E-fwletin 21 Gorffennaf, 2019

 Achub y Ddaear: Cael Gwared ar Ryfel

Dyma oedd teitl cynhadledd undydd y Movement for the Abolition of War ddiwedd Mehefin eleni.  Y bytholwyrdd Bruce Kent a’i wraig Valerie Flessati sy’n bennaf gyfrifol am sefydlu’r mudiad, a thair wythnos yn ôl roedd llond y Mander Hall yn Llundain wedi ymgasglu i glywed siaradwyr yn ystyried sut y mae rhyfel yn niweidio’r amgylchedd. Mae cip ar deitlau’r anerchiadau’n rhoi awgrym o ystod y trafod. ‘No climate justice, no peace’ meddai Molly Scott Cato, Aelod Senedd Ewrop ar ran plaid y Gwyrddion. ‘The carbon boot-print of the military’ meddai Stuart Parkinson wedyn, o fudiad Scientists for Global Responsibility.

Gan ein hannog i beidio â defnyddio termau diniwed fel ‘newid hinsawdd’ ond yn hytrach ‘difodiant hinsawdd’, a ‘gwyniasu byd-eang’ yn lle ‘cynhesu byd-eang’, cyflwynodd Stuart Parkinson ystadegau syfrdanol. Nid mesur milltiroedd-y-galwyn a wna cerbydau’r lluoedd arfog ond mesur galwyni-y-filltir, ac mae’r gwenwyn sy’n cael ei yrru mas o’u peiriannau’n cyrraedd 5% o’r cyfanswm blynyddol – a hynny dim ond wrth ymarfer.

Ac on’d yw hi’n ddiddorol sut y mae cwestiynau tu hwnt i barchu ‘rhwymau teulu dyn’ yn aml yn gallu denu cefnogaeth o bwys? Cofiwn mai parch at y meini hynafol uwchlaw parch at ffordd o fyw’r bobl leol, mae’n debyg, oedd yr hyn a lwyddodd i berswadio’r awdurdodau rhag dwyn tiroedd y Preseli oddi ar bobl y Preseli ’nôl ar ddiwedd 40au’r ganrif ddiwethaf.

Y gwir amdani yw bod rhyfela’n amharchu popeth a bod niweidio un agwedd ar fywyd yn arwain mewn cylch dieflig at niweidio’r llall. Wrth i ni niweidio’r amgylchfyd, mae mwy o wasgu ar ein hadnoddau, mwy o gystadleuaeth amdanyn nhw, mwy o annhegwch, mwy o dlodi, mwy a newyn, mwy o afiechyd  … a mwy o ryfel.

Pennawd rhifyn cyfredol Peace News yw ‘Time to strike! Climate Justice Now!’ a rywsut mae’n rhaid ei bod hi’n fwy na chyd-ddigwyddiad bod galwad wedi dod i gynnal ‘Streic Hinsawdd Fyd-eang’ ar Fedi 20 union ddiwrnod cyn dydd rhyngwladol ‘Heddwch Byd’, Medi 21.

Ond yn ôl i’r Mander Hall lle agorwyd y gynhadledd gyda darlith yr Athro Emeritws Peter van den Dungen, o Brifysgol Bradford. Teitl ei gyfraniad ef oedd  ‘Abolishing war  – hopeful lessons from history’. Y gair ‘hope’ hwnnw sy’n allweddol. Mae mor, mor hawdd anobeithio, ond dydy hynny’n werth dim.

Gobaith yw’r hyn arweiniodd at sefydlu mudiad y gwyddonwyr y cyfeiriwyd ato uchod, gyda nifer, fel Stuart Parkinson, wedi dechrau eu gyrfa yn y diwydiant lladd, yn newid cyfeiriad ac yn chwilio am ffyrdd amgen o ddefnyddio eu doniau a’u dysg wyddonol.  Gobaith oedd y tu ôl i safiad Awel Irene, Brian a Jan Jones, a Marie Walsh o Gymru a ddedfrydwyd yn ddiweddar yn dilyn eu protest yn erbyn Sefydliad Arfau Niwclear Burghfield. Gobaith sydd y tu ôl i’r alwad yng Nghymru i sefydlu Asiantaeth Arallgyfeirio Arfau ac Academi Heddwch.

Bydd y dyhead i ‘Achub y Ddaear a Chael Gwared ar Ryfel’ yn gofyn am ddal at ein gobaith a chreu cynllun radical. Ac mae’r cyswllt rhwng y radical a’r gobeithiol yn un tynn, fel y dangosodd Raymond Williams. Yn ôl y Cymro disglair o Fynwy, mae’r gwir radical yn mynd ati i wneud gobaith yn bosibilrwydd, nid anobaith yn sicrwydd.

Mae darllenwyr y bwletin hwn yn gwybod am rai o’r blaen a fu’n byw yn ôl yr esiampl honno.