Golygyddol

Golygyddol

Enid R. Morgan

Llun: Rembrandt

‘Myfi yw’r Ffordd, y Gwirionedd a’r Bywyd’.

‘Mae e’n gymêr’ ddywedwn ni am ryw berson sydd dipyn yn wahanol i’r cyffredin. Pobl wahanol, lachar eu bodolaeth fel unigolion, yn eu ffyddlondeb, eu gonestrwydd ac yn aml iawn yn eu hiwmor. Pobl sy’n codi arswyd weithiau oherwydd eu gwreiddioldeb didaro. ’Nôl yn y saithdegau arferai nifer o Gymry Cymraeg yr Eglwys yng Nghymru ddod ynghyd am encil yn y Priordy yn Nhyddewi am ryw ddwy noson.

Cadeirlan Tyddewi

Gwnaem ein gorau i gadw disgyblaeth distawrwydd dros gyfnod o bnawn dydd Mawrth i bnawn dydd Iau. 

Rhyw ddisgyblaeth ddigon eglwysig oedd hi, a rhaid cyfaddef y byddai’n cymryd oriau i ni ymdawelu. Encil swnllyd braidd fyddai hi.

 

Un flwyddyn yr oedd yn rhaid i dri o’r cwmni ymadael yn gynnar ar y bore Iau, ond gwae ni, yr oedd batri’r car wedi ei ddihysbyddu a dim ond cychwyn clonciog o wthio’r car a’i ollwng i’w gêr drwy godi’r clutch fyddai’n tycio. Heria i unrhyw un i wneud hynny mewn distawrwydd! Trodd y distawrwydd gweddigar bregus yn sgwrsio llifeiriol cymdeithasol. Amser cinio, meddai’r dreiddgar Mari Ellis wrth un o’r gwragedd o’r gogledd: “Wir, rwy’n eitha balch ein bod ni wedi torri’r distawrwydd, neu fyddwn i ddim wedi dod i’ch nabod chi.’ A dyma’r Parch. Eric Grey, Brechfa, un y gellid ysgrifennu llond cyfrol am ei barodrwydd i ddweud yr hyn nad oedd neb arall yn mentro’i ddweud, yn llefaru: ‘Ond falle taw nage dod yma i’ch nabod chi y gwnaeth hi!’

Realiti gwahanol Teyrnas Dduw

O’i ysgrifennu felly mae’n swnio fel cerydd, ond nid ceryddu yr oedd Eric; dweud y gwir oedd e am amcan yr encil, dweud gyda gonestrwydd a doniolwch ac anwyldeb. Ac fe chwarddon ni i gyd yn hir a llon wrth glywed y gwirionedd syml ei bod yn gymaint haws i ni, Gymry, fwynhau clonc nag ymddisgyblu gyda’n gilydd i fod gyda Duw a gadael iddo fe siarad â ni. Mae’r achlysur  yn pefrio yn y cof, am ei fod yn enghraifft brin o bobl yn ymddwyn fel rhai sy’n perthyn i ‘realiti gwahanol Teyrnas Dduw’ lle mae modd dweud y gwir mewn cariad. Ac os yw’r ymadrodd yna’n newydd i chi, darllenwch gasgliad bach o bregethau Stanley Hauerwas.

Credai Blaise Pascal, Ffrancwr o’r ail ganrif ar bymtheg, ein bod ni i gyd yn casáu’r gwirionedd am ein bod yn ofni cydnabod y gwir amdanom ein hunain.

Blaise Pascal (1623-1662)

Gwell gennym i bobl hoffi’r wyneb glân a wisgwn gerbron y byd na gadael iddynt adnabod y celwydd a’r ffuantus ynom. Mynnai na fyddai pedwar cyfaill ar ôl yn y byd pe bai pawb yn dweud y gwir. Dywedai Thomas Merton ein bod ni’n chwarae cynifer o wahanol ‘rannau’ ac yn cuddio’r tu cefn i gynifer o wahanol ‘fasgiau’ nes peri i’r fi unigryw a grëwyd ar ddelw Duw grebachu hyd at ddiflannu’n llwyr.

Dyna pam y byddwn yn aml yn y byd crefyddol yn ei chael yn anodd i ddweud y gwir, heb sôn am geryddu. Ond rydyn ni am i bobl ein hoffi ni, yn hytrach na dweud y gwir. Mae dweud y gwir yn golygu’ch bod chi’n cael eich cyhuddo o roi bonclust i rywun! Rydyn ni’n poeni na fydd yr un a geryddir yn ein hoffi. Ac o ganlyniad mae’r cerydd yn cael ei boeri allan yn hytrach na’r gwir yn cael ei lefaru mewn cariad. Clywais feirniadu ar y duedd heddiw i ganmol plant er mwyn peidio’u digalonni. Ond mae plentyn yn sylweddoli’n fuan a yw’r canmol yn ddilys ai peidio.

