Archif Awdur: Golygydd

Byw ar yr Ymylon

Byw ar yr Ymylon

Margaret Le Grice

Roedd Iesu yn brysur. Yn brysur iawn. Teithiodd ar hyd a lled ei wlad fechan. Cwrddodd â bob math o bobl – y bobl gyffredin, yr arweinwyr crefyddol a gwleidyddol, milwyr Rhufeinig, y tlodion a’r cyfoethogion, plant bach, menywod a dynion. Yn aml, dihangai i leoedd ar wahân, i weddïo, ac i gael nerth ac arweiniad. Ond treuliai’r rhan fwyaf o’i fywyd ymhlith pobl – llawer ohonyn nhw. Roedd yn brysur, wrth iacháu, pregethu, dysgu, dadlau.

Glannau Môr Galilea

Er gwaethaf hynny, roedd ar yr ymylon. Dadleuodd â’r Phariseaid a’r Sadwceaid, ac nid oeddent yn cytuno â’i safbwynt. Yn araf, symudodd i’r ymylon crefyddol. Derbyniodd fenywod ‘pechadurus’, casglwr trethi, plant a phobl y tu allan i’r genedl Iddewig, a thorrodd y gyfraith Sabothol. Dywedodd fod pobl yn bwysicach na rheolau crefyddol, gan gyffwrdd â gwahangleifion a merched aflan. Yn y dechrau, roedd pawb yn mwynhau ei storïau, ei athrawiaeth, a sut y bu iddo drin dynion balch. Ond yn y diwedd, fe’i gwrthodwyd hyd yn oed gan y werin bobl, ac roedd ar ymylon cymdeithas. Ar ei noson olaf, roedd yn hollol ar ei ben ei hun, ar yr ymylon ac ar wahân i bawb. Ac yn ei farwolaeth roedd ar ymylon dinas Jerwsalem – nid yn unig ar yr ymylon, ond, dywedir, ar domen ysbwriel y dre.

Os ydym yn honni bod yn ddisgyblion i Iesu, ble rydym ni? A ydym ni ar ymylon crefydd a chymdeithas?

Ar ba ymylon fyddai Iesu heddiw? Byddai ar strydoedd ein dinasoedd yn cadw cwmni i bobl sy’n ddigartref, ac sy’n ddioddef o gaethiwed i alcohol neu gyffuriau. Byddai gyda phobl sydd ag abledd gwahanol (differently-abled), pobl a elwir yn anabl gan gymdeithas. Byddai’n cyfathrebu â phobl fyddar, a anwybyddir gan eraill. Byddai mewn cartrefi preswyl, ysbytai a charcharau. Byddai ar y ffordd gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Byddai’n byw ar ystadau tlodion, ymhlith pobl ddi-waith a diobaith. Byddai ar y fferm yn y mynyddoedd, lle mae’r glaswellt yn wael, y defaid yn fach, a’r prisiau yn y mart yn isel.

Byddai mewn capeli ac eglwysi sydd â chynulleidfaoedd bach ond ffyddlon. Byddai’n gartrefol gyda phobl sy’n gofyn cwestiynau, fel y gwnaeth ef pan oedd yn fachgen 12 mlwydd oed.

Byddai?

Na fyddai.

Yn y lleoedd hyn, ac mewn llawer o leoedd eraill ar yr ymylon, MAE ef yn awr.

Ac felly, ble rydym ni?

Gydag ef ar yr ymylon, neu …?

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.

Gwaelod Pob Gofyn, Pwy Wyf Fi?

Gwaelod Pob Gofyn, Pwy Wyf Fi?

Thomas Merton

Thomas Merton (1915-1968)

 Ynghanol ein bod mae ’na bwynt diddymdra sydd heb ei gyffwrdd gan na pechod na ffugio, pwynt o wirionedd pur, pwynt neu sbarc sy’n gwbl eiddo i Dduw, na allwn ni byth ei ddefnyddio; trwy hwn y mae Duw’n defnyddio ein bywydau; ni ellir ei gyrraedd gan ffantasïau ein meddyliau na chreulonderau ein hewyllys ni ein hunain. Y pwynt diddymdra hwn o dlodi llwyr yw gogoniant pur Duw ynom ni. Hwn, fel petai, yw enw Duw ynom ni fel ein tlodi, ein dibyniaeth, ein bodolaeth fel meibion a merched. Mae fel diemwnt pur, yn llosgi â llewyrch anweladwy’r nefoedd. Mae ym mhawb; pe baem yn gallu ei weld, fe welem y biliynau pigau golau’n dod at ei gilydd ac yn llosgi yn wyneb a llewyrch yr haul ac yn peri i bob tywyllwch a chreulondeb mewn bywyd ddiflannu’n llwyr … Does gen i ddim rhaglen ar gyfer hwn. Rhodd ydyw. Ond y mae porth y nefoedd ym mhob man.  

(Conjectures of a Guilty Bystander)

Ychwanegir gan Richard Rohr:

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn treulio’u holl fywydau’n anelu at ffug hunaniaeth, y delweddau o’r hunan yn y meddwl o bwy maen nhw’n credu ydyn nhw, yn lle byw yn y ‘Fi’ cyntaf, sydd eisoes yn dda yn llygaid Duw. Ond y cwbl y medra i ei ‘dalu ’nôl’ i Dduw, neu i eraill neu i fi fy hun, yw’r un rydw i mewn gwirionedd. Cwbl eglur, cwbl syml. Efallai nad ydyn ni’n awyddus i fynd ’nôl yno am fod hynny’n rhy syml a bron yn rhy naturiol. Mae’n teimlo’n gwbl foel. Dim byd i’m llongyfarch fy hun amdano. Alla i ddim profi bod ynof unrhyw werth, llai fyth unrhyw arbenigrwydd. Dacw fi, yn noeth a thlawd. Ar ôl blynyddoedd o gogio a chymryd arnaf, ar y dechrau bydd yn teimlo fel dim byd o gwbl.

Richard Rohr

Gwell gan y Beibl yn gyffredinol siarad mewn delweddau, a’r ddelwedd sylfaenol yw’r ‘anialwch’ (gair sy’n britho emynau Cymru).

