Archifau Categori: Agora 33

Sgwrs gyda Gethin Rhys

Aelod o fwrdd golygyddol Agora yn sgwrsio â Gethin Rhys ar drothwy Cynhadledd Flynyddol Cristnogaeth 21, Sadwrn, 6 Gorffennaf

Gethin Rhys

Gethin Rhys yw Swyddog Polisi Cytûn ac erbyn hyn mae’n llais cyfarwydd ar y cyfryngau a’i waith, ei gyfraniadau ac yn arbennig ei arweiniad ar faterion cyfoes a phwysig ein dydd – a’i ddealltwriaeth o’r materion hynny – yn ei wneud yn allweddol i fywyd cyhoeddus yr eglwysi. Ar wahân i dderbyn gwahoddiad i gyfrannu erthyglau cyson i C21 (gw. Agora), rydym yn ddiolchgar iddo am neilltuo amser i sgwrsio â C21.

C21 Diolch am gytuno i gael sgwrs, Gethin. Efallai y byddai’n beth da, rhag bod unrhyw gamddeall, dy fod yn esbonio i ni beth yn hollol yw dy gyfrifoldeb fel ‘Swyddog Polisi Cytûn’.

Gethin Hyrwyddo a chydlynu ymwneud holl eglwysi Cytûn â Llywodraeth a Chynulliad Cymru ac, i raddau llai, â Llywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghymru. Oddi ar Fehefin 2016 fe ychwanegwyd at hynny gydlynu ymateb yr eglwysi hynny at ganlyniad y refferendwm trwy Weithgor Cymru ac Ewrop. Mae hefyd yn golygu cydweithio â mudiadau Cristnogol eraill, megis Cymorth Cristnogol, a hefyd gydweithio â’r Gynghrair Efengylaidd a chrefyddau eraill, yn benodol fel y prif gynrychiolydd ar ran yr holl gymunedau crefyddol ar Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, corff statudol sy’n sicrhau fod Llywodraeth Cymru yn ymwneud â holl rychwant mudiadau gwirfoddol a chymunedol Cymru.

C21 Rwy’n dy gofio yn cyrraedd (Roedd ‘Rhys Gethin’ o’r mudiad oedd yn llosgi tai haf yn y newyddion yn y cyfnod hwnnw!) yn ddarpar weinidog ifanc yn Eglwys URC Salisbury Park (Saesneg), Wrecsam. O ble, sut a pham y cyrhaeddaist Wrecsam? A beth ddigwyddodd i ti wedyn?

Gethin Cefais fy magu yng nghapel yr Annibynwyr Saesneg – United Reformed Church (URC) wedyn – Beulah, Rhiwbeina, Caerdydd, a phan es i i’r brifysgol ymaelodais â’r URC, St Columba’s yn Rhydychen, ac ymdeimlo â galwad i’r weinidogaeth, felly trwy’r enwad hwnnw y gwnes i ymgeisio. Wrth hyfforddi yng Ngholeg y Frenhines, Birmingham, des yn fwyfwy ymwybodol mai dychwelyd i Gymru oedd fy ngalwad, ac felly dyna drefnu blwyddyn brawf yn Wrecsam. Oddi yno es i weithio am rai misoedd gyda Chlymblaid Deheudir yr Affrig yn swyddfa Cymorth Cristnogol yn Llundain (am fod yr URC wedi rhedeg allan o arian i gwblhau fy hyfforddiant!) cyn derbyn galwad i ofalaeth ar y cyd â’r Annibynwyr Cymraeg yng nghylch Aberhonddu.

C21 A adawodd y cyfnod hwnnw gyda Chymorth Cristnogol, er yn fyr, unrhyw argraff arbennig arnat am le a thystiolaeth yr eglwys yn Ne Affrica?

Gethin Mi oedd rôl yr eglwysi yn chwalu apartheid yn gymharol heddychlon yn eithriadol o bwysig, ac yn ysbrydoliaeth. Cefais y cyfle gyda Choleg y Frenhines i ymweld â Dwyrain yr Almaen ychydig cyn hynny, ac yno hefyd roedd yr eglwysi’n ganolog wrth herio gormes. Y tristwch yw fod dyfodiad y diwylliant gorllewinol, cyfalafol i’r gwledydd hyn wedi gwanhau dylanwad yr eglwys ac arwain at dwf mudiadau eithafol y ddwy wlad. Cefais gyfle i ymweld â De Affrica ddwy flynedd yn ôl, ac roedd pawb yno’n gytûn fod yr efengyl rywfodd yn gliriach dan ormes nag mewn gwledydd cymharol rydd.

Ond, i ddod yn ôl at yr alwad i Aberhonddu. Bûm yno am chwe blynedd, gan briodi â Fiona Liddell (hithau hefyd o Birmingham, yn digwydd bod) ac yna daeth y ddau ohonom yn gyd-Wardeniaid Coleg Trefeca am saith mlynedd gyda’n merched, Elinor a Sioned. Ar ôl dathlu 250 mlwyddiant Teulu Trefeca yn 2002, roedd yn amser symud ymlaen ac fe symudom i Bontypridd. Cafodd Fiona swydd yng Nghaerdydd ac fe ddes i’n ysgrifennydd eglwysi cyfamodol Cymru am ddwy flynedd a hanner, cyn treulio naw mlynedd mewn gofalaeth gyda’r URC yn y Porth, y Rhondda, a Threfforest, gan gyfnewid Trefforest am eglwys gydenwadol Llanfair, Penrhys, am y deunaw mis olaf.

C21 Mae gen ti brofiad helaeth ac amrywiol o’r eglwys a’r weinidogaeth Gristnogol. Mae’n siŵr fod pob cyfnod wedi dod â phrofiadau gwerthfawr i ti. Ond pa gyfnod a ddyfnhaodd dy argyhoeddiad a’th weledigaeth o fod yn eglwys yn y Gymru gyfoes?

