E-fwletin 30 Mehefin, 2019

HER IEUENCTID

Sylwoch chi? Cafodd ieuenctid Cymru sylw cadarnhaol a haeddiannol yn y wasg a’r cyfryngau’r wythnos hon – am unwaith! Y rheswm? Roedd hi’n Wythnos Gwaith Ieuenctid Cymru.

Un o uchafbwyntiau’r wythnos oedd i Senedd Ieuenctid Cymru gynnal dadl ar y cyd ag aelodau ein Cynulliad Cenedlaethol yn siambr Y Senedd. Cyflwynodd y Senedd Ieuenctid ei blaenoriaethau am y ddwy flynedd nesaf, sef:

  • hyrwyddo iechyd emosiynol ac iechyd meddwl,
  • delio â sbwriel a gwastraff plastig, a
  • datblygu sgiliau bywyd o fewn y cwricwlwm addysg.

At hynny, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ei bod yn bwriadu dyblu’r cyllid ar gyfer cynnal gwaith ieuenctid yng Nghymru. Mae hyn yn newyddion syfrdanol o ystyried i’r sector oddef toriadau a chwtogiadau parhaus dros gyfnod o ddegawdau.

Mae’r wasg yn ddigon parod i bardduo buchedd ac ymddygiad carfannau penodol o’n pobl ifanc; a hynny heb godi unrhyw lais ynghylch y toriadau di-ben-draw sydd wedi disbyddu’r union wasanaeth a all fuddsoddi’n adeiladol yng nghenedlaethau’r dyfodol. Prin a thenau yw gwasanaethau ieuenctid ein cynghorau sir erbyn hyn ac mae’n mudiadau ieuenctid gwirfoddol yn bodoli ar ddim mwy na chardod.

Ond faint o fuddsoddi mae ein henwadau crefyddol wedi bod yn ei wneud o ran ymgysylltu â’n plant a’n hieuenctid a buddsoddi ynddyn nhw? Hynny yw, faint o fuddsoddi sydd wedi ei wneud yn nyfodol Cristnogaeth yng Nghymru?

Mae i waith ieuenctid yng Nghymru bum piler craidd, sef bod angen i waith gyda phobl ifanc fod yn: addysgol, cyfranogol, mynegiannol, ymrymusol a chynhwysol. Mae’n deg holi, felly, i ba raddau ydyn ni, grefyddwyr, wedi bod yn rhoi cyfleoedd digonol i blant a phobl ifanc:

  • i holi ac ymchwilio’n agored i’w ffydd a’u cred?
  • i gyfrannu’n adeiladol at fywyd ein heglwysi a’n henwadau?
  • i fynegi eu dyheadau, eu gobeithion a’u syniadau yn ystyrlon?
  • i dyfu mewn gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd crefyddol?
  • i gyfrannu at fywyd yr Eglwys ar eu telerau eu hunain?

Braf oedd gweld un o aelodau Senedd Ieuenctid Cymru, Cai Thomas Phillips, yn cyflwyno cynnig amgylcheddol yn Undeb yr Annibynwyr Cymraeg pa ddiwrnod. Cafodd ei gyfraniad graenus ac ysbrydoledig sylw a chefnogaeth haeddiannol. Yn anffodus, fodd bynnag, roedd ei bresenoldeb ifanc yn yr Undeb yn novelty anarferol ymysg y pennau gwynion, moelion a brithion.

Ac o fewn y teulu Cristnogol Cymreig, beth am y meddylfryd rhyddfrydol? Onid pennau gwynion, moelion a brithion a welir gan mwyaf yng nghyfarfodydd a digwyddiadau C21 hefyd? Sut mae ennyn diddordeb pobl ifanc yn ein trafodaethau a’n safbwyntiau?

Un lle i ddechrau yw dangos mwy o gonsyrn am yr hyn sydd o ddiddordeb iddyn nhw: iechyd meddwl, yr amgylchedd a sgiliau bywyd. Mae gyda ni lawer i’w ddweud ynghylch y pethau hynny, mae’n siŵr. Yn ail, fel mae Kirsty Williams wedi sylweddoli, mae angen pobl, amser, adnoddau a chefnogaeth i wneud hynny’n effeithiol. Ydyn ni’n barod am yr her?

Gwefan Senedd Ieuenctid Cymru yw: https://www.seneddieuenctid.cymru/

Gallwch weld y ddadl ar y cyd rhwng y Senedd a’r Cynulliad ar you-tube yma: https://www.youtube.com/watch?v=EBzvLQoXYyw&feature=player_embedded

Ceir y ddogfen arweiniol Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion yma: http://www.cwvys.org.uk/wp-content/uploads/2018/11/GWAITH-IEUENCTID-YNG-NGHYMRU-EGWYDDORION-A-DIBENION.pdf