Ond pan rydyn ni’n ddim byd, rydyn ni mewn safle da i dderbyn popeth gan Dduw. Fel y dywed Merton, dyma ‘ogoniant pur Duw ynom ni’. Os edrychwn ni ar y traddodiadau crefyddol mawr, fe welwn eu bod i gyd yn defnyddio geiriau tebyg i bwyntio yn yr un cyfeiriad. Gair y Ffransisciaid yw ‘tlodi’; gair y Carmeliaid yw ‘nada’ neu ddiddymdra. Bydd y Bwdistiaid yn sôn am ‘wacter’, a’r Iesu’n sôn yn y cyntaf o’r gwynfydau am ‘y tlodion yn yr ysbryd’.

Gwell gan y Beibl yn gyffredinol siarad mewn delweddau, a’r ddelwedd sylfaenol yw’r ‘anialwch’ (gair sy’n britho emynau Cymru).

Yn yr anialwch rydyn ni’n wirfoddol yn mynd lle nad oes dim i’n cyffroi – dim canmol na chlapio, dim ymateb, dim data newydd. Dywed Iesu wrthym am fynd i mewn i gwpwrdd neu ‘ystafell fewnol’ (Ystafell Ddirgel y Crynwyr yn nofel Marion Eames). Dyna’r fan lle y byddwn ni’n rhoi’r gorau i fyw yn ôl ymateb pobl eraill i ni. Wedyn gallwn ddweud: ‘Nid fi yw’r person ry’ch chi’n credu ydw i. Ac nid fi yw’r person y mae arnoch chi angen i mi fod. Dydw i ddim hyd yn oed y person y mae angen arnaf i mi fy hun fod! Rhaid i mi fod yn “ddim byd” er mwyn bod yn agored i bob realiti a realiti newydd.’ Roedd gan Merton gronfa o hunaniaeth a dwys fyfyrdod oedd yn caniatáu iddo weld porth y nefoedd ym mhobman, hyd yn oed ar gornel y stryd.

Bod yng Nghrist, yn guddiedig yn Nuw

Byddai Zen-feistr yn galw’r Gwir-hunan hwn yn ‘wyneb oedd gennym cyn ein geni’. Byddai Paul yn ei alw yn ‘bod yng Nghrist, yn guddiedig yn Nuw’ (Colosiaid 3:3). Ti, cyn i Ti wneud dim, na drwg na da; Ti cyn i Ti ystyried pwy wyt Ti. Y meddwl sy’n creu’r hunan ffug, hunan yr ego, yr hunan ansicr. Mae’r meddwl dwysfyfyriol a roddir gan Dduw, ar y llaw arall, yn adnabod yr Hunan o Dduw, yr Hunan o Grist, y Gwir Hunan sy’n deillio o helaethrwydd a diogelwch mewnol dwfn. Fe ddechreuwn gyda dim ond gweld; down i ben wrth adnabod.

DRWS TAWELWCH: Rwyt yn byw ynof fi; rydw i’n byw ynot ti.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.

 

E-fwletin Ebrill 30, 2017

E-fwletin Ebrill 30, 2017

Ers talwm roedd hi’n bosib cael rhyw syniad am beth oedd ein cyd-aelodau’n ei gredu wrth wrando ar y trafod mewn dosbarth ysgol Sul neu seiat neu ddosbarth Beiblaidd. Prin yw’r pethe yna bellach. Fe ddaw pobl i oedfa heddiw i ganu’r hen emynau neu ambell gân gyfoes, a mynd trwy ddefod yr addoli, ond does dim rhaid i neb, ar wahân i’r pregethwr, ddweud dim. Er ein bod ni’n rhan o weithred gyhoeddus mewn lle arbennig, yn gwneud rhai pethau arbennig, mae crefydd wedi mynd yn rhywbeth preifat a phersonol iawn i lawer. Fy ffydd i. Fy nghredo i.

Ymarferiad bach i’w ystyried. Ysgrifennu 10 peth (deg gair, deg brawddeg) fyddai’n crisialu’r hyn ‘da chi’n ei gredu. Fydda hynny’n dasg anodd? Ac yna, ar y cyfle cynta’, trefnu cwrdd â rhai o’ch cyd-grefyddwyr i rannu a thrafod y deg gair. Dwi’n siŵr bydda oedfa o drafod yn ddiddorol, dadlennol  a gwerthfawr.  Falle  bydda gwneud hynny’n help i ni weld yn gliriach lle’r ydan ni, beth yw sail a phwrpas y Gristnogaeth yma ‘da ni’n honni sy’n rhoi siâp a chyfeiriad i’n bywydau fel unigolion, ac i fywyd y gymuned Gristnogol boed gapel neu eglwys, neu beth bynnag. Ac os nad trafod mewn oedfa, mae wastad Bwrdd Clebran C21.

Mae llawer ohonom ni, y mwyafrif, pob un ohonom efallai, wedi’n geni i mewn i fyd ffydd a chred,  wedi’n magu, wedi tyfu a heneiddio yn sŵn geiriau fel Duw, Iesu, iachawdwriaeth, pechod, nefoedd, uffern, bywyd tragwyddol. Pa mor aml yda ni wedi meddwl – beth mae’r geiriau yma’n eu golygu?  Duw – beth mae’r gair yna’n ei olygu i ni? Iesu –  beth mae’r gair yna’n ei olygu i ni? Iachawdwriaeth – beth mae’r gair yna’n ei olygu i ni? Nefoedd, uffern. Bywyd tragwyddol – beth yw ystyr hynny?

Mae gen i eiriadur diwinyddol – A Dictionary of Christian Theology. Mae hwnnw’n diffinio’r gair “ffydd” o ddau safbwynt – y Catholig a’r Protestaniaid.

Y diffiniad Catholig i ddechrau: ‘Faith’ in Catholic Theology means mental assent to divinely revealed truth, that is, to ‘the faith’ of which the Church is the custodian and interpreter. A’r diffiniad Protestannaidd: ‘Faith’ in classical Protestant (as in modern biblical) theology means obedient trust or trustful obedience towards God as he is revealed in his Word.

