Archifau Categori: E-Fwletin

E-fwletin Wythnosol

E-fwletin 8 Medi, 2019

A yw stori yn wir?

Un o fendithion bywyd yw cael gair o feirniadaeth ddidwyll gan rywun caredig. Fe gefais un o’r profiadau hynny gan Capten Ifans a oedd wedi ymddeol i Angorfa yn Aberarad cyn symud i fyw yn ôl i olwg y môr yn Llandudoch. Yno un bore Sul ar y ffordd tu allan i’r capel, wedi i mi, yn fyfyriwr bregus fy hyder, geisio arwain oedfa, daeth ataf i holi am y teulu. Wedyn fe ddwedodd, “Diolch am yr oedfa, ond John, peidiwch byth â dweud ‘y stori am Iesu yn dweud rhyw eiriau’ neu’r ‘stori am Iesu yn  gwneud rhyw wyrth.’ Hanes yw’r pethau yna , nid storïau” A byth oddi ar y funud honno rwyf wedi ymdrechu i ddilyn ei gyngor. Fe ddaeth yr atgof yna yn ôl yn fyw i mi yn ddiweddar wrth ddarllen colofn am “newyddion ffug”.
 
Nid ffenomen newydd yw “post-truth”, y meddylfryd sy’n barod i wfftio ffeithiau, barn arbenigwyr a dadleuon rhesymegol, a rhoi ei ffydd mewn emosiwn torfol. Daeth i’r golwg mewn amrywiol weddau, yn etholiad Arlywydd America, yng nghynnydd yr adain dde eithafol dros Ewrop, yn yr ymgyrchu camarweiniol yn erbyn brechu rhag haint, ym mhoblogrwydd Nigel Farage ac etholiad Boris Johnson. Mewn awyrgylch fel hyn bydd sloganau yn teyrnasu. Er enghraifft, beth bynnag fo’r dadansoddwyr economaidd yn ei ddehongli fel dadleuon yn erbyn Brexit, mae’r slogan “project fear” yn ddigon i chwalu eu holl waith. Fe all y gorffwylledd hwn fygwth gwareiddiad, oherwydd y mae’n dibrisio gwirionedd ac yn gorseddu twyll.
 
Beth yw’r ateb? Os dywedwn fod yn rhaid inni ddod yn ôl i orseddu gwirionedd bydd cwestiwn yr archwleidydd Pilat yn ein herio:  “Beth yw gwirionedd?”  Mae ffeithiau yn medru bod yn amwys ac amlochrog. A dyma ni yn ôl gyda honiad Capten Ifans. Beth yw sail y sicrwydd fod geiriau’r Iesu yn yr Efengylau yn wirionedd? Pam yr ydwyf fi, fel Capten Ifans, mor barod i gredu’n ddibetrus i’r Iesu garu tlodion a chleifion Galilea a Judea? Yr ateb gennyf i yw hyn: nid ffaith i’w derbyn yw gwirionedd, ond rhywbeth i’w wneud. A’r maen prawf fod geiriau’r Iesu yn wirionedd yw eu bod yn hollol gyson â’i weithredoedd. Fel y dwedodd Iesu wrth Pilat yn yr un cyfweliad: “Y mae pawb sy’n perthyn i’r gwirionedd yn gwrando ar fy llais i.” Y mae perthyn i’r gwirionedd yn gyfystyr â gwneud y gwir. A phan fydd gweithredoedd ac ymddygiad gwleidyddion yn dangos unplygrwydd a gonestrwydd yna bydd hawl ganddynt ddisgwyl i ni’r werin ddilyn eu harweiniad.
 
Ond a oes gwir mewn stori?
 
Cwestiwn mam yn aml i ni’n tri, pan welai hi ni’n darllen rhyw lyfr, oedd “A yw e’n wir?” Iddi hi, gwastraff amser oedd darllen nofelau. Roedd gwahaniaeth mawr rhwng stori a hanes. Nid yw’n syndod felly i mi deimlo rhyw annifyrrwch flynyddoedd yn ôl o glywed darlledwyr newyddion yn galw eitem o newyddion yn stori, yn union fel y bydd gohebwyr Saesneg yn defnyddio’r gair “story”. Byddai Capten Ifans wedi eu condemnio! Ond yn y mater hwn buaswn wedi dechrau dadlau gydag ef. Onid oes llu o storïau yn y Beibl wedi agor y drws i wirionedd anhraethol fwy na’r stori ei hun?

E-fwletin 1 Medi, 2019

Diwedd haf …

I rai ohonom, y caead mwyaf amlwg ar yr haf yw’r daith flynyddol i ŵyl Greenbelt dros benwythnos gŵyl y banc.   Daeth  hon yn ddefod flynyddol ers bron i hanner canrif i nifer, ac mae’r profiad yn cyfoethogi bywyd rhai yn fwy heddiw nag y gwnaeth erioed.    Mae’n ddathliad o greadigrwydd, ysbrydolrwydd a gweithredu ac yn flynyddol yn cynnig her a llawenydd.   Mae yno theatr, sinema, pabell goginio, orielau celf, llwyfannau gwerin, llwyfan roc, tafarn, pebyll seminarau, pebyll defosiwn, bwytai a gweithdai a llawer mwy.  Gosodir y cyfan yng ngerddi mawreddog Boughton House, ger Kettering.   Mae ysbrydoliaeth yr ŵyl yn dod o’r un stabal â Christnogaeth21 – sef diwinyddion, gwyddonwyr, artistiaid, sylwebyddion cymdeithasol, athronwyr a chomediwyr yn gweithio trwy’r heriau o fod yn ddilynwyr i Iesu Grist yn ein canrif a’n cyd-destun ni.  
  
