YR ALWAD I WEINYDDU
Yn ôl sawl arolwg diweddar, mae gweinidogion bellach, yn gorfod gwario mwy a mwy o amser yn gweinyddu, ac yn mwynhau’r gweinyddu llai a llai. Nid oedd angen arolygon i ddatgan hyn! Mae pob un gweinidog yn gwybod hyn eisoes! Fel gweinidogion, credwn fod gweinyddiaeth yn ein tynnu o’n gweinidogaeth. Ond tybed, a allai gweinyddiaeth gynorthwyo’n gweinidogaeth? Tybed, pe byddem yn dysgu (ac i hynny mae angen hyfforddiant, a pharodrwydd i ddysgu), dulliau gweinyddu mwy effeithiol a fuasem fel gweinidogion yn cwyno llai am ein gwaith gweinyddol? Cwestiwn digon arwynebol yw hwnnw; mae cwestiwn arall, trymach, yn y dyfnder …
Mae gweinyddu yn wrthun gennym. Credwn fod gweinyddiaeth yn mynd yn groes i ysbryd y weinidogaeth. Geilw gweinyddu arnom i osod nodau i’n gwaith; i osod cynllun gwaith a sticio iddi; i ddatblygu strategaeth, a dilyn y strategaeth i’w phendraw, hyd yn oed pan mae sglein y syniad ‘newydd’ wedi dechrau pylu. Nid hoff gennym hyn o beth, ac yn fynych, ein dadl yw mai hanfod gweinyddu yw cadwyn drom o gynlluniau, strategaethau a nodau, tra mai hanfod y weinidogaeth yw pobl, ac i ymwneud â phobl, rhaid wrth yr hyblygrwydd a dardd o ryddid bendigedig yr Ysbryd!
Hanner y gwirionedd sydd yn y ddadl hon. Fel y gwyddom, bu Martin Luther yn cyson drafod y tensiwn rhwng Cyfraith ac Efengyl. Mae’r dynfa hon yn berthnasol yng nghyd-destun y myfyrdod bach hwn.
Dyma ychydig sylwadau ganddo o’i esboniad ar Lythyr Paul at y Galatiaid (3:23).
“Mae amser i’r Gyfraith ac amser i ras. Gadewch i ni graffu ar fod yn ofalus gydag amser. Gall y Gyfraith a gras fod filltiroedd ar wahân yn eu hanfod, ond yn y galon, maen nhw’n eithaf agos at ei gilydd. Yn y galon mae ofn ac ymddiried, pechod a gras, y Gyfraith a’r Efengyl, yn croesi llwybrau’n barhaus.
Pan glyw rheswm y ceir cyfiawnhad gerbron Duw drwy ras yn unig, daw i’r casgliad nad oes gwerth i’r Gyfraith. Felly rhaid astudio Athrawiaeth y Gyfraith yn ofalus rhag i ni naill ai wrthod y Gyfraith yn gyfangwbl, neu gael ein temtio i briodoli’r gallu i achub i’r Gyfraith.
Mae tair ffordd o gam-ddefnyddio’r Gyfraith. Yn gyntaf, gan ragrithwyr hunangyfiawn sy’n tybio y gallan nhw gyfiawnhau eu hunain drwy’r Gyfraith. Yn ail, gan y rhai sy’n honni bod rhyddid Cristnogol yn eithrio Cristion o barchu’r Gyfraith…..Yn drydydd cam-ddefnyddir y Gyfraith gan y rhai nad ydynt yn deall y bwriedir i’r Gyfraith ein gyrru at Grist. O ddefnyddio’r Gyfraith yn briodol, ni ellir ei gor-werthfawrogi. Mae’n fy hebrwng i at Grist bob tro.”
Mae Cyfraith ac Efengyl yn perthyn y naill i’r llall; yn y dynfa rhyngddynt mae hanfod y gwirionedd am y ddau. Mae’r naill yn cynnig strwythur a ffurf, tra bod y llall yn cynnig cydymdeimlad a gofal.
Mae tynfa debyg ar waith rhwng gweinidogaethu a gweinyddu. Hoffwn nodi, yn fas iawn, ddau beth: Yn gyntaf, gwelir yn ein cymdeithas y tueddiad i or-weinyddu, a bod yr unigolyn o’r herwydd yn ddim byd amgenach na chyfres o rifau oer. Gall yr eglwys leol, ac o’r herwydd yr enwadau hefyd, amlygu gwendidau gor-weinyddu, ond i wneud hynny, rhaid wrth ragorach ffordd o weinyddu pobl, nid gosod gweinyddiaeth yn llwyr o’r neilltu! Yn ail, oherwydd i ni dynnu gweinyddiaeth a gweinidogaeth ar wahân, crëwyd gennym y cyfuniad rhyfedd o strwythurau haearnaidd oer, nad sydd ddigon ystwyth i blygu gyda newid a datblygiad, ac eglwysi sydd mor hyblyg nes peri iddynt fyd yn gwbl aneffeithiol – yn feddal mewn byd caled.
Onid oes rheidrwydd arnom fel gweinidogion bellach, ac o’r herwydd hefyd, eglwys neu eglwysi ein gofal, ac felly’n naturiol ddigon … yr enwad yn gyfan, i gael gwell gafael ar ystyr gweinyddu a gweinidogaethu? Pobl sydd yn bwysig! Heb os! Byddai cael gwell gweinyddiaeth yn arwain yn anochel at well gweinidogaeth: gwell gofal o’n pobl.