Sgwrs gyda Gethin Rhys

Aelod o fwrdd golygyddol Agora yn sgwrsio â Gethin Rhys ar drothwy Cynhadledd Flynyddol Cristnogaeth 21, Sadwrn, 6 Gorffennaf

Gethin Rhys

Gethin Rhys yw Swyddog Polisi Cytûn ac erbyn hyn mae’n llais cyfarwydd ar y cyfryngau a’i waith, ei gyfraniadau ac yn arbennig ei arweiniad ar faterion cyfoes a phwysig ein dydd – a’i ddealltwriaeth o’r materion hynny – yn ei wneud yn allweddol i fywyd cyhoeddus yr eglwysi. Ar wahân i dderbyn gwahoddiad i gyfrannu erthyglau cyson i C21 (gw. Agora), rydym yn ddiolchgar iddo am neilltuo amser i sgwrsio â C21.

C21 Diolch am gytuno i gael sgwrs, Gethin. Efallai y byddai’n beth da, rhag bod unrhyw gamddeall, dy fod yn esbonio i ni beth yn hollol yw dy gyfrifoldeb fel ‘Swyddog Polisi Cytûn’.

Gethin Hyrwyddo a chydlynu ymwneud holl eglwysi Cytûn â Llywodraeth a Chynulliad Cymru ac, i raddau llai, â Llywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghymru. Oddi ar Fehefin 2016 fe ychwanegwyd at hynny gydlynu ymateb yr eglwysi hynny at ganlyniad y refferendwm trwy Weithgor Cymru ac Ewrop. Mae hefyd yn golygu cydweithio â mudiadau Cristnogol eraill, megis Cymorth Cristnogol, a hefyd gydweithio â’r Gynghrair Efengylaidd a chrefyddau eraill, yn benodol fel y prif gynrychiolydd ar ran yr holl gymunedau crefyddol ar Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, corff statudol sy’n sicrhau fod Llywodraeth Cymru yn ymwneud â holl rychwant mudiadau gwirfoddol a chymunedol Cymru.

C21 Rwy’n dy gofio yn cyrraedd (Roedd ‘Rhys Gethin’ o’r mudiad oedd yn llosgi tai haf yn y newyddion yn y cyfnod hwnnw!) yn ddarpar weinidog ifanc yn Eglwys URC Salisbury Park (Saesneg), Wrecsam. O ble, sut a pham y cyrhaeddaist Wrecsam? A beth ddigwyddodd i ti wedyn?

Gethin Cefais fy magu yng nghapel yr Annibynwyr Saesneg – United Reformed Church (URC) wedyn – Beulah, Rhiwbeina, Caerdydd, a phan es i i’r brifysgol ymaelodais â’r URC, St Columba’s yn Rhydychen, ac ymdeimlo â galwad i’r weinidogaeth, felly trwy’r enwad hwnnw y gwnes i ymgeisio. Wrth hyfforddi yng Ngholeg y Frenhines, Birmingham, des yn fwyfwy ymwybodol mai dychwelyd i Gymru oedd fy ngalwad, ac felly dyna drefnu blwyddyn brawf yn Wrecsam. Oddi yno es i weithio am rai misoedd gyda Chlymblaid Deheudir yr Affrig yn swyddfa Cymorth Cristnogol yn Llundain (am fod yr URC wedi rhedeg allan o arian i gwblhau fy hyfforddiant!) cyn derbyn galwad i ofalaeth ar y cyd â’r Annibynwyr Cymraeg yng nghylch Aberhonddu.

C21 A adawodd y cyfnod hwnnw gyda Chymorth Cristnogol, er yn fyr, unrhyw argraff arbennig arnat am le a thystiolaeth yr eglwys yn Ne Affrica?

Gethin Mi oedd rôl yr eglwysi yn chwalu apartheid yn gymharol heddychlon yn eithriadol o bwysig, ac yn ysbrydoliaeth. Cefais y cyfle gyda Choleg y Frenhines i ymweld â Dwyrain yr Almaen ychydig cyn hynny, ac yno hefyd roedd yr eglwysi’n ganolog wrth herio gormes. Y tristwch yw fod dyfodiad y diwylliant gorllewinol, cyfalafol i’r gwledydd hyn wedi gwanhau dylanwad yr eglwys ac arwain at dwf mudiadau eithafol y ddwy wlad. Cefais gyfle i ymweld â De Affrica ddwy flynedd yn ôl, ac roedd pawb yno’n gytûn fod yr efengyl rywfodd yn gliriach dan ormes nag mewn gwledydd cymharol rydd.