Eleni fe dreuliais dipyn o amser ar stondin na fu’n rhan o’m profiad blaenorol.  Yn yr ‘Exchange’ roedd casgliad o fusnesau ac unigolion o gefndir y sefydliadau cydweithredol (y co-ops), CMS a Traidcraft.   Yno bues yn gwrando ar unigolion sy’n rhan o rwydwaith RESONANCE sydd yn gweithio o fewn byd busnes  i greu llewyrch cymdeithasol i gyd-fynd â’r galw am elw.  Yno cefais y fraint o glywed cylch o bobl busnes yn dadansoddi’r argyfwng di-gartrefedd ac yn trafod atebion creadigol a synhwyrol.    Trafodwyd datblygu cronfa sylweddol iawn i alluogi pobl i ddod at ei gilydd i brynu miloedd o dai fel buddsoddiadau personol a chymunedol.  Byddai modd wedyn gosod y tai hynny ar rent am bris fforddiadwy i deuluoedd anghenus, gan guro greddf y farchnad i brisio’r tlodion allan o’r farchnad dai.  Byddai’r rhenti hyn o hyd yn cynnig ad-daliad i’r buddsoddwyr fyddai’n ddiogel ac yn cystadlu’n dda gyda’r cyfraddau a gynigir y dyddiau hyn trwy ISAs a chynilon eraill.   Ar yr un pryd, trafodwyd y posibilrwydd y byddai mudiadau  a cholegau yn gallu cyd-ddatblygu prentisiaethau i bobl ifanc difreintiedig gael y cyfle i fagu sgiliau perthnasol i weithio yn y fasnach dai.    Cyd-destun dinesig a gwledig Seisnig oedd cymhelliad y drafodaeth, ond roedd yr opsiynau oedd yn cael eu trafod yn agor drysau i ffyrdd i ni fel siaradwyr Cymraeg geisio datrys yr argyfwng oesol sydd gyda ni yn y bröydd Cymraeg eu hiaith gyda thai haf.  Byddai’n dda cynnal symposiwm rhyw ddydd ar faterion economaidd a gwaith eglwysig. 

Un o ryfeddodau Greenbelt i mi yw’r ffaith nad wy’n rhy hen i’r ŵyl.  Yn fy ugeiniau, roedd yn ŵyl i’r ifanc.  Erbyn hyn mae’n ŵyl i bob oed.   Roedd yno gannoedd o unigolion yn eu 70au a thu hwnt eleni eto.  Mae’n ŵyl sydd wedi datblygu ei gwaith i gwrdd â’i demograffeg –  ceir gweithgareddau i bob oed –  y deallus, y doniol a’r dwys.  Dyma’r tebycaf y cewch i eisteddfod wedi ei dylunio i bobl o anian C21.  
 
Dymuniadau gorau i holl ddarllenwyr y bwletin wrth i ni baratoi am hydref a gaeaf arall.   Byddai’n dda gwybod o ble cawsoch chi ysbrydoliaeth yn ystod haf 2019 ar gyfer eich taith chi a’n taith ni fel cymuned.   Mae croeso i chi ymateb ar y wefan neu ar Facebook.
https://resonance.ltd.uk/    https://www.greenbelt.org.uk/

E-fwletin 28 Gorffennaf 2019

Capeli’n Cau

Cafwyd adroddiad yn y newyddion yn ddiweddar am ganfyddiadau arolwg a wnaed i agweddau cymdeithasol pobl yng ngwledydd Prydain. Yn ôl yr arolwg roedd dros hanner y boblogaeth yn dweud nad ydy nhw’n arddel unrhyw grefydd.

Mae’r lleihad yma wedi cyd-fynd â’r trai ymhlith y rhai sy’n perthyn neu’n mynychu ein capeli a’n heglwysi, gan arwain at gau cannoedd ohonynt.

Mewn cyfweliad yn trafod yr arolwg ar Radio Cymru roedd gan Cynog Dafis sylwadau diddorol iawn ar y mater. Yn eu plith honnai fod mesur helaeth o’r bai am y trai crefyddol ar y ffordd y mae’r Ffydd Gristnogol yn cael ei chyflwyno. “Caiff crefydd” meddai, “ei gweld fel hen beth ceidwadol, yn haearnaidd eu syniadau, ac sy’n barod iawn i feirniadu pobl â’u hymddygiad yn wahanol i ymddygiad traddodiadol”

Gobeithio y daw cyfle cyn hir i Cynog ymhelaethu ar ei sylwadau ar y pwnc amserol hwn ar wefan Cristnogaeth 21. Yn y cyfamser dyma fyfyrdod wedi cau capel.

 

Y Tŷ Cwrdd

Mae drysau’r Tabernacl wedi’u bolltio,
Y dŵr a’r trydan wedi’u troi i ffwrdd,
Aroglau pȋn y corau’n dal i’w glywed,
Ond neb yn t’wllu’r fan i gynnal cwrdd.

Bu’r storm yn bylchu’r to trwy gipio’r llechi,
Mae’r muriau llaith yn rhedeg gan chwys oer,
Llythrennau cysegredig wedi crawnu
Ac yn glynu wrth y morter fel hen boer.

Mae’i hyd a’i led a’i uchder wedi’u mesur
Daw rhywrai i fwrw golwg a’u boddhau,
Ond er troi’r lle yn dŷ, yn siop neu’n dafarn
Bydd rhywbeth o’r hyn oedd eto’n parhau.

