E-fwlein 23 Mehefin 2019

Mae gobaith yn dragwyddol

Ym 1970 y ganwyd David Treuer. Er mai Iddew oedd ei dad, fe’i magwyd ar Warchodfa Llyn y Gelen yng ngogledd Minnesota. Roedd ynddo ddigon o waed Indiaid i ystyried ei hun yn aelod o lwyth yr Ojibwe. Etifeddodd eu hunaniaeth a’r holl wayw o orfod byw yng nghysgod ac ar delerau’r dyn gwyn. Yr un flwyddyn cyhoeddwyd y gyfrol ddylanwadol honno ‘Bury My Heart at Wounded Knee’ gan Dee Brown, awdur a astudiodd hynt pobloedd y Cenhedloedd Cyntaf ar gyfandir Gogledd America, ond nad oedd yn un ohonyn nhw.

Ystyriwyd y gyflafan a ddigwyddodd yn 1890 yn Wounded Knee, pan laddwyd o leiaf 150 o deulu’r Lakota Sioux gan filwyr Americanaidd, fel gweithred yn dynodi diwedd ar wareiddiad y brodorion. Ond, wrth gwrs, doedd yr Arlywydd ar y pryd, Benjamin Harrison, damed mwy na’i ragflaenwyr na’i olynwyr, yn credu bod gan y cenhedloedd hyn, a oedd yn byw yn unol â rhythmau’r fam ddaear, wareiddiad gwerth sôn amdano.

Ystyrient mai gweithredoedd i gynhyrfu gwrthryfel oedd yr amrywiol ‘ddawnsfeydd’ o eiddo’r myrdd o lwythau, yn hytrach na gwyliau yn talu gwrogaeth i’w Creawdwr fel yr oedden nhw’n ei adnabod. I’r sawl sy’n ystyried hanes fel cyfres o ryfeloedd a buddugoliaethau treisgar gwir yw dweud fod brwydr Little Bighorn yn 1876 yn nodedig am fod Crazy Horse a Sitting Bull a’u hymladdwyr wedi trechu’r Cadfridog Custer a’i 600 o filwyr. Gyda llaw, Brwydr y Glaswellt Seimllyd yw enw’r brodorion ar yr achlysur hwnnw.

Ond eleni cyhoeddodd yr anthropolegydd, David Treuer, ei gyfrol yntau, yr un mor drwchus, o dan y teitl, ‘Heartbeat at Wounded Knee’, sy’n cyflwyno naratif ei bobl fel y datblygodd hyd y dydd heddiw. Mynna fod yna bobl wedi goroesi cyflafan Wounded Knee gan gynnwys Zintkala Nuni (Aderyn Coll) a ganfuwyd ym mreichiau corff ei mam yng nghanol y ‘gwaed ar yr eira gwyn’, chwedl Tecwyn Ifan. Bu hi farw yn 30 oed mewn tlodi enbyd wedi oes fer o gael ei harddangos mewn ffeiriau fel un o’r brodorion nas lladdwyd. Ni chafodd gyfle i daflu o’r neilltu gywilydd ei phobl.

Mynna David Treuer fod calon ei bobl yn dal i guro er gwaethaf enbydrwydd y gorffennol. Lladdwyd gyrroedd byfflo y gwastadeddau er mwyn eu hamddifadu o’u ffordd o fyw. Fe’u gorfodwyd i brynu prydlesi ar eu rhandiroedd eu hunain. Anfonwyd eu plant i ysgolion preswyl penodol er mwyn eu ‘gwareiddio’. Fe’u twyllwyd ynghylch cytundebau pan ddeuid o hyd i olew neu fwynau gwerthfawr ar eu tiroedd.

Bellach mynna fod ei bobl, yn yr oes ddigidol hon, wedi adennill eu hurddas a’i fod yntau wedi ymgysylltu â’r gogoniant a fu. Daeth i ddeall nad yw bywyd, fel yng ngeiriau un o’i hynafiaid, yn ddim mwy nag anadliad byfflo yng nghanol gaeaf. Gall ddweud yn dalog, ‘R’yn ni yma o hyd’. Cofleidiodd llawer o’i bobl Gristnogaeth ond gan ddyheu am ddealltwriaeth o’r gwerthoedd hynny sy’n gynhenid iddynt.

Mae gobaith yn dragwyddol.

 

(Cynhelir ein Cynhadledd Flynyddol ar Orffennaf 6ed eleni, yng nghapel Salem, Caerdydd. Y cyfranwyr fydd Elin Royles, Aled Eirug a Gethin Rhys. Mae rhagor o fanylion wedi ymddangos ar y wefan. Cadwch y dyddiad yn rhydd!)