Dyna chi wahaniaeth amlwg – ffydd sydd ynghlwm â’r Eglwys, a ffydd ynghlwm â’r Beibl. Dwi ddim yn siŵr faint o help yw hynny, oherwydd mae’n agor y drws i gwestiynau am Eglwys a Beibl.

I rai, mae byd ffydd a chred yn broblem, a’r apêl i’r pen a’r galon yn methu. I eraill, mae byd ffydd a chred yn iawn hyd at ryw bwynt. Ac mae rhai, wrth gwrs, yn medru amenio popeth heb ddim trafferth.

Val Webb

Lle bynnag ‘da ni’n sefyll, fe ddyle fod rhywbeth i bawb yng Nghynhadledd C21 yn y Tabernacl, Efail Isaf ar Mai 20fed, lle bydd Val Webb [www.valwebb.com.au] yn siarad ar y canlynol: Always Progressing and Evolving: present and future progressive directions” a  “Testing Tradition and Liberating  Theology: finding your own voice”.

Gobeithio gallwch weld eich ffordd yn glir i fod yno.

E-fwletin Ebrill 23ain, 2017

Llysenwau

Mae rhai yn hanes wedi cael llysenw.  Rhai hyfryd, fel Dewi Sant, rhai ofnadwy fel Ivan the Terrible. Mae enghreifftiau yn y Testament Newydd.  Mewn wythnos sy’n dilyn y Pasg addas sylwi ar un a dyfodd allan o hanes am yr Atgyfodiad, sef Tomos yr Anghredadun.
 
Yr oedd gan Tomos lysenw’n barod, Tomos yr Efaill, ond ‘yr Anghredadun’ sy’n aros.  Diddorol ystyried a oedd y bobl a gafodd lysenw yn y gorffennol yn ei haeddu.  Beth am Tomos i ddechrau? 
 
Ymddangosodd yr Iesu atgyfodedig i rai o’i ddilynwyr un tro, a Tomos yn absennol.  Pan glywodd Tomos, dywedodd na chredai ef fod Iesu’n fyw heb weld ôl yr hoelion yn ei ddwylo, a’u cyffwrdd, a rhoi ei law yn ei ystlys. Sawl pregeth a luniwyd ar sail un esboniad o’r hanes hwnnw, yn dangos Tomos fel person materol a fynnai brofi popeth drosto’i hun?  Gwelais erthygl felly mewn papur enwadol yr wythnos ddiwethaf.  
 

“Tomos yr Anghredadun” – Llun enwog Caravaggio

Ond yn ôl rhai ysgolheigion, yr oedd agenda gan awdur Ioan, sydd wedi llywio’r stori am Tomos uchod, a hefyd yr oedd heresi y bu rhaid i’r Cristnogion cynnar ei hymladd, sef y gred mai ysbryd ac nid corff oedd yr Iesu atgyfodedig.  Yn ôl rhai, felly, eisiau sicrhau oedd Tomos, nad Iesu ffug oedd yr Iesu atgyfodedig.  Mae hefyd hanesyn arall sy’n awgrymu nad un gorochelgar oedd Tomos, ond un parod, beiddgar (Ioan 11, 1-16).  A gafodd Tomos gam dros y canrifoedd?
      
Mae llawer yn ei chael hi’n anodd osgoi ffurfio barn am eraill, ac nid yn unig gall eiddigedd a dicter ac agenda personol ac ati fod yn rhan o’u barn, ond fe all eu gwybodaeth am eraill fod yn arwynebol hefyd, felly mae camfarnu dynol yn broses anochel a pharhaol.
 
Nid unigolion yn unig sy’n cael ‘llysenw’.  Pan oeddwn i’n blentyn droeon clywais Iddewon yn cael eu disgrifio fel cenedl ‘ariangar’.  Onid yw’r meddylfryd esgeulus hwnnw’n rhan o bob hilyddiaeth?  Ac onid hilyddiaeth yw un o broblemau arswydus ein byd cyfoes?  Nid yr unig un wrth gwrs.
 
Mae’r Atgyfodiad yn fater aruthrol, ond o 89 pennod yr efengylau, dim ond 4 sy’n trafod yr Atgyfodiad, ac mae eu cymhlethdod yn fwy o broblem na’u byrder.  Ni anela’r awduron at drafod yr hyn a ddigwyddodd yn y bedd, er enghraifft.  (Sut mae trafod rhywbeth na ddaethpwyd ar ei draws erioed cynt?)  Ac nid ceisio rhoi gwarant bersonol i bawb bod bywyd wedi angau a wnai’r awduron.  Yr hyn a anelent ato oedd   rhoi cyfres o ddarluniau’n disgrifio’r hyn a ddeallent hwy orau am yr Atgyfodiad, sef patrymau gwahanol y math ar gymuned newydd a’i dilynodd.   Pan anelwn ninnau at greu cymunedau felly, cymunedau sy’n parchu pob enaid, er enghraifft,  ac sy’n rhoi i bawb ei lawn werth, heb ei fychanu’n esgeulus, yna gallwn ninnau barhau grym yr Atgyfodiad, a chyfrannu at greu gwell byd.  
 

E-fwletin Sul y Pasg

Rwy’n ysgrifennu’r geiriau hyn ar ddydd Gwener y Groglith, diwrnod pan fyddwn ni Gristnogion yn ymwybodol o ddioddefaint Iesu ar ddiwedd ei oes. Teimlais ers amser yn anniddig gyda rhai mathau ar sôn am ddioddefaint Iesu. Mae cof gennyf ddarllen ‘slawer dydd am sectau Cristnogol yn y canrifoedd cynnar yn cosbi eu cyrff – fel ffordd o ddilyn Iesu. O dro i dro teimlais fod rhai Cristnogion cyfoes hefyd yn gweld rhinwedd mewn dioddefaint ynddo’i hun.