Gethin Roedd gallu gweithio mewn ffordd wahanol yng Ngholeg Trefeca yn hollbwysig yn natblygiad fy ngweledigaeth. Oherwydd ehangder gweledigaeth John a Nerys Tudor ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn y 1960au a’r 70au, mae Trefeca, er yn ganolfan enwadol yn gyfreithiol, yn ganolfan ecwmenaidd yng ngwir ystyr y gair. Mae Howell Harris yn perthyn i efengylwyr (oherwydd ei ddiwinyddiaeth) ac i’r efengyl gymdeithasol (oherwydd ei weithgarwch). Mae’r ganolfan, o ddyddiau Harris ymlaen, yn gwbl ddwyieithog, yn fan cyfarfod rhwng y Cymry Cymraeg, y di-Gymraeg ac ymwelwyr o bedwar ban byd. Mae’n gymuned Gristnogol gydag o leiaf dau deulu yn byw yno, ynghyd â gwirfoddolwyr a’r holl ymwelwyr dros dro. Mae’n ganolfan sy’n deillio o brofiad ysbrydol dwys ond hefyd yn goleg sy’n rhoi bri ar ddysg a dealltwriaeth. Mae’r Capel Bach yn caniatáu llunio addoli amserol, cydweithredol, wedi’i gyd-arwain gan leygwyr a gweinidogion o bob enwad. Mae yno eiconau Uniongred, canhwyllau, a bwrdd cymun ac asgell syml sy’n gydnaws ag addoliad y Crynwyr neu’r anghydffurfwyr mwyaf diaddurn. Roedd arwain oedfa bore Sul yno i bobl oedd wedi cwrdd dim ond 40 awr ynghynt ond oedd nawr yn ffrindiau pennaf yng nghymdeithas y saint yn brofiad gwefreiddiol.

Am gyfnod roeddwn yn teimlo na allwn ddychwelyd i’r weinidogaeth leol am y byddai cymaint tlotach na’r hyn fuom ni’n ei brofi yn Nhrefeca. Ond ar ôl dwy flynedd a hanner mewn swydd weinyddol fe ddaeth yr alwad i ofalaeth gyda dau gapel lled draddodiadol, a cheisiais gario peth o ysbryd Trefeca yno, yn enwedig yn yr oedfaon caffi y gwnaethom eu sefydlu yn gydenwadol – sy’n parhau hyd heddiw yn y Porth.

C21 Mewn un ystyr, roedd gweithio ym Mhenrhys a Threfeca, yn dy ‘baratoi’ ar gyfer dy swydd bresennol. Fe fydd llawer – mewn anwybodaeth – yn cysylltu Cytûn yn bennaf ag undod eglwysig, ond a oedd undod eglwysig yn ganolog yn dy weinidogaeth o’r dechrau ?

Gethin Oedd. Roedd Coleg y Frenhines, pan es i yno, yn hyfforddi ar gyfer pedwar enwad: yr Eglwys Fethodistaidd, Eglwys Loegr, yr Eglwys yng Nghymru a’r URC. Roedd nifer dda o Gymry yno yr un pryd â mi, a des i wybod llawer mwy am yr Eglwys yng Nghymru a dod yn grediniol fod angen i mi ddychwelyd i Gymru. Yna, fel y dywedais, dyna alwad i ofalaeth gydenwadol a dwyieithog yng nghylch Aberhonddu: Capel y Plough (yr unig uniad llawn o gapeli Annibynwyr Saesneg ac Annibynwyr Cymraeg a gadwodd oedfaon yn y ddwy iaith), Libanus a Sardis, capel bychan yr Annibynwyr Cymraeg oedd yn addoli’n bennaf yn Saesneg yng Nghwmcamlais, ger Pontsenni. Roedd undod eglwysig yno’n golygu nid yn unig undod rhwng dau enwad ond undod rhwng y ddwy iaith. Roedd yn heriol ar adegau, ond yn brofiad heb ei ail.

C21 Ond o wybod fod ‘undod eglwysig’ wedi mynd i waelod agenda e.e. enwadau anghydffurfiol Cymru/Cymraeg/dwyieithog, a yw hyn yn golygu ein bod wedi mynd yn ôl, a bod ‘undod eglwysig’ wedi dod i ‘dead-end’, neu a oes gennyt unrhyw weledigaeth o’r hyn sydd ei angen i symud ymlaen i undod dyfnach rhwng enwadau nad oes dim mewn gwirionedd yn eu rhannu erbyn hyn?

Gethin Fe ddysgais yn y cyfnod gyda’r eglwysi cyfamodol nad yw uno’r enwadau’n gyfystyr ag undod eglwysig. Mae’r rhaniadau o fewn enwadau – rhwng rhyddfrydwyr ac efengylwyr, rhwng eglwysi Cymraeg a Saesneg, rhwng arddel doniau carismataidd a gwrthwynebiad iddynt, rhwng y sawl sydd am ddadfuddsoddi adnoddau’r eglwysi o danwydd ffosil a’r sawl sydd am barhau i wneud hynny er lles eu pensiwn – mae’r rhaniadau hynny’n llawer pwysicach ac anos eu pontio nag unrhyw drafferthion rhyngenwadol erbyn hyn. Ar y llaw arall, mae’r gweinidogaethau bro, bugeiliaid y stryd, banciau bwyd, Agor y Llyfr a phebyll yr eglwysi yn yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Sioe Frenhinol oll yn dangos gwir undod Cristnogol. Pan ymwelais â Stellenbosch ddwy flynedd yn ôl fe gawsom oedfa mewn eglwys undebol yno, uniad rhwng yr Annibynwyr a’r Methodistiaid yn y dref, yr unig ddwy eglwys mewn tref oedd yn drwm dan ddylanwad yr Eglwys Ddiwygiedig Isalmaenig oedd yn gwrthwynebu apartheid. Roedd hanes y gynulleidfa fach ond gwydn honno yn dangos y cyswllt rhwng ceisio cyfiawnder yn enw Duw ac uno enwadau – rhaid i’r ymgyrch dros gyfiawnder ddod yn gyntaf.

Ond, a dod yn ôl at fy mhrofiad fy hun. Rydw i’n eithriadol o ddiolchgar i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg am y croeso ges i ganddyn nhw, a finnau’n ddieithr i rai o deithi Annibynia. Cefais groeso arbennig gan y genhedlaeth o weinidogion gafodd eu hordeinio yr un adeg â mi. Roedden nhw eisoes wedi cyd-hyfforddi ac yn adnabod ei gilydd, ond fe ges i fy nerbyn yn ddigwestiwn ac yn llawen. Braint oedd cael bod ynglŷn â’r pwyllgor a luniodd y Llyfr Gwasanaeth a gyhoeddwyd yn 1998. Roedd yn arloesol o ran bod rhai o’r gwasanaethau’n ddwyieithog (fi aeth yn gyfrifol am y Saesneg) a bod cymaint o’r deunydd yn dod o draddodiadau Cristnogol eraill. Nid oedd pawb yn hapus gyda’r cyfan, ond rwy’n dal yn credu i ni wneud gwaith da, ac rwy’n dal i ddefnyddio’r llyfr yn gyson.