‘Beth yw gwirionedd?’

Pontius Peilat a holodd (heb ddisgwyl ateb): ‘Beth yw gwirionedd?’ Rydyn ni fel pe baem yn tyfu allan o gyfnod ôl-fodern bondigrybwyll pan oedd modd sôn am wirioneddau gwahanol, lle y mae dy wirionedd di cystal bob tamed â gwirionedd y llabwst gwirion acw. Heb fedru dirnad safon, pa fodd sydd i’w wella? A dyna ddiwedd ar bob Steddfod! Wrth roi heibio’r ôl-fodern rydyn ni, yn ôl y cyfryngau, wedi mynd i oes ôl-wirionedd. Dyna’r gair celwyddog am gelwydd!  Fe wyddon ni na allwn newid ffeithiau, na dewis ffeithiau – dim ond, yn gelwyddog, eu gwadu.

Nid bod gwadu’r posibilrwydd o wirionedd yn beth newydd chwaith. Dyna wnaeth Voltaire mewn ymdrech i droi cefn ar orthrwm clerigol. Mae’r athronydd Richard Rorty yn mynnu nad yw’r ‘gwirionedd’ yn beth angenrheidiol ar gyfer gwaith athronydd na gwyddonydd. Galwyd yr athronydd Nietzsche yn nihilydd yn rhannol am iddo fynnu nad oedd e ddim am dwyllo’i hunan, na neb arall chwaith. I bobl Cristnogaeth 21 dylai honiad Simone Weil ar y pwnc ganu cloch: dywed hi fod yn rhaid i ni geisio’r gwirionedd hyd yn oed pan yw’n edrych fel petai’n golygu mynd heibio i Grist. Buan iawn y cawn ein cofleidio ganddo o’r newydd, oherwydd cyn iddo fod yn Grist, Ef yw’r Gwirionedd. Rydyn ni ’nôl yng ngosodiad Ioan: ‘Myfi yw’r Ffordd, y Gwirionedd a’r Bywyd’.

Llun: El Greco (1580)

‘Trwy Iesu mae Duw’n dangos bod chwennych y gwir yn golygu caru’r gwir. Heb gariad, ni allwn amgyffred y gwirionedd sy’n peri symud yr haul a’r sêr.’ (- Stanley Hauerwas)

Stanley Hauerwas

Rhyw ymateb yr ydwyf i bregeth gan y moesegydd Americanaidd Stanley Hauerwas i griw o fyfyrwyr oedd yn graddio o goleg diwinyddol (Without Apology; Seabury Books, Efrog Newydd; ISBN-13:978-1-59627-248-4). Mae’n eu herio (a ninnau, wrth gwrs) i wynebu’r gost o ddweud y gwirionedd, yn ein rhybuddio yn erbyn y perygl o dybio bod ein gwirionedd ni yn wir pan yw’n dipyn o hunan-dwyll, o fodloni ar wirioneddau bach handi, yn hytrach na chyfeirio at wirioneddau mwy, yn enwedig at yr Un sydd yn dyst i’r gwirionedd cyflawn am Dduw.

Gwaeth na’r cwbl yw’r gwirionedd sy’n eiddo i ni, rhyw gylch bach dethol sy’n cytuno â’n gilydd am ryw bethau sy’n digwydd bod yn bwysig i ni. Oherwydd mae amddiffyn ein gwirionedd ni  yn troi’n gyflym i gyfiawnhau ni’n hunain … Wiw i Gristnogion anghofio gonestrwydd Nietzsche, ac yn sicr fe gofiwn ag edmygedd onestrwydd deifiol Simone Weil.

Llun: Rembrandt

A ninnau’n tynnu at y Pasg, mae’r gwirionedd am Iesu – beth a wnaeth, beth ddigwyddodd iddo ac i’w ddisgyblion, a beth yw ystyr y cwbl, yn golygu, uwchben popeth arall, gwyleidd-dra gonest. Ond, yn fwy na dim, mae’n golygu cariad at y gwirionedd ac at Iesu. Nid balchder yn ein tybio a’n crebwyll, na’r angen i brofi mai ni sy’n iawn am y pethau hyn, ond gwirionedd sy’n ein galw i sylweddoli mor gyfyng ein deall, a hyd a lled a dyfnder cariad Duw tuag atom ni. ‘Trwy Iesu mae Duw’n dangos bod chwennych y gwir yn golygu caru’r gwir. Heb gariad, ni allwn amgyffred y gwirionedd sy’n peri symud yr haul a’r sêr,’ medd Hauerwas.

Mae’n werth ei ddarllen – a cofiwch y frawddeg sy’n dweud ein bod ‘yn perthyn i realiti gwahanol y Deyrnas’.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.