Ond yn 1970, mewn ymateb i’r pwyslais hwn o bosibl, cyhoeddwyd gan yr United Church Press a’r National Catholic Reporter lyfr o erthyglau gan awduron gwahanol o dan y teitl ‘Creative Suffering’. Ysgrifennodd un ar boen corfforol, un arall ar faich penderfyniadau mawr, un arall am y straen o aros mewn eglwys na allai gytuno â hi mwyach, a soniodd un gwyddonydd blaenllaw am yr ing o feddu atebion i anghenion dynol, na chant eu defnyddio.

Alan Paton (1903 -1988)

Un o’r awduron oedd Alan Paton, awdur y llyfr ‘Cry, the Beloved Country’, llyfr enwog a dylanwadol iawn yn nyddiau’r terfysg hir a phoenus ynghylch apartheid yn Ne Affrica. Ysgrifennodd ef am rai o’i ffrindiau Cristnogol gwyn yn Ne Affrica a oedd yn ailddarganfod yr Efengyl yn y cyffro yno ar y pryd, ac o ganlyniad a oedd yn ceisio cael y drefn yn Ne Affrica i roi mwy o le a sylw i’r duon yno. Ond gallai gweithgarwch o’r natur hwnnw arwain at ddioddefaint. Eto, medd Paton, mae’n ddiddorol sylwi, wrth ysgrifennu am faterion felly, nad ysgrifennu am ddioddefaint y bydd rhywun mewn gwirionedd, ond am fyw, am garu, am roi – dyna’r amcan, ac weithiau dioddefaint yw rhan o’r pris i’w dalu am hynny.

Soniodd y bardd Gwyddelig Patrick Kavanagh am ‘wild moments’. Mae gan ein byd ni ei ‘wild moments’. Gwener y Groglith yw’r diwrnod i gofio ‘our world’s wildest moment’, pan wnaeth mab i saer, Iesu bar Joseph, Rabi Iddewig, drwy fyw, caru a rhoi, costied a gostio, wneud ei hun uwchlaw neb arall erioed yn offeryn creadigrwydd Duw. Arweiniodd hynny at yr Atgyfodiad, wrth gwrs, digwyddiad a esgorodd ar fôr o obaith yn ein byd – ‘a laugh released for ever and ever’ medd Kavanagh eto.

A beth amdanom ni? Weithiau, medd Paton, ni fyddai fy ffrindiau’n newid unrhyw gyfraith, nac yn meddalu unrhyw arfer creulon, ond gwnaent y wlad yn well lle i fyw ynddi, gan droi gwlad o ofn a braw yn wlad o ddewrder hefyd. A’i roi mewn iaith grefyddol, meddai, gwnaethant eu hunain yn ‘offerynnau i greadigrwydd Duw.’

Os ildiwn ninnau i ‘wild moment’ y croeshoeliad, gallwn ninnau efallai fyw a charu a rhoi , costied a gostio, a thrwy hynny wneud ein byd yn well lle, cynnig i’n pentref global y mae cymaint o drais a thwyll ynddo ar hyn o bryd, ddewrder a ffydd.

Is-deitl y llyfr yr ysgrifennodd  Alan Paton ynddo oedd ‘Ripples of Hope’.

E-fwletin Sul y Blodau

Awelon yr Atgyfodiad

Mae’n Sul y Blodau ac mae cynulleidfaoedd ar draws y byd yn paratoi ar gyfer taith yr Wythnos Fawr tuag at yr Atgyfodiad.

Mewn pentref bach di-nod mewn cwm diarffordd yng Ngheredigion (galwn ni fe’n Llan-llwm) mae’r blodau ar y beddi’n barod ac mae cynulleidfaoedd Penuel a Seion yn dod ynghyd am yr untro yn y flwyddyn i ail berfformio defod y Gymanfa Ganu Unedig; defod a gyflwynwyd i’r ardal gan Ieuan Gwyllt (neb llai) ganrif a hanner yn ôl. Mae’n cael ei pherfformio fwy neu lai i’r union un ddoted cwefyr byth ers hynny.

Bydd dim côr yn y galeri eleni eto, fel a fu flynyddoedd yn ôl, ond fe fydd cryn obeithio ymhlith y dau ddwsin ffyddlon o frodorion y cwm y daw rhai o gantorion selog y broydd cyfagos i chwyddo’r gân yn ôl eu harfer – chwarae teg iddyn nhw. Bydd yna ambell emyn modern yn y Detholiad – wel, beirdd a welodd yr ugeinfed ganrif os nad yr unfed ganrif ar hugain. Ond stwff y ddeunawfed ganrif yw‘r ffefrynnau bob tro, wrth gwrs. Yn y rheini ‘ych chi’n cael ei morio hi – nid bod pawb yn deall y geiriau erbyn hyn, wrth reswm. A bydd canu mawr ar Williams eleni, garantîd.

Ar ddiwedd yr wythnos fe fydd Gwasanaeth y Groglith yn cael ei gynnal yn yr Eglwys – yr un pryd â chwrdd gweddi Penuel, yn ôl yr arfer. A chofiwch, fydd yna ddim gwasanaeth Sul y Pasg yn Seion eleni – mae cymaint ar eu gwyliau ar yr adeg yma o’r flwyddyn, on’d o‘s e?

Yn y cyfamser, ar ochr arall y cefndeuddwr yn Nyffryn Aeron, bydd holl eglwysi a chapeli’r dyffryn yn cydweithio a chydaddoli yn ystod yr Wythnos Fawr – yr Eglwys yng Nghymru, Annibynwyr ac Undodwyr – ac unrhyw un arall sydd â diddordeb o ran hynny.

Ar Sul y Blodau bydd gorymdaith ‘Dilyn yr Asyn’ o un man addoliad i’r llall am 1.00p.m., gyda sgwrs rhwng Huw Edwards ac Euros Lewis i ddilyn yn Theatr Felin-fach am 3.30p.m..

‘Panto Pantycelyn’, gan griw direidus Troed-y-rhiw a Garn-fach, yw’r arlwy ar gyfer nos Fawrth yn Neuadd Goffa Felin-fach; a nos Fercher bydd Dafydd Iwan yn cyflwyno cân, straeon a myfyrdod yn Nhafarn y Vale. Ceir Gwasanaeth Seder yn Eglwys Fach, Cribyn, ar nos Iau Cablyd am 7.00yh.