C21 Rwyt wedi paratoi deunydd cynhwysfawr ar gyfer argyfwng Prymadael (dy air am Brexit) yn ogystal a’th gyfraniad i’r drafodaeth ar yr argyfwng newid hinsawdd a chynhesu byd-eang. Nid wyf yn gofyn i ti restru ond a oes yna faterion eraill yng Nghymru y dylai’r eglwysi fod nid yn unig yn eu trafod ond yn ymgyrchu trostynt ?

Gethin Y peth cyntaf i’w ddweud yw nad oes dim yn bwysicach i unrhyw genedl na newid hinsawdd. Fel y byddaf yn dweud wrth gynhadledd Cristnogaeth 21 ar Orffennaf 6ed, mater bychan yw Prymadael o’i gymharu â hynny.

Ein trydedd flaenoriaeth ar hyn o bryd yw ymwneud â chwricwlwm newydd ysgolion Cymru sydd i’w gyflwyno o 2022 ymlaen. Mae peth o ’ngwaith ynglŷn â diogelu lle Addysg Grefyddol a dangos y cyfleoedd sydd i eglwysi lleol ymwneud â’u hysgolion lleol, gan y bydd y cwricwlwm yn rhoi pwyslais mawr ar gynefin pob ysgol.

C21 Oni ddylai’r eglwysi felly fod yn paratoi ar gyfer hynny ac yn rhoi arweiniad clir a sylweddol ar faterion fel newid hisawdd, yn hytrach na bodloni, efallai, ar ‘gynefin enwadol neu hanesyddol’ neu’r materion moesol sydd wedi cael sylw yn y gorffennol. Un peth yw mynd i ysgolion cynradd i Agor y Llyfr (sydd yn llwyddiant mawr), peth arall yw wynebu pobl ifanc 14–18 gyda’u gweledigaeth arbennig o’r byd ac yn gweld eglwysi eu ‘cynefin’ (ar y cyfan) yn amherthnasol ?

Gethin Mae hyn yn clymu ’nôl â’m sylwadau am Stellenbosch uchod. Yr hyn ddylai danio ein hymwneud â’r cwricwlwm yw ein dyhead yn enw Duw am gyfiawnder yn ein cynefin ac ar draws y byd. Mae’r dyhead hwnnw yn ei dro wedi’i ysbrydoli gan hanesion y Beibl am Dduw yn y creu, am y proffwydi yn herio ac am weinidogaeth Iesu. Os awn ati i geisio esbonio’r cysylltiadau hynny wrth ddisgyblion ysgol, fe ddeuwn ar yr un pryd i’w deall yn well ein hunain, gan felly gryfhau ein ffydd a’n tystiolaeth.

Ond mae’r cwricwlwm yn dechrau nid trwy ofyn ‘Beth ddylai fod ar y maes llafur?’ ond yn hytrach ‘Pa fath o ddinasyddion sydd ar Gymru eu hangen?’

Un peth sy’n sicr – fe fydd ar Gymru angen dinasyddion gwydn, deallus, hyblyg ac ymroddedig i wynebu’r argyfwng newid hinsawdd maent yn ei etifeddu oherwydd trachwant a difaterwch ein cenhedlaeth ni. Nid oes yr un genhedlaeth yn hanes y byd wedi rhoi etifeddiaeth mor fileinig i’w phlant a’i hwyrion ag rydym ni’n ei wneud, a bydd raid iddynt fod yn bobl arbennig iawn i fynd i’r afael â’r erchyllterau sydd o’u blaen. Fydd cwricwlwm addysg da ddim yn ddigon, ond fe fydd yn hanfodol. Fydd crefydd gyfundrefnol fawr ddim help iddyn nhw, rwy’n amau, ond fe fydd ffydd yn Nuw a bod yn agored i’r Ysbryd Glân yn hanfodol. All ein cenhedlaeth ni fyth wneud iawn am yr hyn rydym ni wedi’i wneud, ond o leiaf fe allwn geisio helpu’r rhai a ddaw ar ein hôl i fod â’r arfau deallusol ac ysbrydol yn eu meddiant i wneud eu gorau dan amgylchiadau echrydus. Chwarae ein rhan yn hynny yw ein dyletswydd.

C21 Llawer iawn o ddiolch i ti, Gethin, am fod mor barod i sgwrsio ac i rannu dy feddyliau yng nghanol dy holl baratoi i’n hyfforddi. Rydym yn gwerthfawrogi yn fawr dy waith yn ein hysgogi i wynebu’r heriau sydd o’n blaen fel eglwysi ac fel Cymry. Pob bendith i ti yn y dyfodol.

Cartre’n y Cread

Cartre’n y Cread

Nid oes yr un bardd Cymraeg wedi rhoi cymaint o sylw i argyfwng mawr ein cyfnod, sef cynhesu byd-eang a gwarchod y cread rhag llygredd, na Donald Evans. Ers y Pasg eleni mae’r ymgyrchu wedi dwysáu yn fyd-eang ac mae’r genhedlaeth iau – hyd y oed plant – wedi dod yn ymwybodol ei bod bellach tu hwnt i’r unfed awr ar ddeg i ddyfodol y cread. Aeth yr ymgyrchu bellach yn weithredu uniongyrchol di-drais. Mae Greenpeace wedi bod yn gwneud hynny’n arwrol ers dechrau’r 70au. Ac mae cyfraniadau Gethin Rhys i Gristnogaeth 21 ar y maes hwn wedi bod yn arbennig. Ar 6 Mai cyhoeddwyd adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig (15,000 o adroddiadau o dystiolaeth a 1,800 o dudalennau) a rhagolygon y gallai’r cread golli tua miliwn o rywogaethau o fewn hanner canrif .