Ond mae mam sydd heno’n dal i ddweud ei phader,
A rhywrai’n cynnau cannwyll ar y stryd;
Mae dau yn caru’n dyner ar y cyrion
A’u hiraeth am gael bod yn wyn eu byd,
Oes mae hiraeth am gael bod yn wyn eu byd.

*                  *                  *                  *

Dywed Leonard Cohen yn ei gân ‘Anthem’:

“There is a crack in everything,
That’s how the light gets in.”

Mae pobl yn dal i chwilio ac yn ‘hiraethu am gael bod yn wyn eu byd’ yn y dyddiau ol-Gristnogol (os nad ol-gapeli) hyn. A thra bo’r eglwys yn mynnu dal gafael ym muchod sanctaidd y gorffennol fe aiff pobl i chwilio a dod o hyd i’r goleuni mewn mannau eraill. Efallai taw yn fanna mae’n gobaith ni!

“O! Eglwys, eglwys! Ti sy’n lladd y proffwydi ac yn llabyddio’r rhai a anfonwyd atat, mor aml y byddem wedi gadael i ti ein casglu ynghyd gyda’th blant, fel y mae giâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd, ond fynnet ti ddim.”

(gw: www.nakedpastor.com/catoons)

Dyma’r e-fwletin ola tan fis Medi. Mwynhewch weddill yr haf, a chofiwch am encil Cristnogaeth 21yng nghapel Berea Newydd, Bangor, ddydd Sadwrn, Medi 21ain am 10:00 dan y teitl Y Cread a’r Cymod  yng nghwmni Gareth Lloyd Jones, Dyfed Wyn Roberts, Sioned Webb ac Ifor ap Glyn. Cost :  £20.00 (yn cynnwys cinio). Rhaid cofrestru erbyn Medi 14eg drwy anfon nodyn at: catrin.evans@phonecoop.coop neu ffonio 01248 680858.

 

E-fwletin 21 Gorffennaf, 2019

 Achub y Ddaear: Cael Gwared ar Ryfel

Dyma oedd teitl cynhadledd undydd y Movement for the Abolition of War ddiwedd Mehefin eleni.  Y bytholwyrdd Bruce Kent a’i wraig Valerie Flessati sy’n bennaf gyfrifol am sefydlu’r mudiad, a thair wythnos yn ôl roedd llond y Mander Hall yn Llundain wedi ymgasglu i glywed siaradwyr yn ystyried sut y mae rhyfel yn niweidio’r amgylchedd. Mae cip ar deitlau’r anerchiadau’n rhoi awgrym o ystod y trafod. ‘No climate justice, no peace’ meddai Molly Scott Cato, Aelod Senedd Ewrop ar ran plaid y Gwyrddion. ‘The carbon boot-print of the military’ meddai Stuart Parkinson wedyn, o fudiad Scientists for Global Responsibility.

Gan ein hannog i beidio â defnyddio termau diniwed fel ‘newid hinsawdd’ ond yn hytrach ‘difodiant hinsawdd’, a ‘gwyniasu byd-eang’ yn lle ‘cynhesu byd-eang’, cyflwynodd Stuart Parkinson ystadegau syfrdanol. Nid mesur milltiroedd-y-galwyn a wna cerbydau’r lluoedd arfog ond mesur galwyni-y-filltir, ac mae’r gwenwyn sy’n cael ei yrru mas o’u peiriannau’n cyrraedd 5% o’r cyfanswm blynyddol – a hynny dim ond wrth ymarfer.

Ac on’d yw hi’n ddiddorol sut y mae cwestiynau tu hwnt i barchu ‘rhwymau teulu dyn’ yn aml yn gallu denu cefnogaeth o bwys? Cofiwn mai parch at y meini hynafol uwchlaw parch at ffordd o fyw’r bobl leol, mae’n debyg, oedd yr hyn a lwyddodd i berswadio’r awdurdodau rhag dwyn tiroedd y Preseli oddi ar bobl y Preseli ’nôl ar ddiwedd 40au’r ganrif ddiwethaf.

Y gwir amdani yw bod rhyfela’n amharchu popeth a bod niweidio un agwedd ar fywyd yn arwain mewn cylch dieflig at niweidio’r llall. Wrth i ni niweidio’r amgylchfyd, mae mwy o wasgu ar ein hadnoddau, mwy o gystadleuaeth amdanyn nhw, mwy o annhegwch, mwy o dlodi, mwy a newyn, mwy o afiechyd  … a mwy o ryfel.

Pennawd rhifyn cyfredol Peace News yw ‘Time to strike! Climate Justice Now!’ a rywsut mae’n rhaid ei bod hi’n fwy na chyd-ddigwyddiad bod galwad wedi dod i gynnal ‘Streic Hinsawdd Fyd-eang’ ar Fedi 20 union ddiwrnod cyn dydd rhyngwladol ‘Heddwch Byd’, Medi 21.

Ond yn ôl i’r Mander Hall lle agorwyd y gynhadledd gyda darlith yr Athro Emeritws Peter van den Dungen, o Brifysgol Bradford. Teitl ei gyfraniad ef oedd  ‘Abolishing war  – hopeful lessons from history’. Y gair ‘hope’ hwnnw sy’n allweddol. Mae mor, mor hawdd anobeithio, ond dydy hynny’n werth dim.