Ond, i ddod yn ôl at yr alwad i Aberhonddu. Bûm yno am chwe blynedd, gan briodi â Fiona Liddell (hithau hefyd o Birmingham, yn digwydd bod) ac yna daeth y ddau ohonom yn gyd-Wardeniaid Coleg Trefeca am saith mlynedd gyda’n merched, Elinor a Sioned. Ar ôl dathlu 250 mlwyddiant Teulu Trefeca yn 2002, roedd yn amser symud ymlaen ac fe symudom i Bontypridd. Cafodd Fiona swydd yng Nghaerdydd ac fe ddes i’n ysgrifennydd eglwysi cyfamodol Cymru am ddwy flynedd a hanner, cyn treulio naw mlynedd mewn gofalaeth gyda’r URC yn y Porth, y Rhondda, a Threfforest, gan gyfnewid Trefforest am eglwys gydenwadol Llanfair, Penrhys, am y deunaw mis olaf.

C21 Mae gen ti brofiad helaeth ac amrywiol o’r eglwys a’r weinidogaeth Gristnogol. Mae’n siŵr fod pob cyfnod wedi dod â phrofiadau gwerthfawr i ti. Ond pa gyfnod a ddyfnhaodd dy argyhoeddiad a’th weledigaeth o fod yn eglwys yn y Gymru gyfoes?

Gethin Roedd gallu gweithio mewn ffordd wahanol yng Ngholeg Trefeca yn hollbwysig yn natblygiad fy ngweledigaeth. Oherwydd ehangder gweledigaeth John a Nerys Tudor ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn y 1960au a’r 70au, mae Trefeca, er yn ganolfan enwadol yn gyfreithiol, yn ganolfan ecwmenaidd yng ngwir ystyr y gair. Mae Howell Harris yn perthyn i efengylwyr (oherwydd ei ddiwinyddiaeth) ac i’r efengyl gymdeithasol (oherwydd ei weithgarwch). Mae’r ganolfan, o ddyddiau Harris ymlaen, yn gwbl ddwyieithog, yn fan cyfarfod rhwng y Cymry Cymraeg, y di-Gymraeg ac ymwelwyr o bedwar ban byd. Mae’n gymuned Gristnogol gydag o leiaf dau deulu yn byw yno, ynghyd â gwirfoddolwyr a’r holl ymwelwyr dros dro. Mae’n ganolfan sy’n deillio o brofiad ysbrydol dwys ond hefyd yn goleg sy’n rhoi bri ar ddysg a dealltwriaeth. Mae’r Capel Bach yn caniatáu llunio addoli amserol, cydweithredol, wedi’i gyd-arwain gan leygwyr a gweinidogion o bob enwad. Mae yno eiconau Uniongred, canhwyllau, a bwrdd cymun ac asgell syml sy’n gydnaws ag addoliad y Crynwyr neu’r anghydffurfwyr mwyaf diaddurn. Roedd arwain oedfa bore Sul yno i bobl oedd wedi cwrdd dim ond 40 awr ynghynt ond oedd nawr yn ffrindiau pennaf yng nghymdeithas y saint yn brofiad gwefreiddiol.

Am gyfnod roeddwn yn teimlo na allwn ddychwelyd i’r weinidogaeth leol am y byddai cymaint tlotach na’r hyn fuom ni’n ei brofi yn Nhrefeca. Ond ar ôl dwy flynedd a hanner mewn swydd weinyddol fe ddaeth yr alwad i ofalaeth gyda dau gapel lled draddodiadol, a cheisiais gario peth o ysbryd Trefeca yno, yn enwedig yn yr oedfaon caffi y gwnaethom eu sefydlu yn gydenwadol – sy’n parhau hyd heddiw yn y Porth.

C21 Mewn un ystyr, roedd gweithio ym Mhenrhys a Threfeca, yn dy ‘baratoi’ ar gyfer dy swydd bresennol. Fe fydd llawer – mewn anwybodaeth – yn cysylltu Cytûn yn bennaf ag undod eglwysig, ond a oedd undod eglwysig yn ganolog yn dy weinidogaeth o’r dechrau ?