Bore Gwener y Groglith bydd gorymdaith arall yn dilyn Llwybr y Groes o Ysgol Felin-fach i Eglwys Ystrad Aeron. Cewch gyfle i groesawu’r wawr ar fore Sul yn Pasg am 6.00yb, eto yn Eglwys Ystrad. A daw’r cyfan i uchafbwynt gyda Chymanfa yng Nghapel Tynygwndwn ar nos Sul gyda’r telynor ifanc lleol Llywelyn Ifan Jones, ynghyd â phlant a phobl ifanc Tynygwndwn.

Y mudiad lleol at ein gilydd/gyda’n gilydd sy’n trefnu. Mae’r manylion llawn i’w canfod ar y We ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ymhle fydd awelon yr Atgyfodiad i’w deimlo eleni yng Ngheredigion ‘sgwn i?

E-fwletin Ebrill 2il, 2017

Araf y tipiau’r cloc…

Gydag ethol Donald Trump yn Arlywydd ar UDA mae’n debyg bod bysedd ‘cloc dydd y farn’ (The Doomsday Clock) wedi cerdded hanner munud yn nes at hanner nos. Mae’r cloc yn ddyfais a ddefnyddir gan Fwletin y Gwyddonwyr Niwclear i arwyddo difrifoldeb y peryglon sy’n wynebu’r byd o ganlyniad i ddatblygiadau amgylcheddol a gwleidyddol a statws arfau niwclear. Ar ddechrau Ionawr symudwyd y bys mawr i ddwy funud a hanner i hanner nos.

Os nad ydy hynny’n ddigon i anfon ias lawr eich cefn chi, ‘sgwn i beth fydd yr asesiad Ionawr nesaf os gaiff Trump ei ffordd a dileu llawer iawn o’r mesurau amgylcheddol cadarnhaol a gyflwynwyd gan ei ragflaenydd, Barak Obama? Wedi methiant ei ymgais i ddileu ‘Obamacare’, ymddengys mai rheoliadau amgylcheddol yw ei darged nesaf.

Mae’n debyg bod y sbectrwm o wybodaeth ac ymwybyddiaeth ynghylch materion ‘gwyrdd’ yn UDA yn eang iawn – o’r chwith amgylcheddol a gynrychiolir gan bobl megis Al Gore, Michael Moore, Bernie Sanders ac eraill i ladmeryddion llafar a chroch sancteiddrwydd y farchnad rydd ar yr asgell dde. Dyma gynulleidfa Trump, wrth reswm. Gwae i hyd yn oed dyfodol y blaned ddod rhyngddyn nhw â’u ‘hawl’ i wneud elw.

Mae yna ffrwd gadwraethol yn ein crefydda fel Cristnogion, on’d oes? Ry’n ni i gyd wedi bod mewn gwasanaethau sy’n dathlu rhyfeddod y bydysawd, wedi adrodd y Salmau hynny sy’n dathlu’r greadigaeth ac yn moli’r Creawdwr. Ry’n ni hefyd yn gyfarwydd â’r gyfeiriadaeth at ein stiwardiaeth dybiedig o’r greadigaeth honno sydd yn y ddau Destament fel ei gilydd. “Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylo; gosodaist pob peth dan ei draed ef”.  A wele ni’n ‘neud llanast o bethau!

Ond beth ydyn ni yn ei wneud, fel eglwysi, yn ymarferol i warchod y blaned hon a hyrwyddo dulliau byw sy’n llai dinistriol ohoni? Yn y degawdau diwethaf rydyn ni wedi dod i arfer gweld Cristnogion unigol a chynrychiolwyr yr enwadau yn sefyll ochr yn ochr â mudiadau amrywiol sy’n arddel agendau ynghylch hyrwyddo cyfiawnder yn wyneb yr anghyfiawnderau lu sy’n wynebu pobl ym mhedwar ban byd – hiliaeth, ffoi rhag ryfeloedd, bygythiad arfau niwclear, tlodi yn y byd sy’n datblygu ac ati. Mae Cymorth Cristnogol yn gwneud gwaith campus a chlodwiw gyda’i ymgyrchoedd ynghylch dyledion y gwledydd tlawd, safle cymdeithasol menywod a datblygu economaidd lleol ar draws y byd. Maen nhw hefyd yn ceisio codi ymwybyddiaeth am y cyswllt rhwng tlodi a’r heriau sy’n wynebu’r amgylchedd. Fodd bynnag, anaml y gwelwn fudiadau Cristnogol – ar lefel cenedlaethol neu leol – yn sefyll ysgwydd yn ysgwydd â chyrff blaengar fel Greenpeace, Cyfeillion y Ddaear neu WWF. Pam hynny tybed?

‘Think global, act local’ yw’r slogan on’d taw e? Oes mwy y gallwn i ei wneud fel eglwysi lleol i hyrwyddo gwerthoedd cadwraethol, balchder mewn amgylchedd, dulliau o fyw cynaliadwy a lleihau ein hôl-troed carbon? Beth sy’n gwresogi’n adeiladau? Sut ‘yn ni’n teithio i’n gwasanaethau? Ydyn i’n cyfrannu at amgylchedd gwell yn lleol? Ydyn ni’n hybu ailgylchu a byw’n ddarbodus? Ydyn ni’n ymgyrchu ar y cyd â grwpiau blaengar o fewn ein hardal? Ydyn ni’n codi ymwybyddiaeth ac yn hyrwyddo prosiectau amgylcheddol ymysg ein cynulleidfaoedd? Amser am awdit amgylcheddol, efallai?

Dim ond holi ydw i – achos mae cloc dydd y farn yn tipian.

Newyddion Ebrill

Newyddion

Mwy na chytundeb Gwener y Groglith

Bu marwolaeth Martin McGuiness yn gyfle trist i bwyso a mesur arwyddion gobaith yng Ngogledd Iwerddon.

