Swydd – Cymdeithas y Beibl

 

Swyddog Datblygu Rhanbarthol – De-Ddwyrain Cymru

Yn gweithio o gartref
3 diwrnod yr wythnos
£27,000-£30,000 pro rata y flwyddyn a hefyd yn ychwanegol pecyn cystadleuol o fuddion sector-elusennol

Mae Cymdeithas y Beibl yn cyflawni cenhadaeth fyd-eang i ddod â’r Beibl yn fyw i ddynion, merched a phlant. Yn gyrru’r genhadaeth mae argyhoeddiad y gall bywydau newid, er gwell, pan fydd pobl yn ymwneud â’r Beibl.

Fel Swyddog Datblygu Rhanbarthiol De-Ddwyrain Cymru, byddwch yn gweithio i sicrhau lle Cymdeithas y Beibl fel partner mewn cenhadaeth, a magu hyder yn y Beibl o fewn yr Eglwys, gan annerch mewn eglwysi ac mewn digwyddiadau yn ogystal â recriwtio, hyfforddi a chefnogi rhwydwaith o wirfoddolwyr. Byddwch hefyd yn cefnogi twf a safonau Agor y Llyfr, prosiect sy’n rhoi cyfle i blant ysgolion cynradd glywed tîm o bobl o’r eglwysi lleol yn cyflwyno straeon Beiblaidd.

Os yw hyn yn apelio atoch, cysylltwch â ni. Gofynnir i chi ddarparu CV a datganiad 300 gair o hyd yn cyflwyno’r rhesymau dros gredu mai chi yw’r person gorau ar gyfer y swydd hon. Dylid anfon yr uchod i HR.Recruitment@biblesociety.org.uk.

Dyddiad cau: 9 y bore, Gwener 14eg Mehefin 2019

Dyddiad y cyfweliad: Dydd Mawrth 25ain Mehefin 2019