Mor bell yn ôl ag 1986 cyhoeddodd Donald Evans ei gyfrol Cread Crist sy’n cynnwys cerdd o’r un enw:

Cread Crist

Wrth wrando ar Sion Onwy
yn anadlu’n gyson … gyson yn ei gwsg,
caf f’atgoffa i’r craidd am rythmau iraidd y môr;
am afon yn ymdirioni’n gry’ ar wely graean;
am gawod yn loyw am goeden las;
am lais mwyalchen yn niwlen y wawr;
am heulwen yr hwyr am lwyni rhos;
am ddafad yn rhoi’i chariad yn fynych i’w hoen;
am Iesu’n bendithio plant dan fantell y nef.
Yna cofiaf am y gaeaf nad yw’n aeaf yn ein bygwth o’r nos;
am farwolaeth iâ dros wlad o ludw;
ac am y cyfan yn ddianadl.

Mae’r thema hon i’w weld yn ei dair cyfrol ar ddeg, gyda theitlau fel Y Cyntefig Cyfoes (2000) ac O’r Bannau Duon (1987 – ‘A hon, planed Duw, yr ym yn ei distrywio’) sy’n cynnwys y geiriau

Ond, fe gerdda’r Anghrewr dros y dŵr at lannau Duw,
a grym digariad i’m paradwys
a llygredd yr hen drosedd yn ei drem,
gan ado’i sang yn angau ar greigiau a gro
ac irder yr aberoedd.

Ond ei gyfrol bwysicaf hyd yma efallai yw Cartre’n y Cread, a gyhoeddwyd yn 2010 gan Wasg Gomer. Is-deitl y gyfrol yw ‘Cerddi moliant i’r fam ddaear’. Mae’r teitl a’r is-deitl yn cysylltu’r gyfrol â’r nifer cynyddol o ymgyrchoedd, seciwlar a chrefyddol, sy’n arwydd gobeithiol mewn cyfnod pan mae’r ‘grymusterau, y pwerau a’r awdurdodau’ yn ymddangos yn ddall ac yn fyddar i’r argyfwng. Mae llai o gyfeiriadau yn y gyfrol hon at Dduw’r Creadwr, ond mae’r neges yr un mor rymus. Mae’r beirdd gorau’n broffwydi ym mhob oes.

Dyma ddyfyniadau o’r gyfrol, gan ddiolch i Donald Evnas a chan annog darllenwyr Cristnogaeth21 i brynu’r gyfrol ac i fyfyrio ar neges sy’n ganolog i’r ffydd Gristnogol, sef Duw’r Creadwr a’i gread. Dyma neges a anghofiwyd yn rhy aml dros y canrifoedd ac a anghofir neu a anwybyddir gan lawer o Gristnogion o hyd.

      Yr wyt drigfan organaidd
o’th do’n toreithio i’th wraidd –
      Dydi’n cartre’n y cread
Yn tyrru braint er y brad.
                    (Cartre’n y Cread)

     A’r môr wedyn ei hunan
        yn ara’i lais ar y lan:
arwydd gwaraidd o gariad
yn iro’i briw, dileu’r brad;
hithau i ffaeleddau’i phlant
     yn ddaear o faddeuant. 
                   (Y Fam)

Rhwng maes a nef, er ei chlefyd 
     y mae hon yn Fam o hyd.
                   (Lliw drwy’r llygredd)

           A’r annedd …
     O drefn drwyddi draw
yn goeth o frith, yr enedigaeth fraint.

     Ond honno’n y cyfnod hwn
niweidiwyd gennym yn ein nwyd am gynnydd;
        yn wyrth a aberthwyd
        ar allor y rhagor o hyd,
rŷm allan o rythm ag anian ein hannedd.
A’r disgord cyfoes sy’n groes i’w graen,
     ond ara’i lid yw’n daear las,
  ac eto mae bagad o hen wareiddiau
     ar chwâl yn ei hanial hi.      
                (Y Fraint)

 P.Ll.J.                  

Treigla ymaith y maen

TREIGLA YMAITH Y MAEN

Pan gyrhaeddwn ben ein tennyn;
pan fo’r byd yn llawn gofidiau;
pan na welwn y ffordd ymlaen
a’n gobaith wedi pylu:
             Treigla ymaith y maen.

Er inni ofni newid;
er mai amharod ydym;
er mai gwell fyddai gennym wylo
a rhedeg i ffwrdd;
            Treigla ymaith y maen.

Am inni ddod gyda’r gwragedd;
am inni obeithio lle mae gobaith yn gwegian;
am i ti’n galw ni o’r bedd a dangos inni’r ffordd;
            Treigla ymaith y maen.

Janet Morley, cyf. Mair Bowen

Gweddi cyn darlith

Gweddi cyn darlith

 Arglwydd, dyma ni.
Ein pennau’n llawn gwybodaeth,
Yn tybio’n bod ni’n gwybod amdanom ni’n hunain,
Yn ymhonni gwybod amdanat Ti.

Cofleidiwn ein credoau a’n hargyhoeddiadau
Amdanat.
Rydyn ni’n byw orau y medrwn ni
gan dy gadw Di led braich,
draw oddi wrth ein duwioldebau bach,
Ein mân ddefodau,
Ein hathrawiaethau,
Ein moesau a’n hideoleg
A’n rhagfarnau cuddiedig.
Ond mae ofn arnom ni, ofn cywilydd, ofn ein dicter,ofn ein bod wedi adeiladu tŷ ar dywod,

Ond dyma Ti eto.
Ti sy’n galw, yn dysgu, yn cywiro,

Allwn ni ddim dy gadw Di led braich am byth.
Dy bresenoldeb Di – y tu hwnt, yr Arall-arall,
yr Ydwyf tragwyddol
Yn ein galw i dyfu, i newid, i ddisgwyl y newydd
Ac i fentro.

Bregus ydyn ni, bregus o ran corff a chrebwyll.
Trwy dy Ysbryd Glân rho i ni
ddyhead am d’adnabod yn well,
ac i’th adlewyrchu ar y cilcyn yma o’th ddaear,
Yn enw Iesu. Amen.

 

 

 

 

 

Credo Iona

CREDAF

Credaf yn y Duw byw,
rhiant holl deulu’r ddaear,
sy’n creu ac yn cynnal
y bydysawd mewn nerth ac mewn cariad.

Credaf yn Iesu Grist,
Duw yn gnawd ar y ddaear,
a dangosodd i ni drwy

            ei eiriau a’i waith

            ei ddioddefaint gydag eraill

            ei goncwest dros farwolaeth

sut y dylai bywyd fod
a sut un yw Duw.

