E-fwletin 7 Gorffennaf, 2019

Tynnu’r Lliain a Malu’r Llestri

Roedd ddoe yn ddiwrnod cynhadledd flynyddol C21 a gynhaliwyd yng Nghaerdydd.   Caiff swmp o gynnwys ysbrydoledig y tri siaradwr eu cyhoeddi gan C21, ond am nawr, dyma ambell sylw yn unig fel bwletin am heddiw.  

Testun y dydd oedd “Wynebu Yfory mewn Ewrop Newydd”, gyda thri siaradwr penigamp i’n tywys trwy eu harbenigeddau a’u profiadau gwahanol.  Un yn hanesydd, un yn wyddonydd cymdeithasol a’r llall yn ddiwinydd gyda chefndir mewn athroniaeth wleidyddol.  Roedd pob un ohonyn nhw’n byrlymu gyda storïau ac esiamplau bachog am eu meysydd.

Dr Aled Eurig oedd y siaradwr cyntaf, ac fe’n tywysodd drwy agweddau o hanes y mudiad heddwch adeg y ddau ryfel byd.   Yng nghanol ei hanesion am yr unigolion a’r sefydliadau a wnaeth safiad dros heddwch a’u heffaith ar gwrs y byd, fe ddaeth un peth yn amlwg.   Hyd yn oed tra’n cael eu carcharu dros eu safiadau heddychol, bu’r heddychwyr yn gwbl analluog i greu coalisiwn effeithiol yn erbyn rhyfel.  Roedd y ghetto sosialaidd heddychol a’r ghetto Cristnogol heddychol yn methu’n llwyr a chreu ffrynt unedig o blaid heddwch, ac enwadaeth Gristnogol yn rhwystr weithiau i greu undod hyd yn oed o fewn y teulu Cristnogol. 

Dr Elin Royles oedd nesaf, yn edrych ar sut mae cydweithio ar draws llywodraethau bach wedi datblygu dros y degawdau diwethaf, a lle Cymru yn y gymuned ryngwladol.   Ymhlith perlau Elin fe luniodd ddarlun deifiol yn fy nychymyg.   Awgrymodd nad oedd pobl cyn refferendwm Brexit 2016   yn gallu dychmygu swyddogaeth anferthol y penderfyniad oedd yn eu hwynebu.  Awgrymodd fod pobl yn meddwl eu bod yn edrych ar fwrdd gyda lliain arno, a’r bwrdd hwnnw gyda set o lestri wedi eu gosod.   Rhywfodd, roedd pobl yn tybio fod modd tynnu’r lliain heb chwalu nag effeithio ar y set llestri.   Amser a ddengys beth fydd yr effaith ar y llestri dychmygol hynny wrth i sefyllfa Brexit gymryd ei gwrs.  

Y siaradwyr: Dr Aled Eirug, Dr Elin Royles, Parchedig Gethin Rhys, a’r Cadeirydd: Parchedig Ganon Enid Morgan.

Yn y prynhawn, fe gyfrannodd y Parchg Gethin Rhys i’n hystyriaethau.  Yng nghanol ei gyflwyniad yntau, fe’n heriodd ni i feddwl yn fwy beirniadol am eilunod aur yr oes.  Yn benodol, fe awgrymodd ein bod yn rhy barod i gefnogi’r Undeb Ewropeaidd yn ddiamod, heb weld ei fod yn sefydliad sydd yn gallu cyfrannu’r da a’r drwg i’n bywydau.  Mae’r Undeb wedi bod mor effeithiol wrth hwyluso masnach ryngwladol fel ei fod nawr yn gwbl resymol i gludo nwyddau droeon ar draws ffiniau yn Ewrop, a’r drafnidiaeth sy’n deillio o hynny yn niweidiol i’n hamgylchedd.   Mae esiamplau lu, o adenydd yr awyrennau ym Mrychdyn i ddiodydd pob dydd. 

Wedi gyrru adref, gadawyd fi yn meddwl am rai o’r pethau hyn yng nghyd-destun bywyd yr eglwys gyfoes.     

Ydyn ni wir yn gwybod beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg am gyfraniad ein heglwysi?  Oes perygl ein bod yn methu a gweld sgil-effeithiau negyddol y ffordd yr ydym yn cynnal ein bywyd crefyddol?

Ydyn ni mor amharod i harneisio’n hegni ar y cyd ag oedd y mudiad heddwch adeg y Rhyfel Byd Cyntaf?

Yn wahanol i boblogaeth y wlad, sy’n barod i dynnu’r lliain, ac o bosib yn chwalu’r holl lestri, ydy’r eglwys mor amharod i beryglu’n llestri fel ein bod ni’n methu a thynnu’r lliain oddi ar y bwrdd?  Efallai ei bod yn hen bryd i ni dynnu ambell liain a chwalu ambell lestr.