Gethin Oedd. Roedd Coleg y Frenhines, pan es i yno, yn hyfforddi ar gyfer pedwar enwad: yr Eglwys Fethodistaidd, Eglwys Loegr, yr Eglwys yng Nghymru a’r URC. Roedd nifer dda o Gymry yno yr un pryd â mi, a des i wybod llawer mwy am yr Eglwys yng Nghymru a dod yn grediniol fod angen i mi ddychwelyd i Gymru. Yna, fel y dywedais, dyna alwad i ofalaeth gydenwadol a dwyieithog yng nghylch Aberhonddu: Capel y Plough (yr unig uniad llawn o gapeli Annibynwyr Saesneg ac Annibynwyr Cymraeg a gadwodd oedfaon yn y ddwy iaith), Libanus a Sardis, capel bychan yr Annibynwyr Cymraeg oedd yn addoli’n bennaf yn Saesneg yng Nghwmcamlais, ger Pontsenni. Roedd undod eglwysig yno’n golygu nid yn unig undod rhwng dau enwad ond undod rhwng y ddwy iaith. Roedd yn heriol ar adegau, ond yn brofiad heb ei ail.

C21 Ond o wybod fod ‘undod eglwysig’ wedi mynd i waelod agenda e.e. enwadau anghydffurfiol Cymru/Cymraeg/dwyieithog, a yw hyn yn golygu ein bod wedi mynd yn ôl, a bod ‘undod eglwysig’ wedi dod i ‘dead-end’, neu a oes gennyt unrhyw weledigaeth o’r hyn sydd ei angen i symud ymlaen i undod dyfnach rhwng enwadau nad oes dim mewn gwirionedd yn eu rhannu erbyn hyn?

Gethin Fe ddysgais yn y cyfnod gyda’r eglwysi cyfamodol nad yw uno’r enwadau’n gyfystyr ag undod eglwysig. Mae’r rhaniadau o fewn enwadau – rhwng rhyddfrydwyr ac efengylwyr, rhwng eglwysi Cymraeg a Saesneg, rhwng arddel doniau carismataidd a gwrthwynebiad iddynt, rhwng y sawl sydd am ddadfuddsoddi adnoddau’r eglwysi o danwydd ffosil a’r sawl sydd am barhau i wneud hynny er lles eu pensiwn – mae’r rhaniadau hynny’n llawer pwysicach ac anos eu pontio nag unrhyw drafferthion rhyngenwadol erbyn hyn. Ar y llaw arall, mae’r gweinidogaethau bro, bugeiliaid y stryd, banciau bwyd, Agor y Llyfr a phebyll yr eglwysi yn yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Sioe Frenhinol oll yn dangos gwir undod Cristnogol. Pan ymwelais â Stellenbosch ddwy flynedd yn ôl fe gawsom oedfa mewn eglwys undebol yno, uniad rhwng yr Annibynwyr a’r Methodistiaid yn y dref, yr unig ddwy eglwys mewn tref oedd yn drwm dan ddylanwad yr Eglwys Ddiwygiedig Isalmaenig oedd yn gwrthwynebu apartheid. Roedd hanes y gynulleidfa fach ond gwydn honno yn dangos y cyswllt rhwng ceisio cyfiawnder yn enw Duw ac uno enwadau – rhaid i’r ymgyrch dros gyfiawnder ddod yn gyntaf.

Ond, a dod yn ôl at fy mhrofiad fy hun. Rydw i’n eithriadol o ddiolchgar i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg am y croeso ges i ganddyn nhw, a finnau’n ddieithr i rai o deithi Annibynia. Cefais groeso arbennig gan y genhedlaeth o weinidogion gafodd eu hordeinio yr un adeg â mi. Roedden nhw eisoes wedi cyd-hyfforddi ac yn adnabod ei gilydd, ond fe ges i fy nerbyn yn ddigwestiwn ac yn llawen. Braint oedd cael bod ynglŷn â’r pwyllgor a luniodd y Llyfr Gwasanaeth a gyhoeddwyd yn 1998. Roedd yn arloesol o ran bod rhai o’r gwasanaethau’n ddwyieithog (fi aeth yn gyfrifol am y Saesneg) a bod cymaint o’r deunydd yn dod o draddodiadau Cristnogol eraill. Nid oedd pawb yn hapus gyda’r cyfan, ond rwy’n dal yn credu i ni wneud gwaith da, ac rwy’n dal i ddefnyddio’r llyfr yn gyson.