Credaf fod Ysbryd Duw
gyda ni
yn awr a phob amser,
ac y cawn brofiad ohoni
mewn gweddi, mewn maddeuant,
yn y Gair, yn y Sacramentau,
yng nghymdeithas yr eglwys
ac ym mhob peth a wnawn.

Amen.

 

Credo gwragedd

CREDO GWRAGEDD

Credaf yn Nuw, a greodd wraig a gŵr ar ddelw Duw,
a greodd y byd ac a roddodd i’r ddau ryw ofal dros y ddaear.

Credaf yn Iesu, plentyn i Dduw, a aned o’r eneth Mair;
a wrandawodd ar wragedd ac a’u hoffai hwy,
a ddilynwyd ac a ymgeleddwyd gan disgyblion benywaidd.

Credaf yn Iesu a drafododd ddiwinyddiaeth gyda dynes gerllaw ffynnon,
ac a rannodd gyda hi, gyntaf, gyfrinach ei alwedigaeth fel Meseia,
a’i hanogodd i fynd a chyhoeddi’r newyddion da yn y ddinas.

Credaf yn Iesu a dderbyniodd ei eneinio gan ddynes yn nhŷ Seimon,
ac a geryddodd y gwahoddedigion gwrywaidd a’i sarhaodd.
Credaf yn Iesu a ddwedodd y byddai’r ddynes hon yn cael ei chofio
am y weithred brydferth hon – yn gweinidogaethu i’r Iesu.

Credaf yn Iesu a iachaodd wraig ar y Saboth
a’i gwneud yn gyflawn am mai person ydoedd.

Credaf yn Iesu a gyffelybodd Dduw i wraig a chwiliodd
am ddarn o arian colledig;
fel gwraig a ysgubai er mwyn dod o hyd i’r colledig.

Credaf yn Iesu a ystyriodd feichiogrwydd a genedigaeth fel braint, nid fel penyd –
fel tynfa – modd o drawsnewid – ailenedigaeth – gwewyr yn troi’n llawenydd.

Credaf yn Iesu a’i cyffelybodd ei hun i iâr
yn casglu ei chywion dan ei hadenydd.

Credaf yn Iesu a ymddangosodd gyntaf i Fair Magdalen
ac a ymddiriedodd iddi y neges ffrwydrol … EWCH A CHYHOEDDWCH …

Credaf yng nghyflawnder y Ceidwad,
yn yr hwn nid oes nac Iddew na Groegiad, caeth na rhydd, gwryw na benyw,
oherwydd ein bod ni i gyd yn UN mewn iachawdwriaeth.

Credaf yn yr Ysbryd Glân wrth iddi ymsymud dros ddyfroedd y creu
a thros y ddaear.

Credaf yn yr Ysbryd Glân, ysbryd – benywdod Duw,
a fu, fel iâr, wrthi’n ein creu, ac yn esgor arnom,
ac sy’n taenu ei hadenydd trosom.

Rachel C. Wahlberg, UDA

 

 

Aramaes grwydrol oedd fy mam

ARAMAES GRWYDROL OEDD FY MAM

Aramaes grwydrol oedd fy mam,
Esgorodd ar gaethweision yn yr Aifft
Galwodd wedyn ar Dduw ein mamau,
Sara, Hagar, Rebeca, Rahel, Lea,
Molwch Dduw sy’n gwrando am byth.

Rhyfelwraig, barnwraig, putain oedd fy mam.
Defnyddiodd Duw hi yn achlysurol.
Rhoddodd beth oedd ganddi yn fodlon,
Raheb, Jael, Debora, Judith,
Molwch Dduw sy’n derbyn am byth.

Gwyryf o Galilea oedd fy mam.
Esgorodd ar ein Bywyd a’n Gobaith.
Trywanwyd ei henaid hithau gan gleddyf hefyd.
Mair, bendigedig ymhlith gwragedd, mam Duw,
Molwch Dduw, sy’n caru, am byth.

Tyst i Atgyfodiad Crist oedd fy mam.
Adroddodd beth ddwedodd yr angylion,
Chwedl ddi-sail ym marn yr apostolion,
Mair, Mair Magdalen, Joanna, a gwragedd gyda nhw,
Molwch Duw sy’n byw, am byth.

Gwraig Gristnogol ffyddlon oedd fy mam.
Cyfryngwraig, merthyr, santes.
Gadewch i ninnau ym mhob cenhedlaeth –
Jwlian, Perpetua, Clare, Hilda, Ann,

  • foli Duw a’n gwnaeth ni,
  • Duw a’n hachubodd ni
  • Duw sy’n cynnal ni oll, byth bythoedd.

Mother Thunder Mission, UDA
cyf. Rwth Tomos

(Cyhoeddwyd yn Y Tyst)

Yr Ysbryd ar Waith

Yr Ysbryd ar Waith

‘The Miraculous Haul of Fishes’, gan Henry Ossawa Tanner (Wikimedia)

 Anfonir yr Ysbryd Glan i’r bydysawd cyfan ac ers y creu bu’n trawsnewid y cwbl, gan ei symud ymlaen i’w atgyfodiad terfynol … Yr un ysbryd sy’n adnewyddu’r ddynoliaeth … Rhaid i’r ddynoliaeth newydd hon gyffroi’r holl genhedloedd, pob un yn ôl ei hamrywiaeth. Mae’r Ysbryd yn undod nad yw’n mynnu unffurfiaeth.

Jose Comblin, The Holy Spirit and Liberation (Wipf & Stock Publishers, 1989), 75

O’r Canoloesoedd i’r Aroleuo a’r diwygiadau i gyd bu Cristnogion yn frwd yn disgwyl ‘Oes yr Ysbryd’. Ond rwy’n credu bod pob cyfnod hanesyddol wedi bod yn oes yr Ysbryd. Mae’r cread yn dal i ymagor (Rhufeiniaid 8:19–25). Nid yw esblygiad y sêr, y rhywogaethau ac ymwybyddiaeth erioed wedi dod i ben ers y cychwyn cyntaf. Yn wir, gwyddom fod y bydysawd yn dal i ehangu. Ond y mae ein cysyniad hierarchaidd, gwrywaidd heb y benywaidd, digyfnewid, o Dduw wedi rhwystro llawer rhag gweld hyn.