Ian Paisley a Martin McGuiness

Bu tröedigaeth McGuiness ei hun, o fod yn filwr rhyddid, neu derfysgwr, i ddilyn ffordd ddi-drais drwy’r bleidlais, yn ogystal â’r newid cyhoeddus yn Paisley, o fod yn corddi’r dyfroedd gyda’i anerchiadau  a’i bregethau ymfflamychol,  i fod yn gymodwr oedd yn barod i wrando, – bu’r cyfan yn destun diolch ac agor drysau. ‘Doedd y cyfeillgarwch a dyfodd rhwng y ddau ddim llai na gwyrth ac y mae’r darluniau o’r ddau gyda’i gilydd  yn ddelweddau hapus a llawer mwy grymus na geiriau (dealladwy a dialgar) rhai fel Norman Tebbit neu ambell i gyn-filwr a glywyd ar Radio Cymru. Efallai mai’r hyn a fynegodd orau y newid sydd wedi digwydd yn y Gogledd yw pan gerddodd y ferch gyntaf i fod yn Arweinydd y DUP, Arlene Foster, i’r gwasanaeth angladdol  yn Eglwys Gatholig St. Columba yn y Bogside ym Melffast – yr arweinydd cyntaf i wneud hynny – a chael cymeradwyaeth y gynulleidfa fawr oddi mewn ac oddi allan. Ategwyd y gymeradwyaeth honno gan eiriau Bill Clinton a gan fendith yr offeiriad, Y Tad Michael Canny ar ddiwedd y gwasanaeth yn cyfeirio at obaith y Pasg.

Yn ôl ar y bont

Mae digwyddiadau brynhawn Mercher, Mawrth 22ain ar Bont Westminster ac yn y fynedfa i Westminster ei hun, a hyd yn oed yr amser – 2.40p.m. – yn gyfarwydd i bawb erbyn hyn, ac nid oes angen i Agora ail adrodd y ffeithiau.

Bu’r cyfan yn drychineb i gynifer o unigolion, i deuluoedd (gan gynnwys teulu Khalis Masood ei hun ), i bobl Llundain, i Dŷ’r Cyffredin ac i’r Llywodraeth. Ond, ar drothwy’r Pasg, mae’r ymateb i’r drychineb yr un mor bwysig. Roedd arweinwyr y crefyddau ‘etifedd Abraham‘ wedi dod ynghyd, a phob un yn eu tro wedi gwneud datganiad byr o gydymdeimlad ac o ymrwymiad i  ymwrthod ag unrhyw ragfarn hiliol a chrefyddol ac i gydweithio i adeiladau byd o ryddid ac o ddiogelwch. Yna, wythnos union yn ddiweddarach, yn yr un lle ac ar yr un amser, daeth cannoedd lawer ynghyd o wahanol gefndiroedd, crefydd,  gwledydd a hil yn cynrychioli, nid yn unig Llundain, ond yr holl fyd. Mae’r darlun yn mynegi’r teimladau, y meddyliau, y gweddïau a’r neges oedd ar y bont wythnos yn ddiweddarach. Love for all, hatred for none,  yw’r neges syml ar y baneri.

Neges y Pasg yn Syria

Mae Archesgob Maronaidd Damascus, Archesgob Samir Nassar , wedi cyfuno   neges y Grawys gyda neges y Pasg eleni. Er bod Llywodraeth Assad (gyda chymorth bomiau Rwsia) fel petae yn gorchfygu IS a nifer o’r gwrthryfelwyr eraill yn erbyn y llywodraeth (a gafodd gymorth bomiau rhai o wledydd y Gorllewin yn eu brwydr), mae’r Archesgob yn dweud fod y dioddefaint a’r dinistr yn parhau. Mae’r eglwys yn Syria, meddai, yng nghanol ardaloedd â ddinistriwyd, cymunedau a chwalwyd, dinasoedd â ddinistriwyd. “Chwerw fu’r Grawys”, meddai, wrth ystyried yr eglwysi (a’r mosgiau) a fomiwyd. “Mae 12 miliwn heb do, mae 11 miliwn yn ffoaduriaid ac y mae bron i 500,000 wedi eu lladd mewn 5 mlynedd. Mae 40,000 a 10,000 o blant wedi ei lladd yn Aleppo yn unig. Ond fe fyddwn yn paratoi i ddathlu’r Pasg, fel y mae Cristnogion wedi ei wneud yn Syria er dyddiau Llyfr yr Actau.”

Ar ôl clywed am y drychineb yn Llundain ar Fawrth 22ain anfonodd hefyd neges o gydymdeimlad at Faer Llundain, gan nodi fod eu cydymdeimlad yn fawr oherwydd eu bod hwy wedi byw gyda thrychinebau llawer iawn mwy ers blynyddoedd maith. Dywedodd mai dyna yw bywyd yn Syria fel mannau eraill yn y Dwyrain Canol.

Ar gyfer pererinion y Pasg.

Ar Fawrth 22ain cwblhawyd naw mis o waith adfer ar Eglwys y Bedd Sanctaidd yn Jerwsalem, cyrchfan a fydd, er gwaethaf y sefyllfa fregus, yn denu miloedd eto eleni. Honnir mai dyma’r fan (ond nid oes cytundeb ar hynny)  lle y croeshoeliwyd, y claddwyd ac felly yr atgyfododd Iesu.

Mae 50 o wyddonwyr a thechnegwyr  Groegaidd wedi bod yn gweithio bob nos am naw mis i adfer yr hyn sy’n cael ei alw yn Ediciwl sydd uwchben y bedd. Y Gronfa Cofadfeilion Byd sydd wedi goruchwylio’r gwaith. Am y tro cyntaf ers dwy ganrif roedd yn rhaid codi’r graig oedd ar ddrws y bedd er mwyn gwneud y gwaith. Oherwydd y gwrthdaro sydd wedi bod ers canrifoedd rhwng eglwysi a thraddodiadau ynglŷn â meddiant o’r safle, mae’n arwyddocaol  mai gan Fwslim mae allweddau’r eglwys.

