E-fwletin 9 Mehefin 2019

Dieithriaid

Mae pregeth gyntaf Iesu, fel y cofnodir ef yn Luc, yn trafod mater sy’n destun llosg iawn heddiw; sef ein perthynas â dieithriaid – rheini sy’n wahanol i ni, rhai o draddodiad gwahanol neu o gefndir gwahanol, pobl o ddiwylliant gwahanol, gwledydd gwahanol, gwahanol iaith a gwahanol hil.

Mae’n siŵr taw’r tair dameg fwyaf adnabyddus yw’r rheini sydd i’w cael yn y 15fed bennod o Efengyl Luc, sef damhegion ynghylch y Ddafad Golledig, y Darn Arian Colledig a’r Mab Colledig. Maent yn ddatganiadau ac yn ddarluniau clir o ymddiriedaeth a gobaith Iesu yn y natur ddynol – gwraig tŷ sydd ddim yn ildio wrth chwilota am ddarn arian, bugail oedd yn chwilio’n ddygn am ddafad grwydrol, a thad yn disgwyl am gyfle i groesawi’r mab afradlon yn ôl adref. Cawn yma ddelweddau o agweddau’r Iesu tuag at bobl a fu, efallai, ychydig yn esgeulus.

Cwyno wnaeth ei feirniaid ei fod yn ffrindiau gyda phechaduriaid a’i fod, ymhellach, yn sôn mwy am bobl nag am Dduw. Gellid tybied y byddai llawer yn y damhegion yma sy’n apelio at ddyneiddwyr heddiw. Ystyr greiddiol dyneiddiaeth, wedi’r cwbl, yw ‘bydolwg sy’n ymroddedig i hybu lles dynol’. Oni chafodd Iesu ei groeshoelio oherwydd ei ddynoliaeth a’i ysbryd dyngarol?

Yn Nameg y Samariad Trugarog anogwyd y cyfreithiwr i helpu’r un sydd wedi ei ddolurio, hyd yn oed os yw’n ddieithryn, megis Samariad yn helpu Iddew. Does dim arwyddion clir bod pobl yn flin gyda Iesu am ei ddysgeidiaeth am Dduw, dim ond am ei ddysgeidiaeth am bobl! Gwnaeth ddatgan yn Efengyl Mathew fod y Sabath, un o sefydliadau mwyaf cysegredig yr Iddew, wedi ei greu ar gyfer dynion ac nid dynion ar gyfer y Sabath. Mi ddangosodd nad oedd yna’r un ddeddf sabothol yn mynd i’w atal rhag gwasanaethu dyn.

Yn y 25ain pennod o Efengyl Mathew sonni’r am y rheini a fydd yn eistedd mewn gogoniant ar yr orseddfainc gyda Mab y Dyn. ‘Sdim sôn yn y fan yno am yr un egwyddor ddiwinyddol nag unrhyw drefniadaeth eglwysig. Y ffordd i ennill ffafriaeth yr Arglwydd oedd drwy wasanaethu cyd-ddyn – y newynog, y sychedig, y dieithriaid, y noeth, y cleifion a’r carcharorion. Gwelodd y posibiliadau mewn pobl megis yr afradlon mewn gwlad bell; gwraig odinebus; gwahanglwyf gwrthodedig. Gwelodd ynddynt botensial.

Credai mewn democratiaeth. Mae democratiaeth yn gysyniad llawer mwy na chael llais mewn politics a chael hawl i bleidleisio mewn etholiadau. Mae democratiaeth yn gydnabyddiaeth o’r posibiliadau hynod o anghyffredin sy’n gorwedd o fewn pobl gyffredin. Mae democratiaeth yn fwy na system o lywodraethu, mae’n deillio o ffydd anturus ym mhosibiliadau’r natur ddynol. Er camsyniadau, ffaeleddau a’r methiannau sydd yn perthyn i’r natur ddynol, rhaid fythol gredu yn y posibiliadau a all ymddangos wrth ddatgloi drysau i’r addewidion hynny a’u hagor led y pen er mwyn gwireddu’r potensial sydd yr ochr draw i ddrysau a fu unwaith ar glo.

Bydd rhai pobl yn sôn taw’r man dechrau yw cael eich ‘achub’. Onid yw’r Iesu yn troi’r cyfan o chwith? Os nad yw rhywun yn caru ei frawd, sef yr un mae’n medru ei weld, yna sut all garu Duw nas gwelir? Ry’n ni’n byw mewn oes sy’n rhoi heriau tebyg i ninnau.

(Cynhelir ein Cynhadledd Flynyddol ar Orffennaf 6ed eleni, yng nghapel Salem, Caerdydd. Y cyfranwyr fydd Elin Royles, Aled Eirug a Gethin Rhys. Mae rhagor o fanylion wedi ymddangos ar y wefan. Cadwch y dyddiad yn rhydd!)