Mae hanes yn dal i symud ymlaen â chreadigrwydd bythol newydd. Rhaid cyfaddef, wrth gwrs, fod tipyn o dynnu’n groes hefyd! Ystyriwch y ganrif ddiwethaf! Bu cynnydd aruthrol mewn ymwybyddiaeth, gwyddoniaeth, a thechnoleg, yn rhyfeddol er gwaethaf y rhyfeloedd arswydus ac anghyfiawnder ar lefel bersonol a chyfundrefnol. Fynnwn i ddim bychanu cymaint sy’n rhaid ei wneud i greu byd teg. Daeth bron yn amhosibl i bobl â phob mantais ganddynt i wadu bod pobl sydd ar yr ymylon o ran hil, rhywedd, tlodi ac anabledd yn dal i gael eu cau allan. Fel hyn yr ysgrifennodd Jurgen Moltmann:

‘O brofiad o’r Ysbryd daw cymuned newydd o gyfoethog a thlawd, o ddysgedig ac annysgedig i fodolaeth. Dydi’r Ysbryd ddim yn parchu gwahaniaethu cymdeithasol; mae’n rhoi terfyn arno. Bu i bob diwygiad yn hanes Cristnogaeth a yrrwyd gan yr Ysbryd sylwi ar yr elfennau chwyldroadol cymdeithasol hyn drwy brofiad o’r Ysbryd, a’u lledaenu. Daethant yn fygythiad i’r batriarchaeth, i eglwys y gwrywod a pherchnogion caethion.’ (The Source of Life. Fortress Press, 1997, 23)

Dydi’r Ysbryd byth yn rhoi’r gorau iddi.

Nod yr Ysgrythur yw datguddio gwaredigaeth hanes a’r holl gread, ac nid dim ond achubiaeth unigolion. Mae’r cyfamod dwyfol i bobl gyda’i gilydd, mewn “tŷ” ac yn y dyfodol. Dim ond cyfryngau ac offer yw unigolion fel Noa, Abraham, Sara, Moses, Dafydd ac Esther. Mae pob unigolyn yn rhan o lif gwaredigol hanes, bron ar ei waethaf/gwaethaf, wrth i YHWH ddangos ei drugaredd i Israel a’i disgynyddion am byth. (Gweler e.e. Genesis 13:15; Ecsodus 32:13)

Mae’r Ysbryd fel dyfais dychwelyd-adre ynom ni ac yn y greadigaeth i gyd hefyd. Er waetha’n holl anwybodaeth a’n camsyniadau y mae ym mhob peth yr urddas dwfn mewnol sy’n argyhoeddedig o’i werth ei hun. Mae’r dwyfol sy’n trigo ynom yn mynnu: “Yr wyf yr hyn yr wyf yn chwilio amdano!” Dyma’n siŵr oedd ystyr geiriau’r Iesu pan ddywed fod pob gwir weddi eisoes wedi sicrhau ateb (gweler Mathew 7:7–8 ac 1 Ioan 5:14–15).

Duw ynoch chi sy’n caru Duw; Duw ynoch chi sy’n adnabod Duw mewn mannau eraill. Duw ynoch chi sy’n sicrhau y bydd popeth yn iawn yn y diwedd ac yn dragwyddol. Dyma’r ysbrydolrwydd Trindodaidd sy’n dy gynnal di ar bob llaw. Dyma ystyr byw y tu mewn i’r llifeiriant Trindodaidd. Nawr, nid ‘maes o law’ nac yn y man.

Rwyt ti’n rhydd nawr, adre’nawr!

Addaswyd o waith Richard Rohr a Mike Morrell, The Divine Dance: The Trinity and Your Transformation (Whitaker House: 2016), 146–7, 150–151.

Kairos

Ar drothwy Cynadleddau Blynyddol yr enwadau Cymraeg

Kairos

Detholiad o Ddarlith Goffa Lewis Valentine a draddodwyd yn Undeb y Bedyddwyr, 11 Mehefin 2018

 Rwyf am ddechrau â dau ddatganiad.

1 Yr Almaen, 1934

Ym Mai 1934 cyhoeddodd nifer o Gristnogion yn yr Almaen Ddatganiad Barmen. Karl Barth oedd awdur y drafft terfynol, ond fe fu Bonhoeffer hefyd yn cyfrannu tuag at ei lunio. Mewn chwe chymal yr oedd yn datgan mewn iaith glir mai eiddo Crist yw’r eglwys ac nad oes gan neb na dim arall awdurdod arni na’r hawl i’w meddiannu. Mae’r datganiad yn safiad dewr yn erbyn Hitler, ond mae hefyd yn dweud mai drwy sefyll mewn ufudd-dod i Grist y mae’r eglwys yn cael ei hadnewyddu a’i nerthu. Mae hynny wedi bod yn wir erioed. Rhaid gwrando ar Dduw, nid ar ddynion. Y gair sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio arwyddocâd Datganiad Barmen yw Kairos, sef daeth yr awr, yr awr hon, y dyddiau tyngedfennol hyn, neu’r hyn fyddai’r proffwydi yn ei alw yn ‘ddydd yr Arglwydd’. Dyma ‘amser Duw’. Mae Iesu yn cyfeirio at hynny yn ei ddatganiad yn Nasareth: heddiw, y dydd hwn, daeth yr Ysgrythur hon yn wir yn eich gŵydd. Roedd yn Kairos y Deyrnas, y Deyrnas wedi dod. Fe gafodd ei erlid o’r synagog yn Nasareth am honni’r fath beth.

2 Cymru, 1936

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, 13 Hydref 1936, mewn llys barn yng Nghaernarfon gwnaeth un o’r tri oedd wedi llosgi maes hyfforddi’r awyrlu, oedd yn rhan o strategaeth rhyfel Prydain, ddatganiad hanesyddol. Yn ganolog yn ei ddatganiad o flaen y llys, meddai Lewis Valentine, ymysg pethau eraill:

yn ofn Duw … fel gweinidog yr Efengyl yng Nghymru i fynnu gallu i ewyllys fy mhobl … i atal rhyfyg rhyfel … dyma hefyd argyhoeddiad unol a diysgog yr enwad y perthynaf iddo … ac yn datgan fod rhyfel yn hollol groes i ddysgeidiaeth ac esiampl ein Harglwydd a’n gwaredwr Iesu Grist … trwy lwyr ymwrthod dwyn arfau dinistr fel y gwnaeth ein Tadau … a dyna safbwynt enwadau Ymneilltuol Cymru Gymraeg heddiw. Un dewis [mae’r gair dewis yn bwysig yn y ddarlith hon] oedd bod yn fud a distaw. Bradychu treftadaeth ein plant fyddai hynny, ond yr oedd RHAID cydwybod. Yn enw ein Cristnogaeth ac yn enw ein cenedl … Fy nghyfrifoldeb i am Deyrnas Dduw yng Nghymru a barodd i mi daro’n ôl dros Gymru yn y weithred hon … Teyrngarwch uchaf dyn yw ei deyrngarwch i Dduw, o flaen hyn nid oes dim, a phan fo gwladwriaeth yn disodli Duw, yna nid oes gan ddyn ddewis …ond herio’r wladwriaeth honno.