Gobaith yw’r hyn arweiniodd at sefydlu mudiad y gwyddonwyr y cyfeiriwyd ato uchod, gyda nifer, fel Stuart Parkinson, wedi dechrau eu gyrfa yn y diwydiant lladd, yn newid cyfeiriad ac yn chwilio am ffyrdd amgen o ddefnyddio eu doniau a’u dysg wyddonol.  Gobaith oedd y tu ôl i safiad Awel Irene, Brian a Jan Jones, a Marie Walsh o Gymru a ddedfrydwyd yn ddiweddar yn dilyn eu protest yn erbyn Sefydliad Arfau Niwclear Burghfield. Gobaith sydd y tu ôl i’r alwad yng Nghymru i sefydlu Asiantaeth Arallgyfeirio Arfau ac Academi Heddwch.

Bydd y dyhead i ‘Achub y Ddaear a Chael Gwared ar Ryfel’ yn gofyn am ddal at ein gobaith a chreu cynllun radical. Ac mae’r cyswllt rhwng y radical a’r gobeithiol yn un tynn, fel y dangosodd Raymond Williams. Yn ôl y Cymro disglair o Fynwy, mae’r gwir radical yn mynd ati i wneud gobaith yn bosibilrwydd, nid anobaith yn sicrwydd.

Mae darllenwyr y bwletin hwn yn gwybod am rai o’r blaen a fu’n byw yn ôl yr esiampl honno.

E-fwletin 14 Gorffennaf 2019

A ninnau ar drothwy ein Prifwyl Genedlaethol cawsom wybod ychydig o wythnosau yn ôl na fyddai’r Oedfa flynyddol yn cael ei chynnal ar faes yr Eisteddfod eleni.  Yn lle hynny, bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal yng nghapel Seion, Llanrwst.  Dyna, mae’n debyg, oedd y bwriad gwreiddiol, ac fel mae’n digwydd dyna hefyd oedd dymuniad y Pwyllgor Lleol, ond yn dilyn trafodaethau penderfynwyd y byddai’r Oedfa yn cael ei chynnal ar y Maes gyda chyfle i arbrofi. Erbyn hyn cyhoeddwyd y bydd yr Oedfa yn symud yn ôl i gapel Seion am fod yr Eisteddfod wedi gwrthod dilyn y patrwm a sefydlwyd dros sawl blwyddyn o ganiatáu i’r rhai a oedd am fynychu’r oedfa i gael mynediad i’r Maes yn ddi-dl, a hynny’n unol â’r egwyddor na ddylid talu i fynychu oedfa.

Ers blynyddoedd bu’r Oedfa yn rhan annatod o weithgareddau’r Pafiliwn a thraddodwyd mwy nag un bregeth gofiadwy o’r llwyfan. Yn ogystal, bu’n fynegiant o bwysigrwydd y gymuned Gristnogol Gymraeg ym mro’r Eisteddfod ond eleni cafodd ei gwthio allan o ganolbwynt gweithgaredd ein Gŵyl Genedlaethol.  Hynny yw, nid oes yna le i Oedfa yn y Pafiliwn, nac ychwaith ar faes ein Prifwyl.

Teg felly yw gofyn y cwestiwn, a oes yna ddyfodol i’r Oedfa fel rhan annatod o’r Eisteddfod Genedlaethol a beth oedd y gwir reswm dros iddi orfod symund i’r dref eleni?  Ai gwrthod caniatáu mynediad yn rhad ac am ddim oedd yr unig reswm? Ai am ei bod hi’n anodd llenwi’r pafiliwn ar gyfer yr Oedfa? Ai am fod yna leihad yn niferoedd y rhai sy’n perthyn i’r Eglwysi Cristnogol yn gyffredinol? Ai pwysau o du y dyneiddwyr sydd mor uchel eu cloch yn y Gymru gyfoes sy’n gyfrifol?

Mae’n sefyllfa drist a chwithig. Ac mae yna ddiffyg tryloywder.   

Onid oes angen trafodaeth onest ac agored er mwyn cael gwybod a deall beth yn union yw safbwynt yr Eisteddfod Genedlaethol yn ganolog tuag at gynnal Oedfa? Tra bo mewnbwn a barn Pwyllgor Lleol yn allweddol, onid oes angen clywed gan yr Eisteddfod ei hun a yw oedfa o addoliad Cristnogol yn rhan bwysig o’i harlwy ai peidio?

E-fwletin 7 Gorffennaf, 2019

Tynnu’r Lliain a Malu’r Llestri

Roedd ddoe yn ddiwrnod cynhadledd flynyddol C21 a gynhaliwyd yng Nghaerdydd.   Caiff swmp o gynnwys ysbrydoledig y tri siaradwr eu cyhoeddi gan C21, ond am nawr, dyma ambell sylw yn unig fel bwletin am heddiw.  

Testun y dydd oedd “Wynebu Yfory mewn Ewrop Newydd”, gyda thri siaradwr penigamp i’n tywys trwy eu harbenigeddau a’u profiadau gwahanol.  Un yn hanesydd, un yn wyddonydd cymdeithasol a’r llall yn ddiwinydd gyda chefndir mewn athroniaeth wleidyddol.  Roedd pob un ohonyn nhw’n byrlymu gyda storïau ac esiamplau bachog am eu meysydd.

Dr Aled Eurig oedd y siaradwr cyntaf, ac fe’n tywysodd drwy agweddau o hanes y mudiad heddwch adeg y ddau ryfel byd.   Yng nghanol ei hanesion am yr unigolion a’r sefydliadau a wnaeth safiad dros heddwch a’u heffaith ar gwrs y byd, fe ddaeth un peth yn amlwg.   Hyd yn oed tra’n cael eu carcharu dros eu safiadau heddychol, bu’r heddychwyr yn gwbl analluog i greu coalisiwn effeithiol yn erbyn rhyfel.  Roedd y ghetto sosialaidd heddychol a’r ghetto Cristnogol heddychol yn methu’n llwyr a chreu ffrynt unedig o blaid heddwch, ac enwadaeth Gristnogol yn rhwystr weithiau i greu undod hyd yn oed o fewn y teulu Cristnogol. 