Marwolaeth David Ollerton

Dydd Gwener, Mawrth 31ain cynhaliwyd gwasanaeth o ddiolchgarwch am fywyd David Ollerton yng Nghanolfan Christchurch, Casnewydd. David Ollerton oedd sylfaenydd mudiad Cymrugyfan, sydd, yn ôl y wefan yn rwydwaith ‘i blannu a chryfhau eglwysi … sydd yn cydweithio gyda grwpiau ac enwadau efengylaidd.  Mae  Cymrugyfan yn ceisio hyrwyddo a hybu lluosiad eglwysi efengylaidd ar draws ein cenedl ac annog eglwysi sy’n bodoli i blannu eglwysi mewn modd mwy effeithiol ac arloesi wrth efengylu yn yr ardaloedd mwyaf anghenus.’

Trwy ei gariad at Gymru a thrwytho’i hun yn yr iaith a hanes Cymru, daeth i ymdeimlo, a defnyddio ei eiriau ei hun, ‘â baich dros Gymru.’ Bu’n arweinydd dylanwadol a galw mawr arno i siarad mewn cynadleddau Cristnogol Efengylaidd. Yn 2016 cyhoeddodd ei waith ymchwil manwl mewn cyfrol o’r enw ‘Cenhadaeth newydd i Gymru’ (Cyhoeddiadau’r Gair. Cyfieithiad Cymraeg gan Meirion Morris.) Mae’n gyfrol swmpus o 304 o dudalennau yn llawn gwybodaeth ac ystadegau, ond hefyd yn cyflwyno’r ffordd ymlaen i eglwysi sydd am dyfu ac ar gyfer eglwysi sydd eto i’w plannu. Cafodd ei hadolygu ar wefan Cristnogaeth 21. Mae Agora yn cydymdeimlo yn fawr â’i deulu ac â’i ffrindiau led-led Cymru a thu hwnt.

 

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.

 

Yr Atgyfodiad

Yr Atgyfodiad

Llun: Rembrandt

Amcan eicon yw mynd â chi at y stori fewnol, i wraidd yr hyn sy’n digwydd. A’r hyn mae eicon yr atgyfodiad yn ei ddweud wrthym yw gwraidd yr hyn sy’n digwydd yn Atgyfodiad Iesu, sef ail-greu’r greadigaeth ei hun. Dyma Dduw ac Adda ac Efa; dyma lle dechreuodd y cwbl; a dyma lle y mae’n cychwyn eto. Nid diwedd hapus i stori Iesu’r yw’r Atgyfodiad; dyma stori am air Duw yn llefaru i galon y tywyllwch i ddwyn bywyd allan o ddim ac i ddwyn yr hil ddynol i fodolaeth, yn rhai sy’n dwyn ei ddelw a’i debygrwydd ef … Dyma ddechrau byd newydd am mai dyma ddydd atgyfodiad Iesu.

Dyfyniad o gyfrol Rowan Williams, God with Us – the meaning of the cross and resurrection. Then and Now (SPCK 2017; ISBN 978-281-07664-2)

Golygyddol

Golygyddol

Enid R. Morgan

Llun: Rembrandt

‘Myfi yw’r Ffordd, y Gwirionedd a’r Bywyd’.

‘Mae e’n gymêr’ ddywedwn ni am ryw berson sydd dipyn yn wahanol i’r cyffredin. Pobl wahanol, lachar eu bodolaeth fel unigolion, yn eu ffyddlondeb, eu gonestrwydd ac yn aml iawn yn eu hiwmor. Pobl sy’n codi arswyd weithiau oherwydd eu gwreiddioldeb didaro. ’Nôl yn y saithdegau arferai nifer o Gymry Cymraeg yr Eglwys yng Nghymru ddod ynghyd am encil yn y Priordy yn Nhyddewi am ryw ddwy noson.

Cadeirlan Tyddewi

Gwnaem ein gorau i gadw disgyblaeth distawrwydd dros gyfnod o bnawn dydd Mawrth i bnawn dydd Iau. 

Rhyw ddisgyblaeth ddigon eglwysig oedd hi, a rhaid cyfaddef y byddai’n cymryd oriau i ni ymdawelu. Encil swnllyd braidd fyddai hi.

 

Un flwyddyn yr oedd yn rhaid i dri o’r cwmni ymadael yn gynnar ar y bore Iau, ond gwae ni, yr oedd batri’r car wedi ei ddihysbyddu a dim ond cychwyn clonciog o wthio’r car a’i ollwng i’w gêr drwy godi’r clutch fyddai’n tycio. Heria i unrhyw un i wneud hynny mewn distawrwydd! Trodd y distawrwydd gweddigar bregus yn sgwrsio llifeiriol cymdeithasol. Amser cinio, meddai’r dreiddgar Mari Ellis wrth un o’r gwragedd o’r gogledd: “Wir, rwy’n eitha balch ein bod ni wedi torri’r distawrwydd, neu fyddwn i ddim wedi dod i’ch nabod chi.’ A dyma’r Parch. Eric Grey, Brechfa, un y gellid ysgrifennu llond cyfrol am ei barodrwydd i ddweud yr hyn nad oedd neb arall yn mentro’i ddweud, yn llefaru: ‘Ond falle taw nage dod yma i’ch nabod chi y gwnaeth hi!’

Realiti gwahanol Teyrnas Dduw

O’i ysgrifennu felly mae’n swnio fel cerydd, ond nid ceryddu yr oedd Eric; dweud y gwir oedd e am amcan yr encil, dweud gyda gonestrwydd a doniolwch ac anwyldeb. Ac fe chwarddon ni i gyd yn hir a llon wrth glywed y gwirionedd syml ei bod yn gymaint haws i ni, Gymry, fwynhau clonc nag ymddisgyblu gyda’n gilydd i fod gyda Duw a gadael iddo fe siarad â ni. Mae’r achlysur  yn pefrio yn y cof, am ei fod yn enghraifft brin o bobl yn ymddwyn fel rhai sy’n perthyn i ‘realiti gwahanol Teyrnas Dduw’ lle mae modd dweud y gwir mewn cariad. Ac os yw’r ymadrodd yna’n newydd i chi, darllenwch gasgliad bach o bregethau Stanley Hauerwas.

Credai Blaise Pascal, Ffrancwr o’r ail ganrif ar bymtheg, ein bod ni i gyd yn casáu’r gwirionedd am ein bod yn ofni cydnabod y gwir amdanom ein hunain.