Mae tebygrwydd mawr rhwng y ddau ddatganiad ac mae’n siŵr fod Datganiad Barmen yn fyw ym meddyliau’r tri yn y llys, a Lewis Valentine yn arbennig. Wedi’r cyfan, gweinidogion oedd Barth a Valentine. Ond, a dyma gwestiwn y ddarlith goffa hon, a oedd (neu, a yw) datganiad Lewis Valentine yn ddatganiad Kairos i Gymru, yn dyngedfennol, yn ddydd yr Arglwydd, yn ddydd o brysur bwyso?

Mae llawer o drafod wedi bod ynglŷn â beth yn bennaf oedd y safiad sylfaenol tu ôl i’r ‘Tân yn Llŷn’. Ai gweithred genedlaethol ydoedd, neu weithred yn erbyn rhyfel, gweithred heddychol, gweithred yn erbyn difa cymunedau Cymraeg Llŷn, gweithred Plaid Cymru? Ond, o graffu ar ddatganiad Lewis Valentine, fe sylwn ar ddau beth. Y geiriau cyntaf yn y datganiad yw nad oedd am weld ei ferch Gweirudd (yr oedd wedi mynd â hi i’r ysgol y bore hwnnw) yn dioddef effeithiau rhyfel fel y gwnaethai ei fam. Mae Lewis Valentine yn cyfeirio hefyd at y ffaith ei fod ef yn bersonol fel Cristion, a bod ei enwad wedi datgan hynny, yn erbyn rhyfela ac yn heddychwr. Roedd hynny’n wir am D. J. Williams hefyd, ond nid am Saunders Lewis. Ond i Lewis Valentine mae ei safiad dros Gymru a’i safiad heddychol i’w dehongli yng ngoleuni ei safiad dros Grist, ei Grist ef a – sylwch – Crist ei genedl.

A yw Lewis Valentine yn llefaru eto? Neu, ac yn fwy manwl, a yw Duw yng Nghrist yn llefaru eto – fel yn 1936, felly yn 2018?

(Nid yw’r gair kairos yn ddieithr yn ein dyddiau ni. Gwnaed Datganiad Kairos gan yr eglwysi yn Ne Affrica yn y frwydr yn erbyn apartheid. Roedd yn alwad ac yn her i’r eglwysi oedd wedi cynnal apartheid. Yn fwy diweddar, mae nifer o eglwysi yn y Dwyrain Canol wedi gwneud datganiad Kairos Palesteina / Canolfan Sabeel. ‘Amser Gweithredu’ yw’r teitl Cymraeg ar y ddogfen ond nid yw’n cyfleu yn iawn ystyr kairos. Daeth yr amser i ryddhau’r Palestiniaid o’u gormes – 750,000 yn ffoaduriaid yn 1948 ond 12 miliwn erbyn hyn.)

Yn ôl felly at ddatganiad Kairos Lewis Valentine ar gyfer 2018.

Kairos – heddwch

Kairos – Cymru

Kairos – yr efengyl

Kairos – yr eglwys

A dod yn ôl at berthynas Cristnogion â’i gilydd. I Lewis Valentine, cwestiwn o addoli ydoedd, nid trefniadau uno, ysbryd Duw ar waith yn hytrach na dehongliadau neu ragfarnau’n gwahanu. Mae’n falch o’i etifeddiaeth Fedyddiedig, wrth gwrs, ond mae’n werth cofio iddo ddweud: ‘Nid wyf yn ddyn enwadol, ac ni allaf heddiw deimlo’n ffyrnig dros ddaliadau enwadol’. Ef hefyd piau’r geiriau hyn: ‘Nid wyf yn cofio bod ysbryd sectyddol yn uchel yma [sef ym Methesda, capel ei blentyndod yn Llanddulas] a dyna pam na allaf hyd heddiw deimlo yn ffyrnig dros ddaliadau arbennig sectyddol. Nid wyf yn ddyn enwadol.’

Yn ei anerchiad i’r Undeb mae’n mynd ymlaen i ddweud:

Mae’r daith o gyd-dystio a chyd-genhadu dros yr Efengyl yn fwy o werth na chant o gynadleddau i drafod undeb ac fe garwn weld y pedwar enwad a fu’n fwy cyfrifol na neb am barhad ein Cymru Gymraeg yn ymroddi’n angerddol i hynny (1962). O gyd-dystio y daw’r symudiad i undeb (fel y dywedodd Iesu ei hun) a dyma’r gwasanaeth gorau y gallwn ei roi i’r Mudiad Ecwmenaidd, ac oni wnawn hyn fe haeddwn ddarfod o’r tir. Dyma ddyletswydd na allwn mo’i osgoi, a dyma gymwynas na allwn mo’i hatal rhag ein pobl ein hunain, y Cymry Cymraeg, sydd beunydd yn mynd yn fwy di-Dduw a di-Grist a di-Eglwys.

Ond ofer fu ei obeithion.

Fe fyddai wrth ei fodd gyda sefyllfa’r enwadau Cymraeg yn cydaddoli yn Llandudno, lle bu’n weinidog yn eu plith, ond gyda’i ysbryd proffwydol fe fyddai am ofyn cwestiynau hefyd gyda chynnydd mewn eglwysi sy’n rhannu adeilad, yn cydaddoli a chydweithio, ond yn parhau’n enwadau ar wahân. Go brin y gall fod yn drefniant parhaol oherwydd rhaid i bob eglwys fyw gael cynllun gwaith a rhaglen i’r dyfodol. Os addoli a chymdeithas sy’n diffinio eglwys ac os cenhadaeth yw diben ei bodolaeth, onid yw’r Ysbryd yn dymchwel muriau dianghenraid? Nid cynnal a chadw yw’r nod yng Nghymru 2018, ond cenhadaeth – nod a roddodd Crist i’w ddisgyblion. Nod Kairos ydyw.