Dr Elin Royles oedd nesaf, yn edrych ar sut mae cydweithio ar draws llywodraethau bach wedi datblygu dros y degawdau diwethaf, a lle Cymru yn y gymuned ryngwladol.   Ymhlith perlau Elin fe luniodd ddarlun deifiol yn fy nychymyg.   Awgrymodd nad oedd pobl cyn refferendwm Brexit 2016   yn gallu dychmygu swyddogaeth anferthol y penderfyniad oedd yn eu hwynebu.  Awgrymodd fod pobl yn meddwl eu bod yn edrych ar fwrdd gyda lliain arno, a’r bwrdd hwnnw gyda set o lestri wedi eu gosod.   Rhywfodd, roedd pobl yn tybio fod modd tynnu’r lliain heb chwalu nag effeithio ar y set llestri.   Amser a ddengys beth fydd yr effaith ar y llestri dychmygol hynny wrth i sefyllfa Brexit gymryd ei gwrs.  

Y siaradwyr: Dr Aled Eirug, Dr Elin Royles, Parchedig Gethin Rhys, a’r Cadeirydd: Parchedig Ganon Enid Morgan.

Yn y prynhawn, fe gyfrannodd y Parchg Gethin Rhys i’n hystyriaethau.  Yng nghanol ei gyflwyniad yntau, fe’n heriodd ni i feddwl yn fwy beirniadol am eilunod aur yr oes.  Yn benodol, fe awgrymodd ein bod yn rhy barod i gefnogi’r Undeb Ewropeaidd yn ddiamod, heb weld ei fod yn sefydliad sydd yn gallu cyfrannu’r da a’r drwg i’n bywydau.  Mae’r Undeb wedi bod mor effeithiol wrth hwyluso masnach ryngwladol fel ei fod nawr yn gwbl resymol i gludo nwyddau droeon ar draws ffiniau yn Ewrop, a’r drafnidiaeth sy’n deillio o hynny yn niweidiol i’n hamgylchedd.   Mae esiamplau lu, o adenydd yr awyrennau ym Mrychdyn i ddiodydd pob dydd. 

Wedi gyrru adref, gadawyd fi yn meddwl am rai o’r pethau hyn yng nghyd-destun bywyd yr eglwys gyfoes.     

Ydyn ni wir yn gwybod beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg am gyfraniad ein heglwysi?  Oes perygl ein bod yn methu a gweld sgil-effeithiau negyddol y ffordd yr ydym yn cynnal ein bywyd crefyddol?

Ydyn ni mor amharod i harneisio’n hegni ar y cyd ag oedd y mudiad heddwch adeg y Rhyfel Byd Cyntaf?

Yn wahanol i boblogaeth y wlad, sy’n barod i dynnu’r lliain, ac o bosib yn chwalu’r holl lestri, ydy’r eglwys mor amharod i beryglu’n llestri fel ein bod ni’n methu a thynnu’r lliain oddi ar y bwrdd?  Efallai ei bod yn hen bryd i ni dynnu ambell liain a chwalu ambell lestr.  

E-fwletin 30 Mehefin, 2019

HER IEUENCTID

Sylwoch chi? Cafodd ieuenctid Cymru sylw cadarnhaol a haeddiannol yn y wasg a’r cyfryngau’r wythnos hon – am unwaith! Y rheswm? Roedd hi’n Wythnos Gwaith Ieuenctid Cymru.

Un o uchafbwyntiau’r wythnos oedd i Senedd Ieuenctid Cymru gynnal dadl ar y cyd ag aelodau ein Cynulliad Cenedlaethol yn siambr Y Senedd. Cyflwynodd y Senedd Ieuenctid ei blaenoriaethau am y ddwy flynedd nesaf, sef:

  • hyrwyddo iechyd emosiynol ac iechyd meddwl,
  • delio â sbwriel a gwastraff plastig, a
  • datblygu sgiliau bywyd o fewn y cwricwlwm addysg.

At hynny, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ei bod yn bwriadu dyblu’r cyllid ar gyfer cynnal gwaith ieuenctid yng Nghymru. Mae hyn yn newyddion syfrdanol o ystyried i’r sector oddef toriadau a chwtogiadau parhaus dros gyfnod o ddegawdau.

Mae’r wasg yn ddigon parod i bardduo buchedd ac ymddygiad carfannau penodol o’n pobl ifanc; a hynny heb godi unrhyw lais ynghylch y toriadau di-ben-draw sydd wedi disbyddu’r union wasanaeth a all fuddsoddi’n adeiladol yng nghenedlaethau’r dyfodol. Prin a thenau yw gwasanaethau ieuenctid ein cynghorau sir erbyn hyn ac mae’n mudiadau ieuenctid gwirfoddol yn bodoli ar ddim mwy na chardod.

Ond faint o fuddsoddi mae ein henwadau crefyddol wedi bod yn ei wneud o ran ymgysylltu â’n plant a’n hieuenctid a buddsoddi ynddyn nhw? Hynny yw, faint o fuddsoddi sydd wedi ei wneud yn nyfodol Cristnogaeth yng Nghymru?