C21 Rwyt wedi paratoi deunydd cynhwysfawr ar gyfer argyfwng Prymadael (dy air am Brexit) yn ogystal a’th gyfraniad i’r drafodaeth ar yr argyfwng newid hinsawdd a chynhesu byd-eang. Nid wyf yn gofyn i ti restru ond a oes yna faterion eraill yng Nghymru y dylai’r eglwysi fod nid yn unig yn eu trafod ond yn ymgyrchu trostynt ?

Gethin Y peth cyntaf i’w ddweud yw nad oes dim yn bwysicach i unrhyw genedl na newid hinsawdd. Fel y byddaf yn dweud wrth gynhadledd Cristnogaeth 21 ar Orffennaf 6ed, mater bychan yw Prymadael o’i gymharu â hynny.

Ein trydedd flaenoriaeth ar hyn o bryd yw ymwneud â chwricwlwm newydd ysgolion Cymru sydd i’w gyflwyno o 2022 ymlaen. Mae peth o ’ngwaith ynglŷn â diogelu lle Addysg Grefyddol a dangos y cyfleoedd sydd i eglwysi lleol ymwneud â’u hysgolion lleol, gan y bydd y cwricwlwm yn rhoi pwyslais mawr ar gynefin pob ysgol.

C21 Oni ddylai’r eglwysi felly fod yn paratoi ar gyfer hynny ac yn rhoi arweiniad clir a sylweddol ar faterion fel newid hisawdd, yn hytrach na bodloni, efallai, ar ‘gynefin enwadol neu hanesyddol’ neu’r materion moesol sydd wedi cael sylw yn y gorffennol. Un peth yw mynd i ysgolion cynradd i Agor y Llyfr (sydd yn llwyddiant mawr), peth arall yw wynebu pobl ifanc 14–18 gyda’u gweledigaeth arbennig o’r byd ac yn gweld eglwysi eu ‘cynefin’ (ar y cyfan) yn amherthnasol ?

Gethin Mae hyn yn clymu ’nôl â’m sylwadau am Stellenbosch uchod. Yr hyn ddylai danio ein hymwneud â’r cwricwlwm yw ein dyhead yn enw Duw am gyfiawnder yn ein cynefin ac ar draws y byd. Mae’r dyhead hwnnw yn ei dro wedi’i ysbrydoli gan hanesion y Beibl am Dduw yn y creu, am y proffwydi yn herio ac am weinidogaeth Iesu. Os awn ati i geisio esbonio’r cysylltiadau hynny wrth ddisgyblion ysgol, fe ddeuwn ar yr un pryd i’w deall yn well ein hunain, gan felly gryfhau ein ffydd a’n tystiolaeth.

Ond mae’r cwricwlwm yn dechrau nid trwy ofyn ‘Beth ddylai fod ar y maes llafur?’ ond yn hytrach ‘Pa fath o ddinasyddion sydd ar Gymru eu hangen?’

Un peth sy’n sicr – fe fydd ar Gymru angen dinasyddion gwydn, deallus, hyblyg ac ymroddedig i wynebu’r argyfwng newid hinsawdd maent yn ei etifeddu oherwydd trachwant a difaterwch ein cenhedlaeth ni. Nid oes yr un genhedlaeth yn hanes y byd wedi rhoi etifeddiaeth mor fileinig i’w phlant a’i hwyrion ag rydym ni’n ei wneud, a bydd raid iddynt fod yn bobl arbennig iawn i fynd i’r afael â’r erchyllterau sydd o’u blaen. Fydd cwricwlwm addysg da ddim yn ddigon, ond fe fydd yn hanfodol. Fydd crefydd gyfundrefnol fawr ddim help iddyn nhw, rwy’n amau, ond fe fydd ffydd yn Nuw a bod yn agored i’r Ysbryd Glân yn hanfodol. All ein cenhedlaeth ni fyth wneud iawn am yr hyn rydym ni wedi’i wneud, ond o leiaf fe allwn geisio helpu’r rhai a ddaw ar ein hôl i fod â’r arfau deallusol ac ysbrydol yn eu meddiant i wneud eu gorau dan amgylchiadau echrydus. Chwarae ein rhan yn hynny yw ein dyletswydd.

C21 Llawer iawn o ddiolch i ti, Gethin, am fod mor barod i sgwrsio ac i rannu dy feddyliau yng nghanol dy holl baratoi i’n hyfforddi. Rydym yn gwerthfawrogi yn fawr dy waith yn ein hysgogi i wynebu’r heriau sydd o’n blaen fel eglwysi ac fel Cymry. Pob bendith i ti yn y dyfodol.