Blaise Pascal (1623-1662)

Gwell gennym i bobl hoffi’r wyneb glân a wisgwn gerbron y byd na gadael iddynt adnabod y celwydd a’r ffuantus ynom. Mynnai na fyddai pedwar cyfaill ar ôl yn y byd pe bai pawb yn dweud y gwir. Dywedai Thomas Merton ein bod ni’n chwarae cynifer o wahanol ‘rannau’ ac yn cuddio’r tu cefn i gynifer o wahanol ‘fasgiau’ nes peri i’r fi unigryw a grëwyd ar ddelw Duw grebachu hyd at ddiflannu’n llwyr.

Dyna pam y byddwn yn aml yn y byd crefyddol yn ei chael yn anodd i ddweud y gwir, heb sôn am geryddu. Ond rydyn ni am i bobl ein hoffi ni, yn hytrach na dweud y gwir. Mae dweud y gwir yn golygu’ch bod chi’n cael eich cyhuddo o roi bonclust i rywun! Rydyn ni’n poeni na fydd yr un a geryddir yn ein hoffi. Ac o ganlyniad mae’r cerydd yn cael ei boeri allan yn hytrach na’r gwir yn cael ei lefaru mewn cariad. Clywais feirniadu ar y duedd heddiw i ganmol plant er mwyn peidio’u digalonni. Ond mae plentyn yn sylweddoli’n fuan a yw’r canmol yn ddilys ai peidio.

‘Beth yw gwirionedd?’

Pontius Peilat a holodd (heb ddisgwyl ateb): ‘Beth yw gwirionedd?’ Rydyn ni fel pe baem yn tyfu allan o gyfnod ôl-fodern bondigrybwyll pan oedd modd sôn am wirioneddau gwahanol, lle y mae dy wirionedd di cystal bob tamed â gwirionedd y llabwst gwirion acw. Heb fedru dirnad safon, pa fodd sydd i’w wella? A dyna ddiwedd ar bob Steddfod! Wrth roi heibio’r ôl-fodern rydyn ni, yn ôl y cyfryngau, wedi mynd i oes ôl-wirionedd. Dyna’r gair celwyddog am gelwydd!  Fe wyddon ni na allwn newid ffeithiau, na dewis ffeithiau – dim ond, yn gelwyddog, eu gwadu.

Nid bod gwadu’r posibilrwydd o wirionedd yn beth newydd chwaith. Dyna wnaeth Voltaire mewn ymdrech i droi cefn ar orthrwm clerigol. Mae’r athronydd Richard Rorty yn mynnu nad yw’r ‘gwirionedd’ yn beth angenrheidiol ar gyfer gwaith athronydd na gwyddonydd. Galwyd yr athronydd Nietzsche yn nihilydd yn rhannol am iddo fynnu nad oedd e ddim am dwyllo’i hunan, na neb arall chwaith. I bobl Cristnogaeth 21 dylai honiad Simone Weil ar y pwnc ganu cloch: dywed hi fod yn rhaid i ni geisio’r gwirionedd hyd yn oed pan yw’n edrych fel petai’n golygu mynd heibio i Grist. Buan iawn y cawn ein cofleidio ganddo o’r newydd, oherwydd cyn iddo fod yn Grist, Ef yw’r Gwirionedd. Rydyn ni ’nôl yng ngosodiad Ioan: ‘Myfi yw’r Ffordd, y Gwirionedd a’r Bywyd’.

Llun: El Greco (1580)

‘Trwy Iesu mae Duw’n dangos bod chwennych y gwir yn golygu caru’r gwir. Heb gariad, ni allwn amgyffred y gwirionedd sy’n peri symud yr haul a’r sêr.’ (- Stanley Hauerwas)

Stanley Hauerwas

Rhyw ymateb yr ydwyf i bregeth gan y moesegydd Americanaidd Stanley Hauerwas i griw o fyfyrwyr oedd yn graddio o goleg diwinyddol (Without Apology; Seabury Books, Efrog Newydd; ISBN-13:978-1-59627-248-4). Mae’n eu herio (a ninnau, wrth gwrs) i wynebu’r gost o ddweud y gwirionedd, yn ein rhybuddio yn erbyn y perygl o dybio bod ein gwirionedd ni yn wir pan yw’n dipyn o hunan-dwyll, o fodloni ar wirioneddau bach handi, yn hytrach na chyfeirio at wirioneddau mwy, yn enwedig at yr Un sydd yn dyst i’r gwirionedd cyflawn am Dduw.

Gwaeth na’r cwbl yw’r gwirionedd sy’n eiddo i ni, rhyw gylch bach dethol sy’n cytuno â’n gilydd am ryw bethau sy’n digwydd bod yn bwysig i ni. Oherwydd mae amddiffyn ein gwirionedd ni  yn troi’n gyflym i gyfiawnhau ni’n hunain … Wiw i Gristnogion anghofio gonestrwydd Nietzsche, ac yn sicr fe gofiwn ag edmygedd onestrwydd deifiol Simone Weil.

Llun: Rembrandt

A ninnau’n tynnu at y Pasg, mae’r gwirionedd am Iesu – beth a wnaeth, beth ddigwyddodd iddo ac i’w ddisgyblion, a beth yw ystyr y cwbl, yn golygu, uwchben popeth arall, gwyleidd-dra gonest. Ond, yn fwy na dim, mae’n golygu cariad at y gwirionedd ac at Iesu. Nid balchder yn ein tybio a’n crebwyll, na’r angen i brofi mai ni sy’n iawn am y pethau hyn, ond gwirionedd sy’n ein galw i sylweddoli mor gyfyng ein deall, a hyd a lled a dyfnder cariad Duw tuag atom ni. ‘Trwy Iesu mae Duw’n dangos bod chwennych y gwir yn golygu caru’r gwir. Heb gariad, ni allwn amgyffred y gwirionedd sy’n peri symud yr haul a’r sêr,’ medd Hauerwas.

Mae’n werth ei ddarllen – a cofiwch y frawddeg sy’n dweud ein bod ‘yn perthyn i realiti gwahanol y Deyrnas’.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.