Mae i waith ieuenctid yng Nghymru bum piler craidd, sef bod angen i waith gyda phobl ifanc fod yn: addysgol, cyfranogol, mynegiannol, ymrymusol a chynhwysol. Mae’n deg holi, felly, i ba raddau ydyn ni, grefyddwyr, wedi bod yn rhoi cyfleoedd digonol i blant a phobl ifanc:

  • i holi ac ymchwilio’n agored i’w ffydd a’u cred?
  • i gyfrannu’n adeiladol at fywyd ein heglwysi a’n henwadau?
  • i fynegi eu dyheadau, eu gobeithion a’u syniadau yn ystyrlon?
  • i dyfu mewn gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd crefyddol?
  • i gyfrannu at fywyd yr Eglwys ar eu telerau eu hunain?

Braf oedd gweld un o aelodau Senedd Ieuenctid Cymru, Cai Thomas Phillips, yn cyflwyno cynnig amgylcheddol yn Undeb yr Annibynwyr Cymraeg pa ddiwrnod. Cafodd ei gyfraniad graenus ac ysbrydoledig sylw a chefnogaeth haeddiannol. Yn anffodus, fodd bynnag, roedd ei bresenoldeb ifanc yn yr Undeb yn novelty anarferol ymysg y pennau gwynion, moelion a brithion.

Ac o fewn y teulu Cristnogol Cymreig, beth am y meddylfryd rhyddfrydol? Onid pennau gwynion, moelion a brithion a welir gan mwyaf yng nghyfarfodydd a digwyddiadau C21 hefyd? Sut mae ennyn diddordeb pobl ifanc yn ein trafodaethau a’n safbwyntiau?

Un lle i ddechrau yw dangos mwy o gonsyrn am yr hyn sydd o ddiddordeb iddyn nhw: iechyd meddwl, yr amgylchedd a sgiliau bywyd. Mae gyda ni lawer i’w ddweud ynghylch y pethau hynny, mae’n siŵr. Yn ail, fel mae Kirsty Williams wedi sylweddoli, mae angen pobl, amser, adnoddau a chefnogaeth i wneud hynny’n effeithiol. Ydyn ni’n barod am yr her?

Gwefan Senedd Ieuenctid Cymru yw: https://www.seneddieuenctid.cymru/

Gallwch weld y ddadl ar y cyd rhwng y Senedd a’r Cynulliad ar you-tube yma: https://www.youtube.com/watch?v=EBzvLQoXYyw&feature=player_embedded

Ceir y ddogfen arweiniol Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion yma: http://www.cwvys.org.uk/wp-content/uploads/2018/11/GWAITH-IEUENCTID-YNG-NGHYMRU-EGWYDDORION-A-DIBENION.pdf

 

 

E-fwlein 23 Mehefin 2019

Mae gobaith yn dragwyddol

Ym 1970 y ganwyd David Treuer. Er mai Iddew oedd ei dad, fe’i magwyd ar Warchodfa Llyn y Gelen yng ngogledd Minnesota. Roedd ynddo ddigon o waed Indiaid i ystyried ei hun yn aelod o lwyth yr Ojibwe. Etifeddodd eu hunaniaeth a’r holl wayw o orfod byw yng nghysgod ac ar delerau’r dyn gwyn. Yr un flwyddyn cyhoeddwyd y gyfrol ddylanwadol honno ‘Bury My Heart at Wounded Knee’ gan Dee Brown, awdur a astudiodd hynt pobloedd y Cenhedloedd Cyntaf ar gyfandir Gogledd America, ond nad oedd yn un ohonyn nhw.

Ystyriwyd y gyflafan a ddigwyddodd yn 1890 yn Wounded Knee, pan laddwyd o leiaf 150 o deulu’r Lakota Sioux gan filwyr Americanaidd, fel gweithred yn dynodi diwedd ar wareiddiad y brodorion. Ond, wrth gwrs, doedd yr Arlywydd ar y pryd, Benjamin Harrison, damed mwy na’i ragflaenwyr na’i olynwyr, yn credu bod gan y cenhedloedd hyn, a oedd yn byw yn unol â rhythmau’r fam ddaear, wareiddiad gwerth sôn amdano.

Ystyrient mai gweithredoedd i gynhyrfu gwrthryfel oedd yr amrywiol ‘ddawnsfeydd’ o eiddo’r myrdd o lwythau, yn hytrach na gwyliau yn talu gwrogaeth i’w Creawdwr fel yr oedden nhw’n ei adnabod. I’r sawl sy’n ystyried hanes fel cyfres o ryfeloedd a buddugoliaethau treisgar gwir yw dweud fod brwydr Little Bighorn yn 1876 yn nodedig am fod Crazy Horse a Sitting Bull a’u hymladdwyr wedi trechu’r Cadfridog Custer a’i 600 o filwyr. Gyda llaw, Brwydr y Glaswellt Seimllyd yw enw’r brodorion ar yr achlysur hwnnw.

Ond eleni cyhoeddodd yr anthropolegydd, David Treuer, ei gyfrol yntau, yr un mor drwchus, o dan y teitl, ‘Heartbeat at Wounded Knee’, sy’n cyflwyno naratif ei bobl fel y datblygodd hyd y dydd heddiw. Mynna fod yna bobl wedi goroesi cyflafan Wounded Knee gan gynnwys Zintkala Nuni (Aderyn Coll) a ganfuwyd ym mreichiau corff ei mam yng nghanol y ‘gwaed ar yr eira gwyn’, chwedl Tecwyn Ifan. Bu hi farw yn 30 oed mewn tlodi enbyd wedi oes fer o gael ei harddangos mewn ffeiriau fel un o’r brodorion nas lladdwyd. Ni chafodd gyfle i daflu o’r neilltu gywilydd ei phobl.

