd – mae blas cas i egwyddor o orfod ei chyson lyncu! Ond mae cynhaliaeth mewn gweinidogaeth tymor hir. Mi wn rywbeth am y pwysau i ddiwallu anghenion pawb, mi wn hefyd am briodasau, bedyddiadau ac angladdau rent-a-church. Mi wn yn iawn am y temtasiwn parod i gynnig Christianity-lite, gan fod hwnnw’n haws i mi ei ‘werthu’ ac i bobl ei ‘brynu’. Mi wn yn iawn am selling out! Ar adegau bu gen i gywilydd o’r Eglwys, a sawl gwaith bu gen i gywilydd ohonof fi fy hun a’m gweinidogaeth. Ond, mi wn hefyd, wedi dau gyfnod hapus o weinidogaeth tymor hir, bod yr eglwys leol, er ei gwaethaf hi ei hun, yn gallu ymwrthod â’r temtasiwn parod i fod yn ddim byd amgenach na chlwb crefyddol rywbeth-i-bawb, a mynnu’n hytrach bod yn eglwys Iesu Grist.