E-fwletin 8 Medi, 2019

A yw stori yn wir?

Un o fendithion bywyd yw cael gair o feirniadaeth ddidwyll gan rywun caredig. Fe gefais un o’r profiadau hynny gan Capten Ifans a oedd wedi ymddeol i Angorfa yn Aberarad cyn symud i fyw yn ôl i olwg y môr yn Llandudoch. Yno un bore Sul ar y ffordd tu allan i’r capel, wedi i mi, yn fyfyriwr bregus fy hyder, geisio arwain oedfa, daeth ataf i holi am y teulu. Wedyn fe ddwedodd, “Diolch am yr oedfa, ond John, peidiwch byth â dweud ‘y stori am Iesu yn dweud rhyw eiriau’ neu’r ‘stori am Iesu yn  gwneud rhyw wyrth.’ Hanes yw’r pethau yna , nid storïau” A byth oddi ar y funud honno rwyf wedi ymdrechu i ddilyn ei gyngor. Fe ddaeth yr atgof yna yn ôl yn fyw i mi yn ddiweddar wrth ddarllen colofn am “newyddion ffug”.
 
Nid ffenomen newydd yw “post-truth”, y meddylfryd sy’n barod i wfftio ffeithiau, barn arbenigwyr a dadleuon rhesymegol, a rhoi ei ffydd mewn emosiwn torfol. Daeth i’r golwg mewn amrywiol weddau, yn etholiad Arlywydd America, yng nghynnydd yr adain dde eithafol dros Ewrop, yn yr ymgyrchu camarweiniol yn erbyn brechu rhag haint, ym mhoblogrwydd Nigel Farage ac etholiad Boris Johnson. Mewn awyrgylch fel hyn bydd sloganau yn teyrnasu. Er enghraifft, beth bynnag fo’r dadansoddwyr economaidd yn ei ddehongli fel dadleuon yn erbyn Brexit, mae’r slogan “project fear” yn ddigon i chwalu eu holl waith. Fe all y gorffwylledd hwn fygwth gwareiddiad, oherwydd y mae’n dibrisio gwirionedd ac yn gorseddu twyll.
 
Beth yw’r ateb? Os dywedwn fod yn rhaid inni ddod yn ôl i orseddu gwirionedd bydd cwestiwn yr archwleidydd Pilat yn ein herio:  “Beth yw gwirionedd?”  Mae ffeithiau yn medru bod yn amwys ac amlochrog. A dyma ni yn ôl gyda honiad Capten Ifans. Beth yw sail y sicrwydd fod geiriau’r Iesu yn yr Efengylau yn wirionedd? Pam yr ydwyf fi, fel Capten Ifans, mor barod i gredu’n ddibetrus i’r Iesu garu tlodion a chleifion Galilea a Judea? Yr ateb gennyf i yw hyn: nid ffaith i’w derbyn yw gwirionedd, ond rhywbeth i’w wneud. A’r maen prawf fod geiriau’r Iesu yn wirionedd yw eu bod yn hollol gyson â’i weithredoedd. Fel y dwedodd Iesu wrth Pilat yn yr un cyfweliad: “Y mae pawb sy’n perthyn i’r gwirionedd yn gwrando ar fy llais i.” Y mae perthyn i’r gwirionedd yn gyfystyr â gwneud y gwir. A phan fydd gweithredoedd ac ymddygiad gwleidyddion yn dangos unplygrwydd a gonestrwydd yna bydd hawl ganddynt ddisgwyl i ni’r werin ddilyn eu harweiniad.
 
Ond a oes gwir mewn stori?
 
Cwestiwn mam yn aml i ni’n tri, pan welai hi ni’n darllen rhyw lyfr, oedd “A yw e’n wir?” Iddi hi, gwastraff amser oedd darllen nofelau. Roedd gwahaniaeth mawr rhwng stori a hanes. Nid yw’n syndod felly i mi deimlo rhyw annifyrrwch flynyddoedd yn ôl o glywed darlledwyr newyddion yn galw eitem o newyddion yn stori, yn union fel y bydd gohebwyr Saesneg yn defnyddio’r gair “story”. Byddai Capten Ifans wedi eu condemnio! Ond yn y mater hwn buaswn wedi dechrau dadlau gydag ef. Onid oes llu o storïau yn y Beibl wedi agor y drws i wirionedd anhraethol fwy na’r stori ei hun?