Mynna David Treuer fod calon ei bobl yn dal i guro er gwaethaf enbydrwydd y gorffennol. Lladdwyd gyrroedd byfflo y gwastadeddau er mwyn eu hamddifadu o’u ffordd o fyw. Fe’u gorfodwyd i brynu prydlesi ar eu rhandiroedd eu hunain. Anfonwyd eu plant i ysgolion preswyl penodol er mwyn eu ‘gwareiddio’. Fe’u twyllwyd ynghylch cytundebau pan ddeuid o hyd i olew neu fwynau gwerthfawr ar eu tiroedd.

Bellach mynna fod ei bobl, yn yr oes ddigidol hon, wedi adennill eu hurddas a’i fod yntau wedi ymgysylltu â’r gogoniant a fu. Daeth i ddeall nad yw bywyd, fel yng ngeiriau un o’i hynafiaid, yn ddim mwy nag anadliad byfflo yng nghanol gaeaf. Gall ddweud yn dalog, ‘R’yn ni yma o hyd’. Cofleidiodd llawer o’i bobl Gristnogaeth ond gan ddyheu am ddealltwriaeth o’r gwerthoedd hynny sy’n gynhenid iddynt.

Mae gobaith yn dragwyddol.

 

(Cynhelir ein Cynhadledd Flynyddol ar Orffennaf 6ed eleni, yng nghapel Salem, Caerdydd. Y cyfranwyr fydd Elin Royles, Aled Eirug a Gethin Rhys. Mae rhagor o fanylion wedi ymddangos ar y wefan. Cadwch y dyddiad yn rhydd!)

 

E-fwletin 16 Mehefin 2019

Meddwl gormod?

Weithiau mae’n bosibl meddwl gormod am bethau. Dyna ymateb un cyfaill ar ôl rhyw drafodaeth arbennig o ddwys yn ddiweddar. Ac ar ddiwedd cynhadledd ddiwinyddol ddiweddar cyfraniad un aelod amlwg o’r gynulleidfa oedd mai cymdeithas yr eglwys sy’n bwysicaf o ddigon. Bod yn gartrefol ac yn gyfforddus, bod yno’n gefn i’n gilydd.

Fe drawodd hynny fi unwaith eto’n ddiweddar. Rŵan, dwi ddim am i chi feddwl gormod am hyn ond sefyll yn y gawod oeddwn i yn syllu ar droed y bath. Wrth droed y bath roedd yna 17 o boteli plastig yn dal pob math o sebonach, potel i’r bath, potel arbennig i’r plant a photel arbennig i’r wraig, potel i’r gawod, potel i olchi gwallt a photel i feddalu’r gwallt. Poteli di-ri a phob un yn blastig.

Ac yno, yn y bath i Ddamascus, y penderfynais bod rhaid i mi drio gwneud rhywbeth am y peth. Beth ddigwyddodd i fariau sebon fy mhlentyndod? Ddes i o hyd i un ar silff waelod yr adran sebonach yn yr archfarchnad. Ac os oes modd defnyddio bar sebon ar y corff oes modd defnyddio un ar y gwallt? Wel oes cofiwch, mae modd gwneud hynny hefyd. O chwilio ymhellach mae yna’r fath beth a thabledi past dannedd a brwshys bambŵ.

Dyna fy mhoteli i wedi diflannu o ben y bath. Dwi eto i weld a fydd y teulu yn dilyn fy esiampl. Rhyw dair potel yn llai efallai? Go brin y bydd hynny’n gwneud gwahaniaeth. Diferyn dryw yn y môr mawr sy’n tagu o blastig. Fyddai’n cael dim effaith. Ond be arall fedra’i wneud? Alla’i wneud dim ond dechrau wrth fy nhraed a chamu ymlaen.

Ella’n wir y bydd y teulu yn dilyn fy esiampl. Ella y bydd y pwt hwn yn ysbrydoli un ohonoch chi i wneud rhywbeth yn debyg. Ac ella nad dryw bach fydda’i rhagor ond un o’r miloedd drudwyod rheiny sy’n cyfareddu pobl Aberystwyth. A leciwn i ddim gweld cawod yn gollwng o’r cwmwl hwnnw!

Felly, ella bod rhywun yn meddwl gormod am bethau, a thra bod meddwl gormod yn siŵr o fod yn well na meddwl dim, weithiau mae’n werth cadw pethau’n syml. Darllenais yn ddiweddar am rhywun benderfynodd ddweud helo wrth bobl yr oedd o’n cerdded heibio iddyn nhw yn y bore. Dim byd mawr. Dim ond gwenu, edrych i fyw llygaid pobl a dweud ‘bore da’. Mini-missions oedd y person yma yn eu galw nhw.

Er bod hyn wedi gwneud iddo deimlo ychydig yn anghyfforddus, roedd canolbwyntio ar wneud i bobl eraill deimlo’n well yn haws na meddwl pa mor anghyfforddus oedd o. Weithiau mae’n dda gyrru eich hun i rhywle lle’r ydych chi (fymryn) yn anghyfforddus. Wnaeth neb edrych yn wirion arno, fel petai o’n colli arni. Dydy caredigrwydd syml ddim yn cael ei werthfawrogi. Mae’r ymddygiad yn gallu lledaenu.

Felly be amdani? Wnewch chi byth waredu’r môr o blastig. Ond fe allwch chi wneud yr hyn allwch chi. Wnewch chi byth orfodi neb i wenu, ond ella mai nid gorfodaeth sydd angen ond esiampl.