Nid ‘uno enwadau’ yw’r alwad (mae gormod yn dewis anwybyddu hynny gan honni’n obeithiol fod hynny wedi’i wrthod yn 2000) ond rhywbeth sy’n gofyn llawer mwy gennym. Gan wybod mai 6–9% o boblogaeth Cymru sy’n addolwyr lled-ffyddlon bellach, yr angen amlwg yw am fuddsoddi ein hadnoddau enwadol – sy’n sylweddol – mewn cenhadaeth yn y Gymru Newydd, gyda rhaglen fydd yn ein hymrwymo i gyflwyno i’r Cymry ac i gymunedau Cymraeg yr Efengyl yn sylfaen i fywydau unigolion, teuluoedd, cymunedau a chenedl.

Rhaglen dymor-hir fydd honno, ond rhaglen radical yn nhraddodiad gorau Anghydffurfiaeth. Fe fyddai hefyd yn amrywio o ardal i ardal ac o ranbarth i ranbarth. Ar hyn o bryd mae’n ymddangos nad oes gennym weledigaeth eang Lewis Valentine o Gymru i Grist. Fe wyddai Valentine y byddai dewis cenhadaeth yn gyntaf yn creu cyffro, anghytuno, aberth a ffydd. Ond fe wyddai hefyd fod Duw yn disgwyl i ni wneud dewis gan nad yw am i ni adael popeth iddo Ef, er ein bod yn dweud hynny yn aml ac efallai’n syrffedu Duw wrth ei ddweud.

 

Mae angen i arweinwyr ein henwadau ddod at ei gilydd ar frys, kairos, i edrych ar sefyllfa ein cenhadaeth yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, a bod yn ddigon dewr a hyderus i ddechrau gweithgarwch newydd a hyd yn oed sefydlu eglwysi newydd mewn ardaloedd lle mae’r eglwys i bob pwrpas wedi peidio â bod. Dyna’r unig ffordd y gallwn ddechrau symud ymlaen i arddel ein hanghydffurfiaeth Gymraeg yn hytrach na’n henwadaeth ddiystyr, sydd fel petai’n cael mwy o sylw wrth rannu adeilad. Oherwydd iddynt roi cenhadaeth yn gyntaf, un eglwys sydd ym Madagasgar a llawer gwlad arall erbyn hyn. Mae enwadaeth yn perthyn i’w gorffennol cyffredin a chyfryngau llestri pridd ddoe yw enwadaeth anghydffurfiol Gymraeg. Nid label enwadol fydd ar raglen a gweithgarwch newydd ond cenhadaeth Duw drwy Gristnogon yng Nghymru yr 21ain ganrif. Eglwys Gymraeg Anghydffurfiol yr Arglwydd Iesu Grist fyddai’r unig enw angenrheidiol.

Mae’n anodd credu nad oes yr un datblygiad cenhadol yng Nghymru lle mae’r enwadau Cymraeg wedi rhoi eu labeli heibio (mae ‘cydenwadol’ yn beryglus o gamarweiniol weithiau) a chreu patrwm newydd o fod yn eglwys. Os nad yw patrymau a chyfryngau newydd yn rhan o’n gweddïo a’n gweithredu i’r dyfodol, yna fe fyddwn wedi aberthu ein hetifeddiaeth Anghydffurfiol er mwyn cadw labeli ddoe, sydd yn amherthnasol yng ngoleuni ein galwad heddiw .

Ers blynyddoedd, rydym wedi diolch ac ymhyfrydu ein bod yn cydweithio ar bob lefel a datgan ein bod yn un. Rydym hefyd wedi galaru, wedi gweddïo a disgwyl drwy’r dirywiad maith. Ond mae Duw yn disgwyl i ni fod o ddifrif ynglŷn â’n cenhadaeth yn y Gymru gyfoes. Daeth amser dewis. Daeth yn ddydd Kairos i ni fel eglwysi Cymraeg.

Kairos – Duw

Felly, rhaid dewis ymrwymo a sefyll fel y gwnaeth Lewis Valentine, ac o ddewis, dewis cyflawni ein hymrwymiad i Grist yng Nghymru, ei diwylliant, ei hiaith, ei bywyd a’i chymunedau. Credwn, fel Valentine, nad cyfyngu ar ein galwad yw ymrwymo i Gymru, ond dyfnhau a dwysáu ein cenhadaeth.

 Fe ddylai pob enwad a chynulleidfa yn ein Cymru Gymraeg, pob swyddfa enwadol, pob pwyllgor, pob rhaglen a chynllun, pob aelwyd a phob aelod o eglwys yr Arglwydd Iesu Grist gynnwys geiriau ‘Dros Gymru’n gwlad’ ar ddrws pob rhewgell, yng nghyntedd pob capel, ym Meibl pob Cristion. Wedi’r cyfan, dyma ein gweddi a’n galwad Kairos i genhadaeth Crist yn 2018.

Pryderi Llwyd Jones

(trwy ganiatâd)

Fe ellir cael copi o’r ddarlith lawn drwy gysylltu ag Aled Davies: aled@ysgolsul.com

 

 

 

 

Cynhadledd Flynyddol C21

Cynhadledd Flynyddol Cristnogaeth 21

‘Wynebu Yfory mewn Ewrop Newydd’

Dydd Sadwrn, 6 Gorffennaf
Capel Salem, Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QF

Cyfranwyr:
Dr Aled Eirug
Y Parchg Gethin Rhys
Dr Elin Royles

Tâl Cofrestru: £10 ar y dydd
Gofynnir i bawb ddod â’u cinio eu hunain

 

Trefn y Dydd

10:00 Cyrraedd, Cofrestru a Choffi
10:30 Defosiwn Agoriadol: Y Parchg T. Evan Morgan, Ysgrifennydd C21
10:40 Gair o groeso gan y Parchg Ganon Enid Morgan, Cadeirydd C21
10:45 Dr Aled Eirug
11:45 Dr Elin Royles

12:45 Cinio

13:30 Y Parchg Gethin Rhys
14:30 Seiat Holi (Cadeirydd: Geraint Rees)
15:15 Cyfarfod Blynyddol Cristnogaeth 21
15:45 Ymadael