Diwedd haf …
I rai ohonom, y caead mwyaf amlwg ar yr haf yw’r daith flynyddol i ŵyl Greenbelt dros benwythnos gŵyl y banc. Daeth hon yn ddefod flynyddol ers bron i hanner canrif i nifer, ac mae’r profiad yn cyfoethogi bywyd rhai yn fwy heddiw nag y gwnaeth erioed. Mae’n ddathliad o greadigrwydd, ysbrydolrwydd a gweithredu ac yn flynyddol yn cynnig her a llawenydd. Mae yno theatr, sinema, pabell goginio, orielau celf, llwyfannau gwerin, llwyfan roc, tafarn, pebyll seminarau, pebyll defosiwn, bwytai a gweithdai a llawer mwy. Gosodir y cyfan yng ngerddi mawreddog Boughton House, ger Kettering. Mae ysbrydoliaeth yr ŵyl yn dod o’r un stabal â Christnogaeth21 – sef diwinyddion, gwyddonwyr, artistiaid, sylwebyddion cymdeithasol, athronwyr a chomediwyr yn gweithio trwy’r heriau o fod yn ddilynwyr i Iesu Grist yn ein canrif a’n cyd-destun ni.
Eleni fe dreuliais dipyn o amser ar stondin na fu’n rhan o’m profiad blaenorol. Yn yr ‘Exchange’ roedd casgliad o fusnesau ac unigolion o gefndir y sefydliadau cydweithredol (y co-ops), CMS a Traidcraft. Yno bues yn gwrando ar unigolion sy’n rhan o rwydwaith RESONANCE sydd yn gweithio o fewn byd busnes i greu llewyrch cymdeithasol i gyd-fynd â’r galw am elw. Yno cefais y fraint o glywed cylch o bobl busnes yn dadansoddi’r argyfwng di-gartrefedd ac yn trafod atebion creadigol a synhwyrol. Trafodwyd datblygu cronfa sylweddol iawn i alluogi pobl i ddod at ei gilydd i brynu miloedd o dai fel buddsoddiadau personol a chymunedol. Byddai modd wedyn gosod y tai hynny ar rent am bris fforddiadwy i deuluoedd anghenus, gan guro greddf y farchnad i brisio’r tlodion allan o’r farchnad dai. Byddai’r rhenti hyn o hyd yn cynnig ad-daliad i’r buddsoddwyr fyddai’n ddiogel ac yn cystadlu’n dda gyda’r cyfraddau a gynigir y dyddiau hyn trwy ISAs a chynilon eraill. Ar yr un pryd, trafodwyd y posibilrwydd y byddai mudiadau a cholegau yn gallu cyd-ddatblygu prentisiaethau i bobl ifanc difreintiedig gael y cyfle i fagu sgiliau perthnasol i weithio yn y fasnach dai. Cyd-destun dinesig a gwledig Seisnig oedd cymhelliad y drafodaeth, ond roedd yr opsiynau oedd yn cael eu trafod yn agor drysau i ffyrdd i ni fel siaradwyr Cymraeg geisio datrys yr argyfwng oesol sydd gyda ni yn y bröydd Cymraeg eu hiaith gyda thai haf. Byddai’n dda cynnal symposiwm rhyw ddydd ar faterion economaidd a gwaith eglwysig.
Un o ryfeddodau Greenbelt i mi yw’r ffaith nad wy’n rhy hen i’r ŵyl. Yn fy ugeiniau, roedd yn ŵyl i’r ifanc. Erbyn hyn mae’n ŵyl i bob oed. Roedd yno gannoedd o unigolion yn eu 70au a thu hwnt eleni eto. Mae’n ŵyl sydd wedi datblygu ei gwaith i gwrdd â’i demograffeg – ceir gweithgareddau i bob oed – y deallus, y doniol a’r dwys. Dyma’r tebycaf y cewch i eisteddfod wedi ei dylunio i bobl o anian C21.
Dymuniadau gorau i holl ddarllenwyr y bwletin wrth i ni baratoi am hydref a gaeaf arall. Byddai’n dda gwybod o ble cawsoch chi ysbrydoliaeth yn ystod haf 2019 ar gyfer eich taith chi a’n taith ni fel cymuned. Mae croeso i chi ymateb ar y wefan neu ar Facebook.
https://resonance.ltd.uk/ https://www.greenbelt.org.uk/