Dach chi’n annhebygol o ddatrys dirgelion mawr duw a dyn, ond efallai mai’r hyn allwch chi wneud yw trin eraill (a’r ddaear) fel y byddech chi’n hoffi cael eich trin eich hun. Rŵan lle dwi wedi clywed hynny o’r blaen?!

 

(Cynhelir ein Cynhadledd Flynyddol ar Orffennaf 6ed eleni, yng nghapel Salem, Caerdydd. Y cyfranwyr fydd Elin Royles, Aled Eirug a Gethin Rhys. Mae rhagor o fanylion wedi ymddangos ar y wefan. Cadwch y dyddiad yn rhydd!)

 

E-fwletin 9 Mehefin 2019

Dieithriaid

Mae pregeth gyntaf Iesu, fel y cofnodir ef yn Luc, yn trafod mater sy’n destun llosg iawn heddiw; sef ein perthynas â dieithriaid – rheini sy’n wahanol i ni, rhai o draddodiad gwahanol neu o gefndir gwahanol, pobl o ddiwylliant gwahanol, gwledydd gwahanol, gwahanol iaith a gwahanol hil.

Mae’n siŵr taw’r tair dameg fwyaf adnabyddus yw’r rheini sydd i’w cael yn y 15fed bennod o Efengyl Luc, sef damhegion ynghylch y Ddafad Golledig, y Darn Arian Colledig a’r Mab Colledig. Maent yn ddatganiadau ac yn ddarluniau clir o ymddiriedaeth a gobaith Iesu yn y natur ddynol – gwraig tŷ sydd ddim yn ildio wrth chwilota am ddarn arian, bugail oedd yn chwilio’n ddygn am ddafad grwydrol, a thad yn disgwyl am gyfle i groesawi’r mab afradlon yn ôl adref. Cawn yma ddelweddau o agweddau’r Iesu tuag at bobl a fu, efallai, ychydig yn esgeulus.

Cwyno wnaeth ei feirniaid ei fod yn ffrindiau gyda phechaduriaid a’i fod, ymhellach, yn sôn mwy am bobl nag am Dduw. Gellid tybied y byddai llawer yn y damhegion yma sy’n apelio at ddyneiddwyr heddiw. Ystyr greiddiol dyneiddiaeth, wedi’r cwbl, yw ‘bydolwg sy’n ymroddedig i hybu lles dynol’. Oni chafodd Iesu ei groeshoelio oherwydd ei ddynoliaeth a’i ysbryd dyngarol?

Yn Nameg y Samariad Trugarog anogwyd y cyfreithiwr i helpu’r un sydd wedi ei ddolurio, hyd yn oed os yw’n ddieithryn, megis Samariad yn helpu Iddew. Does dim arwyddion clir bod pobl yn flin gyda Iesu am ei ddysgeidiaeth am Dduw, dim ond am ei ddysgeidiaeth am bobl! Gwnaeth ddatgan yn Efengyl Mathew fod y Sabath, un o sefydliadau mwyaf cysegredig yr Iddew, wedi ei greu ar gyfer dynion ac nid dynion ar gyfer y Sabath. Mi ddangosodd nad oedd yna’r un ddeddf sabothol yn mynd i’w atal rhag gwasanaethu dyn.

Yn y 25ain pennod o Efengyl Mathew sonni’r am y rheini a fydd yn eistedd mewn gogoniant ar yr orseddfainc gyda Mab y Dyn. ‘Sdim sôn yn y fan yno am yr un egwyddor ddiwinyddol nag unrhyw drefniadaeth eglwysig. Y ffordd i ennill ffafriaeth yr Arglwydd oedd drwy wasanaethu cyd-ddyn – y newynog, y sychedig, y dieithriaid, y noeth, y cleifion a’r carcharorion. Gwelodd y posibiliadau mewn pobl megis yr afradlon mewn gwlad bell; gwraig odinebus; gwahanglwyf gwrthodedig. Gwelodd ynddynt botensial.

Credai mewn democratiaeth. Mae democratiaeth yn gysyniad llawer mwy na chael llais mewn politics a chael hawl i bleidleisio mewn etholiadau. Mae democratiaeth yn gydnabyddiaeth o’r posibiliadau hynod o anghyffredin sy’n gorwedd o fewn pobl gyffredin. Mae democratiaeth yn fwy na system o lywodraethu, mae’n deillio o ffydd anturus ym mhosibiliadau’r natur ddynol. Er camsyniadau, ffaeleddau a’r methiannau sydd yn perthyn i’r natur ddynol, rhaid fythol gredu yn y posibiliadau a all ymddangos wrth ddatgloi drysau i’r addewidion hynny a’u hagor led y pen er mwyn gwireddu’r potensial sydd yr ochr draw i ddrysau a fu unwaith ar glo.

Bydd rhai pobl yn sôn taw’r man dechrau yw cael eich ‘achub’. Onid yw’r Iesu yn troi’r cyfan o chwith? Os nad yw rhywun yn caru ei frawd, sef yr un mae’n medru ei weld, yna sut all garu Duw nas gwelir? Ry’n ni’n byw mewn oes sy’n rhoi heriau tebyg i ninnau.

(Cynhelir ein Cynhadledd Flynyddol ar Orffennaf 6ed eleni, yng nghapel Salem, Caerdydd. Y cyfranwyr fydd Elin Royles, Aled Eirug a Gethin Rhys. Mae rhagor o fanylion wedi ymddangos ar y wefan. Cadwch y dyddiad yn rhydd!)